helo byd - ffwrdd a ni

70
helo byd wrecsam ffwrdd â ni

Upload: wrexham-says-hello

Post on 09-Mar-2016

246 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

Mae Wrecsam yn lle gwych i fod. Mae'n lle y gelli di (a'r bobl rwyt yn eu caru) fyw, gweithio a chwarae ynddo.

TRANSCRIPT

Page 1: helo byd - ffwrdd a ni

trowch y

i deimlo’r wefr

dudalen

einbusnes ni yw

creu

helloworld

helobyd

wrecsam

ffwrddâ ni

Page 2: helo byd - ffwrdd a ni

Sut ma’i? Mae’n dda dy gyfarfod di.

Achos bod hyn yn ddechrau sgwrs arbennig rhyngot ti a Wrecsam.

Efallai dy fod yn dysgu am y fwrdeistref sirol am y tro cyntaf, yn meddwl am ymweld neu astudio yma, neu sefydlu busnes.

Efallai dy fod yn byw yma ers blynyddoedd ac yn adnabod Wrecsam yn dda, neu efallai bod arnat ti angen dy atgoffa tipynbach.

Dim ots am hynny. Mae’r neges yn syml. Mae Wrecsam yn llegwych i fod. Mae’n lle y gelli di (a’r bobl rwyt yn eu caru) fyw,gweithio a chwarae ynddo.

Yma rwyt ti’n gallu breuddwydio, bod yn greadigol, gwneud fel y mynni di.

Felly, tro’r dudalen a dysga am y pethau sy’n gwneud bywyd yn dda.

Mae Wrecsam yn dweud ‘sut ma’i’.

www.wrexhamsayshello.co.uk

2 68

15

I’R HELEDD WEN

I'R EGLWYS WEN

GWESTY RAMADA PLAZA

canol tref wrecsam

67

ToiledauParcio

Gorsafoedd TrênGorsaf Gyffredinol WrecsamGorsaf Wrecsam Ganalog

AtyniadauLlyfrgell/OrielByd Dwr Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Eglwys Gadeiriol y Santes FairEglwys San SilynTheatr Parc y LlwyniMecca BingoParc Bellevue

Marchnadoedd Dan Do/ArcêdauMarchnad y BoblArcêd CanologMarchnad y CigyddionArcêd OwrtynMarchnad Gyffredinol

ShopmobilityShopmobility (Gorsaf Fysiau)

ArallGalw WrecsamNeuadd y DrefAdeiladau’r GoronSwyddfeydd y Cyngor, Stryt y LampintGorsaf HeddluLlysoedd BarnSwyddfa GofrestruCanolfan CroesoSqwâr y FrenhinesColeg IâlGorsaf Fysiau

Allwedd

★12345678

★1516171819202122232425

★9

10111213

★14

12

Page 3: helo byd - ffwrdd a ni

www.facebook.com/wxmsayshello

@wxmsayshello

sganiwch fi3

sut ma’i?

Page 4: helo byd - ffwrdd a ni

dilyn

dan ni’n trydar…

Ac yn postio. A phopeth felly. Diflas ar y naw. Nac ydi wir!Dan ni wrth ein bodd.

Mae ein henw ar y cyfryngau cymdeithasol yn tueddu i fod /wxmsayshello a byddwnni’n gwneud y rhan fwyaf o’n rhannu arDrydar (popeth yn iawn) a Gweplyfr(pethau am Wrecsam yn bennaf). Dan ni’npoetsian hefyd efo Instagram a Soundcloud.

Dos yn dy flaen, tyrd o hyd i ni, rwydweithiwr cymdeithasol…

www.twitter.com/wxmsayshello

www.facebook.com/wxmsayshello

www.instagram.com/wxmsayshello

www.soundcloud.com/wxmsayshello

rhannu

lawrlwytho

4

Page 5: helo byd - ffwrdd a ni

das appMae’r app wrexham says hello yn rhad ac am ddim.

Ac os wyt ti’n mynd i fod yng nghanol tref Wrecsam am sbel, mae’n rhaid i ti ei lawrlwytho.

Gwela lle i siopa, bwyta, yfed, pician i weld ffilm, gwylio band, dysgu am hanes lleol, gwyliogêm beldroed, mwynhau noson allan a llwyth o bethau defnyddiol eraill.

Mi gei di’r bargeinion diweddaraf, cynigion arbennig a gostyngiadau y mae busnesau lleol yneu cynnig, gwybodaeth am drafnidiaeth a pharcio, mapiau a llwybrau i’w dilyn.

Ac os mai dim ond am gael tipyn o naws y lle wyt ti, mae ’na lwyth o gynnwys fideo a sainwedi eu llunio i dy helpu di i werthfawrogi cymeriad a diwylliant y dref ardderchog yma.

Fel dan ni’n dweud yn Wrecsam, mae’r app yma’n 'deidi.'

Chwilia am yr app wrexham says hello ar neu

ffilm unWrecsam wedi ei hegluro mewn dim ond pum munud a 40 eiliad.

Gwylia Film One ar ein sianel YouTube i weld sut mae pethau’n gweithio efo ni yma.

Mi gei di hefyd ffilimau eraill am fusnes, digwyddiadau a phethau diddorol eraill. Da iawn

www.youtube.com/wxmsayshello

wrexhamsayshello.co.ukMae gynnon ni wefan.

Wedi ei llunio ar gyfer ffôn clyfar, tabled a phen-desg. Ac wedi ei stwffio’n llawn dop o wybodaeth am bopeth yn Wrecsam. O fandiau lleol yn taro’r nod hyd at gynnwys sy’n denu’rsylw yn y cyfryngau cymdeithasol.

Mi gei di hefyd erthyglau yn y rhan o’n gwefan lle mae’r blogiau – am dechnoleg, cerddoriaeth,syniadau a pethau eraill sy’n mynd â’n bryd ni. ☺

www.wrexhamsayshello.co.uk

5

Page 6: helo byd - ffwrdd a ni

helobyd

www.wrexhamsayshello.co.uk

6

Page 7: helo byd - ffwrdd a ni

byw 8

siopa a’r diwylliant caffi 10

bywyd nos 14

cefn gwlad a’r pentrefi 16

cariad 20hanes a threftadaeth 22

diwylliant 30

enwogion 34

cynhyrchion lleol 36

creu 38

ein busnes ni yw creu 40

plant yr haul 43

teigr teigr llewyrchus, ffyniannus 46

mae gwybodaeth yn rym 46

eich busnes: ein busnes 48

chwarae 50

chwaraeon 52

cerdded 58

bywyd y parc 60

y warchodfa natur 62

digwyddiadau 63

hwyl fawr 64

mapiau 66

cynnwys

7

credydau

Wedi ei bweru gan yr ideoleg Wrecsam Yfory.

Wedi ei ysgrifennu a’i gynhyrchu gan Asedau aDatblygu Economaidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Wedi ei ddylunio gan White Fox 01352 840898www.whitefox-design.co.uk

Mae’r cyfranwyr ffotograffau yn cynnwys EyeImagery, Hawlfraint y Goron (2012) CroesoCymru, Prifysgol Glyndwr, Cymdeithas Bêl-droedCymru, Getty Images, Macesport a Moneypenny.

Ar gael ar ffurfiau eraill ac yn Saesneg.

Er bod pob ymdrech wedi ei gwneud i sicrhau bod y cyhoeddiad hwn yn gywir, ni all Cyngor Bwrdeistref

Sirol Wrecsam dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw gamgymeriadau, gwallau neu omeddiadau, neu am unrhyw fater sydd a wnelo unrhyw fodd â chyhoeddi’r wybodaeth y mae hwn yn ei gynnwys neu sydd yn deillio ohoni.

Page 8: helo byd - ffwrdd a ni

Byw’r freuddwyd, wyt ti?

Os wyt ti’n byw ym

Mwrdeistref Sirol Wrecsam,

efallai’n wir dy fod ti. Ac os

wyt ti’n ymweld, yn astudio

neu’n gweithio yma, efallai

y cei di flas arno.

8

www.wrexhamsayshello.co.uk

Page 9: helo byd - ffwrdd a ni

byw

9

Page 10: helo byd - ffwrdd a ni

brandiau’r enwau mawr

Gadewch i ni ddechrau efo Dôl yr Eryrod.Ers ei hagor yn 2008, mae’r ganolfan siopadrwsiadus hon wedi bod yn gymorth isaethu Wrecsam i fyny’r cynghreiriausiopa swyddogol.

Mae hi ar wyth acer o ganol y dref ac mae naws fendigedig iddi, efo’i mannauagored, nodweddion dwr, defnyddiauhyfryd o gerrig a llechi, fflatiau ar ben yradeilad ac ychydig bach o ddiwylliantcaffi. Hyfryd iawn.

Mi weli di siopau mawr fel Debenhams,Marks and Spencer, Next a llond y lle ofrandiau ffasiwn o fri, coffi gwynewynnog a chacennau bach mewn llefydd

Mae’n hollol siwr bod siopa yn un o’rgorau o bleserau bach bywyd. Rydyn niwrth ein bodd efo siopa.

Siopa hamddenol wrth gwrs, heb orfodbrysio a digon o amser i fwynhau coffibach efo papur newydd y bore hwnnwneu ryw gylchgrawn dylunio mewnolgwych.

Tamaid bach i fwyta efallai. Dim byd wediei gynllunio, dim ond posibiliadau.

Wel, dyma’r newyddion da. Dyna’n uniony math y siopa y byddwn ni’n ei wneud ynWrecsam, y math sydd wedi ei wneud ermwyn ei fwynhau, achlysur cymdeithasol.

siopa a’r diwylliant caffi

10

Dôl yr Eryrod

Page 11: helo byd - ffwrdd a ni

y rhai annibynnol

Felly, rydyn ni’n gwneud pethau’n fawr acyn hardd, ond mi fedrwn ni wneud ‘tlwsyw popeth bychan’ hefyd.

Ger ein lleoedd manwerthu mawr maegynnon ni strydoedd traddodiadol felStryt Siarl a Stryt y Banc, a llawer o siopaubach annibynnol hynod sy’n rhoi calon aswyn i’r dref. I’r dim ar gyfer pobl sy’nhoffi bod yn wahanol i’r cyffredin.

Siopa ar gyfer yr annibynnol eu meddwl.

Siopau bach ffasiwn, gemyddion, gweithdaiffotograffwyr, siopau lle gweli di jariau

fel Starbucksa Costa. Hefyd mae siopauffôn symudol sy’n cynnig y taclau a’r geriach diweddaraf i dy gadw di’n siarad,neges destun a thrydar.

Mae Sinema’r Odeon yno hefyd, llawer odai bwyta a chanolfan bowlio deg (mwyam hynny i ti ar dudalen 12).

Ac i wneud y coffi a’r cacennau ’na yn fwymelys, mae digonedd o le i barcio hefyd(970 o leoedd yn fanwl gywir). Felly doesdim rhaid byth i ti boeni lle i barcio dy gar.

Mae bywyd yn dda.

Dôl yr Eryrod www.eagles-meadow.co.uk

11

Page 12: helo byd - ffwrdd a ni

yn llawn hyd yr ymyl o fferins hen ffasiwn,fel ‘swizzle boms’, ‘sugar twirls’ a phleseraueraill i ddeffro’r plentyn 10 oed ynot ti.

marchnadoedd

Mi wnei di sylwi rhywbeth arall hefyd panfyddi di’n siopa yn Wrecsam. Rydyn ni’nhoff iawn o sgwrsio. Dyna’r math o bethsy’n digwydd mewn tref farchnad.

Mae gennym ni dair marchnad dan do acun wythnosol tu allan yng nghanol y dref,yn gwerthu popeth o sosej a stecen i ddillad a dodrefn. Ac mae hwyl y sgwrs ynrhad ac am ddim. Dyna fargen.

Mae’r Farchnad Gig, y Farchnad Gyffredinol

a Marchnad y Bobl yn agored o ddyddLlun i ddydd Sadwrn (er bod y ddwy gyntaf yn cau’n gynnar dydd Mercher).

Ac maen nhw’n cynnal y farchnad wythnosol tu allan bob dydd Llun.Wnaethon ni sôn hefyd ei bod hi’n un o’rmwyaf yng Ngogledd Cymru?

