creu getoau
DESCRIPTION
Creu Getoau. ....yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bydd y sioe sleidiau yma’n chwarae’n awtomatig. 5. 4. 3. 2. 1. 0. Gan Des Quinn a Martin Williams. - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
Gan Des Quinn a Martin Williams
Bydd y sioe sleidiau yma’n chwarae’n awtomatig
Mewn ymgais i wahanu’r Iddewon oddi wrth yr
Ariaid oddi mewn i wledydd Ewrop a feddiannwyd
gan y Natsïaid, fe’u gorfodwyd gan y Natsïaid i
ardaloedd penodedig oedd â waliau o’u cwmpas ac
a elwid yn getoau.
Unwaith roedd yr Iddewon y tu mewn nid oedd
ganddynt fawr ddim cyfle i ddianc. Roeddent yn
dibynnu ar y Natsïaid am bopeth – bwyd, gwaith a
hyd yn oed yr hawl i fyw.
Roedd yr amodau o fewn y getoau yn ofnadwy ac
roedd llawer o bobl yn llwgu i farwolaeth neu’n cael
eu taro i lawr gan salwch. Pan ddifodwyd/losgwyd y
getoau cafodd y rhai a oroesodd eu casglu ynghyd
yn y diwedd a’u hanfon i wersylloedd crynhoi a
gwersylloedd angau.
Gorfodwyd pobl i
gyfnewid nwyddau er
mwyn goroesi.
Roedd y system
‘gyfnewid’ hon yn golygu
bod yn rhaid i nifer o
Iddewon ildio eu heiddo
personol mewn ymgais i
‘brynu’ bwyd a dillad.
Llanwyd y strydoedd â
phlant oedd wedi’u
gwisgo mewn carpiau,
oedd yn llefain ac yn
marw o newyn.
Llun trwy garedigrwydd Des Quinn
Rhai o’r plant mwyaf ‘lwcus’ yn gwenu ar Swyddog
Almaenig…
Llun trwy garedigrwydd Des Quinn
tra bod eu rhieni yn ciwio am fwyd a chael eu
trwyddedau gweithio wedi’u llofnodi a’u papurau
wedi’u gwirio.
Llun trwy garedigrw
ydd Des Q
uinn
Mewn ymgais i wneud i’r Iddewon deimlo bod o
leiaf rhai agweddau ar fywyd normal yn bodoli oddi
mewn i’r getoau, roedd y Natsïaid yn caniatáu
iddynt ysgrifennu cardiau post at berthnasau a
ffrindiau oedd yn byw yn rhywle arall yn Ewrop.
Er hynny, dim ond ‘ar yr wyneb’ y dangoswyd y
goddefgarwch hwn. Doedd dim bwriad gan y
Natsïaid ganiatáu i’r Iddewon gael cyswllt â’r byd y
tu allan.
Pan roedd y cardiau yn cael eu postio yn y getoau,
byddai’r Natsïaid yn eu casglu, eu rhoi mewn
bagiau a’u storio mewn stordai neu’n eu dinistrio.
Llun trwy garedigrwydd Des Quinn
Po hiraf roedd y getoau
mewn bodolaeth mwyaf
annioddefol oedd bywyd
i’r trigolion.
Roedd gwrthdaro
rhyngddynt â milwyr yr
Almaen yn gyffredin ac yn
aml roedd cosb am ateb
yn ôl – niwed corfforol
neu ddienyddio.
Yr un peth oedd y gosb
am smyglo bwyd i mewn
i’r geto.
Llun trwy garedigrwydd Des Quinn
Wrth i fwy a mwy o
Iddewon fynd i’r getoau
roedd hi’n fwy anodd i’r
Natsïaid reoli’r bobl oedd
yn byw yno ac atal salwch
ac afiechyd rhag lledaenu.
Dechreuodd yr Iddewon
hefyd sylweddoli na
fyddent fyth yn cael eu
rhyddhau ac felly bu
cynnydd yn yr ymdrechion
a wnaed i ddianc.
Felly cynlluniodd yr
Almaenwyr i gael gwared
ar yr Iddewon unwaith ac
am byth.
Llun trwy garedigrwydd Des Quinn
Casglwyd trigolion y
getoau ynghyd a chafodd
eu henwau eu ticio ar
restr swyddogol.
Erlidiwyd y rhai oedd yn
cuddio rhag y milwyr a
chafodd nifer ohonynt eu
saethu.
Dyma ddifodiant y
getoau. Unwaith roedd yr
Iddewon wedi eu casglu
ynghyd cafodd yr
adeiladau eu rhwygo i
lawr.
Llun trwy garedigrwydd Des Quinn
Rhoddwyd nifer o bobl
ar lorïau a gorfodwyd
eraill i gerdded.
Gydag dim ond ychydig
o’u heiddo cawsant eu
hebrwng gan filwyr
arfog i’r gorsafoedd
trenau lle roedd
wagenni gwartheg yn
aros i’w cludo i waeth
hunllef – naill ai
gwersylloedd crynhoi
neu wersylloedd angau.
Llun trwy garedigrwydd Des Quinn
Rhoddwyd y dasg yn awr o chwilio drwy weddillion y getoau am Iddewon a oroesodd ac nad oedd wedi’u canfod gan y milwyr i grwpiau ‘arbennig’ oedd wedi llofruddio Iddewon wrth i fyddin yr Almaen ruthro yn
ei blaen i Wlad Pwyl a Rwsia.
Llun trwy garedigrwydd Des Quinn
Dyma
ddechrau’r
diwedd i nifer
o Iddewon
Dwyrain
Ewrop.
Unwaith
roeddent ar y
trenau ar eu
taith i’r
gwersylloedd
nid oedd
unrhyw ffordd
o ddianc rhag
y caledi
eithafol a’r
farwolaeth
oedd o’u
blaenau.
Llun trwy garedigrwydd Des Quinn
Ni ddylem fyth anghofio’r hyn a ddigwyddodd i’r bobl ddewr yma.
Roedd hon yn bennod dywyll ac ofnadwy yn hanes dynoliaeth ac yn un y dylid meithrin ymwybyddiaeth pob
cenhedlaeth sydd i ddod ohoni fel na ddigwydd rhywbeth fel hyn fyth eto.
Llun trwy garedigrwydd Des Quinn
Amcangyfrifir bod dros 6 miliwn o Iddewon a ‘phobl israddol’ wedi colli eu bywydau mewn gwersylloedd crynhoi rhwng
1939-1945.