Transcript

Menywoda chlefyd y galonLleihau’r risg i chi?

Hina Shah,Wedi dod drwyddi

MENYWOD GO IAWN, STORÏAU GO IAWNP’un bynnag a ydych wedi byw gydag afiechyd y galon erioed, newydd gael diagnosis neu ddim ond wedi penderfynu rhoi mwy o sylw i iechyd y galon, gall fod yn daith anodd ac unig.

Yn ein hadran newydd, Ystafell y Menywod, cewch sgwrsio a rhannu profiadau gyda phobl debyg i chi. Yma, fe welwch yr atebion i gwestiynau anodd a phroblemau sy’n codi o ddydd i ddydd.

Ewch i bhf.org.uk/women

Beth os oes clefyd y galon arna i? Meddyginiaethau 54Triniaethau 55Adsefydlu cardiaidd 56Mynd yn ôl i fyw bywyd bob-dydd 59

Beth arall ddylwn i ei wybod? Y bilsen atal cenhedlu 65Y menopos ac HRT 66Gair i gloi 68

Mudiadau defnyddiol 72Adnoddau gan y British Heart Foundation 74

Rhagair 02 Beth yw clefyd cardiofasgwlaidd?Clefyd coronaidd y galon 06Angina 08Trawiad ar y galon 10Methiant y galon 15Strôc 16

Sut alla i leihau fy risg? Ffactorau risg 20Archwiliadau iechyd 24Smygu 26Pwysedd gwaed 29Colesterol 30Diabetes 32Pwysau a siâp y corff 34Gweithgarwch corfforol 36Hanes teuluol 40Oedran 40Ethnigrwydd 42Deiet iachus 45Alcohol 46Straen 48

CYNNWYS

Mae’r holl fenywod sy’n ymddangos yn y llyfryn hwn – boed hynny fel astudiaethau achos neu mewn ffotograffau – yn gysylltiedig â’r British Heart Foundation mewn rhyw ffordd.

‘Dyn yn marw o drawiad ar y galon.’ Mae honno’n stori gyffredin. Ond pryd oedd y tro diwethaf i chi glywed am fenyw’n marw o glefyd y galon? Efallai na chlywsoch chi erioed – ond dydi hynny ddim yn golygu nad yw problemau’r galon yn effeithio ar fenywod.

Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn lladd cynifer o fenywod ag o ddynion – sef dros un o bob pedwar. Mae clefyd cardiofasgwlaidd, neu CVD, yn golygu pob clefyd sy’n ymwneud â’r galon a chylchrediad y gwaed, yn cynnwys clefyd coronaidd y galon (CHD – angina a thrawiad ar y galon), a strôc.

Ystyriwch y ffeithiau:• Mae CHD yn lladd bron dair gwaith mwy o fenywod

na chanser y fron.• Mae dros 50,000 o fenywod yng Nghymru’n byw

gyda CHD.

O ystyried y ffigurau hyn, mae’n peri pryder i feddwl nad yw rhai menywod yn sylweddoli y gallen nhw gael clefyd y galon. Gall hyn eu gwneud yn llai ymwybodol o ffactorau risg clefyd y galon, yn llai tebygol o nabod symptomau trawiad ar y galon, ac yn llai parod i ffonio 999 pan gân nhw drawiad – a gall hynny olygu eu bod yn llawer llai tebygol o ddod trwyddi.

Gwaetha’r modd, gan fod menywod yn tueddu i fod yn hŷn na dynion yn dechrau cael problemau ar y galon, mae’n gallu cymryd mwy o amser iddyn nhw wella ar ôl mynd i’r ysbyty. Hefyd, mae menywod yn llai tebygol o ddilyn rhaglen adsefydlu ar ôl cael pwl ar y galon – ac mae hynny’n bwysig iawn er mwyn gwella a mwynhau iechyd hirdymor wedyn.

Fel menyw, mae’n hollbwysig i chi wybod bod clefyd y galon yn gallu effeithio arnoch chi. Y newyddion da yw bod modd atal clefyd y galon yn aml iawn. Yn y llyfryn hwn, byddwn yn edrych ar ffeithiau, ystadegau a ffactorau risg clefyd y galon, a sut y gallwch chi helpu i sicrhau eich bod yn llai tebygol o’i gael.

“ Pe bai fy ngŵr wedi cael poenau fel ges i, dw i’n siwr y byddai rhywun wedi meddwl efallai ei fod yn cael trawiad ar y galon.”

Karen, 40 oed

Dyw’r llyfryn hwn ddim yn cymryd lle cyngor gweithwyr iechyd proffesiynol ond dylai’ch helpu i ddeall beth y maen nhw’n ei ddweud wrthych

Rhag

air

02–0

3

Nodiadau.

Beth yw CLEFYD CARDIOFASGWLAIDD?

04–0

5

Beth yw clefyd cardiofasgwlaidd?Mae clefyd cardiofasgwlaidd (CVD) yn golygu pob clefyd sy’n ymwneud â’r galon a chylchrediad y gwaed, yn cynnwys clefyd coronaidd y galon (angina a thrawiad ar y galon), methiant y galon a strôc.

Clefyd coronaidd y galonGall clefyd coronaidd y galon (CHD) achosi angina neu drawiad ar y galon. Mae CHD yn dechrau pan fydd eich rhydwelïau coronaidd (y rhydwelïau sy’n cario gwaed ac ocsigen i’ch calon) yn mynd yn gul am fod stwff brasterog yn crynhoi yn eu waliau yn raddol. Gelwir y cyflwr hwn yn atherosclerosis a gelwir y stwff brasterog yn atheroma.

Ymhen amser, gall eich rhydwelïau fynd mor gul fel na all digon o waed lifo trwyddynt i gario ocsigen i gyhyr y galon. Gall hyn achosi angina (tudalen 8).

Ydych chi mewn perygl?Mae rhai ffactorau sy’n eich gwneud yn fwy tebygol o ddatblygu CHD. Rydym yn eu rhestru ar dudalen 20. Os oes un neu fwy o’r ffactorau risg hyn yn berthnasol i chi, peidiwch ag anobeithio – mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i leihau’ch risg (tudalennau 26-48). Hyd yn oed os nad oes yr un o’r ffactorau risg yn berthnasol i chi, gallwch leihau’ch risg o gael CHD trwy ddilyn yr un cyngor.

Mae dros 50,000 o fenywod Cymru’n byw gyda chlefyd coronaidd y galon. Mae bron 1,800 o fenywod Cymru’n marw ohono bob blwyddyn.

Clef

yd c

oron

aidd

y g

alon

06–0

7

AnginaMae angina’n symptom o glefyd coronaidd y galon. Angina yw’r boen neu’r teimlad anghyfforddus a gewch yn eich brest pan na all digon o waed ac ocsigen lifo trwy’ch rhydwelïau i’r galon.

Yn aml, mae angina’n achosi teimlad trwm, teimlad tynn neu boen mud, parhaus yn eich brest. Gall symud i’r breichiau, y gwddf, yr ên, y cefn neu’r stumog – neu efallai mai dim ond mewn un neu fwy o’r mannau hyn y byddwch yn ei deimlo.

Dydi pawb ddim yn cael yr un symptomau. Mae rhai menywod yn cael poen difrifol neu deimlad anghyfforddus iawn ac eraill yn teimlo ychydig yn anghysurus. Gall rhai menywod fynd yn fyr eu gwynt hefyd.

Yn aml, daw pwl o angina ar ôl gweithgarwch corfforol neu gynnwrf emosiynol. Gall ddod yn ystod tywydd oer neu ar ôl pryd o fwyd.

Os cewch ddiagnosis o angina, fe gewch feddyginiaethau i atal neu liniaru’ch symptomau. Fel rheol, mae’r symptomau’n cilio ar ôl gorffwys am rai munudau neu gymryd eich meddyginiaeth. Os bydd patrwm eich symptomau’n newid, dylech siarad â’ch meddyg ar unwaith.

Mae dros 36,000 o fenywod Cymru’n dioddef o angina.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Angina (HIS6) and Rheolich angina (G534/W).

Angi

na08

–09

Trawiad ar y galon Mae trawiad ar y galon yn digwydd pan fydd ceulad gwaed (clot) yn blocio rhydweli goronaidd. Os bydd yr atheroma yn eich rhydwelïau yn mynd yn ansefydlog, gall darn ohono dorri’n rhydd a ffurfio clot gwaed. Os bydd y clot yn blocio rhydweli goronaidd ac yn atal y cyflenwad o waed ac ocsigen rhag cyrraedd cyhyr y galon, gall wneud difrod parhaol i gyhyr y galon. Gelwir hyn yn drawiad ar y galon (neu’n gnawdnychiant myocardaidd).

