diwyddiadau | amgueddfa wlan cymru

6
Hydref 2013 – Mawrth 2014 Digwyddiadau Amgueddfa Wlân Cymru Arddangosfeydd Hwyl i’r Teulu Sgyrsiau a Theithiau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Upload: amgueddfa-cymru

Post on 27-Mar-2016

232 views

Category:

Documents


3 download

DESCRIPTION

Diwyddiadau Amgueddfa Wlan Cymru: Hydref 2013 - Mawrth 2014

TRANSCRIPT

Page 1: Diwyddiadau | Amgueddfa Wlan Cymru

1

Hydref 2013 – Mawrth 2014

DigwyddiadauAmgueddfa Wlân Cymru

ArddangosfeyddHwyl i’r TeuluSgyrsiau a Theithiau

ww

w.am

gu

edd

facymru

.ac.uk 0300 111 2 333

1092_What's_on_Wool_A5_WEL_P2.indd 1 14/08/2013 09:53

Page 2: Diwyddiadau | Amgueddfa Wlan Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Tan Sad 9 TachweddBrunel – Gweithiau yng Nghymru

Tan Sad 2 Tachwedd Gweuwaith Kaffe FassettGweuwaith gwych y dylunydd tecstilau o fri rhyngwladol, Kaffe Fassett. Mae’r artist hwn, a aned yn America, fwyaf adnabyddus am ei ddyluniadau lliwgar. Bydd ei gwiltiau clytwaith hefyd i’w gweld yng Nghanolfan y Cwilt Cymreig, Llambed. www.welshquilts.com

Tan Sad 9 TachweddBrunel – Gweithiau yng NghymruArddangosfa sy’n edrych ar ran Isambard Kingdom Brunel yn y gwaith o adeiladu rheilffyrdd, pontydd a dociau Cymru gan ganolbwyntio’n benodol ar ei ddyfeisgarwch wrth ddefnyddio peirianneg i orchfygu rhwystrau naturiol systemau trafnidiaeth.

Maw 12 Tachwedd – Merch 15 IonawrCystadleuaeth Colegau CymruArddangosfa o waith a gyflwynwyd ar gyfer cystadleuaeth i fyfyrwyr celf, dylunio, crefft a

phensaernïaeth yng Nghymru ar thema ‘Teithiau’, gan ddwyn ysbrydoliaeth o gasgliadau Amgueddfa Wlân Cymru, Canolfan y Cwilt Cymreig a Chastell Aberteifi.

Sad 23 Tachwedd – Sad 1 Chwefror Dathlu’r DeugainYn 2012, dathlodd Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ei phen-blwydd yn 40. Dyma gipolwg ar sut a pham y cafodd safle diwydiannol ei weddnewid yn amgueddfa ym 1972 a’r hyn sydd wedi digwydd yno ers hynny.

Arddangosfeydd

2 Amgueddfa Wlân Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Amgueddfa Wlân Cymru

1092_What's_on_Wool_A5_WEL_P2.indd 2 14/08/2013 09:53

Page 3: Diwyddiadau | Amgueddfa Wlan Cymru

Grwpiau Rheolaidd

3

Gadewch i hanes gwlân – diwydiant pwysicaf Cymru ar un adeg – nyddu ei swyn yn yr amgueddfa unigryw hon sy’n dal i fod ar waith yn Nyffryn Teifi .

Ar agorHydref – Mawrth: 10am – 5pm, dydd Mawrth-dydd Sadwrn.

Ebrill – Medi: 10am – 5pm bob dydd.

I gael rhagor o wybodaeth, ac i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk

Amgueddfa Wlân CymruDre-fach Felindre, ger Castellnewydd Emlyn, Llandysul, Sir GaerfyrddinSA44 5UPFfôn: (029) 2057 3070 neu 0300 111 2 333 (galwadau cyfradd leol)

Manylion yn gywir wrth fynd i’r wasg. Cysylltwch â ni cyn teithio’n unswydd.

Amgueddfa Wlân Cymru

Taith Dywys

Ewch gam ymhellach ar eich ymweliad ar daith dywys gyda’n crefftwyr profi adol. Cysylltwch â’r Amgueddfa am fanylion.