Hefyd, maen nhw’n gwerthu amrywiaetho grefftau a chynhyrchion lleol mewn digwyddiadau ar hyd a lled y fwrdeistrefsirol. Eisiau enghraifft? Dos i weld marchnad fisol y ffermwyr yn Eglwys ySantes Farged yn Garden Village.

Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015

12

Page 13: helo byd - ffwrdd a ni

parciau manwerthu

Yn ystod y deng mlynedd a aeth heibio, maeWrecsam wedi bod yn un o’r canolfannaumanwerthu sydd wedi tyfu gyflymaf yn y DU.

Ffaith: 615,000 o droedfeddi sgwâr o loriau siop wedi eu hadeiladu ers 1999.Mae rhywun yn rhywle wedi bod yn siopao ddifrif.

Mae llawer iawn o’r twf yma wedi bod ar ygwahanol barciau manwerthu sydd wedityfu yn ac o gwmpas canol y dref, yn cynnwys y Ganolfan Ganolog, Plas Cocha’r Werddon – efo digonedd o barcio ganbob un.

Mi weli di lawer iawn o fanwerthwyrenwau mawr yn gwerthu popeth o ddilladchwaraeon i nwyddau trydanol, ac o ddodrefn i fwyd a diod.

parciau canol y dref

Gair o rybudd rwan. Mae siopa yn wych,ond weithiau mae’n rhaid i ti roi dy draed i

fyny, mynd o glyw bwrlwm y dyrfa amfunud a rhoi’r bagiau siopa ’na i lawr.

Mae mannau agored fel Llwyn Isaf a PharcBellevue yn cynnig lleoedd tawel hyfrydyn agos at ganol y dref, lle gelli di ymlacioac edmygu’r bargeinion call rwyt ti wedieu prynu.

Lleoedd i arfer dy gampau ar y bwrdd sgrialu, taflu ffrisbi neu eistedd yn yr haul.Efo hufen ia? Dyddiau dedwydd.

siopa allan o’r dref

Edrycha o dy gwmpas. Mae cefn gwladWrecsam yn cynnig therapi manwerthumewn lleoedd digon o syndod, fel Canolfan Grefftau a Manwerthu’r Plasau.

Mewn 247 o aceri o dir parc ger BangorIs-coed, mae ganddi 25 o siopau yn cynnwysdylunydd mewnol, siop ffasiwn, gof,canolfan arddio, siop de a thy bwyta.

01978 780277www.plassey.com

13

Page 14: helo byd - ffwrdd a ni

bywyd nos

Mae’n wir. D’wyt ti byth yn rhy hen i fyndi’r parti.

Felly, mae’n beth da bod canol tref Wrecsamyn fwrlwm yn y nos. Tai bwyta, bariau, clybiaunos, sinema, bowlio deg. Mae’r cwbl yma.

Taset ti i lawr efo’r plantos, allet ti ddweudei fod yn ‘ffat’. Neu ‘sick’. Ond mae’r arweiniad yma wedi ei sgwennu gan boblyn eu 30au, felly dyna ddigon o hynny.

bowlio, sinemâu a thai bwyta

Mae’n berygl iawn i fowlio deg gael gafaelynot ti’n llwyr. Y sioe oleuadau, y gerddoriaeth, clecian y pinnau.

Wedyn pan wyt ti’n eu taro nhw i lawr,

rwyt ti am glywed y swn yna tro ar ôl tro.

Croeso i sbloet a sbri’r bowlio deg, TenpinBowling, yn Nôl yr Eryrod. Mae hon yn uno’r canolfannau diweddaraf o’i math efo24 o lonydd, sy’n dod â darn bach oAmerica i ganol Wrecsam.

“Mae bowlio yn un o’r ychydig o weithgareddau y mae pawb yn medru eifwynhau,” dywed y rheolwr Vince Brown.“Mae ar gyfer pob oed a phob gallu.”

Wedyn, pan fyddi di wedi gorffen? Wel,dos i weld ffilm yn yr Odeon wyth sgrin sy’nunion y drws nesaf neu fwynhau dathlu dygampau bowlio mewn tai bwyta fel Nando’s,Pizza Express a Frankie and Benny’s.

www.tenpin.co.ukwww.eagles-meadow.co.uk

14Bowlio Deg yn Tenpin Bowling

Page 15: helo byd - ffwrdd a ni

clybiau nos a cherddoriaeth fyw

Fyddem ni ddim yn dweud bod Wrecsambyth yn cysgu, ond mae’n aros ar eithraed yn ddigon hwyr i blesio hyd yn oedy jolihoetiwr mwyaf erioed.

Bariau smart, sofas lledr, llwyfannau bachdawnsio, lliwolchiadau LED. Enwau fel yBank, Voodoo Moon, ac Envy yn clecianar dafodau’r galifantwyr nos Sadwrn ynpenderfynu’r lle nesaf i fynd.

Ac os wyt ti’n un am dy gerddoriaeth fyw,dyma’r lle i ti. Central Station yn cynnig

cymysgedd llesmeiriol o gigiau, nosweithiauclwb a chomedi.

Y Magic Numbers, Charlatans, y Kooks,Kasabian. Maen nhw i gyd wedi chwaraeyma, a bandiau lleol dawnus dros ben.

Mae digonedd hefyd o leoliadau eraill i tifynd i roi cynnig arnyn nhw lle maen nhw’nchwarae cerddoriaeth fyw, yn cynnwysbar y myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndwr.

www.wrexhammusic.co.ukwww.centralstationvenue.com

15

Page 16: helo byd - ffwrdd a ni

cefn gwlad a’r pentrefi

Perthi toreithiog, toeau gwellt, bythynnod

bach tlws, hen dafarnau hudolus.

Mae’n swnio fel un o setiau Midsomer

Murders, ond siarad ydym ni am rai o’r

pentrefi swynol ym Mwrdeistref Sirol

Wrecsam. Hefyd – a bydd clywed hyn yn

rhyddhad mawr i ti – maen nhw’n byw’n

hirach yno fel arfer nag yn y ddrama

dditectif ffuglen ar y teledu.

Un o’r pethau sy’n wych ynglyn â Wrecsam

yw bod gennym y gorau o fywyd y dref a

bywyd y wlad. Mae hi’n dref gyfoes llawn

bwrlwm yng nghanol cefn gwlad hyfryd a

phentrefi dymunol braf. Ac mi fedri di

fynd o un pen i’r llall mewn chwinciad.

Dyma olwg bach sydyn ar rai o’n trefi a

phentrefi gwledig.

16Y Llyn, Gresffordd

gresffordd

Mae gan Gresffordd un o’r eglwysi mwyaf

godidog yng Nghymru, sef Eglwys yr Holl

Saint o’r 15fed ganrif. Hefyd mae pwll y

pentref yn ddigon mawr i’w alw’n ‘Llyn’

ganddyn nhw yn aml.

Ychydig i lawr y ffordd ger Rhos Gresffordd,

neu Gresford Heath, mae cofeb i’r diwrnod

mwyaf trist yn hanes Wrecsam, sef Medi

22, 1934, pan gafodd 266 o ddynion eu

lladd mewn trychineb yn y pwll glo.

www.gresford.org.uk

Page 17: helo byd - ffwrdd a ni

yr orsedd

Efallai y bydd pobl sy’n hoff o gelfyddydyn adnabod y Felin Uchaf ar Afon Alun ynYr Orsedd. Gwnaeth JMW Turner fraslunohoni ym 1795.

Roedd ychydig yn rhy gynnar i alw am damaidyn yr Ystafelloedd Coco, yr adeilad hannerffrâm bren o oes Fictoria. Cafodd y rhaineu codi i ddenu dynion ifainc o dafarnau’rpentref, sydd, byddwch yn falch o glywed,yn dal yno ac yn dal yn brysur iawn.

www.rossett.org.uk

holt

D’wyt ti ddim yn mynd drwy CheckpointCharlie, chwarae teg, ond dos am dro oHolt dros yr Hen Bont ar Afon Dyfrdwy abyddi mewn gwlad arall – Lloegr.

Mae adeiladau hynafol nodedig eraill yno hefyd, fel adfeilion Castell Holt acEglwys St Chad – sy’n un o’r ychydig enghreifftiau sydd wedi parhau o wneudsmonach o gynllunio yn yr oesoedd canol.Ond eto, mae golwg hyfryd arni serch hynny.

www.holtvillage.co.uk

17

Castell y Waun

Y Felin Uchaf, Yr Orsedd

Pont Holt

Page 18: helo byd - ffwrdd a ni

canol. Maen nhw’n pysgota yn yr afon,golff gerllaw a rasio ceffylau dim ondychydig gannoedd o lathenni o ganol ypentref.

www.bangorondeecommunitycouncil.co.uk

y waun a dyffryn ceiriog

Tref fach yw’r Waun ond mawr o ran yr hyny gall ymfalchïo ynddo – traphont ddwr o waith Thomas Telford, traphont o waith Henry Robertson, castell mawreddog a godwyd gan Iorwerth y 1af a maes golff pencampwriaeth.

Mae hi hefyd ar drothwy un o’r dyffrynnoeddharddaf yng Nghymru – Dyffryn Ceiriog(mwy o wybodaeth ar dudalen 58) www.chirkandtheceiriogvalley.co.uk

owrtyn

Mae Owrtyn yn llawn dop o adeiladauhanesyddol, cymaint felly ei bod hi wediei dynodi’n ardal gadwraeth.

Chwilia am Res y Fferyllfa - rhes ofythynnod Neo-gothig gyda bwâu ar bennau’r drysau a’r ffenestri. Mae ynohefyd Stryd Fawr arbennig o lydan, wediei hailwampio wedi i’r pentref gael eiddyrchafu’n fwrdeistref gan Iorwerth y Cyntaf.

www.overton-on-dee.co.uk

bangor is-coed

Mewn lleoliad syfrdanol ar lan AfonDyfrdwy, rwyt ti’n mynd i mewn i Fangortros bont gerrig gefngrom o’r oesoedd

18

Rhes y Fferyllfa, Owrtyn Bangor Is-coed

Pont OwrtynCastell Y Waun

Page 19: helo byd - ffwrdd a ni

rhiwabon

Dyma bentref â hanes hir iddo. Mae tystiolaeth o anheddiad oes yr efydd acmae’r Ty Crwn neu’r Hen Garchar ar Stryty Bont yn un o dri yn unig o garchardaineu dai cloi canoloesol sydd wedi parhauyng Nghymru. Ac os ei di ar grwydr i lawr yStryd Fawr, mi wnei di sylwi bod tai o oesFictoria wedi eu gwneud o frics coch Rhiwabon sy’n adnabyddus trwy’r byd yngrwn.

Ac mae’n rhaid yn wir i ni sôn am y BridgeEnd – a gafodd ei henwi rhyw flwyddynneu ddwy yn ôl yn dafarn orau ym Mhrydain gan y wybodusion y cwrw goiawn, CAMRA. Maen nhw’n bragu cwrw yn y dafarn hefyd, un sydd wedi ennillgwobrau.

www.ruabon.com

hanmer

Yn yr eglwys yn Hanmer ym 1383 y priododdOwain Glyndwr, efallai’r Cymro mwyaf

erioed. Cafodd honno ei llosgi, ond paid âsiomi. Mae’r un a godwyd yn ei lle yn y lleoliad mwyaf trawiadol yn y fwrdeistrefsirol i gyd.

Rwyt yn dod ati o lyn rhewlifol, lle maeheidiau o wyachod copog, elyrch a gwyddau Canada. Rwyt ti’n mynd i mewntrwy giatiau haearn addurnol a thrwy fynwent fawr sy’n ymestyn i fyny’r allt atyr eglwys. Bydd yn barod i gael dy syfrdanu.

erbistog

A llonyddwch y lôn goed gul o Bont Owrtyn heibio i’r Garden House “i lan nathref nid arwain ddim” – heblaw i un o’rpentrefi mwyaf godidog yn Wrecsam.

Mae lleoliad Erbistog ar lannau AfonDyfrdwy wedi ysbrydoli arlunwyr a ffotograffwyr ers canrifoedd. Mae tafarna thy bwyta hardd o’r enw The Boat, cynhyned â’r 13eg ganrif ac eglwys Neo-gothig annisgwyl o fawreddog.

