cyflwyniad ar worldskills
DESCRIPTION
Cyflwyniad ar Worldskills. Mark Bradley WorldSkills UK, Rheolwr Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru. WorldSkills. Sefydlwyd y Gystadleuaeth Sgiliau Rhyngwladol yn 1950. Cyfeiriwyd atynt cyn hyn fel “Gemau Olympaidd Sgiliau” Caiff ei chynnal bob dwy flynedd - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
Cyflwyniad ar Worldskills
Mark BradleyWorldSkills UK, Rheolwr Cymru
Llywodraeth Cynulliad Cymru
WorldSkills
Sefydlwyd y Gystadleuaeth Sgiliau Rhyngwladol yn 1950.
Cyfeiriwyd atynt cyn hyn fel “Gemau Olympaidd Sgiliau”
Caiff ei chynnal bob dwy flynedd
Ar hyn o bryd mae 51 o wledydd yn cymryd rhan
Cofrestrwyd rhyw 40 o sgiliau swyddogol
Mae’r digwyddiadau yn para am 22 awr dros 4 diwrnod
Mae’r terfyn oed o dan 23 oed ar gyfer y rhan fwyaf o’r cystadlaethau
Gwobrau: Aur, Arian, Efydd, Medaliynau Rhagoriaeth.
1000 o gystadleuwyr, 250,000 o ymwelwyr
www.worldskills.com
Ym mis Mai 2006 enillodd y DU eu cais i wahodd WorkSkills yn 2011.
Arweiniodd UK Skills y cais gyda chymorth gan bartneriaid a Llywodraethau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Caiff ei chynnal rhwng 6 a 9 Hydref 2011 yn ExCeL Llundain. Bydd tua 1,200 o gystadleuwyr o oddeutu 60 gwlad yn cystadlu ar 40 o sgiliau dros gyfnod o bedwar diwrnod o gystadlu brwd.
Y nod yw defnyddio WorldSkills Llundain 2011 i greu gwaddol a fydd o fudd i’r Deyrnas Unedig cyn y digwyddiad, yn ystod y digwyddiad ac wedyn.
www.worldskillslondon2011.com
WorldSkills Llundain 2011
Canlyniadau’r DU
1 Fedal Aur
1 Fedal Arian
2 Fedal Efydd
9 Medaliwn Rhagoriaeth
Cafodd enillydd y Fedal Aur y drydedd sgôr uchaf erioed yn y Gystadleuaeth
11eg safle o’r 48 o wledydd a fu’n cystadlu
2x4ydd lle, 1x5ed lle, 1x6ed lle
Pam cymryd rhan?Cystadleuwyr:
Profi a herio eu sgiliau – deall pa mor dda ydyn nhw – mesur eu hunain yn erbyn rhai eraill yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
• Cynrychioli eu gwlad, eu diwydiant, eu sgil ar Lwyfan y Byd
• Codi safon eu sgiliau a derbyn yr hyfforddiant a’r datblygiad gorau sydd gan y DU i’w cynnig
• Y posibilrwydd o dderbyn cymwysterau ychwanegol er mwyn cydnabod yr hyn a gyflawnwyd ganddynt
• Eu gwneud eu hunain yn atyniadol i gyflogwyr ac yn wahanol i bobl eraill
• Cael profiad a fydd yn newid eu bywydau!
