gweithgaredd 15 llwybr llythrennedd - welsh...
TRANSCRIPT
NodMaes Dysgu – Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
Fframwaith Llythrennedd a RhifeddLlinyn – YsgrifennuElfen – Trefnu syniadau a gwybodaethAgwedd – Strwythur a threfn
Tasg Ffocws‘Dewch, mae’n amser ysgrifennu dyddiadur’: Yn dilyn diwrnod y parti ar y traeth, penderfynodd Owen ac Olwen
ysgrifennu am yr holl ddigwyddiadau cyffrous mewn dyddiadur.• defnyddio taflenni arweiniad Dyddiadur Owen a Dyddiadur Olwen i
ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion o ysgrifennu a chadw dyddiadur
• atgoffa’r disgyblion i ysgrifennu’r dyddiad ar frig y dudalen, sôn am ddigwyddiadau a phrofiadau’r cymeriadau, defnyddio amser gorffennol y ferf yn y person cyntaf a chadw brawddegau’n gryno
• ysgrifennu dyddiadur o safbwynt Owen neu Olwen wrth bortreadu digwyddiadau diwrnod argyfwng Aberawen
• gosod digwyddiadau’r dydd mewn trefn• annog y defnydd o gysyllteiriau, ansoddeiriau,
teimladau a barn y cymeriadau• tynnu sylw’r disgyblion at dreigliadau
Adnoddau Posib• model o ddyddiadur gan Owen ac Olwen• templedi ysgrifennu ar gyfer galluoedd gwahanol
Colofn IaithBeth yw dyddiadur?Llyfr â lle i ysgrifennu digwyddiadau pob dydd ynddo yw dyddiadur.Ydych chi’n cadw dyddiadur?Pa fath o bethau ydych chi’n ysgrifennu yn eich dyddiadur chi?Mae dyddiad ar bob tudalen mewn dyddiadur.Beth yw’r dyddiad heddiw?Ysgrifennwch y dyddiad ar frig y dudalen.Defnyddiwch iaith bob dydd wrth ysgrifennu digwyddiadau’r dydd yn y drefn gywir.
Ydych chi’n gwybod beth yw berf?Mae berf yn dangos rhywun yn gwneud rhywbeth.
Ydych chi’n gwybod beth yw ansoddair?Gair sy’n disgrifio yw ansoddair.Ansoddeiriau yw’r enw ar fwy nac un ansoddair.
Beth yw cymhariaeth?Cymharu rhywbeth gyda rhywbeth arall yw cymhariaeth e.e. roedd y cregyn yn ddu fel y frân.Ydych chi’n gallu meddwl am gymhariaeth?Cofiwch ddefnyddio geiriau a dywediadau tebyg.
Gweithgaredd 15
Llwybr LlythrenneddDigwyddiadur Owen neu Olwen
Byddai creu clawr cain
ar gyfer y dyddiadur a’i
addurno â thrysorau o’r bin
ailgylchu yn y dosbarth neu
rai a gasglwyd ar y traeth
yn syniad penigamp!
Nodyn GwyrddMam-gu Iet-wen Gellwch greu sgwariau o dywod fel tudalennau dyddiadur ar iard yr ysgol. Gall y plant gofnodi’r digwyddiadau gan ddefnyddio brigyn fel broc môr.
Antur NaturMam-gu Iet-wen
Berfau Aethon ni ...Roedd ...Daeth ...
Gwelon ni ...Clywon ni ...
Geirfa trefnuYn gyntaf ...Wedyn ...Yna ...Ar ôl ...
Cyn hir ...Yn fuan ...Wedi hynny ...Yn olaf ...
Ansoddeiriaubrafbrwntdrewllyddu
gludiogminiogperyglussmotiog
Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen
Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen
Dyddiadur Owen
Taflen arweiniad i athrawon (Haen uwch)
Dydd
Sul
Dydd
Llun
Dydd
Maw
rth
Dydd
Mer
cher
Dydd
Iau
Dydd
Gwen
erDy
ddSad
wrn
Daeth neges mewn potel heddiw. Gwahoddiad oedd
yn y botel – gwahoddiad i barti gwisg ffansi ar draeth
Aberawen. Roedd pawb yn hapus. Gwisgon ni fel môr-
ladron. Roedd Ceinwen mor lliwgar â’r enfys. Cerddon ni
am y traeth a gweld Bwgi-bo ar ben y graig yn chwifio
ei ddwylo. Roedd e’n edrych fel môr-leidr â barf hir ddu.