Mae symptomau trawiad ar y galon yn amrywio o berson i berson. Maent yn cynnwys:• Poen neu deimlad anghyfforddus yn y frest,

a all symud i’r breichiau, y gwddf, yr ên, y stumog neu’r cefn.

• Poen mud neu deimlad ‘trwm’ yn eich brest. • Poen neu deimlad anghyfforddus yn eich brest,

sy’n teimlo fel diffyg traul ond sy’n gwneud i chi deimlo’n anhwylus yn gyffredinol.

• Teimlo’n gyfoglyd, yn chwyslyd, yn fyr eich gwynt, yn ben-ysgafn neu’n gyffredinol anhwylus, yn ogystal â chael poen neu deimlad anghyfforddus yn eich brest.

Mae dros 15,000 o fenywod yng Nghymru wedi dod dros drawiad ar y galon.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Deall trawiad ar y galon (HIS7W) a’n taflen Heart attack? Know these symptoms (G499).

Peidiwch â gamblo â’ch bywydYn ystod trawiad ar y galon, gallai’ch calon ddatblygu rhythm a allai fygwth eich bywyd ac arwain at ataliad y galon. Bryd hynny, rydych yn mynd yn anymwybodol, yn stopio anadlu a’ch calon yn stopio curo. Felly, os credwch eich bod yn cael trawiad ar y galon, rhaid i chi ffonio 999 ar unwaith a gofyn am ambiwlans.

Mae menywod yn tueddu i aros yn hirach na dynion cyn ffonio 999 ar ôl dechrau cael symptomau trawiad ar y galon. Dyma rai rhesymau: Mae menywod yn llai tebygol o adnabod y symptomau, dydyn nhw ddim eisiau gwneud ffws, neu mae arnyn nhw ofn creu embaras os nad yw’r sefyllfa’n ddifrifol wedi’r cyfan. Ond gall oedi olygu’ch bod yn llawer llai tebygol o ddod trwyddi.

Os credwch eich bod yn cael trawiad ar y galon, peidiwch ag oedi! Po gyntaf y ffoniwch 999 am ambiwlans, mwyaf tebygol y byddwch o ddod trwyddi.

Fyddech chi ddim yn oedi pe bai bywyd ffrind neu berthynas yn y fantol, felly peidiwch â gamblo â’ch bywyd eich hunan. Os na fyddwch yn siwr, ffoniwch 999. Gallai achub eich bywyd.

Traw

iad

ar y

gal

on10

–11

Astudiaeth achos: JacquelineDim ond 39 oed oedd Jacqueline pan gafodd drawiad ar y galon. Roedd wedi bod yn ffit erioed felly roedd yn hollol annisgwyl. I ddechrau, cafodd dri diwrnod o boen yn ei brest oedd yn teimlo fel camdreuliad. Yn ogystal, cafodd gyfnod byr o’r bendro, chwysu a theimlo fel taflu i fyny. Sylweddolodd fod rhywbeth o’i le a gofynnodd i’w brawd fynd â hi i’r ysbyty. Yno, gwelwyd ei bod wedi cael trawiad ar y galon ac, yn ffodus, cafodd driniaeth i achub ei bywyd.

Ers hynny, mae Jacqueline wedi bod yn gwneud ymdrech i gadw’i phwysau a lefel ei cholesterol i lawr. Dechreuodd gerdded bob dydd ac, ymhen tipyn, roedd mor ffit ag yr oedd cynt. Meddai: “Dw i wrth fy modd – dw i wedi cael ail gyfle.”

Peidiwch ag anwybyddu’r symptomau.Os cewch boen yn eich brest neu unrhyw rai o’r symptomau a ddisgrifir ar dudalen 10, ffoniwch 999 am ambiwlans ar unwaith. Efallai y bydd eich symptomau’n hollol ddiniwed, ond gallech fod yn cael trawiad ar y galon. Peidiwch â mentro dim – ffoniwch 999 yn syth.

Traw

iad

ar y

gal

on12

–13

Methiant y galon Mae methiant y galon yn digwydd pan fydd cyhyr y galon yn cael trafferth pwmpio gwaed o gwmpas y corff. Un o’r rhesymau mwyaf cyffredin dros hyn yw bod trawiad ar y galon yn niweidio cyhyr y galon.

Yn ogystal, gall pwysedd gwaed uchel, problemau â falfiau’r galon, cyflwr ar y galon ers eich geni, cardiomyopathi (afiechyd ar gyhyr y galon) ac yfed gormod o alcohol achosi methiant y galon.Mae’r symptomau’n amrywio o berson i berson, ond dyma’r prif rai:• mwy blinedig nag arfer• byr eich gwynt• pigyrnau a thraed yn chwyddo.

Gwaetha’r modd, mae methiant y galon yn afiechyd hirdymor. Ond gyda thriniaeth feddygol a thrwy wneud newidiadau i’w ffordd o fyw, mae llawer o bobl sydd â methiant y galon yn gallu cael bywyd o ansawdd da a byw bywyd arferol o ddydd i ddydd.

Mae 15,000 o fenywod Cymru’n byw gyda methiant y galon.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Byw gyda methiant y galon (HIS8W) a’n DVD One step at a time – living with heart failure (DVD5).

Met

hian

t y g

alon

14–1

5

Strôc Mae gwaith ymchwil yn dangos bod menywod yn fwy tebygol o gael strôc na dynion. Yn ogystal, mae strôc yn tueddu i effeithio’n fwy difrifol ar fenywod ac maen nhw’n fwy tebygol o orfod cael gofal hirdymor.

Mae strôc yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o’ch ymennydd yn cael ei atal – er enghraifft os bydd clot gwaed yn blocio rhydweli sy’n cario’r gwaed i’ch ymennydd. Heb gyflenwad gwaed, gall celloedd yr ymennydd gael eu difrodi neu eu dinistrio ac felly gall strôc effeithio ar y ffordd y mae’ch meddwl neu’ch corff yn gweithio.

Os credwch efallai’ch bod chi neu rywun arall yn cael strôc, mae angen gweithredu’n gyflym. Defnyddiwch y gair ‘FAST’ i gofio beth yw symptomau strôc a beth i’w wneud:• Facial weakness – Gwendid yn yr wyneb – Ydych

chi’n gallu gwenu? Ydi’ch ceg neu un o’ch llygaid yn gam?• Arm weakness – Gwendid yn y breichiau – allwch

chi godi’r ddwy fraich? • Speech problems – Trafferthion siarad – ydych

chi’n gallu siarad yn glir ac ydy pobl eraill yn eich deall yn siarad?

• Time to call 999 – Amser ffonio 999.

Os yw’r symptomau’n pasio ymhen munudau neu ychydig oriau ac yn diflannu’n llwyr cyn pen 24 awr, efallai mai pwl o isgemia dros dro neu TIA (a elwir weithiau’n strôc fach) a gawsoch – ond peidiwch â’u hanwybyddu. Os cewch chi’r symptomau hyn neu os gwelwch nhw yn rhywun arall, ffoniwch 999 ar unwaith.

I gael gwybod rhagorFfoniwch y Gymdeithas Strôc ar 0303 3033 100 neu ewch i www.stroke.org.uk

Strô

c16

–17

Ffaith: Mae bron 35,000 o fenywod Cymru wedi dod dros strôc.

18–1

9

Sut alla i

LEIHAU FY RISG?

Nodiadau.

20–2

1Ff

acto

rau

risg

Ffactorau risgMae ‘ffactor risg’ yn rhywbeth sy’n eich gwneud yn fwy tebygol o gael rhyw glefyd. Mae sawl ffactor risg ar gyfer clefyd coronaidd y galon (CHD) a strôc. Sef:

• Smygu• Pwysedd gwaed uchel• Colesterol uchel• Dim digon o ymarfer corff• Bod dros eich pwysau neu’n ordew• Bod â diabetes• Bod â hanes teuluol o glefyd y galon. Mae hyn

yn golygu bod eich tad, eich mam, brawd neu chwaer i chi wedi cael clefyd coronaidd y galon neu strôc yn ifanc (o dan 65 i fenywod neu o dan 55 i ddynion).