19

Traphont Ddwr a Thraphont Y Waun

Page 20: helo byd - ffwrdd a ni

cariad

20

www.wrexhamsayshello.co.uk

Page 21: helo byd - ffwrdd a ni

Maen nhw’n dweud y

gwir, bod cariad uwchlaw

popeth. Ac mae llawer

iawn i’w garu yn y lle yma,

ei hanes, ei bersonoliaeth,

diwylliant. Wrecsam yn

dy galon!

21

Traphont Ddwr Pontcysyllte

Page 22: helo byd - ffwrdd a ni

Pan orffennodd Thomas Telford ei

draphont ddwr ym Mhontcysyllte ym1805,

hon oedd y groesfan uchaf yn y byd ar

gyfer cychod camlas.

Mae’n dal yno hyd heddiw. Mae’n dal i fynd

â theithwyr cychod y gamlas ar daith orau

eu bywydau. Ond erbyn hyn mae ar fap y

byd.

Yn 2009, gwnaeth UNESCO’r campwaith

hwn o beirianneg sifil yn Safle Treftadaeth

Byd – ynghyd ag 11 o filltiroedd o gamlas,

yn cynnwys Traphont Ddwr y Waun a

Rhaeadr y Bedol ger Llangollen.

Erbyn hyn mae hi’n swyddogol yn un o

safleoedd treftadaeth mwyaf y byd, a’r un

mor bwysig â lleoedd fel y Pyramidiau, y Ta

Mamal a’r Acropolis.

Pan weli di hi, mi weli di beth wedi ei

gyffwrdd gan law athrylith. Oherwydd

roedd Telford yn wir weledydd.

Roedd yn byw mewn oes wahanol, ond

hanes a threftadaeth

22

Port

read

wed

i ei e

ngra

fu o

Tho

mas

Tel

ford

a g

yhoe

ddw

yd a

r gla

wr b

laen

yr ‘

Atla

s to

the

Life

of

Thom

as T

elfo

rd -

Civ

il En

gine

er’ y

m 1

838.

Wed

i ei e

ngra

fu g

an W

. Rad

don

oddi

ar b

aent

iad

gan

S. L

ane.

Page 23: helo byd - ffwrdd a ni

23

roedd i fyny ar y brig efo pobl fel Steve

Jobs, sefydlydd Apple, Bill Gates o gwmni

Microsoft neu unrhyw feddyliwr blaengar yn

yr oes fodern. Roedd yn ddyn o flaen ei

amser.

Nid gormod o gwbl fyddai dweud bod y

dulliau a’r syniadau a gafodd eu datblygu

ym Mhontcysyllte wedi helpu i lunio’r byd

trwy eu dylanwad ar beirianneg.

Ond yr hyn sy’n rhyfeddod go iawn yw’r

modd y mae’r adeiladwaith yn dal i gipio

dychymyg pobl, mwy na 200 o flynyddoedd

wedi ei godi.

Mae’n dal i fod yr un mor hudolus ag erioed.

Gelli lawrlwytho copi o’n Micro-arweiniad i

Draphont Ddwr Pontcysyllte a’r Gamlas.

Neu sbïa ar y wefan swyddogol, tudalennau

Trydar a Gweplyfr.

www.issuu.com/wxmsayshello

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk

www.twitter.com/pontcysyllte

www.facebook.com/pontcysyllte

Page 24: helo byd - ffwrdd a ni

eiddo’r ymddiriedolaeth genedlaethol

Y tro nesaf y byddi di’n tocio dy wrych,paid ag anghofio’r pen garddwr yng Nghastell y Waun.

Mor anferthol yw’r gwrychoedd yw bodeisiau tua wyth wythnos ar dîm o ddynioni’w twtio nhw, pob un wrthi efo tociwrtrydan ac yn creu tunelli o ddail a brigau.

Dychmyga roi hynny i gyd yn dy fin olwynion gwyrdd. Ond mae’n werth bobtamaid, cofia. Cafodd y gerddi eu pleidleisio’r gorau gan yr YmddiriedolaethGenedlaethol un tro.

Mae’r castell ei hun yn un o gadarnleoeddy Gororau, a godwyd ym 1310. Ond nidhen furddun mo hwn. Y gwir yw ei fod yngartref ers 700 o flynyddoedd. Mae’rrhandai bonheddig mawreddog o’r 18fed

24

Page 25: helo byd - ffwrdd a ni

ganrif yn llawn dop o waith plastr cywrain,dodrefn yn null Adam, gwaith tapestri aphortreadau.

Ac yn yr ystafell de maen nhw’n gwneudbara brith cartref bendigedig.

Ein heiddo arall gyda’r YmddiriedolaethGenedlaethol (dydyn ni ddim am frolio,ond oes - mae gennym ni ddau) yw Erddig.

Os wyt ti’n un o ddilynwyr y gyfres deledu Downton Abbey, byddi di’n deallyn iawn os dywedwn ni bod Erddig yn lle ‘ifyny ac i lawr y grisiau’. Mae gan y cartrefbonedd hwn gymaint i’w ddweud am fywydau’r gweision ag am y perchnogion.

Castell y Waun 01691 777701Erddig 01978 355314www.nationaltrust.org.uk

25

Castell y Waun

Erddig

Page 26: helo byd - ffwrdd a ni

amgueddfa bwrdeistref sirolwrecsam

Beth am ein plesio ni rwan? Dychmyga dyfod yn ôl yn yr ysgol (oni bai dy fod yn dalyn yr ysgol). Maen nhw’n gofyn i ti ysgrifennu traethawd am hanes Wrecsamo’r dechrau at heddiw.

Rwan ’te, mi allet ti estyn am y gliniadur achael sgwrs fach efo Mr Google (neu unrhyw beiriant chwilio dibynadwy arall).Ond mi fuasai mynd am dro i lawr iamgueddfa’r fwrdeistref sirol yn llawermwy o hwyl i ti.

Bu’r adeilad yn ffodus o gael ei ailwampioyn 2010, efo estyniad trawiadol o wydr yncynnig adran gaffi fendigedig, derbynfa a siop.

Mae digonedd yno hefyd o daclau a geriach

rhyngweithiol newydd sy’n dod â’r arddangosfeydd yn fyw, gan adroddhanes Wrecsam efo’r dechnoleg newydd.

Wrth gwrs, mae’n anodd gwybod beth fyddai preswylydd hynaf yr adeilad yn eifeddwl o’r newidiadau i gyd. Un distawbraidd yw hwn, ond wedyn mae’n 3,500oed.

Wedi ei gloddio allan gan weithwyr oeddyn torri ffos ym Mrymbo ym 1958, dimond sgerbwd o fri oedd ‘Dyn Brymbo’ amblwc. Wedyn, wnaethon ni ofyn i’r Dr Caroline Wilkinson o’r rhaglen Meetthe Ancestors ary BBC a fyddai hi’n ail-greu ei wyneb. Mae hi’n ddynes fedrusiawn.

Beth am y traethawd ’na? Siwr o gael marciau llawn.

01978 297460

26

Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Page 27: helo byd - ffwrdd a ni

gwaith haearn a chanolfan dreftadaeth y bers

Pan oedd Gwaith Haearn y Bers yn ei anterthyn y 18fed ganrif, enw’r perchennog ynooedd John ‘Yr Hurtyn Haearn’ Wilkinson.

Rwan, rydyn ni’n cyfaddef ei fod efallai’nddyn braidd yn rhyfedd, ac yn sicr yn unoedd yn colli ei limpyn yn hawdd (wediffraeo efo James Watt, yr oedd ei beiriannauager yn pweru’r Chwyldro Diwydiannol efocymorth silindrau wedi eu gwneud yn yBers).

Ond athrylith oedd o hefyd. Datblygoddbroses chwyldroadol a oedd yn fodd iddodyllu canon, efo manwl gywirdeb eithriadol, allan o fetel bwrw solet.

Yn nodweddiadol, roedd yn cyflenwi arfau

i’r ddwy ochr yn Rhyfel AnnibyniaethAmerica a chafodd canonau’r Bers eutanio mewn llawer o ymgyrchoedd Prydainac yn Rhyfeloedd Napoleon a’r Penrhyn.

Heddiw, mae canolfan yr ymwelwyr yngngwaith haearn y Bers yn cynnig i’r chwilfrydig y cyfle i ddysgu am un ofeibion mwyaf arloesol – a hynod – Wrecsam. Dos yno i weld.

A thra’r wyt ti yno, dos i weld y ganolfandreftadaeth yn ymyl. Yno mae pob un ogasgliadau treftadaeth ddiwydiannolWrecsam ac mae’n egluro’r modd y gwnaeth haearn, glo a phlwm weddnewidtref farchnad fach i fod yn un o bwerdaieconomaidd y 18fed a’r 19eg ganrif.

01978 318970www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth

27

Gwaith Haearn y Bers

Page 28: helo byd - ffwrdd a ni

glo a dur

Fel y gwaeth rhannau helaeth o Gymru,treuliodd Wrecsam y rhan fwyaf o’r ganrifddiwethaf yn cloddio am lo, glo i gynnaltân rhawd ddiwydiannol Prydain Fawr.

Ni fydd Wrecsam byth yn anghofio eibalchder yn ei gwreiddiau glofaol, ondbu’n rhaid talu am hynny.

Medi 22, 1934. Ffrwydrad anferthol ynnyfnderoedd pell y ddaear yng NgwaithGlo Gresffordd. 266 wedi eu lladd, yn wyr, tadau, meibion a brodyr. Nid yw Wrecsam erioed wedi eu hanghofio.

Roedd dur hefyd yn un o gonglfeinieconomi’r dref. Yn ei anterth yn ystod y60au a dechrau’r 70au, byddai Gwaith Dur

Brymbo yn goleuo’r gorwel efo’i feteltawdd.

Efo mwy na 2,000 o weithwyr yn llafurionos a dydd a rhai o’r dulliau cynhyrchudur mwyaf cyfoes, roedd yr holl beth yndebyg i olygfa o’r Metropolis gan FritzLang ond ar lethrau bryn yng Nghymru.

Caeodd y safle ym 1990, ond os cerddi dii lawr Stryt yr Arglwydd yng nghanol trefWrecsam mi weli di fwa cerfiedig wedi eilunio ar ffurf glöwr a gweithiwr dur.

Mae Wrecsam wedi credu erioed yn y dyfodol (byddwn yn rhoi gwybod mwy i tiam hynny ar dudalen 40) ond rydym ynfalch o’n gorffennol hefyd.

www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth

exploring churches28

Cofeb y Glowyr, Gresffordd

Page 29: helo byd - ffwrdd a ni

o gwmpas hen eglwysi

Mae twr Eglwys San Silyn yn Wrecsam yngan troedfedd a phymtheg ar hugain i’wben uchaf ac yn un o Saith RhyfeddodCymru.

Dos yno i weld. Ac wedyn, pan fyddi diwedi gorffen, dos i weld rhai o’n heglwysieraill ni.

Yn ogystal â bod yn lleoedd i weddïo amyfyrio, mae’r trysorau pensaernïol hynyn dod â hanes ein trefi a’n pentrefi, syddwedi bod yn ddigon cythryblus o bryd i’wgilydd, yn fyw eithriadol.

Dyna i ti eglwys y Santes Fair yn Rhiwabon.Y tu mewn iddi, mi weli di furlun o’r 15fedganrif a bedyddfaen o’r 16eg ganrif.

Y tu allan, mi weli di Borth Mynwent addurnol, rhan ohono wedi ei gerfio obren derw lleol Wynnstay ac wedi ei gysegru’n Gofeb Ryfel i’r Plwyf ym 1920(pan oedd Prydain yn dal i geisio

29

Eglwys San Silyn, Wrecsam

dygymod â’r holl golli bywydau yn ystod yRhyfel Byd Cyntaf).

Yn Eglwys St Chad yn Holt mae tyllaubwledi i’w gweld a ddigwyddodd mewnsgarmes rhwng y Pengryniaid a’r Brenhinwyr yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Ac yng Nghadeirlan y Santes Fair ynWrecsam, mae capel wedi ei gysegru i’rmerthyr Richard Gwynne a gafodd eigrogi, ei dynnu a’r chwarteru ym 1584 –a’i wneud yn sant ym 1972.

Mae pymtheg o’n heglwysi wedi dod at eigilydd i greu Rhwydwaith yr EglwysiAgored. Mae gan bob un ei hanes ysgogolei hun i’w adrodd ac mae pob un wediymrwymo i roi croeso i ymwelwyr.

Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015Rhwydwaith yr Eglwysi Agoredwww.openchurchnetwork.co.uk

Page 30: helo byd - ffwrdd a ni

barod i dorchi dy lewys. Rydym ni’n meddwly dylai celfyddyd fod yn rhyngweithiol.

Hefyd mae mudiad lleol o’r enw ProsiectTHIS yn llwyfannu pethau gwych yn y dref- yn cynnwys lleoedd celf tros dro sy’nllawn dop o ddawn greadigol. Sbïa ar thisproject.co.uk am y pethau diweddaraf.

Mae Oriel Sycharth ym Mhrifysgol Glyndwr yn arddangos gwaith gan artistiaid o fri rhyngwladol, a gan rai aallai’n wir fod yn enwog un diwrnod – ei myfyrwyr ei hun.

Mae’r cyhoedd hefyd yn gallu ymdrwythoyn yr arddangosfeydd sy’n newid byth abeunydd yn Oriel Goffa Coleg Iâl amychydig o oriau bob diwrnod o’r wythnos.

Oriel Wrecsam 01978 292093

Prosiect THIS www.thisproject.co.uk

Oriel Sycharth www.glyndwr.ac.uk

Oriel Goffa Coleg Iâl 01978 311794

diwylliant

Rydym yn hoff o ddiwylliant yn Wrecsam.

Celfyddyd, cerddoriaeth, ffasiwn, ffilm ahoffterau creadigol eraill.

Lle’r ei di felly am dipyn o hyn? Rho gynnigar hyn.

celfyddyd

Nid edrych yn unig ar gelfyddyd y byddwnni’n ei wneud yn Wrecsam (er bodhynny’n ddifyr iawn). Rydym yn hoff ofaeddu ein dwylo hefyd.

Mae Oriel Wrecsam yn un o’n prif ganolfannau celfyddyd ac yn lle gwych iweld celfyddydau a chrefftau gorau eincyfnod. Ond os byddi di’n dod i unrhywddosbarth y byddwn yn ei gynnig, bydd yn

30

Page 31: helo byd - ffwrdd a ni

cerddoriaeth

Byd gwyn yw byd a gano. A phob misEbrill – dan ni’n wyn ein byd ac ar ben eindigon, diolch i Ffocws Cymru.

Mae’r digwyddiad ‘cwl’ iawn yma yngweddnewid canol tref Wrecsam a’i throi’nbaradwys i bobl sy’n caru cerddoriaeth,gyda mwy na 150 o fandiau yn chwaraegigiau am dri diwrnod mewn llawer o wahanol leoliadau.

Ond paid â phoeni. Does dim rhaid i ti arostan fis Ebrill cyn mwynhau cerddoriaethfyw yn Wrecsam.

Yn Neuadd William Aston, efo’i 890 oseddi – ym Mhrifysgol Glyndwr, mae gennym ni leoliad efo’r modd i arddangosy gorau sydd i’w gael.

Popeth yma – clasurol, swing, motown apop. Ac mae mwy eto o gerddoriaeth ar

y campws gerllaw yng Nghanolfan CatrinFinch.

Wrth gwrs, fyddai hi ddim yn iawn petaigennym ni ddim ychydig o gorau o’r raddflaenaf yma yn Wrecsam, a ninnau’nGymry ac yn falch o hynny.

I ddechrau, mae gennym gorau Brymbo, Y Rhos, Orffiws y Rhos a Dyffryn Ceiriog,wedyn y band bechgyn hynaf yn y byd – CôrMeibion y Fron. Mae’r hogiau wedi dodbraidd yn enwog ers i’w record hir Voicesof the Valley chwipio i ben y siartiau.

Mae ein corau yn canu mewn nifer o leoliadau trwy gydol y flwyddyn. Weithiaumi gei di hyd yn oed fynd i eistedd yn yrymarferion - heb orfod talu’r un ddimai goch.

Côr Meibion y Fron www.fronchoir.com

Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015

31

Côr Meibion Y Fron

Page 32: helo byd - ffwrdd a ni

theatr

Mae Rhosllannerchrugog, ychydig allan oWrecsam, yn lle nodedig am lawer o resymau.

Maen nhw’n dweud mai hwn yw’r pentrefmwyaf yng Nghymru. Mae nifer o goraugwych yno ac yno hefyd mae Theatr y Stiwt.

Mae’r lleoliad, sy’n cynnal pob math ogerddoriaeth a dramâu, yn gymaint oganolfan i ddiwylliant Cymru heddiw ag yroedd yn ôl ym 1926, pan agorodd yn gyntaf.

Mae’r Theatr Stiwdio fach gartrefol yngNgholeg Iâl yn Wrecsam, a’i 150 o

seddau, yn cynnal cynyrchiadau rheolaidd,tra mae Theatr Stiwdio Glan yr Afon - cartrefCymdeithas Theatr Gerddorol Wrecsam -yn fwy fyth o ‘dy bach twt’ efo lle i 120.

Ymysg cedyrn eraill y byd amatur maeTheatr y Gelli neu’r Grove Park Theatr, ymae ei chynyrchiadau wedi bod yn cyfareddu cynulleidfaoedd ers 1925.

Theatr y Stiwt 01978 841300www.stiwt.co.ukTheatr y Stiwdio 01978 311794Theatr Stiwdio Glan yr Afon 01978 261148Theatr y Gelli (Grove Park) 01978 351091www.groveparktheatre.co.uk

32

Theatr y Stiwt

Page 33: helo byd - ffwrdd a ni

diwylliant wrecsam

Rydym yn hoffi diwylliant. Rydym yn hoff o gelfyddyd, cerddoriaeth, ffasiwn aphopeth arall.

Ond fel pob man arall, mae gan Wrecsamei diwylliant ei hun hefyd, y pethau bychainhynny sy’n rhoi iddi ei chymeriad. Weithiaumae hynny’n beth anodd i roi dy fys arno.

Ond os ei di i sefyll ar derasau stadiwmpêl-droed y Cae Ras, efo’n cefnogwyr ni, yn cefnogi’n tîm ni, efallai y byddi di’n deall.

Os ei di i mewn i dafarn a gweld pethau

cofiadwy ar hyd a lled y waliau sy’ndeyrnged i’r hen Lagyr Wrecsam gwreiddiol, efallai y byddi di’n deall.

Ac os byddi di’n eistedd yng nghefnneuadd bentref yn gwrando ar gôrmeibion yn ymarfer - a chlywed y blew yncodi ar dy wâr - efallai y byddi di’n deall.

Ac os gweli di'r llanciau a’r merched ynrhydd-redeg ar lawnt y Llwyn Isaf – ynneidio a throelli, heb fentro gwneud cam-gymeriad – neu gerddorion ifanc efouchelseinydd gitâr wedi torri yn rhyddhaueu breuddwydion creadigol ar y byd,mae’n siwr y byddi di’n deall.

33

Page 34: helo byd - ffwrdd a ni

enwogion

Mae llawer o bobl sy’n agos at galonWrecsam, gormod i sôn amdanyn nhwyma, yn cynnwys enwogion sy’n falch o’ugwreiddiau a phobl ‘gyffredin’ sydd wedigwneud rhywbeth anghyffredin.

Fyddem ni wrth ein bodd yn rhoi gwybodi ti amdanyn nhw i gyd. Ond am y tro,dyma un neu ddau y gallet ti fod wediclywed amdanyn nhw.

34

Robbie Savage

robbie savage

Roedd yn un o ddynion caled pêl-droedoedd yn codi ofn. Mae ganddo’r gwalltdelaf ar y teledu. Ac mae’n reit hoff osiglo’i ddoniau ar y llawr dawnsio hefyd.

Mae cyn seren yr Uwch Gynghrair yn un ohogiau Wrecsam o’i gorun i’w sawdl. Llwyddodd i ysgubo’r genedl yn 2011 yn y sioe Strictly Come Dancing ar y BBC. Ynsylwebydd chwaraeon blaenllaw erbynhyn ar y teledu a’r radio, byddai Robbie yn gallu brolio hefyd bod ganddo nifer anferthol o ddilynwyr ar y Trydar.

www.twitter.com/RobbieSavage8

Page 35: helo byd - ffwrdd a ni

3535

Mark Hughes

Tom James

tom james

Un gair: chwedlonol. Enillodd y dyn hwn obentref Coedpoeth yn Wrecsam y fedalaur Olympaidd ddwy waith, Beijing 2008 aLlundain 2012.

Mae’r gwr hwn o fyd chwaraeon yn llawnysbrydoliaeth ac yn llysgennad gwych i’wdref enedigol. Da iawn ti, Tom.

www.twitter.com/TomJames

mark hughes

Dyma gyn beldroediwr arall a ddaeth ynenwog drwy’r ddaear a’r nefoedd ynystod ei yrfa o chwarae efo ManchesterUnited, Barcelona, Bayern Munich aChelsea.

Dysgodd ‘Sparky’ ei sgiliau sgorio goliau argaeau chwarae Rhiwabon, lle cafodd eifagu, ac mae wastad wedi bod yn llysgennad gwych ar ran Wrecsam a Chymru.

Page 36: helo byd - ffwrdd a ni

Erbistog. Y sawsiau a surop temtlyd sy’ncael eu gwneud gan Guy a’i deulu yn eucartref o’r 16eg ganrif yn Llys Bedydd - igyd wedi eu gwneud efo’r llus y mae’n eutyfu. A dyna i ti’r sosej fuddugol y maeMark yn eu gwneud ar ei fferm yn Eyton.

Mae yna fragwyr, gwneuthurwyr caws,tyfwyr llysiau, gwneuthurwyr mêl, cynhyrchwyr jeli o waith llaw, ffermwyrwyau buarth, gwneuthurwyr peli-siocled.Mae’r rhestr yn ddiddiwedd.

Mae gennym hyd yn oed werthwr te o’r enwKim sy’n gwerthu cyfuniad arbennig o ‘DeWrecsam’ yn ei siop ar y Stryd Fawr yngnghanol y dref (enw’r siop yw ‘Just Tea andCoffee’, sy’n enw hollol gall iddi, chwarae teg).

Y pwynt yw, rydyn ni’n meddwl mai arfwyd lleol y mae’r blas gorau. Dyna pamrydyn ni wedi llunio cyfeirlyfr bwyd bachcyfleus ar lein a fydd yn dy helpu di i weldbeth fedri di ei brynu a lle medri di eibrynu.

Estyn ato.

www.bwydlleolgyntafwrecsam.co.uk

cynhyrchion lleol

Ffaith. Mae bwyd da yn rhoi blas gwell arfywyd. Mae bwyd da lleol yn rhoi blasgwych ar fywyd.

Felly, os nad wyt ti’n gwybod yn barod amy bwydydd a’r diodydd sy’n cael eu cynhyrchuyma yn y fan a’r lle yn y fwrdeistref sirol,mae’n hen bryd i ti glywed.

bwydydd lleol yn gyntaf

Mae Robert Didier yn ddyn sydd yn ei gynefin yn y gegin. Dysgodd ei grefft odan y chwedlonol Raymond Blanc ac maewedi coginio at ddant Sean Connery, neuJames Bond wrth ei enw arall.

Felly, pan ddaeth Robert i Ogledd Cymruyn 2003 i gychwyn busnes yn gwneudpasteiod cartref, roedd y gwybod yn iawnbeth oedd yn ei wneud.

Ac mae ei bastai arbennig ei hun, y Bastai OlwynTractor, yn ennill cryn dipyn o fri yn yr ardal.

Yn wir, mae peth wmbreth o bobl ddawnusiawn yn cynhyrchu pob math o fwyd adiod ardderchog yn Wrecsam, y math ofwyd sy’n codi gwên ar eich wyneb.

Dyna i ti’r hufen ia mwyaf hufennog sy’ncael ei wneud gan Richard ar Fferm

36

Page 37: helo byd - ffwrdd a ni

lagyr wrecsam

Mae’n ôl. Yn wir i ti. Mae’r enw a wnaethgymaint, mae’n debyg, i roi Wrecsam ar ymap ag unrhyw beth arall yn ystod y ganrifddiwethaf, wedi dod yn ôl o’r diwedd.