Rhedodd Olwen a fi ar hyd y traeth brwnt. Gwelon ni
greaduriaid bach yn ceisio dianc o’r hylif oedd yn y
pyllau dŵr. Roedd Bwgi-bo a Branwen yn olew i gyd.
Suddodd calon Mam-gu Iet-wen wrth weld plu Branwen
yn ddu fel y glo. Dywedodd Ceinwen bod yr olew wedi
dod o long fawr allan ar y môr. Aethon ni adref ar
unwaith. Defnyddiodd Mam-gu Iet-wen sebon arbennig a
dŵr o’r ffynnon i olchi plu Branwen. Gwnaethon ni gyd
fwynhau’r te parti hyfryd yng ngardd Iet-wen.
Gorffennaf 25
Dyddiadur Owen
Gorffennaf 25Es i i lan y môr heddiw gyda Olwen a
Mam-gu Iet-wen. Roedd Bwgi-bo wedi
trefnu parti gwisg ffansi. Roeddwn yn
siomedig i weld y traeth yn rhy frwnt i
gael parti. Aeth olew dros gorff
Bwgi-bo i gyd. Es i adref o’r traeth.
Roeddwn i’n drist iawn.
Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen
Taflen arweiniad i athrawon (Haen is)
Dydd
Sul
Dydd
Llun
Dydd
Maw
rth
Dydd
Mer
cher
Dydd
Iau
Dydd
Gwen
erDy
ddSad
wrn
Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen
Dydd
Sul
Dydd
Llun
Dydd
Maw
rth
Dydd
Mer
cher
Dydd
Iau
Dydd
Gwen
erDy
ddSad
wrn
Dyddiad
Dyddiad
Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen
Dydd
Sul
Dydd
Llun
Dydd
Maw
rth
Dydd
Mer
cher
Dydd
Iau
Dydd
Gwen
erDy
ddSad
wrn
Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen
Taflen arweiniad i athrawon (Haen uwch)
Dyddiadur Olwen
Dydd
Sul
Dydd
Llun
Dydd
Maw
rth
Dydd
Mer
cher
Dydd
Iau
Dydd
Gwen
erDy
ddSad
wrn
Roedd hi’n ddiwrnod gwyntog heddiw. Gwelodd
Mam-gu Iet-wen aderyn yn hedfan yn yr awyr
uwchben Iet-wen. Daeth yr aderyn â neges mewn potel.
Gwahoddiad oedd yn y botel – gwahoddiad i barti
gwisg ffansi ar draeth Aberawen. Roedd Mam-gu Iet-wen
a ninnau’n hapus dros ben. Gwisgon ni fel môr-ladron.
Roedden ni’n lliwgar iawn. Cerddon ni am y traeth a
gweld aderyn du a gwyn yn hedfan uwchben. Roedd
Bwgi-bo a Branwen wedi cyrraedd y traeth. Adeiladodd
Bwgi-bo long o’r broc môr. Gwelodd Bwgi-bo hylif
drewllyd, du yn y pyllau dŵr. Roedd creaduriaid bach yn
ceisio dianc o’r hylif. Gwelodd Bwgi-bo wymon gwyrdd
oedd yn ddu fel y frân. Roedd argyfwng ar draeth
Aberawen. Roedd hyd yn oed Bwgi-bo a Branwen yn
ddu fel y glo. Roeddwn yn poeni am yr olew ac yn falch i
glywed y gwynt ac i weld y tonnau yn golchi’r olew allan
i’r môr. Cawsom de parti hyfryd yng ngardd Iet-wen wedi
cyrraedd adref.
Gorffennaf 25
Dyddiadur Olwen
Roeddwn i wedi mynd i lan y môr
heddiw. Roedd y tywod a’r cregyn
yn ddu. Aeth olew dros Bwgi-bo
a Branwen. Es i adref i olchi plu
Branwen. Roeddwn i’n drist pan
welais yr hylif du ar y traeth.
Gorffennaf 25
Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen
Taflen arweiniad i athrawon (Haen is)
Dydd
Sul
Dydd
Llun
Dydd
Maw
rth
Dydd
Mer
cher
Dydd
Iau
Dydd
Gwen
erDy
ddSad
wrn
Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen
Dydd
Sul
Dydd
Llun
Dydd
Maw
rth
Dydd
Mer
cher
Dydd
Iau
Dydd
Gwen
erDy
ddSad
wrn
Dyddiad
Dyddiad
Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen
Dydd
Sul
Dydd
Llun
Dydd
Maw
rth
Dydd
Mer
cher
Dydd
Iau
Dydd
Gwen
erDy
ddSad
wrn