• Oedran Mae’r risg yn cynyddu wrth i chi heneiddio.• Cefndir ethnig Mae pobl o gefndir De Asiaidd neu Affricanaidd

du yn fwy tebygol o gael CHD a strôc. Mae’n ymddangos bod rhai ffactorau risg yn cael mwy o effaith ar y bobl hyn. Er enghraifft, mae pobl o gefndir De Asiaidd yn tueddu i roi pwysau o gwmpas eu canol, gan eu gwneud yn fwy tebygol o gael CHD, strôc a diabetes. Gweler tudalen 42.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Byw yn iach, calon iach (HIS25W) neu ein DVD Risking it (DVD21).

Gall y ffactorau isod eich gwneud yn fwy tebygol o gael CHD hefyd:

• Tlodi Mae pobl ar incwm isel yn fwy tebygol o gael

ffactorau risg CHD a strôc ac yn llai tebygol o ddewis ffordd o fyw iachus.

• Yfed llawer o alcohol • Eich ffordd o ddelio â straen. Gweler tudalen 48.

Po fwyaf o ffactorau risg sydd gennych, mwyaf tebygol yr ydych o gael clefyd coronaidd y galon neu strôc. Ac er na allwch newid eich holl ffactorau risg – er enghraifft, allwch chi ddim newid eich oedran – mae digon y gallwch ei wneud i leihau’r risg y cewch glefyd y galon a gwarchod eich calon.

Beth bynnag yw’ch sefyllfa, gallwch leihau effaith eich ffactorau risg a helpu i atal CVD trwy geisio byw yn iach.

Astudiaeth achos: Sally Mayos, 50Fy stori bryd hynnyMae ’na hanes o glefyd y galon yn fy nheulu i, ond er fy mod i’n gwybod hynny, fe roddais i lawer o bwysau ymlaen. Roeddwn i byth a hefyd â ’nhrwyn yn y cwpwrdd, yn chwilio am rywbeth i’w fwyta. Mae asthma arnai ac ro’n i’n mynd yn fyr o wynt ac yn cael poenau ynfy nghymalau. Dim ond 52 oedd fy nhad pan fu farwo drawiad ar y galon ac ro’n i bron yn 50. Fe ges i fraw o sylweddoli hynny. Mi benderfynais i newid fy ffordd o fyw.

Fy stori yn awrMi ymunais i â gwasanaeth cefnogi ffordd o fyw sy’n defnyddio adnoddau BHF, ac roedd eu help a’u cefnogaeth nhw yn hwb i mi. Roedd cymryd llai o fwydar fy mhlât yn hollbwysig. Doeddwn i ddim yn arfer bwyta llawer o ffrwythau ond erbyn hyn rwy’n cael pum darn y dydd. Fe gymera i fanana neu afal yn lle pecyn o grisps. Dw i wedi dechrau mynd am dro gyda’r nos gyda fy merch ac rwy wedi bod yn nofio am y tro cyntaf ers 20 mlynedd. Dw i wrth fy modd. Roeddwn i’n cymryd tabledi at fy mhwysedd gwaed uchel ond, ar ôl colli tair stôn, dw i wedi cael rhoi’r gorau iddyn nhw. Dydw i ddim yn cael cymaint o boen yn fy nghymalau ac mae gen i lawer mwy o egni.

22–2

3

Archwiliadau iechydYng Nghymru, os ydych dros 50 oed, mae gennych hawl i gael archwiliad iechyd gan eich meddyg teulu neu nyrs y practis.

Asesiad i ganfod pa mor debygol yr ydych o gael CHD yw’r archwiliad iechyd. Weithiau, gelwir hyn yn asesiad o iechyd y galon neu’n asesiad risg cardiofasgwlaidd.

Ar sail canlyniadau’ch asesiad, bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn eich cynghori beth y gallwch ei wneud i gadw’ch calon yn iach. Bydd y meddyg yn ystyried hefyd a oes angen triniaeth – fel moddion – i warchod eich calon.

Arch

wili

adau

iech

yd24

–25

Smyg

u26

–27

Smygu Rhoi’r gorau i smygu yw’r un peth pwysicaf y gallwch ei wneud i wella iechyd y galon. Mae gwaith ymchwil yn dangos hefyd bod pobl sydd ddim yn smygu ond sy’n byw gyda smygwr yn fwy tebygol o gael CHD na phobl eraill sydd ddim yn smygu.

Wrth stopio smygu, rydych yn mynd yn llai tebygol o gael CHD. Ac, o fewn blwyddyn ar ôl stopio, mae’r risg wedi lleihau o tua hanner. Mae’n debygol y gwelwch hefyd eich bod yn teimlo’n iachach, na fydd aroglau annifyr ar eich dillad a’ch gwallt, eich bod yn cael mwy o flas ar eich bwyd a bod eich croen yn dangos llai o arwyddion heneiddio.

Mae rhai menywod yn gyndyn o stopio smocio am eu bod yn meddwl y byddan nhw’n mynd yn dew. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn ennill peth pwysau ar ôl stopio smocio, ond mae peryglon iechyd dal ati i smygu llawer yn fwy na pherygl rhoi ychydig o bwysau ymlaen. Gallwch golli’r pwysau trwy wneud rhagor o ymarfer corff a thorri i lawr ar eich calorïau (gweler tudalennau 34–39).

Os ydych am roi’r gorau iddi, mae’n hanfodol cael cefnogaeth. Holwch yn y feddygfa a oes nyrs neu gwnselydd a all helpu, chwiliwch am fanylion gwasanaeth lleol sy’n helpu pobl i roi’r gorau iddi, neu cysylltwch ag un o’r mudiadau a restrir ar dudalennau 72–73. Gallech holi’ch meddyg neu fferyllydd hefyd am therapi disodli nicotin (NRT) neu feddyginiaeth i’ch helpu i roi’r gorau iddi.

Astudiaeth achos: Angela59 oed oedd mam Angela pan fu hi farw o glefyd coronaidd y galon. Mae Angela’n ei chofio fel un oedd yn “smocio 40 y dydd ac yn byw ar smôcs, caws a choffi”. Byth ers iddi golli ei mam, mae Angela wedi gwneud ymdrech i fyw mor iach ag y gall. Mae wedi rhoi’r gorau i smygu ac mae’n gwneud ymarfer corff yn rheolaidd i gadw’i phwysau i lawr.

Mae un menyw o bob pump yng Nghymru’n smygu’n rheolaidd. Mae menywod sy’n smygu bron ddwywaith yn fwy tebygol o gael trawiad ar y galon â menywod nad ydyn nhw erioed wedi smygu.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Stop smoking (G118).

Pwys

edd

gwae

d28

–29

Pwysedd gwaed Os yw’ch pwysedd gwaed yn aml yn uwch na’r lefel a argymhellir, rydych yn dioddef o bwysedd gwaed uchel. Dylai pwysedd gwaed y rhan fwyaf o fenywod fod o dan 140/85mmHg. (Os oes diabetes neu CHD arnoch, neu os ydych wedi cael trawiad ar y galon neu strôc, dylai fod o dan 130/80mmHg.)

Os yw’ch pwysedd gwaed yn uchel, rydych yn llawer mwy tebygol o gael trawiad ar y galon neu strôc. Dywedir bod pwysedd gwaed uchel yn fygythiad distaw achos does dim symptomau gan amlaf. Yr unig ffordd o wybod a yw’ch pwysedd gwaed yn uchel yw ei fesur. Gall eich meddyg teulu neu’ch nyrs ei fesur. Os cewch archwiliad iechyd (gweler tudalen 24), caiff eich pwysedd gwaed ei fesur fel rhan o’r asesiad.

• Gwnewch ragor o ymarfer corff (tudalen 36)• Cadwch eich pwysau’n iachus (tudalen 34). • Cymerwch lai o halen (tudalen 44). • Yfwch lai o alcohol (tudalen 46).• Bwytwch fwy o ffrwythau a llysiau (tudalen 44).

Os bydd eich pwysedd gwaed yn dal yn uchel, dylai’ch meddyg roi meddyginiaethau i’w ostwng er mwyn helpu i warchod eich calon.

Mae 20% o fenywod Cymru’n cael triniaeth am bwysedd gwaed uchel.

I gael gwybod rhagorDarllenwch ein llyfryn Blood pressure (HIS4).

Cole

ster

ol30

–31

Colesterol Stwff brasterog sydd yn eich gwaed yw colesterol. Mae’n hanfodol i helpu pob cell yn eich corff i weithio ond os bydd gormod ohono gall fod perygl i chi gael problemau â’r galon.

Proteinau sy’n cario colesterol o gwmpas y corff. Yr enw ar y cyfuniadau hyn o golesterol a phroteinau yw lipoproteinau.