Wrth gwrs, mae’n llymaid tipyn bach ynwahanol i’r ddiod y gwnaeth Carlsberg-Tetley ganu’r gloch olaf arni yn 2002.

Ond wedi blynyddoedd o ddisgwyl, mifedri di unwaith eto ofyn am ‘beint oWrecsam’ yn nhafarnau’r fro.

Wedi ei fragu gan y cwmni newydd Wrexham

Lager Beer Company efo rysáit o’r dyddiau

pan oedd y cwrw yn ei anterth yn y 1970au,

mae’r gwybodusion wedi rhoi adolygiadau

ffafriol i’r lagyr euraid cyfandirol ei naws.

Ond cofia di. Mae modd cael gormod o

rywbeth da. Yfa’n gall a dos i weld

www.drinkaware.co.uk am y canllawiau

diweddaraf ynglyn ag yfed alcohol.

www.wrexhamlager.co.uk

37

Page 38: helo byd - ffwrdd a ni

creu

38

www.wrexhamsayshello.co.uk

Page 39: helo byd - ffwrdd a ni

Mae angen ‘rhywbeth’ arbawb. Rhyw ddawn neu fedr

y mae’n adnabyddus amdano. Rhywbeth sy’n

gwneud iddo fo neu hi sefyllallan. “Dyna ’mhethau i.Dyna be’ dwi’n wneud.”

Felly, beth yw’r ‘rhywbeth’arbennig hwnnw sydd gan

Wrecsam? Dyma un syniad.Dawn Greadigol.

39

Page 40: helo byd - ffwrdd a ni

“ein busnes ni yw creu”

Mae Wrecsam bob amser wedi chwaraeei rhan wrth hybu’r byd yn ei flaen efo syniadau a thechnoleg newydd. Fedrwnni ddim peidio. Mae’r peth yn ein gwaed.

O’r technegau sylfaenol newydd a fu’n foddi Thomas Telford godi Traphont DdwrPontcysyllte mwy na 200 o flynyddoeddyn ôl, i’r gwaith arloesol sy’n digwydd ymaar hyn o bryd ym Mhrifysgol Glyndwr.

Eisiau enghraifft? Mae’r brifysgol yn helpui ddatblygu telesgop mwyaf y byd, ynhelpu i ddatgelu cyfrinachau’r bydysawd,ymysg llawer o bethau eraill.

Ti’n gweld, mae Wrecsam wastad wedibod â rhyw fath o chwilen yn ei phen ynglyn â’r dyfodol, wedi mopio ar

syniadau newydd, meddwl o’r newydd.

Dydyn ni ddim yn dweud y bydd pawbyma yn gwibio o gwmpas y lle ar fyrddauhofran erbyn 2025, ond paid â synnu ogwbl os bydd y taclau newydd weli diyfory yn rhai gafodd eu dyfeisio yn Wrecsam.

Fel y dywedodd y bardd Arthur O’Shaughnessy,“…rydym yn freuddwydwyr breuddwydion”.

y rhai disglair

Mae pobl ym mhob agwedd ar fywyd sy’n ‘weledyddion’. Maen nhw’n gweldpethau nad yw pobl eraill yn eu gweld.Mae problemau yn bosibiliadau. Maenewid yn gyfle.

Mae gan Wrecsam fwy na’i dogn deg obobl ddisglair, yn unigolion a sefydliadau.Does dim lle i bob un yma, ond dyma flas.

40

Prifysgol Glyndwr

Page 41: helo byd - ffwrdd a ni

thomas telford

Adeiladodd Traphont Ddwr Pontcysyllteym 1805 gan ddefnyddio dulliau sylfaenolnewydd a ddylanwadodd ar beirianwyr ledledy byd. Yn syml iawn, Telford oedd ‘y boi’.

john wilkinson

Dyfeisiodd ddulliau newydd o dyllu canontua chanol y 18fed ganrif a oedd yn chwyldroym maes rhyfel. Aeth yr Arglwydd Nelsonâ nhw i’r môr ar ei long HMS Victory. Mae’rgweddill, fel maen nhw’n dweud, yn hanes.

william low

Peiriannydd sifil oedd yn byw yn Wrecsamoedd hwn a wnaeth y cynlluniau ymarferolcyntaf ar gyfer twnnel o dan y sianel yn yr1860au. Peiriannydd disglair. Dyn busnesgwael. Does neb yn berffaith.

41

Traphont Ddwr Pontcysyllte Thomas Telford

elihu yale

Ganed ym 1649. Roedd hwn yn fentrwr ac addysgwr dawnus a fagwyd yn ymylWrecsam ac a wnaeth gyfraniad hael iYsgol Golegol Connecticut, UDA.

Roedden nhw’n ddiolchgar iawn. Maecopi o dwr Eglwys San Silyn yn dal yno i’wweld ar diroedd yr hyn oedd i fod nes ymlaen yn Brifysgol Yale.

ysbyty maelor wrecsam

Un o’r ysbytai mwyaf blaenllaw ym maesymchwil feddygol ac wedi ymrwymo iddatblygu ‘gofal iechyd y dyfodol’. Yn2010 roedd 135 o brosiectau ynymwneud ag arbrofion gyda chleifion,datblygu dyfeisiadau a thriniaethau meddygol.

Page 42: helo byd - ffwrdd a ni

prifysgol glyndwr

Lle fedrwn ni ddechrau? Datblygu drychauar gyfer telesgop mwyaf y byd yn NeAmerica. Gweithio efo prifysgolion ynTsieina i estyn ffiniau bio-beirianneg.Mae’r rhestr yn ymestyn. Mae hi’n un o arloeswyr prysuraf Wrecsam heddiw.

www.glyndwr.ac.uk

moneypenny

Enghraifft wych o weledigaeth a menter.Wedi ei sefydlu yn 2000, dyma’r cwmni cyntafyn y DU i ddarparu gwasanaethau atebgalwadau proffesiynol. Cafodd Wobr yFrenhines am Fenter yn 2008. Erbyn hyn mae’ncyflogi mwy na 300 o bobl ac yn trin mwy nag8 o alwadau’r flwyddyn.

www.moneypenny.co.uk

cytec engineered materials

Rhan o’r cwmni mawr byd-eang Cytec Industries Inc. Mae’n datblygu defnyddiaui’w defnyddio mewn awyrennau uwch-berfformiad, cerbydau ffordd a llawer o bethaueraill, hyd yn oed ceir rasio fformiwla un.

www.cytec.com/engineered-materials

nu instruments

Wedi ei sefydlu ym 1995. Maen nhw’ndyfeisio offer gwyddonol gyda’r diweddarafyn y maes i’w defnyddio gan wyddonwyrledled y byd. Maen nhw’n arbenigo mewnmas-sbectrometreg. Stwff anodd ar y naw.

Nu Instruments www.nu-ins.comWikipediawww.wikipedia.org/wiki/Mass_spectrometry

42

Prifysgol Glyndwr

Page 43: helo byd - ffwrdd a ni

plant yr haul

Pwer. Mae gennym ni ddiddordeb mewnrhywbeth felly. Ddim yr un fath â GengisCân ers talwm. Nid concro’r byd sy’nmynd â hi yn Wrecsam â dweud y gwir.

Mae ein diddordeb ni mewn helpu i ddatrysproblemau ynni’r byd.

Mae pobl yn defnyddio mwy o ynni, ondmae’r tanwydd ffosil fel nwy naturiol yngorffen. Felly, mae hynny’n broblem fawr.

43

Nu Instruments

Os cymerwn ni hefyd y llygredd sy’n dodo losgi tanwydd ffosil a’r pryderon ynglyn agynni niwclear, mae’n ddigon i dy ddychryn di.

Felly mae’n fater digon syml. Ond nid yw’r

ateb mor syml ychwaith. Ond mae dau beth i’w

gweld yn gall i’w gwneud: datblygu technoleg

ynni glân a llosgi llai o danwydd ffosil.

Mae Wrecsam yn mynd ati o ddifrif efo’r

ddau beth ac yn chwarae ei rhan i gadw’r

goleuadau ymlaen i’r cenedlaethau sydd

i ddod.

Page 44: helo byd - ffwrdd a ni

Os gyrri di o gwmpas Wrecsam mae’ndebyg y gwnei di sylwi bod gan lawer ogartrefi baneli solar newydd sbon danlli ary to. Mae Cyngor Wrecsam wedi eugosod ar 3,000 o dai cyngor, yn rhan ogynllun gwerth £20 miliwn, un o’r mwyafo’i fath yn y DU.

Bydd y prosiect yn arbed oddeutu 3,000 o

dunelli o ollyngiadau CO2 bob blwyddyn(yr un fath â chlirio 1,000 o geir oddi ar yffordd) a bydd yn helpu i wneud ôl troedcarbon Wrecsam yn llai. Ar ben hynny,bydd yn rhoi biliau trydan rhatach idenantiaid y cyngor.

www.wrecsam.gov.uk

44

Page 45: helo byd - ffwrdd a ni

diffodd y golau cyn mynd

Dyma ni felly yn gwneud ein rhan i fynd i’rafael â newid hinsawdd. Ond nid defnyddiotechnoleg solar ydi’r unig beth o dan sylw.

Rydyn ni hefyd yn gwneud yr holl newidiadaubach hynny yn ein ffordd o fyw bob dydd er mwyn lleihau ein heffaith ar yramgylchedd.

O beth syml iawn fel berwi dim ond hynnyo ddwr sydd ei angen arnat ti yn y tegell,diffodd y golau mewn ystafelloedd gwag,i bethau anoddach fel tyfu dy fwyd dyhun a defnyddio llai ar y car.

Efo’r prosiect arloesol Pwer Pobl,wnaethon ni ofyn i bawb yn Wrecsamwneud llw ar-lein i ddefnyddio llai o ynniyn y cartref a’r gwaith.

Wnaeth Steve Connor, prif weithredwrefo’r asiantaeth farchnata Creative Concern, ein helpu ni i guro ar drwm.

“Gofynnodd yr ymgyrch i bobl Wrecsamddefnyddio llai o ynni eu hunain trwy

ddulliau syml ac ymarferol,” mae’n dweud. “O ganlyniad uniongyrchol i’r prosiectbydd llawer o filoedd o dunelli o CO2 yncael eu harbed a bydd ôl troed carboncyfan y fwrdeistref dirol yn lleihau.”

www.pwerpoblwrecsam.org

adeiladu ar gyfer y dyfodol

Rwan ’te, mae ar le dyfodolaidd angenadeiladau dyfodolaidd. Iawn? Ac maehynny’n golygu adeiladau fydd ddim yncostio’r ddaear.

Mae’r cynlluniau i ddatblygu Mynedfa Orllewinol y dref yn barc busnes carbonisel a defnydd cymysg yn mynd o nerth inerth. Ac nid yr amgylchedd yn unig fyddyn elwa ar hyn.

Bydd y parc busnes uwch-fanyleb acuwch-dechnoleg hwn yn gymorth hefyd iWrecsam ddenu mwy o weithwyr o’r raddflaenaf. A bydd cwmnïau o’r radd flaenafyn dod â swyddi o’r radd flaenaf.

Canlyniad.

45

Page 46: helo byd - ffwrdd a ni

Y ddwy economi deigr yma yn Asia yw’rdyfodol.

Mae’n beth da felly ein bod yn eithaf da amfeithrin cyfeillgarwch efo gwledydd eraill.

Mae Prifysgol Glyndwr wedi gweithio’nbarod efo’r Coleg Bio-beirianneg ymMhrifysgol Dechnoleg Hubei yn Wuhan.

Ar ben hynny, mae Cyngor Wrecsam bobamser yn awyddus i siarad efo busnesau oTsieina sy’n ystyried buddsoddi a chreuswyddi yn y DU. Y neges yma? Rho dybres yn Wrecsam. Fyddi di ddim yn edifar.

mae gwybodaeth yn rym

“Y gofod. Y ffin olaf.”

Iawn. Anodd braidd oedd bod gormod oddifrif ynglyn â’r Capten James T Kirk a’iffrindiau Star Trek – yn y gwisgoedd tynyna. Ond roedd ganddo bwynt. Ac mae

teigr teigr llewyrchus, ffyniannus

Napoleon ddywedodd un tro mai ‘cawrcwsg’ oedd Tsieina.

