dafydd ap gwilym - ‘yr wylan ’

43
Dafydd ap Gwilym - ‘Yr Wylan’

Upload: vance

Post on 23-Feb-2016

65 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Dafydd ap Gwilym - ‘Yr Wylan ’. Amcanion Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu : Adnabod nodweddion cerdd llatai Trafod y dylanwadau a fu ar Dafydd ap Gwilym (I gyd yn gywir a heb gymorth ). Yr Wylan ( Rhan 1) Yr wylan deg ar lanw , dioer , - PowerPoint PPT Presentation

TRANSCRIPT

Page 1: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Dafydd ap Gwilym

-‘Yr Wylan’

Page 2: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Amcanion

Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu:

-Adnabod nodweddion cerdd llatai

-Trafod y dylanwadau a fu ar Dafydd ap Gwilym

(I gyd yn gywir a heb gymorth)

Page 3: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’
Page 4: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Yr Wylan (Rhan 1)

Yr wylan deg ar lanw, dioer, 

Unlliw ag eiry neu wenlloer, 

Dilwch yw dy degwch di, 

Darn fal haul, dyrnfol heli. 

Ysgafn ar don eigion wyd, 

Esgudfalch edn bysgodfwyd. 

Yngo'r aud wrth yr angor 

Lawlaw â mi, lili môr. 

Llythr unwaith lle'th ariannwyd, 

Lleian ym mrig llanw môr wyd. 

 

  

Page 5: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

(Rhan 2)Cyweirglod bun, cai'r glod bell,

 Cyrch ystum caer a chastell.

 Edrych a welych, wylan,

 Eigr o liw ar y gaer lân.

 Dywaid fy ngeiriau dyun,

 Dewised fi, dos hyd fun.

 Byddai'i hun, beiddia'i hannerch,

 Bydd fedrus wrth fwythus ferch

 Er budd; dywaid na byddaf,

 Fwynwas coeth, fyw onis caf.

  

 

Page 6: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

(Rhan 2 parhad)

Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd, 

Och wŷr, erioed ni charawdd 

Na Merddin wenithfin iach, 

Na Thaliesin ei thlysach. 

Siprys dyn giprys dan gopr, 

Rhagorbryd rhy gyweirbropr. 

Page 7: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

(Rhan 3)Och wylan, o chai weled

 Grudd y ddyn lanaf o Gred,

 Oni chaf fwynaf annerch,

 Fy nihenydd fydd y ferch.

 Dafydd ap Gwilym

www.dafyddapgwilym.net

Page 8: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Cynnwys Yr Wylan

Page 9: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Castell Cricieth

Page 10: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Castell Aberystwyth

Page 11: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Eigr

Enw mam y Brenin Arthur.

Un o ferched harddaf Prydain yn ôl Brut y Brenhinoedd.

Roedd Beirdd y Tywysogion yn aml yn cyfeirio ati.

Page 12: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Myrddin Cymeriad pwysig yn    llenyddiaeth Cymru.

Cysylltiedig â’r hanesion am Arthur.

Bardd o’r 6ed ganrif.

 Ymwybyddiaeth o’i gefndir barddol.

Awyddus i gadw cysylltiad â’r traddodiad hwnnw.

Myrddin yn adrodd ei farddoniaeth, o lyfr o Ffrainc o'r 13eg ganrif.

Page 13: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Taliesin•Bardd llys yn yr Hen Ogledd.

•6ed ganrif.

•Nifer o gyfeiriadau ato gan Feirdd y Tywysogion.

•Ymwybyddiaeth o gyfoeth y traddodiad barddol.

Page 15: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Cywydd llatai

Bardd yn anfon yr wylan gyda neges serch at ei gariad.

Merch di-enw.Byw mewn tref lan-y-môr sydd gyda chastell.

D.J. Bowen = AberystwythAnthony Conran = Cricieth

Agor trwy ganmol yr wylan.Disgrifiad o’r ferch hefyd?

Ai Morfudd yw’r ferch?

Mynd ymlaen i ofyn wrth yr wylan ddwyn neges i’w gariad.

Cloi’r gerdd gyda chonfensiwn poblogaidd y canu serch y bydd y ferch yn achosi ei farwolaeth.

Page 21: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Croen golau = harddwch yn yr Oesoedd Canol

Lliw haul = harddwch heddiwLlun:www.flickr.co.uk

Page 22: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Cefndir Yr Wylan

Page 24: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Pam dewis yr wylan fel llatai?

Cyflymder

Hedfan yn syth i’r man a ddynodwyd.

Symbol o brydferthwch y ferch. Pam?

Page 25: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Dylanwadau - Beirdd y Tywysogion• Gwreiddiau’r confensiwn i’w darganfod yng ngwaith rhai o Feirdd y Tywysogion yn y 12fed a’r 13eg ganrif.

• Cynddelw Brydydd Mawr = gyrru march fel negesydd serch ar ei ran.

• NID OES enghraifft arall o adar neu anifeiliaid fel negesyddion serch yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr.

Page 27: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Dylanwadau – Pedair Cainc Y Mabinogi

Chwedl Branwen ferch Llŷr

• Atgoffa o’r ddrudwy a yrrodd Branwen gyda llythyr i’w brawd yng Nghymru.

Page 28: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Tasg

Yn unigol, lluniwch siart bry cop gan gynnwys y penawdau y byddwch chi’n ei drafod am gefndir Yr Wylan a Dafydd ap

Gwilym.

Er enghraifft: Uchelwr

Page 29: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Cefndir Dafydd ap Gwilymfl. 1340-1370

UchelwrCymeriad lliwgar

Geni: Brogynin, Llanbadarn Fawr

Bardd natur a serch

Teulu dylanwadol yn y Deheubarth.