Mae dau brif fath:• LDL (lipoproteinau dwysedd isel) yw’r math

niweidiol o golesterol. Weithiau, caiff ei alw’n golesterol LDL.

• Mae HDL (lipoproteinau dwysedd uchel) yn fath o golesterol sy’n gwarchod. Weithiau, caiff hwn ei alw’n golesterol HDL.

Mae mwy o berygl i chi gael problemau â’r galon os yw lefel eich colesterol LDL yn uchel a lefel eich colesterol HDL yn isel.

Un o’r prif bethau sy’n achosi lefelau colesterol uchel yw bwyta gormod o fraster dirlawn. Fodd bynnag, mae lefelau colesterol rhai pobl yn uchel er eu bod yn bwyta deiet iachus. Er enghraifft, efallai eu bod wedi etifeddu cyflwr o’r enw gorgolesterolemia teuluol (FH).

Er mwyn eich helpu i ostwng lefel y colesterol a’ch gwneud yn llai tebygol o gael clefyd y galon, gallwch:

• Fwyta llai o fraster. • Bwyta llai o fwydydd sy’n cynnwys braster dirlawn

neu drawsfrasterau, fel cigoedd brasterog (e.e. selsig), cacennau a bisgedi.

• Dewis llaeth a chynnyrch llaeth, fel iogwrt a chaws, sydd â llai o fraster.

• Defnyddio ychydig o olew olewydd, olew corn, olew blodau haul neu olew hadau rêp yn lle brasterau dirlawn. Mae’r brasterau mono-annirlawn ac amlannirlawn yn y rhain yn iachach i chi.

Ar yr un pryd, gall gweithgarwch corfforol rheolaidd helpu i gynyddu lefel y colesterol HDL gwarchodol.

Os bydd angen, cewch feddyginiaethau fel statinau gan eich meddyg teulu i ostwng lefel eich colesterol a helpu i warchod eich calon. Os bydd eich meddyg yn meddwl bod perygl i chi gael clefyd y galon, gall argymell eich bod yn cymryd statin hyd yn oed os nad yw lefel y colesterol yn eich gwaed yn uchel.

Mae gan tua 60% o fenywod Prydain lefel uchel o golesterol yn eu gwaed.

I gael gwybod rhagorGweler ein llyfryn Reducing your blood cholesterol (HIS3).

Diab

etes

32–

33

Diabetes Mae dau fath o ddiabetes. Dydi pobl sydd â diabetes math 1 ddim yn cynhyrchu inswlin o gwbl. Dydi pobl â diabetes math 2 ddim yn cynhyrchu digon o inswlin, neu dydi eu corff ddim yn gallu defnyddio’r inswlin a gynhyrchir yn iawn.

Mae diabetes math 1 yn llai cyffredin na diabetes math 2 ac, fel rheol, mae’n datblygu mewn plant ac oedolion ifanc. Does neb yn deall yn iawn beth sy’n achosi diabetes math 1.

Mae diabetes math 2 yn fwy cyffredin ac rydych yn fwy tebygol o’i gael os ydych dros eich pwysau, os nad ydych yn gwneud llawer o ymarfer corff neu os oes gennych hanes o ddiabetes yn y teulu. Gall ethnigrwydd chwarae rhan hefyd – mae adroddiadau wedi dangos bod diabetes math 2 ddwy waith a hanner yn fwy tebygol mewn menywod o dras Caribïaidd Du a Phacistanaidd.

Os oes diabetes arnoch, mae’n bwysig iawn eich bod yn rheoli lefel y siwgr yn y gwaed, eich pwysedd gwaed a lefel y colesterol.

Bydd y pethau isod yn eich helpu i gadw’ch risg o gael CHD mor isel ag y bo modd:

• Gwneud rhagor o ymarfer corff (tudalen 36). • Bwyta deiet iachus a chytbwys (tudalen 44). • Rheoli’ch pwysau a siâp eich corff (tudalen 34). Os nad oes diabetes math 2 arnoch, gallwch helpu’n fawr i leihau’r risg o’i gael trwy reoli eich pwysau a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.

Mae menywod sydd â diabetes o leiaf dair gwaith yn fwy tebygol o gael clefyd y galon a chylchrediad y gwaed na menywod sydd hebddo.

I gael gwybod rhagorGweler ein llyfryn Diabetes and your heart (HIS22).

Pwysau a siâp y corff Os ydych dros eich pwysau neu’n ordew, rydych yn fwy tebygol o gael CHD. Gall cadw’ch pwysau a siâp eich corff yn iachus helpu i’ch gwarchod rhag diabetes a phwysedd gwaed uchel, ac i reoli lefel y colesterol yn eich gwaed.

Mae’ch siâp yn bwysig hefyd. Os ydych yr un siâp ag afal – gyda’ch pwysau wedi’i grynhoi o gwmpas eich canol – rydych hyd yn oed yn fwy tebygol o gael CHD. Dylai menywod fesur llai nag 80cm (tua 31.5 modfedd) o gwmpas eu canol. Er mwyn colli pwysau neu leihau maint eich gwast:

• Cymerwch lai o galorïau trwy geisio osgoi braster a siwgr a chodi llai ar eich pât.

• Gwneud mwy o ymarfer corff o ddydd i ddydd.

Ceisiwch beidio â cholli pwysau’n rhy gyflym. Mae’n iachach colli pwysau’n araf ac yn gyson – tua phwys neu ddau (rhwng hanner cilo a chilo) yr wythnos – ac felly rydych yn fwy tebygol o beidio â rhoi’r pwysau yn ôl. Bydd colli hyd yn oed ychydig o bwysau yn lles i’ch iechyd.

Mae dros hanner menywod Cymru naill ai dros eu pwysau neu’n ordew.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Facts not fads – Your simple guide to healthy weight loss (M2)

Pwys

au a

siâ

p y

corf

f34

–35

Gwei

thga

rwch

cor

fforo

l36

–37

Gweithgarwch corfforolMae cael mwy o weithgarwch corfforol yn un ffordd o leihau’r risg o gael CHD. Yn ogystal, gall helpu i ostwng eich pwysau gwaed, gwella lefel y colesterol yn eich gwaed, rheoli’ch pwysau a’ch gwneud yn llai tebygol o gael diabetes. Mae ymarfer corff yn ffordd dda o leihau straen hefyd.

Er mwyn gwarchod eich calon, dylech geisio cael rhywfaint o ymarfer corff bob dydd. Er lles eich iechyd, dylech wneud o leiaf 150 munud o weithgarwch corfforol cymedrol bob wythnos. Ceisiwch rannu’r 150 munud trwy’r wythnos. Mae 5 x 30 munud yn un ffordd o’i wneud ond mae pob 10 munud yn cyfrif. Bydd gweithgareddau cymedrol yn gwneud i chi deimlo’n gynhesach, anadlu’n drymach a gwneud i’ch calon guro’n gyflymach nag arfer ond dylech fod yn gallu sgwrsio.

Mae sesiynau 10 munud, o leiaf, o weithgaredd cymedrol yn achlysurol trwy’r dydd yn ffordd dda i ddechrau. Ceisiwch wneud mwy o sesiynau 10 munud bob dydd. Gallwch gynnwys ymarfer corff yn eich trefn ddyddiol heb ymuno â champfa na chymryd rhan mewn chwaraeon. Mae cerdded, dawnsio, seiclo a nofio’n lles i iechyd y galon.

Beth am roi cynnig ar un o’r pethau isod? • Cerdded – amser cinio, i’r siopau, mynd â’ch plant

neu’ch wyrion i’r ysgol. • Dringo’r grisiau yn lle defnyddio’r lifft neu’r

grisiau symud. • Gwneud gwaith tŷ neu arddio. • Cael DVD ffitrwydd a’i ddefnyddio gartref.Ceisiwch gadw i symud a pheidio ag eistedd yn llonydd fwy nag sydd raid. Os oes raid i chi eistedd

yn hir, ceisiwch wneud hynny fesul tipyn, a chwilio am ffyrdd o dreulio mwy o amser yn symud eich corff.

Yn ogystal â’r 150 munud o weithgarwch, cofiwch gynnwys gweithgareddau i’ch helpu i gryfhau’ch cyhyrau o leiaf ddwywaith yr wythnos e.e. ymarfer gyda phwysau, gweithio gyda bandiau ymwrthedd, gwaith garddio trwm, neu gario llwythi trymion fel bagiau siopa. Gyda gweithgareddau cryfder, mae gofyn i chi ddefnyddio’ch cyhyrau yn erbyn grym neu bwysau ychwanegol a bydd yn gwneud i’r cyhyrau deimlo mwy o dyndra nag arfer.

