map o gwrs cyfeiriannu parc heol las a coed gwilym

2

Upload: city-and-county-of-swansea

Post on 13-Mar-2016

217 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Map o gwrs cyfeiriannu Parc Heol Las a Coed Gwilym

TRANSCRIPT

Cyfeiriannu ym Mharc Heol Las

AMCAN. Yr amcan wrth gyfeiriannu yw mynd o gwmpas cwrs sy'n cynnwys cyfres o reolfannau, trwy ddefnyddio map i benderfynu ar lwybr rhyngddynt, ac yna dilyn y map ar hyd y llwybr a dod o hyd i'r rheolfannau.

Y MAP. Map cyfeiriannu safonol yw hwn; mae'r symbolau a'r lliwiau'n cael eu hesbonio yn yr allwedd. Y raddfa yw 1:2,500, sy'n golygu bod 1cm ar y map yn cynrychioli 25m ar y ddaear, fel y dangosir gan linell y raddfa.

RHEOLFANNAU A MARCWYR. Dangosir lleoliadau'r rheolfannau ar y map gan gylchoedd wedi'u rhifo'n goch, a cheir disgrifiad o bob un isod. Nodir y rheolfannau ar y ddaear gan bostyn ac ar ei ben mae plac â symbol cyfeiriannu coch a gwyn. Mae rhif yno, sy'n cyfateb i'r un rheolfan ar y map, a llythyren rydych chi'n ei gofnodi yn y blwch priodol ar y cerdyn rheolfan i gadarnhau eich ymweliad. PELLTEROEDD. Gellir cyfrifo'r pellter o un pwynt i'r llall trwy ddefnyddio llinell y raddfa ar y map. Wrth fesur ar y ddaear, mae metr yn gymesur yn fras â brasgam dyn.

CYFEIRIADAU. I ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn mynd neu'n ei wynebu, cadwch y map yn yr un cyfeiriad â'r ddaear, h.y. wedi'i gyfeiriadu. Wrth fynd yn eich blaen, bydd y nodweddion ar un ochr o'r map ar yr un ochr ar y ddaear. Os oes gennych gwmpawd, gallwch ei ddefnyddio i gyfeiriadu'r map. Mae'r nodwydd yn pwyntio i'r gogledd magnetig. Defnyddiwch hwn i gadw saethau'r gogledd ar y map yn pwyntio i'r gogledd hefyd.

DISGRIFIADAU O'R RHEOLFANNAU:

Dechrau Cornel ffens 1. Wal, pen de-ddwyreiniol 2. Llwyni, pen de-ddwyreiniol 3. Cornel ffens 4. Cornel ffens 5. Diwedd ffens 6. Coeden amlwg 7. Adeilad, cornel ogleddol 8. Clawdd pridd, pen dwyreiniol 9. Clawdd pridd, pen gogledd-ddwyreiniol

1.

2. 3. 4. 5. 6. 7. 8. 9.

Cyfeiriannu ym Mharc Coed Gwilym AMCAN. Yr amcan wrth gyfeiriannu yw mynd o gwmpas cwrs sy'n cynnwys cyfres o reolfannau, trwy ddefnyddio map i benderfynu ar lwybr rhyngddynt, ac yna dilyn y map ar hyd y llwybr a dod o hyd i'r rheolfannau.

Y MAP. Map cyfeiriannu safonol yw hwn; mae'r symbolau a'r lliwiau'n cael eu hesbonio yn yr allwedd. Y raddfa yw 1:2,500, sy'n golygu bod 1cm ar y map yn cynrychioli 25m ar y ddaear, fel y dangosir gan linell y raddfa.

RHEOLFANNAU A MARCWYR. Dangosir lleoliadau'r rheolfannau ar y map gan gylchoedd wedi'u rhifo'n goch, a cheir disgrifiad o bob un isod. Nodir y rheolfannau ar y ddaear gan bostyn ac ar ei ben mae plac â symbol cyfeiriannu coch a gwyn. Mae rhif yno, sy'n cyfateb i'r un rheolfan ar y map, a llythyren rydych chi'n ei gofnodi yn y blwch priodol ar y cerdyn rheolfan i gadarnhau eich ymweliad. PELLTEROEDD. Gellir cyfrifo'r pellter o un pwynt i'r llall trwy ddefnyddio llinell y raddfa ar y map. Wrth fesur ar y ddaear, mae metr yn gymesur yn fras â brasgam dyn. CYFEIRIADAU. I ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn mynd neu'n ei wynebu, cadwch y map yn yr un cyfeiriad â'r ddaear, h.y. wedi'i gyfeiriadu. Wrth fynd yn eich blaen, bydd y nodweddion ar un ochr o'r map ar yr un ochr ar y ddaear. Os oes gennych gwmpawd, gallwch ei ddefnyddio i gyfeiriadu'r map. Mae'r nodwydd yn pwyntio i'r gogledd magnetig. Defnyddiwch hwn i gadw saethau'r gogledd ar y map yn pwyntio i'r gogledd hefyd.

DISGRIFIADAU O'R RHEOLFANNAU:

Dechrau Coeden amlwg 1. Cornel ffens 2. Boncyff coeden 3. Cyffordd llwybr 4. Cyffordd llwybr 5. Cyffordd llwybr 6. Clawdd pridd, pen gogleddol 7. Cornel ffens 8. Diwedd ffens 9. Cornel ffens 10. Adeilad, cornel ddeheuol

11. Coeden amlwg

1.

2. 3. 4. 5. 6. 7. 8. 9. 10. 11.

CYFLEOEDD CYFEIRIANNU ERAILL. Os hoffech wneud mwy o gyfeiriannu, gallwch ymweld â chyrsiau parhaol eraill, a gellir lawrlwytho mapiau o wefan y cyngor www.abertawe.gov.uk/orienteering Mae'r clwb lleol, CLWB CYFEIRIANNU BAE ABERTAWE, yn trefnu digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, ac mae rhestr o'r digwyddiadau ar gael ar wefan y clwb yn www.sboc.org.uk

CYDNABYDDIAETH. Sefydlwyd y cwrs cyfeiriannu parhaol hwn gyda chymorth grantiau a sianelwyd trwy Ddinas a Sir Abertawe gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Lluniwyd y map a chynlluniwyd y cyrsiau gan Glwb Cyfeiriannu Bae Abertawe.

CYFLEOEDD CYFEIRIANNU ERAILL. Os hoffech wneud mwy o gyfeiriannu, gallwch ymweld â chyrsiau parhaol eraill, a gellir lawrlwytho mapiau o wefan y cyngor www.abertawe.gov.uk/orienteering

Mae'r clwb lleol, CLWB CYFEIRIANNU BAE ABERTAWE, yn trefnu digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, ac mae rhestr o'r digwyddiadau ar gael ar wefan y clwb yn www.sboc.org.uk

CYDNABYDDIAETH. Sefydlwyd y cwrs cyfeiriannu parhaol hwn gyda chymorth grantiau a sianelwyd trwy Ddinas a Sir Abertawe gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Lluniwyd y map a chynlluniwyd y cyrsiau gan Glwb Cyfeiriannu Bae Abertawe.