Erbyn hyn, wrth gwrs, mae’r cawr wedideffro ac mae’n un o rymoedd economaiddmwyaf y byd, os nad y mwyaf o’r cwbl. Acmae ei chymydog, India, yn ail go agos.

Mae’r ystadegau yn frawychus. Er enghraifft,mae Tsieina ac India yn cynhyrchu miliwny flwyddyn ar gyfartaledd o raddedigionmewn peirianneg, o’u cymharu â dim ond170,000 yn UDA ac Ewrop.

46

Techniquest Glyndwr

Page 47: helo byd - ffwrdd a ni

Wrecsam yn gwneud ei rhan i helpu dyn ifentro’n ddewr lle’r aeth neb erioed o’rblaen.

Yn rhan o hyn oll, mae gwyddonwyr ymMhrifysgol Glyndwr yn helpu i ddatblygudrychau ar gyfer ‘Telesgop Mwyaf y Byd’ -sy’n enw eithaf addas arno - a fydd wediei osod yn Ne America.

Ond nid drychau cyffredin mo’r rhain.Maen nhw’n 1.5 metr o led ac mae’n rhaididdyn nhw fod wedi eu caboli o fewn biliwnfed rhan o fetr, sy’n llai na 1000fedrhan o flewyn gwallt dynol.

Bydd y drychau hyn yn gydran hanfodolbwysig yn y telesgop, felly bydd Wrecsamyn chwarae rhan hollol allweddol o ranhelpu’r byd i dreiddio i ddirgelion y bydysawd. Digon i wneud argraff arnat ti?

Un enghraifft yn unig yw’r telesgop o’rbrifysgol yn cymryd rhan mewn prosiectauarloesol. Mae llawer o bethau eraill yn digwydd hefyd, pethau efo naws ‘bydnewydd dewr’ go iawn iddyn nhw.

47

Mae hynny’n cynnwys myfyrwyr yngwneud ceir ynni solar a gwyddonwyr yngwthio ffiniau bio-beirianneg trwy weithio efo prifysgolion Tsieina.

cariad at wyddoniaeth

Mae gwyddoniaeth yn gallu bod yn hwyl.Yn wir.

Dos i weld Techniquest Glyndwr ar gampwsy brifysgol ac mi weli di sut mae hyn ynwir. Mae mwy na 60 o gemau rhyngweithiolac arddangosiadau i ysgogi meddyliau’rhen a’r ifanc fel ei gilydd.

Mae hyn yn cynnwys pelen droi efocrisialau’n llifo a ‘wal gysgodion’ frawychussy’n dod yn fyw ar ei phen ei hun.

Mae’r hysbysebion yn brolio mai hyn yw’rdiwrnod allan mwyaf heriol yng NgogleddCymru. Nod Techniquest yw archwiliodirgelion gwyddoniaeth – trwy gyfrwngergydion mawr a llysnafedd llithrig.

01978 293400 www.tqg.org.uk

Page 48: helo byd - ffwrdd a ni

eich busnes: ein busnes

Mae gwneud busnes yn Wrecsam yn rhoigwefr go iawn i ni. Ac mae gennymddigonedd o fentrwyr sydd wedi tyfu syniad dawnus yn rhywbeth mawr.

Dyna Moneypenny i ti. Wedi ei enwi ar ôlhoff gynorthwyydd personol 007, maegan y cwmni Wobr Fenter ac Arloesedd yFrenhines, ac mae wedi llwyddo tairgwaith i fod ar restr ‘100 Lle Gorau i Weithio’ y Sunday Times.

Ddim yn rhy ddrwg i rywbeth gychwynnoddyn fusnes bach lleol ac a dyfodd i fod ynun o’r gwasanaethau ateb galwadauproffesiynol mwyaf blaenllaw yn y DU.

Ac os byddi di’n gofyn i’r cyd-sefydlyddRachel Clacher beth yw eu cyfrinach, ungair fydd ei hateb: pobl.

“Wnaethon ni sefydlu ein hunain ynWrecsam ac rydym yn dal i fod ag ymrwymiad i’r dref oherwydd bod adnoddardderchog o bobl glên a brwdfrydig sy’ngweithio’n galed yma ar stepen ein drws.

“Bob dydd maen nhw’n gwneud gwaithgwych yn cynrychioli ein busnes a’rmiloedd hefyd o fusnesau cleient rydyn ni’ngweithio efo nhw ym mhob rhan o’r DU.”

Ac nid oherwydd y bobl yn unig maeWrecsam yn lle gwych i gynnal busnes.Mae llawer o resymau eraill.

Nid y lleiaf o’r rhain yw tîm pwrpasol Cyngor Wrecsam o arbenigwyr busnes.Maen nhw’n cynnig pob math o gymorthcyngor a gwybodaeth, o gynllunio amarchnata busnes i godi arian a dod ohyd i’r adeilad neu safle iawn. Maen nhw’ngriw dawnus iawn.

“Mae adnodd ardderchog obobl glên a brwdfrydig sy’ngweithio’n galed yma ar stepen ein drws.”

Rachel ClacherCyd-sefydlydd Moneypenny

48

Page 49: helo byd - ffwrdd a ni

Felly, os wyt ti’n dechrau busnes o’r cychwyncyntaf neu’n ystyried symud i rywle arallac ehangu, ddylet ti roi galwad iddyn nhw.Mae siarad yn dda.

Fedri di hefyd lawrlwytho Micro-arweiniady Buddsoddwyr Busnes i Wrecsam neuwylio Ffilm Dau ar ein sianel YouTube.

Gwna fo rwan - i weld beth mae busnesaueraill yn ei ddweud.

Cymorth Busnes Cyngor Wrecsam 01978667000 www.wrecsam.gov.uk

Micro-arweiniad y Buddsoddwyr Busnes iWrecsam www.issuu.com/wxmsayshello

Ffilm Dau www.youtube.com/wxmsayshello

49

Yr Arglwydd Sugar nesaf?

Mae’n siwr dy fod yn gwybod ein bod braiddyn llawn o’r dyfodol yma yn Wrecsam. Dimsyndod felly bod gennym ddiddordeb yny genhedlaeth nesaf o sêr byd busnes, arglwyddi Sugar y dyfodol.

Mae pobl ifanc Wrecsam yn fwrlwm o egnimenter. Wyt ti’n un ohonyn nhw efallai?

Wyt ti? Wel, rydyn ni wedi sefydlu fforwmbusnes arbennig i dy helpu di ar dy ffordd.

Mae Lansio Wrecsam yn fodd i ti siaradefo mentrwyr ifainc eraill, rhannu syniadaua hyd yn oed gwneud cais am grantiau idanio dy uchelgeisiau busnes. Mi fyddi di’ngyrru’r Bentley ’na cyn i ti wybod.

www.launchwrexham.co.ukwww.twitter.com/LaunchWrexham

Page 50: helo byd - ffwrdd a ni

chwarae

50

www.wrexhamsayshello.co.uk

Page 51: helo byd - ffwrdd a ni

Maes chwarae yw’r byd.Gwna’n fawr ohono.

Dos allan drwy dy ddrwsffrynt a mwynha dy hun.

Byw dy fywyd. Teimla’nrhydd. Wrecsam

ydi’r fan yma.

51

Page 52: helo byd - ffwrdd a ni

chwaraeon

Ychydig iawn o bethau sy’n ennyn cymaint o angerdd a greddf y tylwyth âchwaraeon. Rhyfel yw chwaraeon … heb y canlyniadau.

Lle cystadleuol yw Wrecsam, nid caled acymwthgar, ond cystadleuaeth dawel. Dimsyndod bod chwaraeon yn beth mawryma, eu chwarae a’u gwylio.

pêl-droed a rygbi

Stadiwm Cae Ras Prifysgol Glyndwr. Obwys aruthrol i chwaraeon yn lleol, hwn

hefyd yw’r cae pêl-droed rhyngwladolhynaf yn y byd, sy’n dal i weithredu.

Hwn hefyd yw’r stadiwm fwyaf yng NgogleddCymru (oddeutu 10,000 o seddau) a’rpumed o ran ei faint yng Nghymru.

Mae’n lle sydd wedi profi gogoniantchwaraeon a lle a welodd dorri calonnauhefyd tros y blynyddoedd. Buddugoliaetha gorchfygiad. A dyna sy’n ei wneud ynrhan mor arbennig o Wrecsam.

Dyna i ti Glwb Pêl-droed Wrecsam er enghraifft. Mae’r ‘Dreigiau’ wedi chwarae eu stori ar laswellt y Cae Ras ers

52

Page 53: helo byd - ffwrdd a ni

blynyddoedd maith.

Rydyn ni’n dal i gofion fel ddoe yr adegauwnaethon ni ladd cewri fel Arsenal Middlesbrough, Tottenham, West Ham,FC Porto, dim ond rhai o’r dreigiau y gwnaethon ni eu trechu.

Wedyn y boen o gael ein darostwng yn yblynyddoedd a aeth heibio. Mae bod ynddilynwr pêl-droed yn golygu profiad o’reithafion.

Mae’r stadiwm yn gartref hefyd i fath arallo bêl-droed, un efo pêl o fath gwahanol.

Mae Rygbi’r Gynghrair wedi bod yn denu

mwy a mwy o ddilynwyr yn yr ardal yn yblynyddoedd diweddar, ac mae’r diolcham hynny’n bennaf i’r Crusaders.

Canolfan y Clwb ers 2011 yw’r Cae Ras acmae angerdd Wrecsam ynglyn â Rygbi’rGynghrair wedi bod yn tyfu ers hynny.

Paid â cholli dy gyfle.

Clwb Pêl-droed Wrecsam www.wrexhamafc.co.uk

North Wales Crusaders www.northwalescrusaders.co.uk

53

Page 54: helo byd - ffwrdd a ni

rasio ceffylau

Dechreuodd rasys ceffylau ym Mangor Is-coed mwy na 150 o flynyddoedd yn ôlpan garlamodd dau ddyn o blith yr helwyrlleol ar draws y dolydd am wobr o £50.

Hyd heddiw, dydyn nhw ddim wedi myndati i godi prif stand. Oherwydd bodgolygfeydd mor ysgubol oddi ar lethrauglaswelltog yr amffitheatr naturiol hon, gobrin fod angen hynny.

Hwn hefyd oedd hoff gae rasio’r awdurnofelau cyffro a chyn joci Dick Francis, erbod pethau wedi newid tipyn ers iddo farchogaeth ei enillydd cyntaf erioed ymayn ôl ym 1947.

“Yn yr 20 mlynedd a aeth heibio mae’rcae rasio wedi dod yn ei flaen o fod ynadeiladau pren i gyd i fod yn un efocyfleusterau gwych – nid yn unig ar gyferdyddiau rasio, ond hefyd ar gyfer partïonpreifat, priodasau a chynadleddau,” eglura’rrheolwr cyffredinol Jeannie Chantler.

Beth, felly, sy’n denu? Adloniant pur.

“Does dim byd cystal â’r holl sioe a lliw oweld y ceffylau a’r jocis o agos, y berw ogwmpas y cylch betio a rhuthr adrenalin yras ei hun,” dywed Jeannie.

www.bangorondeeraces.co.ukDos i www.twitter.com a dilyn @BangorOnDeeRace

54

Cae Rasio Bangor Is-coed

Page 55: helo byd - ffwrdd a ni

golff

Dywedodd yr awdur PG Wodehouse untro: "I weld gwir gymeriad dyn, dos ichwarae golff efo fo.”

Dan ni ddim yn gwybod am hynny, ondmae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsamgyfleusterau hyfryd ar gyfer pobl sy’nchwarae’r gêm fawr.

Mae maes pencampwriaeth 18 o dyllauyng Nghlwb Golff Wrecsam, a meysydd 9twll hardd yn Narland, Dyfroedd Alun, Dyffryn Moss a’r Plasau.

Ac os nad wyt ti’n ei tharo hi’n hollol syth,efallai y bydd teclyn bach dechau yng Nghanolfan Golff Clays yn Wrecsam yn

gymorth i ti. Mae’r chwaraewyr proffesiynolyng Nghanolfan Ffitio GenedlaetholMizuno yno yn defnyddio system radargwerth £20,000 i ddadansoddi dyswingiad di. Maen nhw hyd yn oed yngallu gweithio allan dy ‘ffactor taro’ di.

