cyflwyniad i hawliau plant
DESCRIPTION
CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT. Gwaith gr ŴP. agenda. Beth yw hawliau plant? Pam hawliau plant? Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Hawliau plant yng Nghymru Hawliau plant ac athrawon Myfyrio a gwerthuso. HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD. Cyffredinol Diymwad Annatod - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT
Gwaith grŴP
agenda
• Beth yw hawliau plant?• Pam hawliau plant?• Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar
Hawliau’r Plentyn• Hawliau plant yng Nghymru• Hawliau plant ac athrawon• Myfyrio a gwerthuso
HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD
• Cyffredinol
• Diymwad
• Annatod
• Atebol
EGWYDDORION FREDA
• Tegwch a rhyddid (Fairness and freedom)
• Parch (Respect)• Cydraddoldeb (Equality)• Urddas (Dignity)• Ymreolaeth (Autonomy)
PAM MAE ANGEN HAWLIAU YCHWANEGOL AR BLANT?
• Aeddfedrwydd• Heb lais ac yn anweledig• Eiddo
DYMUNIADAU, ANGHENION A HAWLIAU
• Dymuno – awydd i gael rhywbeth
• Angen – y cyflwr o fod angen cymorth, neu â phrinder hanfodion sylfaenol fel bwyd
• Hawl – hawl foesol neu gyfreithiol i gael neu wneud rhywbeth
4 ELFEN HAWL
1. Y sawl sydd â’r hawl (yr unigolyn)2. Y gwrthrych (yr hyn y mae
ganddynt hawl i’w gael)3. Y rhai â dyletswydd (pobl neu
sefydliad)4. Y cyfiawnhad (mwy o urddas i’r
unigolyn, datblygiad cymdeithasol, cymdeithas heddychlon)
CORFF HAWLIAU
CONFENSIWN Y CENHEDLOEDD UNEDIG AR HAWLIAU’R PLENTYN
• 54 erthygl• 41 prif erthygl• 3 pharth
4 HAWL SYLFAENOL
Erthygl 2 – Dim gwahaniaethuErthygl 3 – Lles y plentynErthygl 6 – Hawl i fywydErthygl 12 – Hawl i gael eich clywed
Y SAFONAU CENEDLAETHOL AR GYFER CYFRANOGIAD PLANT A PHOBL IFANC
1. Gwybodaeth – sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei deall
2. Eich dewis chi – digon o wybodaeth ac amser i wneud dewis gwybodus
3. Dim gwahaniaethu – mae gan bob person ifanc yr un cyfle i gymryd rhan
4. Parch – byddwn yn parchu’ch barn chi5. Byddwch chi ar eich ennill hefyd –
byddwch chi’n mwynhau’r profiad6. Adborth - byddwch chi’n gwybod pa
wahaniaeth mae’ch barn chi wedi’i wneud
7. Gwella ein ffordd o weithio – bydd oedolion yn gofyn i chi sut gallan nhw wella eu ffordd o weithio gyda chi yn y dyfodol
GWEITHREDU’r HAWL I ADDYSG- ENGHRAIFFT
Llywodraeth
Dyletswydd i chwilio am adnoddau a’u dyrannu, diffinio polisi, sicrhau cynnydd yn erbyn targedau
Sefydliadau addysg
Dyletswydd i hyfforddi athrawon, trefnu adnoddau, creu amgylchedd sy’n ystyriol o blant
Athrawon Dyletswydd i addysgu’n dda, annog rhieni, cynorthwyo pob plentyn
Rhieni Dylent gefnogi addysg eu plant
Plant a phobl ifanc
Dylent barchu plant eraill er mwyn cefnogi’u cyfoedion i ymarfer eu hawliau
Y BROSES ADRODD
• Bob 5 mlynedd• Adroddiadau i’r Cenhedloedd Unedig:
– Llywodraeth y DU (gan gynnwys adran gan Lywodraeth y Cynulliad)
– Adroddiadau Cyrff Anllywodraethol– Adroddiad pobl ifanc– Adroddiadau’r Comisiynwyr Plant (4 gwlad)
• Sylwadau i gloi• Cynllun gweithredu Llywodraeth y Cynulliad• Grŵp monitro
AMSER PANED
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I ATHRAWON 1Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol1. Sicrhau bod oedolion a phlant yn gwybod am hawliau Confensiwn y
Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac yn eu deall2. Sicrhau bod egwyddorion a gwerthoedd Confensiwn y Cenhedloedd
Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ganolog i bopeth sy’n digwydd mewn ysgolion