Llwybr y Pentref

Taith gerdded hunan dywys o amgylch Dre-fach Felindre sy’n cynnwys ffeithiauhanesyddol a diddorol am y diwydiant gwlân yn yr ardal.

Stori Wlanog

Taith hwyliog ac addysgol i deuluoedd sy’n esbonio’r broses o gnu i garthen.

Julia Griffi ths JonesDewch i weld gwaith yr artist o Sir Gaerfyrddin a dilyn y Llwybr Teuluol cysylltiedig.

Dyl

un

io g

illad

vert

isin

g.c

om

Dydd Mawrth 1af a 3ydd bob mis, 2pm – 4pm Y Clwb Gwau

Ymunwch â’r grwp i wau, rhannu patrymau a syniadau. Croeso i bawb o bob gallu.

Bob ail ddydd Mercher y mis, 10.30am – 3pmTroellwyr Sir Gaerfyrddin a Throellwyr, Gwehyddwyr a Lliwyddion Ceredigion

Croeso i bawb, dewch â’ch deunydd eich hun.

Bob yn ail ddydd Sadwrn, 2pmCyngor Cymuned Celfyddydol Teifi Ganol

Dewch i weld y grwp yn arddangos eu sgiliau.

Llwybrau a Theithiau

MYNEDIAD AM D

DIM

MYN

EDIAD AM DDIM

Teuluoedd Oedolion Ymarferol Arddangosiad Taith

Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol

facebook.com/amgueddfawlan

@AmgueddfaWlan

1092_What's_on_Wool_A5_WEL_P2.indd 3 14/08/2013 09:53

Page 4: Diwyddiadau | Amgueddfa Wlan Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Cert celf: gweithgareddau creadigol i blant

Digwyddiadau

Sad 26 Hydref – Sad 2 Tachwedd, 10am – 5pm (ar gau 27 – 28 Hydref)Gweithgareddau Hanner Tymor

Maw 3 – Maw 24 Rhagfyr 10am – 4.30pm (ar gau ar ddyddiau Sul a Llun)Cert Celf y Nadolig

Sad 25 Ionawr 10am – 4.30pm Cert Calon Diwrnod Santes Dwynwen

Sad 15 Chwefror 10am – 4.30pm Cert Calon Dydd Sant Ffolant

Sad 22 Chwefror – Sad 1 Mawrth (ar gau 23 – 24 Chwefror)Gweithgareddau Hanner Tymor

Sad 2 Tachwedd 10am – 3pm Ffair Hen Grefftau a Threnau Bach Dewch i fwynhau trenau bach ar waith a hen grefftau.

Sad 30 Tachwedd 10am – 3pm Ffair Fwyd a Chrefftau’r Nadolig Dyma’ch cyfle i siopa’r holl anrhegion Nadolig mewn un ymweliad a chefnogi cynhyrchwyr lleol. Bydd crefftau gwledig, crefftau tecstilau, gwaith coed, sebon, canhwyllau, jamiau, pwdinau Nadolig a llawer mwy.

Maw 17 Rhagfyr, 6.30pm Canu Carolau gyda Siôn CornYmunwch â ni i ganu carolau a bydd Siôn Corn yn galw draw!

Sad 1 Mawrth, 10am – 3pm Diwrnod Hwyl i’r TeuluGemau, gweithgareddau a chystadlaethau i bawb. Mewn cydweithrediad â Menter Gorllewin Sir Gâr, Cered a TWF.

4 Amgueddfa Wlân Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Amgueddfa Wlân Cymru

1092_What's_on_Wool_A5_WEL_P2.indd 4 14/08/2013 09:53

Page 5: Diwyddiadau | Amgueddfa Wlan Cymru

5

Digwyddiadau Gweithdai

Gwe 11, Gwe 18 a Gwe 25 Hydref, 1pm – 4pm Creu Basged Helyg Draddodiadol

Dewch i greu basged helyg o helyg lleol a helyg Gwlad yr Haf. Cynhelir tair sesiwn hanner diwrnod, £15 y sesiwn neu £40 am y tri. Gallwch greu basged ffrwythau fach mewn dwy sesiwn neu fasged casglu mwyar/siopa mewn tair. Addas i ddechreuwyr. Rhaid archebu lle: 07964 530436.

