gweithdy dyn bach sinsir anrheg nadolig€¦ · iawn fyddan ni’n llwytho’r sled efo teganau i...
TRANSCRIPT
-
Annwyl
Dw i’n gobeithio bod y llythyr hwn wedi dy gyrraedd yn saff. Mae’r corachod wedi
bod yn brysur yn fy helpu i baratoi ar gyfer cyfnod prysura’r flwyddyn i ni, a buan
iawn fyddan ni’n llwytho’r sled efo teganau i ddod i rywle arbennig iawn y ‘Dolig yma.
Mi fyddan ni’n hedfan i Gelli Gyffwrdd i fynd â phlant arbennig iawn ar daith trwy’r
Goedwig Hudolus i ddod i fy ngweld i yn fy nghaban pren clyd. Mae ‘deryn bach wedi
dweud wrtha’ i dy fod ti wedi bod yn arbennig o dda eleni, a dwi’n falch iawn o
gael dweud dy fod ti’n cael dod hefo ni ar ein hantur Nadolig hudolus.
Mi fydd dy daith yn dechrau pan gei di dy Basbort Hudolus â thocynnau ac yna
ymlaen i’r Gweithdy dyn bach sinsir. Yna, bydd fy nghorrach mwyaf dibynadwy yn dy
arwain i’r cam nesaf, y Goedwig Hudolus.
Wrth i ti deithio trwy’r Goedwig, cei fwynhau siocled poeth blasus a rhyfeddu ar yr
amgylchedd llawen yng nghanol yr holl oleuadau a chaneuon. Yna bydd hi’n amser
i ti ddod i fy ngweld i, cael tynnu dy lun a chasglu dy docyn aur. Cadwa hwn yn ddiogel
tra’n gwneud dy ffordd i’r siop i ddewis dy anrheg Nadolig.
Wel, mae’n rhaid i mi fynd yn ôl i weithio rŵan, mae yna lot fawr i’w wneud! Mi fydd
y corachod yn gweithio trwy’r dydd a thrwy’r nos i wneud yn siŵr ein bod yn
barod i ymweld â Gelli Gyffwrdd!
Rŵan, cofia fyhafio a thrio dy ora’!
Ta-ta tan toc,