3. Darparu hyfforddiant ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i bob oedolyn sy’n gweithio gyda phlant, yn cynnwys athrawon
4. Sicrhau bod y teulu, yr ysgol, cymunedau a sefydliadau’n parchu barn plant
5. Sicrhau bod cosb gorfforol yn cael ei gwahardd yn bendant mewn ysgolion
6. Sefydlu ffyrdd o wirio faint o achosion o drais, cam-drin rhywiol, esgeulustod, triniaeth wael neu ecsbloetio a geir mewn ysgolion
7. Sicrhau bod athrawon yn gwybod am eu dyletswydd i adrodd am achosion lle yr amheuir trais domestig sy’n effeithio ar blant a mynd i’r afael â’r achosion hyn
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I ATHRAWOn 2Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol8. Darparu hyfforddiant i athrawon sy’n gweithio gyda
phlant anabl9. Darparu gwasanaethau ac addysg gwell ym maes rhyw a
pherthnasoedd a sicrhau bod ysgolion yn darparu addysg rhyw
10.Gwneud mwy i sicrhau nad yw cefndir plant (ble maent yn byw, addysg rhieni, incwm) yn effeithio ar eu cyrhaeddiad yn yr ysgol
11.Gwario arian i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn addysg cwbl gynhwysol
12.Sicrhau bod plant nad ydynt yn mynd i’r ysgol yn cael addysg ragorol
13.Gwahardd disgyblion dros dro ac yn barhaol fel y dewis olaf yn unig
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I ATHRAWOn 3Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol14.Gwneud mwy i leihau nifer y plant sy’n cael eu gwahardd
o’r ysgol15.Sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol a seicolegwyr ar
gael mewn ysgolion16.Gwneud mwy i atal bwlio a thrais mewn ysgolion, yn
cynnwys defnyddio addysg am hawliau dynol a goddefgarwch
17.Cael plant i gymryd mwy o ran ym mhopeth sy’n effeithio arnynt yn yr ysgol
18.Sicrhau bod plant yn cael yr hawl i apelio yn erbyn eu gwaharddiad
19.Sicrhau bod pob plentyn yn gallu apelio i dribiwnlys AAA am yr addysg a’r cymorth a dderbyniant
DEDDFWRIAETH A PHOLISÏAU HAWLIAU PLANT YNG NGHYMRU
• Deddf Plant 2004 – mabwysiadodd Llywodraeth y Cynulliad Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel sail i bob polisi plant
• Saith nod craidd – yn seiliedig ar y Confensiwn
• Cynllun Gweithredu Cenedlaethol – Gwneud Pethau’n Iawn 2009 – yn mynd i’r afael ag 16 blaenoriaeth ar gyfer Cymru
• Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) – pasiwyd yn 2010
• Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) – bydd Gweinidogion yn gorfod ystyried y Confensiwn wrth wneud eu holl benderfyniadau
Yr ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I ATHRAWON 1
• Erthygl 12 – hawl i gael dy glywed • Erthygl 13 – rhyddid i fynegi barn• Article 14 – dylai llywodraethau barchu hawliau
plant i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd• Erthygl 16 – hawl i breifatrwydd• Erthygl 17 – hawl i wybodaeth briodol• Errhygl 18 – mae’r ddau riant yn rhannu
cyfrifoldeb am fagu eu plant• Erthygl 19 – amddiffyn rhag camdriniaeth ac
esgeulustod
Yr ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL i ATHRAWON 2
• Erthygl 23 – mae gan blant anabl hawl i ofal, addysg a hyfforddiant arbennig i fwynhau bywyd llawn
• Erthygl 28 – hawl i addysg• Erthygl 29 – dylai addysg ddatblygu
personoliaeth, doniau a galluoedd meddyliol a chorfforol plentyn yn llawn
• Erthygl 31 – hawl i ymlacio, chwarae ac ymuno mewn gweithgareddau diwylliannol
MEDDYLIWCH AM BLENTYN…
RHOI’R HYN A DDYSGWYD AR
WAITH
UNRHYW GWESTIYNAU I GLOI?