Canolfan Golff Dyfroedd Alun(naw twll) 01978 855131Clwb Golff Clays(18 twll) 01978 661406Canolfan Golff Darland (naw twll) 01244 579282Clwb Golff Dyffryn Moss (naw twll) 01978 720518Canolfan Golff y Plasau(naw twll) 01978 780020Clwb Golff Wrecsam(18 twll) 01978 351476

55

Page 56: helo byd - ffwrdd a ni

beicio mynydd

Rwyt ti’n gorfod gweithio go iawn am dyfrecwast yng Nghoed Llandegla yn SirDdinbych gyfagos.

Mae eu llwybrau beic mynydd efo’ucodau lliw mewn 650 o aceri o goetir sy’ncael ei reoli’n gynaliadwy.

Mae’r llwybr gwyrdd yn wych ar gyfer teuluoedd a’r llwybr glas yn berffaith argyfer dechreuwyr - ac mae beiciau yno i’wllogi os nad oes gennyt ti un dy hun.

Ond mae Llandegla yn denu’r selogionhefyd. Mae’r llwybr coch 11 o filltiroeddyn cynnwys llwybr sengl heb wyneb arno,ffigyrau wyth ysgafellog a chroesfannaudwr. Ond beth am y llwybr du? Digon ywdweud y bydd arnat ti angen coesaucadarn a nerfau dur.

01978 751656 www.oneplanetadventure.com

antur awyr agored

Mi fyddai’n hen dro gwastraffu’r holl awyriach hwnnw. Mae Wrecsam yn cynnig amrywiaeth fawr o weithgareddau llawncyffro i droi ein mannau agored yn unmaes chwarae antur anferthol.

Mae Motor Safari yn cynnig popeth amwy, rali-sgrialu, oddi ar y lôn, cychodpwer, heboga, rafftio dwr gwyn – ac maewedi bod ar raglenni teledu fel Top Gear,Blue Peter a’r Holiday Programme.

Dylai’r wal ddringo hefyd ym Mhlas PowerAdventure bwmpio tipyn o adrenalin imewn i ti. Mae’n fawr - mwy na 6,000 odroedfeddi sgwâr.

Ac mae’n boblogaidd iawn gan y plantos,sydd yn aml yn curo eu rhieni’n racs, ymaac ar y cyrsiau rhaffau – lle mae gwifrensipio 100 troedfedd, llwyfan abseilio arhywbeth efo’r enw pryderus ‘naid ffydd’.

01978 754533 www.motor-safari.co.uk01978 754747 www.plaspoweradventure.com

56

Page 57: helo byd - ffwrdd a ni

57

Canolfan Tennis Wrecsam

Byd Dwr

tennis

Rydyn ni’n hoff iawn o’n tennis, ac nid ynystod pythefnos Wimbledon yn unig.Mae’r chwe chwrt dan do a’r 10 o gyrtiauawyr agored yng Nghanolfan TennisWrecsam yn rhai o safon ryngwladol.

Bydd ein hyfforddwyr yn dy helpu di i fodyn ddigon da iddyn nhw. Ac unrhywamser y bydd arnat ti awydd taro’r bêl ogwmpas tipyn, mi fedri di chwarae yn ycyrtiau ym Mharc Actyn a Pharc Bellevueyn Wrecsam neu Barc y Ponciau yn y Rhos– a hynny’n rhad ac am ddim.

Canolfan Tennis Wrecsam 01978 265260www.wrexhamtenniscentre.co.uk.co.uk

athletau

Mae prif athletwyr yn dod i Stadiwm Heoly Frenhines, yn cynnwys sêr Olympaidd felColin Jackson, Jamie Baulch, Iwan Thomasa Christian Malcolm.

Ond mae hefyd yn cynnal dyddiau mabolgampau ysgolion a rasys hwyl lleol.Mae’n gartref hefyd i Glwb AthletauWrecsam, sy’n helpu sêr y dyfodol o wythoed ymlaen i gael trefn ar bethau.

01978 355826

canolfannau hamdden

Eisiau cadw popeth yn dwt – yn cynnwysdy gyfrif banc? Does dim ond rhaid i tichwipio dy gerdyn Pur allan yn un o’ncanolfannau hamdden cyhoeddus.

Bydd yn arbed arian i ti ar y rhan fwyaf o’rgweithgareddau yn cynnwys nofio, sesiynau yn y gampfa a’r dosbarthiadauffitrwydd.

Mae’r Byd Dwr yn ganolfan ddwr (mae’renw yn dy helpu di i ddeall), efo pwll nofiocystadleuaeth 25 metr o hyd, cafn 65metr o hyd a reid afon wyllt.

Yn y Morlyn Trofannol ym Mhlas Madoc,mi fedri di gerdded yr ewyn, mynd ar gefny crocodeil, sglefrio i lawr y neidr achwarae yn y tonnau. Ac mi fedri di adaeli’r plant roi cynnig arni hefyd, os oes rhaidi ti.

Mae gan y Waun bwll hefyd. Y lle perffaithi oeri tipyn wedi bod yn y sawna neu’rystafell stêm, gêm o sboncen, neu dipyn oTai Kwon Do.

www.wrecsam.gov.ukByd Dwr 01978 297300Canolfan Hamdden a GweithgareddauPlas Madoc 01978 821600Canolfan Hamdden a Gweithgareddau’rWaun 01691 778666

Page 58: helo byd - ffwrdd a ni

cerdded

Paid â gadael i’r cwbl wibio heibio i’r car felniwl gwyrdd. Pa un a wyt ti’n byw yn yfwrdeistref sirol neu ddim ond yn ymweld,mae dull gwell o lawer o glosio mewnmodd mwy personol efo cefn gwladWrecsam.

Cerdded.

Mae milltiroedd lawer o lwybrau cerddedym mhob twll a chornel o Wrecsam, ym mhobmath o dirwedd y gallet ti ei ddychmygu o goetir a dyffryn afon i weunydd yn ygwynt a mynyddoedd grugog.

Dos allan i archwilio.

arweinwyr cylchdeithiau

Awydd tipyn bach o gwmni wrth gerddedo gwmpas Wrecsam? Mae gennymddigonedd o arweinwyr cylchdeithiaucymwysedig sy’n adnabod pob twll a chornel o’r fwrdeistref sirol.

01286 677059 www.northwalestouristguides.com

y dyffryn dirgel

Mae’r B4500 yn ffordd arbennig iawn, erna fyddai neb yn meddwl hynny o edrychar y map. Mae’n dechrau oddi ar yr A5 ynnhref y Waun ac mae’n diflannu dim ondtua 18 milltir ymlaen mewn rhwydwaith olonydd bach gwledig.

Mae hi’n arbennig oherwydd ei bod ynmynd ar hyd Dyffryn Ceiriog i gyd, trwyamrywiaeth nodedig o dirweddau – tirpori tawel, coetir, clogwyni serth ac ambell i gipolwg ar gefnen o fynydd uchela gweunydd breuddwydiol.

Mor odidog yw’r dyffryn, yn wir, bodLloyd George wedi ei alw’n “ddarn bacho’r nefoedd ar y ddaear”. Ac mae morwyrthiol o ddigyffwrdd bod naws taith i’rgorffennol pell wrth ddod ar hyd y B4500gyda glannau Afon Ceiriog a’i brithyllodtoreithiog .

Dyna’r effaith oedd ei heisiau, ac yn wir yreffaith a gafwyd ar Patricia Somerset, aymwelodd o Dde Llundain am ychydig oddyddiau. Bu ychydig o gerdded, marchogaetha gweld golygfeydd ein treftadaeth yn foddi sicrhau egwyl fach o hamdden ac ymlacio.

“Mae fy ngwaith yn llawn o straen a dwi’ngweithio llawer o oriau, felly roedd ygwyliau yma yn berffaith,” dywed Patricia.

“Y penderfyniad mwyaf yr oedd rhaid i miei wneud oedd pa le hardd yr oedd arna’ ieisiau ei weld y diwrnod hwnnw. Roeddharddwch y lle yn syndod i mi – doeddwni ddim yn gallu meddwl sut y gwnes ifethu’r dyffryn o’r blaen. Mae wedi bod ynddarganfyddiad go iawn.”

www.chirkandtheceiriogvalley.co.uk

y teithiau cerdded gorau

taith gerdded dyffryn ceiriog

Taith gerdded hyfryd dros ben sy’ndechrau yng ngorsaf reilffordd y Waun acyn gorffen wrth odre mynyddoedd yBerwyn ym mhentref Llanarmon DyffrynCeiriog.

58

Dyffryn Ceiriog

Page 59: helo byd - ffwrdd a ni

Traphont Ddwr Pontcysyllte

llwybr maelor

24 o filltiroedd o daith gerdded trwy neuger pentrefi fel Bronington, Hanmer, Llannerch Banna ac Owrtyn – sy’n gallubod yn lle da i orffwys am dipyn, heb sônam beint bach.

llwybr clawdd offa

Llwybr Cenedlaethol wedi ei enwi ar ôlclawdd syfrdanol Offa Brenin Mersia agodwyd yn yr wythfed ganrif. Mae’r darn

sy’n mynd drwy Wrecsam yn cynnwysTraphont Ddwr anferthol Pontcysyllte.

www.nationaltrail.co.uk/offasdyke

llwybr clawdd wat

Yn fyrrach a llai enwog na Chlawdd Offa,mae’r llwybr 61 o filltiroedd hwn yn dod imewn i Wrecsam yn Owrtyn ac yn dodallan ym Mharc Gwledig Dyfroedd Aluncyn mynd i Sir Y Fflint.

www.watsdykeway.org

59

Page 60: helo byd - ffwrdd a ni

bywyd y parc

Mae digonedd o fannau agored yn Wrecsam.Yn wir, mae 90% o’r sir yn wledig. Ond nidyw hynny wedi ein rhwystro rhag creu dewismawr o barciau i bobl eu mwynhau trwygydol y flwyddyn.

Mae gan rai amgueddfeydd tymhorol,canolfannau ymwelwyr a chaffis. Mae rhaiyn dangos Gwobr y Faner Werdd am ragoriaeth mewn mannau agored cyhoeddus.Ac mae rhai wedi codi o weddillion eintreftadaeth ddiwydiannol.

Mae pob un yn unigryw, efo’i raglen iehun o ddigwyddiadau i’r teulu i gyd, yncynnwys gwneud barcut, trochi yn y pwll afforio am ffwng (neu hel madarch i ti a fi).

Mae arweiniad i’w lawrlwytho oddi arwww.wrecsam.gov.uk/countryside

dyfroedd alun, gwersyllt

Teimla’r llosgiad ym mharc gwledig mwyafWrecsam, efo chwech o deithiau cerddedefo’r calorïau wedi eu cyfrif, pob un ynwahanol o ran dringo a phellter. Neu mifyddet ti’n gallu gwneud dim mwy nagedrych ar y cerfluniau.

01978 763140

pyllau plwm y mwynglawdd

Ym mhen uchaf Dyffryn Clywedog, dyma’rlle perffaith i ddechrau archwilio un oafonydd prysuraf y Chwyldro Diwydiannol.Mae olion yr hen byllau plwm yn dal ynoi’w gweld – ty ’r injan drawst wedi ei adnewyddu, yr injan weindio a’r tai bwyler.

01978 763140

60

Ty Mawr

Page 61: helo byd - ffwrdd a ni

dyffryn moss

Arferai glowyr ddefnyddio’r rheilffyrdd a’rtramleiniau sy’n croesi’n ôl a blaen yn ydyffryn ffurf ‘v’ hwn. Heddiw, wrth gerddedyn hamddenol gyda glannau’r llynnoeddneu drwy goetir derw a ffawydd, byddi’ngweld beicwyr, pysgotwyr gwialen a gwylwyr adar.

01978 763140

melin y nant, coedpoeth

Trafferth efo’r hen dwrch daear yn codipridd ar dy lawnt odidog? Efallai y byddidi’n deall yn well wedi i ti fod i Felin y Nant.Mae’r twnnel twrch daear anferth syddyno yn fodd i ti weld pethau o’u safbwyntnhw. Gelli wylio mwy o fywyd gwyllt o’rguddfan adar, a hyd yn oed hurio hwyaid -rhai rwber - ar gyfer ras hwyaid.