Pa fath bynnag o ymarfer corff a wnewch...• Codwch lefel eich gweithgarwch yn raddol.

Dechreuwch yn araf ar lefel sy’n addas i chi yna, yn raddol, gwnewch y gweithgaredd yn amlach ac am fwy o amser.

• Wrth wneud ymarfer corff, cychwynnwch yn araf am rai munudau a chynyddu’n raddol. Ar y diwedd, treuliwch ychydig o amser yn arafu ac yn oeri.

• Os byddwch yn teimlo’n fyr eich gwynt, yn benysgafn neu’n anhwylus, neu os cewch boen, rhowch y gorau i’r ymarfer ac ewch i weld eich meddyg teulu.

Os oes gennych afiechyd hirdymor neu bwysedd gwaed uchel, holwch eich meddyg teulu neu nyrs y practis cyn dechrau gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.

Dydy dros hanner menywod Cymru ddim yn gwneud digon o weithgarwch corfforol i warchod eu calon.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Get active, stay active (G12) –neu os ydych dros 50 oed, Be active for life (G364).

Astudiaeth achos: Sarah-Jayne Herbert, 32Fy stori bryd hynnyBu Mam a Dad farw o drawiad ar y galon. Roedd Dad dros ei bwysau ac roedd diabetes arno. Roeddwn i’ncael trafferth mawr â ’mhwysau hefyd. Ro’n i’n pwyso19 stôn, yn prynu dillad maint 20 ac ro’n i’n anhapus iawn am y peth. Dwi’n dysgu mewn ysgol gynradd ond doeddwn i ddim yn ddigon ffit i ymuno yn y gwersi chwaraeon. Roedd rhaid i mi eistedd ar yr ochr oherwydd fy asthma, fy maint a’r ffaith nad oeddwn i’n ddigon ffit. Ro’n i mewn rhigol.

Fy stori yn awrGêm fach gyffredin gyda’r plant yn fy nosbartha roddodd hwb i mi i golli pwysau. Fe wnaethonni geisio enwi mathau chwaraeon oedd yn dechrauâ phob llythyren yn yr wyddor – 26 i gyd. Roedd fy nisgyblion yn awyddus i mi roi cynnig arnyn nhw, ac fe dderbyniais i’r her. Fe roddais i gynnig ar bopeth o acwarobeg i loncian, o Quidditch i Swmba. Roedd fy neiet wedi bod yn llawn melysion a byrbrydau. Rhoddais i’r gorau i’w bwyta nhw a gwneud ymdrech fawr i fwyta’n iach. Wrth i mi ddechrau colli pwysau, roedd yn hwb i mi ddal ati. Mae gen i fwy o egni ac mae fy nghroen, fy ngwallt a fy iechyd cyffredinol wedi gwella.

38–

39

40–

41

Hanes teuluol Os cafodd eich tad, eich mam, neu frawd neu chwaer i chi glefyd cardiofasgwlaidd yn ifanc (o dan 65 i fenywod ac o dan 55 i ddynion), gallech chi fod yn fwy tebygol o’i gael.

Gall ymddygiad y teulu fod yn ffactor hefyd. Mae arferion fel deiet sâl neu smygu yn cael eu pasio i lawr mewn teuluoedd weithiau.

Os oes hanes o glefyd cardiofasgwlaidd yn y teulu, mae angen i chi gymryd mwy o ofal gyda’ch ffactorau risg.

Mae’n hollbwysig i chi reoli’ch pwysau, bwyta’n iach, cael digon o ymarfer corff a pheidio â smygu.Allwch chi ddim newid eich cefndir teuluol ond fe allwch chi ddewis eich ffordd o fyw!

OedranWrth heneiddio, rydych yn fwy tebygol o ddatblygu CHD. Mae hormonau’n helpu i amddiffyn menywod rhag CHD cyn cyrraedd y menopos, felly rydych yn llai tebygol na dynion o ddatblygu’r cyflwr tan hynny. Ond yn y blynyddoedd ar ôl y menopos, mae’ch risg yn cynyddu’n fawr. Ac erbyn i chi gyrraedd eich 60au, mae’r bwlch rhwng dynion a menywod yn cau.

Han

es te

uluo

l / O

edra

n

Ethnigrwydd Mae’r risg yn uwch i fenywod o rai grwpiau ethnig. Er enghraifft, yng Nghymru a Lloegr, mae menywod o rai grwpiau o Dde Asia dros ddwywaith yn fwy tebygol na menywod eraill o farw’n ifanc o CHD.

Fel oedran a hanes teuluol, dyma ffactor arall na allwch ei newid, ond gallwch gadw’ch risg mor isel ag y bo modd trwy fynd i’r afael â ffactorau risg y gallwch wneud rhywbeth amdanynt.

I gael gwybod rhagorEwch i’n gwefan i weld sut y gall ethnigrwydd effeithio ar iechyd y galon bhf.org.uk/ethnicity

Ethn

igrw

ydd

42–

43

Astudiaeth achos: HinaRoedd Hina’n gwneud cacennau Rice Krispies ar gyfer y teulu pan gafodd drawiad ar y galon. Roedd yn hollol annisgwyl. Doedd hi ddim wedi cael symptomau cyn hynny a doedd dim hanes yn y teulu. Yn ffodus, cafodd ei thrin yn ddiymdroi ac fe ddaeth drosti’n fuan.

Mae ein Llinell Gymorth y Galon wedi ei helpu i ddeall mwy am ei chyflwr a’i meddyginiaethau a sut i ailddechrau byw bywyd normal. Mae Hina’n poeni bod pobl yn meddwl nad yw pobl ifanc, ac yn enwedig menywod ifanc, yn cael afiechydon y galon ac mae’n awyddus i bobl gael gwybod y gwir.

“Gall clefyd y galon daro unrhyw un, unrhyw bryd. Mae angen i ni fod yn ymwybodol o’r hyn rydyn ni’n ei fwyta, beth rydyn ni’n ei wneud a faint o ymarfer corff a gawn ni’n rheolaidd. Dydw i ddim yn gallu gwneud rhai pethau, fel mynd ar reids gwyllt mewn ffeiriau, ond ar y cyfan rwy’n byw bywyd llawn a diddorol iawn.”

Deie

t iac

hus

44–

45

Pethau eraill a all effeithio ar iechyd y galon

Deiet iachus Bydd deiet iachus a chytbwys yn help i warchod eich calon.

Dyma’r prif bwyntiau:

• Ceisiwch osgoi bwydydd sy’n cynnwys braster dirlawn a dewiswch frasterau iachach.

• Bwytwch bysgod o leiaf ddwywaith yr wythnos. (Dylai un o’r prydau hyn gynnwys pysgod olewog.)

• Bwytwch o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd.

• Ceisiwch gymryd llai na 6g o halen y dydd.

Pan fyddwch yn brysur, mae’n demtasiwn i golli prydau neu fwyta bwydydd hwylus. Mae rhai pobl yn ceisio gwneud iawn am ddeiet gwael trwy gymryd fitaminau, mwynau neu atchwanegiadau bwyd. Ond dydy hynny ddim mor llesol bob amser â bwyta deiet iachus, cytbwys a ddylai roi’r holl fitaminau a maethynnau angenrheidiol i chi.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Eating well (G186).

I gael gwybod rhagorCadwch olwg ar faint rydych yn ei yfed – defnyddiwch ein cyfrifiannell unedau alcohol yn bhf.org.uk/alcohol

Alcohol Os ydych yn yfed alcohol, gofalwch gadw at y lefelau a argymhellir. Ddylai menywod ddim yfed mwy na 2–3 uned o alcohol y dydd yn rheolaidd.

1 uned o alcohol =

• Hanner peint (300ml) o gwrw chwerw, lager neu seidr (3.5% ABV [alcohol yn ôl cyfaint])

• neu fesur tafarn (25ml) o wirodydd fel jin, fodca, wisgi neu rym

• neu wydraid bach (100ml) o win (10% ABV)

Gall yfed cymedrol – rhwng 1 a 2 uned o alcohol y dydd – helpu rywfaint i warchod menywod sydd wedi mynd trwy’r menopos rhag clefyd coronaidd y galon. Ond, os nad ydych eisoes yn yfed alcohol, does dim angen i chi ddechrau gwneud, achos mae ‘na ffyrdd iachach o lawer o ofalu am eich calon.