Pam cymryd rhan?Cyflogwyr / Sefydliadau Hyfforddi:
• Hyrwyddo’r diwydiant a’r sgiliau sydd eu hangen i’w gynnal drwy ddangos rhagoriaeth
• Cysylltu eich corff â hyfforddiant o’r radd uchaf
• Denu pobl dalentog i weithio a derbyn hyfforddiant o fewn eich diwydiant neu sefydliad
• Cael cydnabyddaieth, cyfleoedd marchnata a chysylltiadau cyhoeddus – y gallu i ddangos bod eich busnes neu sefydliad hyfforddi yn wahanol i rai eraill
• Meincnodi sgiliau gweithwyr a phobl dan hyfforddiant yn erbyn eraill yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
• Codi safonau sgiliau a datblygu hyfforddiant i ddiwallu’r anghenion o ran sgiliau
• Hyrwyddo hyfforddiant galwedigaethol a phrentisiaethau a newid agweddau a safbwyntiau tuag at gymwysterau galwedigaethol
WorldSkills UK
WorldSkills UK yw’r enw ar gystadlaethau sy’n cael eu rheoli gan UK Skills a phartneriaid ar draws y DU
Cystadlaethau WorldSkills UK yw’r llwybr i gystadlaethau International WorkSkills
Ar hyn o bryd mae rhyw 60 o gystadlaethau WorldSkills UK yn cael eu cynnal ar wahanol lefelau o sgiliau - www.worldskillsuk.org
Mae cystadlaethau WorldSkills UK yn cael eu rheoli, eu datblygu a’u cefnogi gan bartneriaid o fewn y diwydiant, Cynghorau Sgiliau Sector ac addysg.
Cynhelir y cystadlaethau yn ystod y flwyddyn academaidd
Nid oes tâl am gystadlu
Cystadlaethau WorldSkills UK Ffeithiau defnyddiol Cyfyngir ar nifer y cystadleuwyr sy’n cofrestru o un sefydliad hyfforddi unigol.
Dewiswch y cystadleuwyr gorau i’w hanfon i’r gystadleuaeth.
Caniateir cystadleuwyr ychwanegol os ydynt yn dod o gampws gwahanol ac adrannau o fewn sefydliadau hyfforddi mwy o faint.
Mae cystadlaethau WorldSkills UK yn cael eu cynnig ar wahanol lefelau.
Cystadlaethau ar Lefel Estynedig (Lefel 3) a Lefel Uwch (Lefel 4) yw’r rhai y caiff cystadleuwyr eu hystyried fel rheol ar gyfer rhestr fer.
Os yw cystadleuydd yn ennill yn y rhagbrofion ni chaiff ei wahodd yn awtomatig i’r rownd derfynol genedlaethol.
Caiff cystadleuwyr eu gwahodd ar sail y sgorau uchaf a gafwyd yn yr holl gystadlaethau rhagbrofol.
Os yw cystadleuydd yn ennill y gystadleuaeth genedlaethol derfynol ni chaiff le yn awtomatig ar y rhestr fer ar gyfer y DU na’r Sgwad na’r T î m.
Rhaid ystyried ffactorau pwysig eraill cyn dewis.
Mae cystadlaethau WorldSkills UK yn agored i bob oedran.
Mae cyfyngiadau o ran oedran ar gyfer y gystadleuaeth ryngwladol sy’n golygu mai cystadleuwyr sy’n bodloni’r meini prawf penodol o ran oedran yn unig y gallwn eu dewis.
Mae cystadlaethau WorldSkills UK yn agored i holl breswylwyr y DU.
Bydd angen i gystadleuwyr gael pasbort y DU fodd bynnag er mwyn gallu cystadlu ar ran y DU yng nghystadlaethau WorldSkills.