Sad 19 Hydref 11am – 4.30pm Rygiau Rhacs

Dewch i greu sgarff neu het wlanog o hen siwmper a’i haddurno gan ddefnyddio technegau rygiau rhacs. £30 y pen. Rhaid archebu lle: 01974 282530.

Sad 26 Hydref, 10am – 4pm Diwrnodau Nyddu i Ddechreuwyr

Cyflwyniad i fathau o gnu, paratoi, nyddu a cheincio. £25 y pen. Rhaid archebu lle: 01559 384304.

Sad 9 Tachwedd 10am – 4pm Lliwio Naturiol

Dewch i greu ystod gyffrous o liwiau gan ddefnyddio planhigion a dysgu sut i baratoi gwlân a’i liwio. £35 y pen, darperir deunyddiau. Rhaid archebu lle: 01239 614023.

Sad 23 Tachwedd 11am – 4.30pm Rygiau Rhacs

Cyfle i greu torch Nadoligaidd fydd yn para am flynyddoedd. Gweler 19 Hydref am fanylion archebu.

Sad 30 Tachwedd 10am – 4pm Nyddu Hirdro

Cyflwyniad i nyddu hirdro. £25 y pen. Rhaid archebu lle: 01559 384304.

Gwe 6 Rhagfyr, 1pm – 4pm Gweithdy Helyg y Nadolig

Creu eitemau ar gyfer Heuldro’r Gaeaf a Nadolig Celtaidd gan gynnwys addurniadau bwrdd, sêr a chadwyni. Addas i ddechreuwyr. £15 y pen. Rhaid archebu lle: 07964 530436.

Sad 14 Rhagfyr 11am – 4.30pm Rygiau Rhacs

Projectau rygiau rhacs bach gan gynnwys tlysau blodau ac anrhegion ac addurniadau eraill. Gweler 19 Hydref am fanylion archebu.

Ffoniwch i archebu lle Teuluoedd Oedolion Ymarferol

Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol

Sad 12 Hydref Sad 16 Tachwedd Sad 21 Rhagfyr, Sad 11 a Sad 25 Ionawr Sad 8 a Sad 22 Chwefror Sad 8 a Sad 22 Mawrth 10.30am – 12.30pmCrosio i Ddechreuwyr

Perffaith os ydych chi am fentro i fyd crochet, wedi anghofio sut neu angen cymorth i ddarllen patrymau. Darperir deunyddiau ar gyfer projectau bach. £4 y pen. Rhaid archebu lle: 01239 842018.

1092_What's_on_Wool_A5_WEL_P2.indd 5 14/08/2013 09:53

Page 6: Diwyddiadau | Amgueddfa Wlan Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Sad 14 Rhagfyr 11.30am – 2.30pm Uwchgylchu Nadoligaidd

Dewch i greu addurniadau Nadoligaidd neu ddeunyddiau lapio anrhegion o hen lyfrau, papur wal, mapiau a cherddoriaeth ddalen. £2 y pen, addas i oed 6+. Ffoniwch yr Amgueddfa i archebu eich lle.

Sad 18 Ionawr 10am – 4pm Diwrnodau Nyddu i Ddechreuwyr

Gweler 26 Hydref.

Sad 1 ChwefrorDefnyddio Lliw wrth Nyddu

Dysgu am ddefnyddio lliw wrth nyddu. £25 y pen. Rhaid archebu lle: 01559 384304.

Sad 15 Chwefror 11am – 4.30pm Rygiau Rhacs

Technegau bachu cywrain i greu lluniau ac addurniadau i’w rhoi ar y wal. Gweler 19 Hydref am fanylion archebu.

Sad 15 Mawrth 11am – 4.30pm Rygiau Rhacs

Creu matiau bach a phaneli addurniadol trwy fachu gwahanol ddefnyddiau trwy gynfas a’u dal yn eu lle gydag ‘edau glo’. Gweler 19 Hydref am fanylion archebu.

Gweithdai

Ffoniwch i archebu lle Oedolion Ymarferol

Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol

6 Amgueddfa Wlân Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Sad 4 Ionawr 11am – 4.30pm Rygiau Rhacs

Gwau â gwydd peg gan ddefnyddio rhacs i greu ryg maint clustog. Gweler 19 Hydref am fanylion archebu.

1092_What's_on_Wool_A5_WEL_P2.indd 6 14/08/2013 09:53