Dydy yfed mwy na’r swm a nodir ddim yn amddiffyn y galon a gall wneud drwg i gyhyrau’r galon, achosi pwysedd gwaed uchel, strôc a rhai mathau o ganser. Mae llawer o galorïau mewn alcohol hefyd ac felly gall wneud i chi ennill pwysau.

Ceisiwch beidio â chael pyliau o yfed yn drwm. Mae’n well yfed ychydig yn rheolaidd na llawer weithiau.

Alco

hol

46–

47

Mae dros un o bob tair o fenywod Cymru’n yfed mwy o alcohol nag yr argymhellir yn rheolaidd.

Straen Mae ambell her mewn bywyd yn gallu rhoi hwb i ni ond, os ydym yn teimlo ein bod yn methu ymdopi â’r pwysau mawr sydd arnom, rydyn ni’n dod o dan straen.

Mae rhai pobl yn ymateb i straen mewn ffyrdd sydd ddim yn iachus, fel smygu, goryfed alcohol, peidio â bwyta’n iach a chael llai o ymarfer corff. Gall y rhain i gyd eich gwneud yn fwy tebygol o gael CHD.

Os ydych yn ei chael yn anodd cydbwyso gwaith, eich teulu neu berthnasoedd a’ch bywyd cymdeithasol, mae’n demtasiwn i chi anwybyddu’ch anghenion chi. Ond cofiwch bod eich iechyd yn bwysig – ac mae hynny’n cynnwys eich iechyd meddwl.Mae’n bwysig dysgu ymlacio a delio’n effeithiol â straen.

• Ceisiwch feddwl pryd yr ydych yn teimlo o dan straen ac osgoi sefyllfaoedd felly os oes modd.

• Byddwch yn realistig am yr hyn y gallwch ei wneud a dysgu dweud ‘na’ pan fydd angen.

• Gall gwneud rhywbeth egnïol – fel mynd am dro sionc neu redeg – eich helpu i ollwng stêm.

• Rhowch gynnig ar ymarferion ymlacio neu ymunwch â dosbarth ioga.

• Os ydych yn teimlo bod popeth yn ormod, siaradwch â ffrind neu bartner, neu holwch eich meddyg am gyngor. Gall teimlo’ch bod ar eich pen eich hun wneud i chi deimlo o dan hyd yn oed fwy o straen.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Coping with stress (G187).

Stra

en48

–49

50–5

1

Beth os oes

CLEFYD Y GALON ARNA I?

Nodiadau.

Beth

os

oes

clef

yd y

gal

on a

rna

i?52

–53

Beth os oes clefyd y galon arna i? Os cewch ddiagnosis o glefyd coronaidd y galon (CHD) neu angina, neu os cewch drawiad ar y galon, mae meddyginiaethau, triniaethau neu raglenni adfer a all eich helpu i deimlo’n well a byw bywyd mor llawn ac egnïol ag y bo modd. Mae rheoli’ch ffactorau risg a byw bywyd iach yn hanfodol er mwy cadw’ch calon yn iach a’i gwarchod rhag rhagor o broblemau, felly darllenwch dudalennau 26–48 hefyd.

Med

dygi

niae

thau

/ Tr

inia

etha

u54

–55

CofiwchPeidiwch â rhoi’r gorau i gymryd meddyginiaethau presgripsiwn heb gyngor meddygol, hyd yn oed os byddwch yn teimlo’n well. Gall stopio’n sydyn fod yn beryglus. Os cewch sgîl-effeithiau neu symptomau newydd, soniwch wrth y meddyg.

Triniaethau Os ydych yn cymryd meddyginiaethau ond eich bod yn dal i gael trafferth â’r symptomau, efallai y gellir ystyried triniaethau eraill fel angioplasti neu lawdriniaeth ddargyfeiriol ar rydwelïau’r galon.

I gael gwybod rhagorEwch i bhf.org.uk/treatments neu archebwch ein llyfrynnau Coronary angioplasty (HIS10) neu Having heart surgery (HIS12).

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Medicines for your heart (HIS17).

MeddyginiaethauOs oes CHD arnoch, mae’n debygol y cewch feddyginiaethau i helpu i reoli’r symptomau a chadw’ch calon mor iach ag y bo modd. Mae’r meddyginiaethau’n debygol o gynnwys dos isel o aspirin neu rywbeth tebyg i atal clotiau gwaed rhag ffurfio. Mae hynny’n helpu i’ch gwneud yn llai tebygol o gael trawiad ar y galon neu strôc. (Fodd bynnag, os nad oes CHD arnoch, peidiwch â dechrau cymryd aspirin yn rheolaidd fel ffordd o’i atal. Y rheswm yw bod peryglon gwaedu, sy’n un o sgîl-effeithiau cymryd aspirin, yn fwy na’r manteision i bobl sydd heb CHD.)

Os oes CHD arnoch, efallai y cewch feddyginiaethau eraill, fel statinau. Gall statinau helpu i ostwng lefel y colesterol yn eich gwaed a’ch gwneud yn llai tebygol o gael trawiad ar y galon neu strôc. Mae’n debygol y cewch statinau hyd yn oed os nad yw lefel eich colesterol yn uchel, gan eu bod yn helpu i leihau’r perygl o gael rhagor o broblemau ar y galon.

Os ydych yn cymryd fitaminau, atchwanegiadau neu feddyginiaethau ‘llysieuol’ naturiol, dylech holi’ch meddyg, nyrs neu fferyllydd a yw hynny’n ddiogel. Does dim digon o dystiolaeth bod atchwanegion neu feddyginiaethau llysieuol yn gallu atal na thrin CHD. Dydi’r rhan fwyaf o feddyginiaethau llysieuol ddim wedi bod trwy brofion mawr wedi’u rheoli fel sy’n digwydd gyda meddyginiaethau confensiynol. Gallant adweithio â’r meddyginiaethau a gewch gan y meddyg hefyd.

Adse

fydl

u ca

rdia

idd

56–

57

Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn hŷn yn dechrau cael problem â’r galon ac felly gallai fod gennych broblemau iechyd eraill sy’n golygu eich bod yn cymryd mwy o amser i wella. Felly, mae’n bwysig iawn eich bod yn dod i sesiynau adsefydlu cardiaidd er mwyn cael cymaint o gymorth ag y bo modd i’ch helpu i wella.

Os na chewch eich cyfeirio at raglen adsefydlu cardiaidd, holwch eich meddyg lle mae’r un agosaf, neu ewch i www.cardiac-rehabilitation.net neu ffonio ein Llinell Gymorth y Galon ar 0300 330 3311.

Adsefydlu cardiaidd Os ydych wedi cael trawiad ar y galon, llawdriniaeth ar y galon neu angioplasti, dylech gael cynnig lle ar raglen adsefydlu cardiaidd (cardiac rehab). Gwelwyd bod hynny’n gallu gwella’ch iechyd hirdymor a’ch gwneud yn llai tebygol o farw o CHD. Mae’n eich helpu i wella a dechrau byw bywyd arferol.

Mae llawer o raglenni adsefydlu cardiaidd yn cynnwys dysgu am iechyd y galon a sesiynau ymarfer corff dan oruchwyliaeth. Gallwch ddysgu technegau ymlacio hefyd. Byddwch yn trafod sut i newid eich ffordd o fyw er mwyn gwarchod eich calon fel y gallwch fyw bywyd mor llawn ag y bo modd. Byddwch yn cyfarfod â phobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg ac fe gewch gyngor a chefnogaeth broffesiynol. Gall hyn i gyd eich gwneud yn fwy hyderus a’ch helpu i deimlo’n well.

Mae’n achos pryder bod menywod yn llai tebygol na dynion o fynd i sesiynau adsefydlu cardiaidd. Mae rhai menywod yn teimlo embaras os oes llai o fenywod nag o ddynion yn y grŵp. Mae eraill yn teimlo’u bod yn rhy brysur yn gofalu am y teulu ac yn gwneud pethau eraill. Ond mae adsefydlu cardiaidd yn bwysig iawn er mwyn gwella ac mae’r manteision yn fwy o lawer nag unrhyw anghyfleustra neu embaras a deimlwch.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Cardiac rehabilitation (HIS23).

Astudiaeth achos: MaureenBu Maureen yn mynd i sesiynau adsefydlu cardiaidd ar ôl cael trawiad ar y galon, ac angioplasti wedyn. Meddai: “Roeddwn i’n mynd i ganolfan chwaraeon leol. Roedd yno nyrsys y galon a hyfforddwr ffitrwydd wedi’i hyfforddi’n arbennig. Fe roddodd y sesiynau hynny fi ar y llwybr cywir. Roedd yn wych.”