Cystadlaethau WorldSkills UKFfeithiau defnyddiol
Rhan CymruMae cystadlaethau yng Nghymru sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth y Cynulliad (drwy ESF) yn dwyn y brand deuol ’SkillsCompetition Cymru’
Yng ‘nghylch’ cystadlaethau 08/09 – cymerodd 681 o bobl ran yn y Cystadlaethau Sgiliau ar draws nifer o sectorau
Fel rheol bydd cystadlaethau yng Nghymru yn cael eu cynnal o fis Hydref i fis Mai bob blwyddyn
Mae’r cystadlaethau a gynhelir yng Nghymru ar gyfer pob oed ond er mwyn mynd ymlaen i gystadleuaeth International WorldSkills rhaid i ymgeiswyr fod o dan 23 oed o hyd
John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau yn Llywodraeth y Cynulliad, sy’n arwain agenda WorldSkills yng Nghymru a bydd yn cyfarfod Gweinidogion eraill y DU bob tri mis
Y model nodweddiadol yng Nghymru
Cystadlaethau WorldSkills UK Fframwaith nodweddiadol y cystadlaethau yng Nghymru
Welsh regional
Welsh regional
Welsh regional
Welsh final(WorldSkills
UK heat)
WorldSkills UK waiting list
Highest scoring competitors across all heats are invited to the
UK final
Heat 1 Heat 2 Heat 3
UK FinalLle cystadlaethau ‘Cymru’ yn fframwaith cystadlaethau terfynol WorldSkills UK. Rhaid i gystadlaethau terfynol Cymru fodloni gweithdrefnau a safonau WorldSkills UK o ran rheoli ansawdd
Yn y rhagbrofion bydd y cystadleuwyr yn cystadlu yn erbyn yr un safonau a chyfyngiadau amser
Rhaid i’r beirniaid fod yn ddiduedd
Rhaid i’r trefnwyr, y rhai sy’n cynnal y gystadleuaetha’r beirniaid gadw at reolau’r gystadleuaeth
Enter competitors online
Gwahanol gyfrifoldebau
Swyddog arweiniol y gystadleuaeth – cyflwyno cais ar ran y bartneriaeth, yn gyfrifol am y gwaith datblygu cyffredinol, rheoli ac adrodd yn ôl o ran y cystadlaethau. Cydgysylltu’r rhagbrofion a’r rownd derfynol yng Nghymru. Sicrhau bod y gystadleuaeth yn gymwys i fod yn rhan o gystadleuaeth derfynol WorldSkills UK
Dod o hyd i bobl i gymryd rhan a’u hannog a’u cynorthwyo drwy’r broses. Helpu i ddatblygu’r gystadleuaeth yn eich ardal (colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, cyflogwyr, partneriaid mewn diwydiant a rhieni ac ati)
Hyrwyddo cystadlaethau WorldSkills UK a SkillsCompetition Wales – dolenni ar y wefan, cofrestru ar e-gylchgronau, hyrwyddo drwy rwydweithiau ac ati
E-bost: [email protected]
Sicrhau bod gwybodaeth ar gael ar www.wales.gov.uk/worldskills a www.worldskillsuk.org/wales
Cais am gyllidCyn hir bydd Llywodraeth y Cynulliad yn lansio proses ymgeisio i gynnal cystadlaethau sgiliau (SkillsCompetition Wales) yn 2009/10
Hyd at 50% o gyllid i ddatblygu a chynnal cystadlaethau sgiliau
Rhaid i’r cais fod ar ran partneriaeth a chynnwys darparwr o dan gontract i APADGOS sy’n darparu Prentisiaethau
Rhaid i elfennau o’r gystadleuaeth fod ar gyfer pob oedran a bod yn gymwys i fynd yn eu blaen i WorldSkills UK
Rhaid i gystadleuwyr ddilyn y drefn arferol wrth gofrestru a chael gwybod y caiff eu gwybodaeth ei rhannu â Llywodraeth y Cynulliad a UK Skills
Rhaid cyflwyno adroddiadau misol a chadw gwybodaeth ar ffurf y gellir ei harchwilio mewn perthynas â cheisiadau ESF
Caiff y manylion eu cyhoeddi cyn hir a rhoddir yr wybodaeth ar wefan: www.wales.gov.uk/worldskills a www.worldskillsuk.org/wales neu anfonwch e-bost: [email protected]
WorldSkills UK‘Rhestr siopa’ cystadlaethau (07/08)
*Cyfanswm 2112
Cafwyd dros 4000 yn cystadlu yn 08/09 – disgwyl dadansoddiad fesul sector
WorldSkills UKManylion rhanbarthol
Diolch yn fawrUnrhyw
gwestiwn?Mark Bradley
WorldSkills UK, Rheolwr CymruLlywodraeth Cynulliad Cymru
01443 663783 [email protected]