Ewythr – Llywelyn ap Gwilym – Cwnstabl Castell Newydd Emlyn – Athro Barddol

Page 30: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

28 copi mewn llawysgrifau e.e. Peniarth 49

Cywydd yn y person cyntaf – Dafydd yw’r carwr dioddefus

Lleoliad – D. J. Bowen yn awgrymu Castell Aberystwyth.Anthony Conran – Castell Cricieth

Cywydd llatai, serch a natur

Page 31: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Merch di-enw

Morfudd?

Morfudd =

•Un o brif gariadon Dafydd• Gwraig briod• Llysenw ei gŵr oedd ‘Y Bwa Bach’. • Byw ger Aberystwyth• Dod o deulu da• Gwallt golau ac aeliau tywyll ganddi• 80 o gerddi iddi

Page 32: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Y System Nawdd

Beirdd yr UchelwyrUchelwyr yn noddi’r beirdd ac 

yn dechrau barddoni eu hunain Clera

1282 – Cwymp y Tywysogion

Diwedd nawdd  Dosbarth newydd o dirfeddianwyr 

Beirdd y Tywysogion

2 ganrif lewyrchus Tywysogion yn noddi’r beirdd

Page 33: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Datblygiad y Cywydd

Traethodl  Cywydd

Dafydd ap Gwilym yn safoni’r mesur yma drwy osod cynghanedd ym mhob llinell.

Page 34: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Yr Wylan - Cerdd Serch• 4/5 o gerddi Dafydd yn ymwneud â serch a natur.

• Beirdd y Tywysogion:

- Awdlau serch Hywel ab Owain- Enghraifft dda o’r canu goddrychol yma yn llais y carwr dioddefus. - Dafydd  yn  gyfarwydd  â  cherddi  Hywel  ab  Owain .

Page 35: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Yr Wylan – Serch Cwrtais

Perthynas rhwng y cerddi llatai â chysyniad Serch Cwrtais Cyfandirol:

• Anfon llatai – delwedd o’r ferch fel un anghyraeddadwy

• Dafydd – y carwr dioddefus

• Claf o gariad

Page 36: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Yr Wylan – cerdd natur

• Cerddi Ffrangeg alegoriol lle mae’r adar yn trafod pynciau serch ynddynt.

• Gramadeg Einion Offeiriad:Hen englynion sy’n cyfuno doethineb  â disgrifiadau cryno o fyd natur. Hefyd, mae adar yn cael eu personoli i fod â nodweddion dynol ynddo yn union fel mae Dafydd yn ei wneud yn y cywydd hwn.

Page 37: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Yr Wylan – cerdd natur

•Natur yn mynd law yn llaw â serch.

•Cerdd llatai – creadur o fyd natur yn cynorthwyo Dafydd ar lwybr serch.

•Disgrifiad llachar o wynder yr Wylan – hefyd yn awgrymu rhinweddau’r ferch.

•Yr wylan yn ddelwedd adnabyddus am harddwch merch.

Page 38: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Yr Wylan – cerdd natur

Unigryw:

Yr hyn sy’n gwneud y cywydd hwn yn wahanol yw manylder synhwyrus Dafydd –

Disgrifiadau  y  mae  a  wnelont  fwy  â  phrofiad  a  sylwgarwch  y  bardd  nag  ag  unrhyw  gonfensiwn  llenyddol.  

Page 39: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Camp Dafydd ap Gwilym

Soniodd Huw Meirion Edwards am allu Dafydd ap Gwilym i osod stamp ei bersonoliaeth ar yr holl ddylanwadau hyn gan greu, o ganlyniad, waith cwbl newydd a ffres:

“Pwysicach  na  phob  dylanwad  yw  dychymyg  ac  egni  creadigol  cynhenid  Dafydd,  a’i  galluogodd  i  drawsnewid  yr  hyn  a  glywodd  ac  a  ddarllenodd  ym  mhair  ei  weledigaeth  ef  ei  hun.”

Page 40: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Tasg

Yn eich grwpiau, paratowch gyflwyniad am gefndir Dafydd ap Gwilym a chywydd Yr

Wylan.

Defnyddiwch eich siart bry cop i’ch helpu.

Byddwch yn cyflwyno eich canfyddiadau i weddill y dosbarth.

Amser: 10 munud.

Page 41: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Tasg

Yn unigol, ysgrifennwch frawddeg agoriadol eich

traethawd ar gefndir Dafydd ap Gwilym a’r cywydd ‘Yr

Wylan’.

Page 42: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Gwaith Cartref:

Ysgrifennwch draethawd am gefndir Dafydd ap Gwilym a chywydd Yr Wylan gan ddefnyddio’r hyn a wnaethoch yn y

dosbarth heddiw fel sylfaen i’r gwaith.

Erbyn wythnos i heddiw.

Page 43: Dafydd ap Gwilym - ‘Yr  Wylan ’

Cefndir

1. Cywydd llatai + serch a natur 2. Lleoliad -

Aberystwyth?/Cricieth?

3. Morfudd?

5. Bardd = - Pwy?- Beth?- Pryd?- Lle?

4. 28 copi mewn llawysgrif

6. System nawdd7. Datblygiad y cywydd

8. Serch – Beirdd y Tywysogion

9. Serch – Y Trwbadawriaid

10. Serch Cwrtais

11. Branwen ferch Llŷr

12. Natur – cerddi Ffrengig

13. Natur – Gramadeg Einion Offeiriad

14. Unigryw