Mynd yn ôl i fyw bywyd bob-dydd Ar ôl trawiad neu lawdriniaeth ar y galon neu angioplasti, efallai na fyddwch yn siwr pryd y gallwch ddechrau gwneud pethau fel gyrru, gwaith tŷ neu fynd yn ôl i’r gwaith. Efallai y byddwch yn poeni am gael rhyw, neu efallai na fydd llawer o chwant rhyw arnoch. Efallai hefyd y byddwch yn teimlo’n isel, yn cael trafferth cysgu neu y bydd eich hwyliau’n newid fel nad oeddent o’r blaen.

Mae’r pethau hyn i gyd yn gyffredin ar ôl cael diagnosis neu gyfnod yn yr ysbyty gyda phroblem ar y galon. Beth bynnag yw’ch pryder, ceisiwch beidio â theimlo embaras na chuddio’ch teimladau.

Holwch eich meddyg, nyrs y practis neu’r tîm adsefydlu cardiaidd am gyngor. Gall Llinell Gymorth y Galon BHF (0300 330 3311) gynnig gwybodaeth a chefnogaeth, ac mae digon o wybodaeth am driniaethau a’r broses wella ar ein gwefan, bhf.org.uk/condition. Neu mae rhestr o fudiadau eraill a all eich helpu ar dudalennau 72-73.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Returning to work with a heart condition (HIS21) neu ein Looking forward: Life after a heart attack (DVD19). Neu gallwch ffonio ein Llinell Gymorth ar 0300 330 3311 a gofyn i’n Cynghorwyr Iechyd y Galon am adnoddau eraill sy’n berthnasol i’ch cyflwr chi.

Myn

d yn

ôl i

fyw

byw

yd b

ob-d

ydd

58–

59

60–

61

Beth arall

DDYLWN I EI WYBOD?

Nodiadau.

62–

63

Y bi

lsen

ata

l cen

hedl

u64

–65

Beth arall ddylwn i ei wybod?

Y bilsen atal cenhedluGall y bilsen atal cenhedlu olygu eich bod ychydig yn fwy tebygol o gael problem â chlotiau gwaed a gall gynyddu’r risg o thrombosis gwythiennau dwfn (DVT). Mae DVT yn digwydd pan fydd clot gwaed yn ffurfio mewn gwythïen yn eich coes. Gall achosi poen a chwydd, yn rhan isa’r goes fel rheol, a gall eich coes deimlo’n boeth neu’n dyner. Nid yw hyn yn digwydd yn aml ond mae’n fwy tebygol os ydych yn smygu, yn rhy drwm neu os ydych yn llonydd am amser hir, er enghraifft wrth deithio ar awyren, bws neu drên neu mewn car.

Gall DVT fynd ymlaen i achosi emboledd ysgyfeiniol (PE) – lle mae’r clot gwaed yn symud i fyny i’ch ysgyfaint. Gall hynny’ch lladd ac mae angen ei drin ar frys. Felly, os sylwch ar arwyddion DVT, cysylltwch â’ch meddyg teulu ar unwaith.

Gall y bilsen atal cenhedlu gynyddu’ch pwysedd gwaed, felly dylech drefnu i gael ei fesur yn rheolaidd tra byddwch yn cymryd y bilsen.

men

opos

ac

HRT

66–

67

Mae rhai menywod sy’n mynd trwy’r menopos yn dod yn fwy ymwybodol o’u calon yn curo (crychguriadau [palpitations]). Os cewch chi hyn, ewch i weld eich meddyg. Gan amlaf, mae’r crychguriadau’n ddiniwed a dydyn nhw ddim yn golygu bod rhywbeth o’i le ar y galon, ond efallai yr hoffai’ch meddyg roi archwiliad i chi rhag ofn.

Y menopos ac HRT Mae’n bosib bod hormonau’n helpu i warchod menywod rhag clefyd coronaidd y galon (CHD) cyn y menopos. Ond, ar ôl y menopos, rydych yn mynd yn fwy tebygol o gael CHD – ac mae’r risg yn cynyddu wrth i chi heneiddio.

Os ydych yn dioddef symptomau annymunol yn ystod y menopos, efallai y bydd y meddyg yn cynnig therapi adfer hormonau (HRT) i chi i helpu i leihau’r symptomau hynny. Yn y gorffennol, roedd rhai’n credu bod HRT yn helpu i warchod menywod rhag clefyd y galon hefyd. Ond mae gwaith ymchwil mwy diweddar yn awgrymu nad yw hynny’n wir. Gall rhai mathau o HRT achosi cynnydd bach yn y risg o CHD a strôc a’ch gwneud yn fwy tebygol o gael DVT a PE (gweler tudalen 65), yn enwedig ym mlwyddyn gyntaf yr HRT. Felly, ar hyn o bryd, dydy HRT ddim yn cael ei ddefnyddio i warchod menywod rhag CHD. Mae gwaith ymchwil yn cael ei wneud i weld a allai dechrau HRT yn gynt helpu i warchod y galon.

Gall HRT fod yn effeithiol iawn ar gyfer symptomau’r menopos ac, yn achos y rhan fwyaf o fenywod sy’n mynd trwy’r menopos – yn enwedig rai o dan 60 oed – mae manteision cymryd HRT yn fwy na’r peryglon. Fodd bynnag, mae sefyllfa pob menyw’n wahanol a dydy HRT ddim yn addas i bawb, felly holwch eich meddyg a allai HRT fod yn addas i chi.

I gael gwybod rhagor Lawrlwythwch ein taflen wybodaeth HRT and heart disease (IS63) o bhf.org.uk/publications

Gair i gloiDydi hi byth yn rhy hwyr i newid eich ffordd o fyw ac amddiffyn eich calon – neu gadw problem â’ch calon rhag gwaethygu. I ddechrau, os ydych dros 50, trefnwch i weld eich meddyg teulu neu nyrs y practis heddiw i gael archwiliad iechyd. Hefyd, ewch i weld y meddyg os byddwch yn meddwl bod gennych unrhyw un o’r symptomau neu’r ffactorau risg sy’n cael eu trafod yn y llyfryn hwn. A beth am edrych ar y ffactorau risg ar dudalennau 20–48 a dechrau mynd i’r afael â’r un peth rydych am ei newid fwyaf?

Cofiwch, mae’ch iechyd yn bwysig. Mae bron 1800 o fenywod Cymru’n marw o Glefyd Coronaidd y Galon bob blwyddyn. Does dim rhaid i chi fod yn un ohonyn nhw. Cymerwch gamau i warchod eich calon nawr.

Os oes gennych gwestiynau am rai o’r pethau rydyn ni’n eu trafod yn y llyfryn hwn, rydyn ni yma i helpu.Ewch i’n gwefan, bhf.org.uk neu ffoniwch ein Llinell Gymorth y Galon ar 0300 330 3311.

Gair

i glo

i68

–69

70–7

1

Nodiadau.

Quit www.quit.org.uk Mae Quit yn cynnig llinell gymorth mewn gwahanol ieithoedd i helpu pobl i roi’r gorau i smygu.

AlcoholDrinkline 0800 917 8282 Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyfrinachol ynghylch yfed a phroblemau yfed.

Cwnsela, straen a gorbryderCymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) 01455 883300 www.bacp.co.uk Help i ganfod cwnselydd addas yn eich ardal chi.

No Panic 0808 808 0545 www.nopanic.org.uk Cefnogaeth i rai sy’n cael pyliau o banig neu’n dioddef o ffobia neu fathau eraill o orbryder.

Y Samariaid 08457 909090 www.samaritans.org Cefnogaeth gyfrinachol, anfeirniadol, 24 awr y dydd, i unrhyw un sy’n dioddef gofid meddwl, anobaith neu’n ofni eu bod am ladd eu hunain.

Mudiadau defnyddiolGwybodaeth feddygolBlood Pressure Association 0845 241 0989 www.bloodpressureuk.org

Diabetes UK 0845 120 2960 www.diabetes.org.uk

Heart UK (Elusen Colesterol) 0845 450 5988 www.heartuk.org.uk

Y Gymdeithas Strôc 0303 3033 100 www.stroke.org.uk

Women’s Health Concern 01628 478 473 www.womens-health-concern.org

Rhoi’r gorau i smyguLlinell Gymorth y GIG ar gyfer Ysmygu a Beichiogrwydd 0800 169 9 169 I ferched sy’n feichiog ac yn ceisio rhoi’r gorau i smygu neu sy’n awyddus i gael babi ac yn dymuno rhoi’r gorau iddi.