01978 752772

ty mawr, cefn mawr

Defaid, asynnod, moch, cwningod, ieir allawer o anifeiliaid eraill i’w gweld sy’n bywyno. Hefyd, mae taith gerdded hyfrydgyda glan Afon Dyfrdwy efo golygfeyddysgubol o draphont Cefn.

01978 822780

bellevue, wrecsam

Parc Edwardaidd wedi ei adfer, efo rhodfeydd o bisgwydd yn ymestyn allan olwyfan y band. Gyda’r hwyr mae lampauo’r cyfnod yn goleuo’r llwybrau. Dymawerddon gain dim ond chwarter milltir oganol y dref.

01978 264150

61

Dyfroedd Alyn

Llwybr Clywedog

Llwyn Isaf

Pyllau Plwm y Mwynglawdd

Page 62: helo byd - ffwrdd a ni

62

gwarchodfa natur

Mae Gwarchodfa Natur GenedlaetholMawnogydd Fenn’s, Whixall a Llys Bedyddyn rhan o’r drydedd gyforgors ym Mhrydaino ran ei maint. Mae hi mor fawr yn wir,bod modd ei gweld o’r gofod.

Efallai na fydd y syniad o gors anferthol ynapelio llawer ar yr olwg gyntaf. Dyna pam,efallai, bod cyn lleied o bobl y cychod sy’ndod heibio ar Gamlas Llangollen yn aros igerdded llwybrau’r Fawnog.

Eu colled nhw yw hynny. Ers achub yfawnog rhag difrod y gwaith torri mawn,mae wedi dod yn enwog am ei nadroedd,madfallod a madfallod dwr, heb sôn amweision y neidr, llygod y dwr, y gylfinir a’rehedydd. Ac os wyt ti’n medru gweld ynglir iawn, efallai y gweli di gopyn dwr hydyn oed.

www.ccgc.gov.ukwww.naturalengland.org.uk

Page 63: helo byd - ffwrdd a ni

63

digwyddiadau

Mae rhywbeth yn digwydd o hyd ymMwrdeistref Sirol Wrecsam. O ddigwyddiadaumawr blynyddol i adloniant a gweithgareddaullai mawreddog (ond yr un mor ddifyr).

Rhai o’r uchafbwyntiau? Mae Gwyl AfalauErddig Apple yn denu miloedd bob blwyddynac mae’n andros o barti mawr i anrhydeddu’rafal cyffredin.

Mae Ffocws Cymru yn troi canol trefWrecsam yn nefoedd i bobl sy’n carucerddoriaeth fyw am dri diwrnod ym misEbrill. Ac mae ein Marchnad Nadolig OesFictoria yn denu pobl o bell ac agos, hebor-ddweud o gwbl.

Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015Fedri di lawrlwytho’r app wrexham sayshello oddi ar iTunes neu Google Playwww.wrecsam.gov.ukwww.eventsnorthwales.co.uk

pontfest 2014

Mae Traphont Ddwr Pontcysyllte yn fwyna dim ond rhyfeddod Treftadaeth Byd.

Mae erbyn hyn yn lleoliad hefyd i un o’rdigwyddiadau cerddoriaeth fyw awyragored gorau yng Ngogledd Cymru.

Maen nhw’n gweddnewid y cae o dan ydraphont yn faes gig ar gyfer un nosonpob mis Gorffennaf, gyda phrif fandiaulleol yn mynd i fyny ar y llwyfan i daro’rtonau allan i’r gynulleidfa hafaidd braf.

Ac wrth i’r haul fachlud, mae colofnau anferthol y draphont yn goleuo yn erbynyr awyr sy’n tywyllu. Dyna i ti olygfa fendigedig.

Felly bydd yno.

Ffilm o BontFest 2013www.youtube.com/wxmsayshello

Gwybodaeth am BontFest 2014 – ffoniaGanolfan Groeso Wrecsam ar 01978 292015

Page 64: helo byd - ffwrdd a ni

apps

Chwilia am yr app ‘wrexham says hello’ ariTunes neu Google Play. Mae’n rhad ac amddim ac yn llawn o wybodaeth am ganoltref Wrecsam.

www.apple.com

cyfryngau cymdeithasol

Fedri di’n dilyn ni ar Trydar, Gweplyfr neuInstagram. Beth am ein twitio ni neubostio ar ein tudalen?

www.facebook.com/wxmsayshellowww.twitter.co.uk/wxmsayshellowww.instagram.com/wxmsayshello

gwefan

Neu edrych o gwmpas ein gwefan ni.Mae’n go dda.

www.wrexhamsayshello.co.uk

canolfan croeso wrecsam, stryt y lampint

Er bod y gair ‘tourist’ ar yr arwydd uwchbeny drws, yn Saesneg, fel mae’r arwyddCymraeg yn ei awgrymu, mae croeso ymai bawb. Yn wir, mae hanner cwsmeriaid CG Wrecsam yn bobl sy’n byw yn yfwrdeistref sirol.

Mae ein pedwar cynorthwyydd yn yGanolfan Croeso mor llawn cymorth,fuaset ti ddim yn coelio, ac mae ganddynnhw gyfanswm o 70 o flynyddoedd obrofiad. Os oes rhywbeth nad ydyn nhw’nei wybod am Wrecsam, go brin ei fod ynwerth ei wybod.

Coda’r ffôn neu dos yno am syniadaudefnyddiol a gwybodaeth am bethau i’w gwelda’u gwneud. Popeth o ddosbarthiadau celfyddyda sioeau theatr i wyliau a chyngherddau. Oamgueddfeydd a safleoedd treftadaeth idai bwyta a thafarnau gwledig.

64

hwyl fawrHed amser. Diolch yn fawr

am ddarllen y daflenhon. Ond cofia di, dimond y dechrau yw hyn.

Mae gan Wrecsam lawermwy i’w ddweud. Mae

gennyt ti hefyd, fellyymlaen â’r sgwrs.

Page 65: helo byd - ffwrdd a ni

65

Ac os wyt ti’n ymweld ac eisiau gwely amy noson, maen nhw hyd yn oed yn galludy helpu di i ddod o hyd i le i aros.

01978 292015 [email protected]/wrexhamticwww.twitter.com/wrexhamtic

mewn lle da

Yn olaf, os nad wyt ti’n byw ymMwrdeistref Sirol Wrecsam a heb fod ynhollol siwr lle mae - neu sut i fynd yno -dyma gyngor defnyddiol i ti.

Rydym ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.Mae gennym Sir Gaer a Sir Amwythig unochr ac Eryri ac arfordir Gogledd Cymru’rochr arall.

Rydym 45 o funudau o waith gyrru o briffeysydd awyr ym Manceinion a Lerpwl a90 o funudau o Birmingham. Yn wir, dydyn ni ddim yn bell o gwbl o’r rhanfwyaf o’r DU – wedi ein cysylltu gan ffyrdda rheilffyrdd da, yn cynnwys gwasanaethautrên yn syth i Lundain ac yn ôl.

awyren…

Maes Awyr Manceinion www.manchesterairport.co.ukMaes Awyr John Lennon Lerpwl www.liverpoolairport.com

trên…

Trenau Arriva Cymru (Caer – Wrecsam –Amwythig) 08456 061660 www.arrivatrainswales.co.ukLein y Gororau (Borderlands) (Wrecsam –Bidston) www.borderlandsline.comVirgin Trains (Wrecsam – Llundain Euston)www.virgintrains.co.uk

bws…

Traveline Cymru 0871 200 2233www.traveline-cymru.org.ukLlinell Bysiau Wrecsam 01978 266166www.wrecsam.gov.ukBysiau Arriva www.arriva.co.uk

Page 66: helo byd - ffwrdd a ni

helobyd

66

Page 67: helo byd - ffwrdd a ni

trowch y

i deimlo’r wefr

dudalen

einbusnes ni yw

creu

helloworld

helobyd

wrecsam

ffwrddâ ni

Page 68: helo byd - ffwrdd a ni

Sut ma’i? Mae’n dda dy gyfarfod di.

Achos bod hyn yn ddechrau sgwrs arbennig rhyngot ti a Wrecsam.

Efallai dy fod yn dysgu am y fwrdeistref sirol am y tro cyntaf, yn meddwl am ymweld neu astudio yma, neu sefydlu busnes.

Efallai dy fod yn byw yma ers blynyddoedd ac yn adnabod Wrecsam yn dda, neu efallai bod arnat ti angen dy atgoffa tipynbach.

Dim ots am hynny. Mae’r neges yn syml. Mae Wrecsam yn llegwych i fod. Mae’n lle y gelli di (a’r bobl rwyt yn eu caru) fyw,gweithio a chwarae ynddo.

Yma rwyt ti’n gallu breuddwydio, bod yn greadigol, gwneud fel y mynni di.

Felly, tro’r dudalen a dysga am y pethau sy’n gwneud bywyd yn dda.

Mae Wrecsam yn dweud ‘sut ma’i’.

www.wrexhamsayshello.co.uk

2 68

15

I’R HELEDD WEN

I'R EGLWYS WEN

GWESTY RAMADA PLAZA

canol tref wrecsam

67

ToiledauParcio

Gorsafoedd TrênGorsaf Gyffredinol WrecsamGorsaf Wrecsam Ganalog

AtyniadauLlyfrgell/OrielByd Dwr Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Eglwys Gadeiriol y Santes FairEglwys San SilynTheatr Parc y LlwyniMecca BingoParc Bellevue

Marchnadoedd Dan Do/ArcêdauMarchnad y BoblArcêd CanologMarchnad y CigyddionArcêd OwrtynMarchnad Gyffredinol

ShopmobilityShopmobility (Gorsaf Fysiau)

ArallGalw WrecsamNeuadd y DrefAdeiladau’r GoronSwyddfeydd y Cyngor, Stryt y LampintGorsaf HeddluLlysoedd BarnSwyddfa GofrestruCanolfan CroesoSqwâr y FrenhinesColeg IâlGorsaf Fysiau

Allwedd

★12345678

★1516171819202122232425

★9

10111213

★14

12

Page 69: helo byd - ffwrdd a ni

Sut ma’i? Mae’n dda dy gyfarfod di.

Achos bod hyn yn ddechrau sgwrs arbennig rhyngot ti a Wrecsam.

Efallai dy fod yn dysgu am y fwrdeistref sirol am y tro cyntaf, yn meddwl am ymweld neu astudio yma, neu sefydlu busnes.

Efallai dy fod yn byw yma ers blynyddoedd ac yn adnabod Wrecsam yn dda, neu efallai bod arnat ti angen dy atgoffa tipynbach.

Dim ots am hynny. Mae’r neges yn syml. Mae Wrecsam yn llegwych i fod. Mae’n lle y gelli di (a’r bobl rwyt yn eu caru) fyw,gweithio a chwarae ynddo.

Yma rwyt ti’n gallu breuddwydio, bod yn greadigol, gwneud fel y mynni di.

Felly, tro’r dudalen a dysga am y pethau sy’n gwneud bywyd yn dda.

Mae Wrecsam yn dweud ‘sut ma’i’.

www.wrexhamsayshello.co.uk

2 68

15

I’R HELEDD WEN

I'R EGLWYS WEN

GWESTY RAMADA PLAZA

canol tref wrecsam

67

ToiledauParcio

Gorsafoedd TrênGorsaf Gyffredinol WrecsamGorsaf Wrecsam Ganalog

AtyniadauLlyfrgell/OrielByd Dwr Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Eglwys Gadeiriol y Santes FairEglwys San SilynTheatr Parc y LlwyniMecca BingoParc Bellevue

Marchnadoedd Dan Do/ArcêdauMarchnad y BoblArcêd CanologMarchnad y CigyddionArcêd OwrtynMarchnad Gyffredinol

ShopmobilityShopmobility (Gorsaf Fysiau)

ArallGalw WrecsamNeuadd y DrefAdeiladau’r GoronSwyddfeydd y Cyngor, Stryt y LampintGorsaf HeddluLlysoedd BarnSwyddfa GofrestruCanolfan CroesoSqwâr y FrenhinesColeg IâlGorsaf Fysiau

Allwedd

★12345678

★1516171819202122232425

★9

10111213

★14

12

Page 70: helo byd - ffwrdd a ni

trowch y

i deimlo’r wefr

dudalen

einbusnes ni yw

creu

helloworld

helobyd

wrecsam

ffwrddâ ni