Dim Smygu Cymru 0800 022 4 332 www.dimsmygucymru.com Cewch chwilio am wasanaeth lleol y GIG i’ch helpu i roi’r gorau i smygu.

Sefy

dlia

dau

defn

yddi

ol e

raill

72–7

3

Adnoddau gan y British Heart Foundation Mae’r British Heart Foundation (BHF) yn cynhyrchu llawer o wahanol adnoddau i’ch helpu chi a’ch teulu a’ch ffrindiau i ofalu am iechyd y galon – soniwyd am lawer ohonynt yn y llyfryn hwn.

Os hoffech archebu ein llyfrynnau neu’n DVDs:• Ffoniwch Linell Archebu BHF ar 0870 600 6566• Ebostiwch [email protected]• Ewch i bhf.org.uk/publications

Gallwch lawrlwytho llawer o’n cyhoeddiadau o’n gwefan – bhf.org.uk Os hoffech wybodaeth am ein holl adnoddau, gofynnwch am gopi o’n catalog (G5).

Sut y gallwch chi helpuMae ein hadnoddau a’n gwasanaethau am ddim, ond rydym yn dibynnu ar gyfraniadau i wneud ein gwaith hanfodol. Os hoffech wneud cyfraniad, ffoniwch ein llinell gyfraniadau ar 0300 330 3322 neu ewch i’n gwefan bhf.org.uk/donate. Neu gallwch lenwi’r ffurflen ar y dudalen nesaf a’i hanfon atom yn y cyfeiriad ar y cefn. Y British Heart Foundation (BHF) yw elusen genedlaethol y galon. Mae’n achub bywydau trwy waith ymchwil arloesol, gofalu am gleifion a rhannu gwybodaeth bwysig.

Bydd eich cefnogaeth chi yn ein helpu yn y frwydr yn erbyn clefyd y galonDyma fy rhodd i helpu rhagor o bobl i wella o broblemau gyda’r galon.

£10 £15 £20 arall £ Gwnewch eich siec / archeb bost / taleb CAF yn daladwy i’r British Heart Foundation

TeitlEnw llawnCyfeiriad

EbostHoffem gadw mewn cysylltiad â chi i roi gwybod i chi bod eich cymorth wedi gwneud gwahaniaeth. Trwy roi’ch cyfeiriad ebost, rydych yn cytuno y caiff y BHF ei ddefnyddio i gysylltu â chi ynglŷn â’n gwaith.

NEU cewch dynnu’r swm uchod o’m cyfrif:

Cerdyn CAF MasterCard Visa/Delta Maestro Amex Rhif y Cerdyn

Dilys o Daw i ben Rhif cyhoeddi

Llofnod

I wneud cyfraniad ar unwaith, ffoniwch 0300 330 3322 â manylioneich cerdyn credyd. Llinellau ar agor Llun–Gwener, 9am–5pm. Neu ewch i bhf.org.uk

(Maestro yn unig)

(Maestro yn unig)

Ticiwch yma os nad ydych yn dymuno i’r BHF gysylltu â chi. (MP0059)

O bryd i’w gilydd, rydym yn rhoi caniatâd i fudiadau eraill tebyg i ysgrifennu at ein cefnogwyr. Os nad ydych yn dymuno iddyn nhw gysylltu â chi, ticiwch yma. (MP0060)

Y British Heart Foundation yw elusen genedlaethol y galon. Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr (225971) ac yn yr Alban (SC039426)

10BS00 CC12CC

Cod post

Manylion ar gefn y ffurflen hon

Heart MattersGwasanaeth di-dâl, personol i chi, yw Heart Matters ac mae’n eich helpu i fyw gyda chalon iach.

Ymunwch â Heart Matters heddiw i gael manteision fel cylchgrawn arbennig, Llinell Gymorth, a lle arbennig i aelodau ar y wefan gyda ryseitiau, erthyglau ac awgrymiadau ynghylch eich ffordd o fyw. Ymunwch trwy fynd i bhf.org.uk/heartmatters neu ffonio 0300 330 3300. Llinellau ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener (cost debyg i rifau 01 neu 02).

Llinell Gymorth y GalonMae llinell gymorth y galon yn rhoi gwybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad i bawb y mae clefyd y galon yn effeithio arnynt neu sydd am ofalu am eu calon. Ffoniwch ni ar 0300 330 3300; llinellau ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener (cost debyg i rifau 01 neu 02) neu ebostiwch [email protected]

Dweud eich dweudByddem yn croesawu’ch sylwadau chi i’n helpu i roi’r wybodaeth orau i chi. Beth am ddweud eich barn? Gallwch gysylltu â ni trwy ein gwefan, bhf.org.uk/contact

DiolchiadauHoffem ddiolch i Dr E. Jane Flint am ei help wrth baratoi’r llyfryn hwn. Dr Flint yw Cardiolegydd Ymgynghorol Arweiniol Ymddiriedolaeth GIG Grŵp Ysbytai Dudley ac mae’n gadeirydd Cydweithgor Cymdeithas Gardiofasgwlaidd Prydain ym maes Argymhellion Iechyd y Galon i Fenywod.

Gall eich rhodd fod yn werth 25% yn fwy – heb gost ychwanegol i chi!

Ydych chi’n talu treth yn y DU? Os ydych yn talu treth yn y DU, ticiwch y blwch cyntaf fel y gallwn hawlio hyd at 25c am bob £1 a roddwch heb gost ychwanegol i chi.

GA1 Ydw, rwy’n talu treth yn y DU a hoffwn i’r BHF

hawlio’r dreth yn ôl y cyfraniad hwn, unrhyw gyfraniadau a wnes yn y pedair blynedd ddiwethaf ac unrhyw gyfraniadau a wnaf o hyn ymlaen.*

Dyddiad / /

GA2

Na, nid wyf yn talu treth.* Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd, mae’n rhaid eich bod yn

talu swm o Dreth Icwm a/neu Dreth Enillion Cyfalaf yn y Deyrnas Unedig sydd o leiaf gymaint â’r dreth y bydd yr holl elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASCs) yr ydych yn cyfrannu atynt yn ei hawlio yn ôl ar eich rhoddion am y flwyddyn dreth honno (6 Ebrill yn un flwyddyn tan 5 Ebrill yn y nesaf). Nid yw trethi eraill fel TAW a’r Dreth Gyngor yn gymwys. Os hoffech ragor o wybodaeth am hyn, neu swm y dreth y gall y BHF ei hawlio yn ôl, gallwch gysylltu â’n tîm Gofal am Gefnogwyr ar 0844 847 2787.

Ers dros 50 mlynedd, rydym wedi arloesi gyda gwaith ymchwil sydd wedi trawsnewid bywydau miliynau o bobl sy’n byw gyda chlefyd cardiofasgwlaidd. Bu gennym ran ganolog yn y gwaith o ddarganfod triniaethau pwysig i newid y frwydr yn erbyn clefyd y galon.

Ond mae clefyd cardiofasgwlaidd yn dal i ladd tuag un o bob pedwar person yn y Deyrnas Unedig, gan eu dwyn oddi wrth eu teuluoedd a’u hanwyliaid.

O fabanod sy’n cael eu geni â phroblemau ar y galon sy’n bygwth eu bywydau, i lu o famau, tadau, neiniau a theidiau sy’n dod dros drawiad ar y galon ac sy’n gorfod wynebu brwydrau methiant y galon o ddydd i ddydd.

Ymunwch yn ein brwydr dros bob curiad calon yn y Deyrnas Unedig. Bydd pob punt a godir, pob munud o’ch amser a phob cyfraniad i’n siopau yn helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Tecstiwch FIGHT i 70080 i roi £3

Mae hwn yn wasanaeth cyfraniadau elusennol i’r BHF. Mae’r negeseuon testun yn costiio £3 + 1 neges cyfradd safonol. Bydd y BHF yn cael 100% o’ch rhodd i ariannu ein gwaith ymchwil sy’n achub bywydau.I optio allan o alwadau ac SMS tecstiwch NOCOMMS BHF i 70060, neu os oes gennych gwestiynau am eich rhodd, ffoniwch 02032827862. © British Heart Foundation 2015, elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (rhif 225971) ac yn yr Alban (SC039426). M37W/0315


Top Related