chwarae yng nghymru

18
Rhifyn 23 Newyddion chwarae & gwybodaeth gan y sefydliad cenedlaethol dros chwarae Gaeaf 2007 Chwarae dros Gymru Risg a gwytnwch Risg a gwytnwch www.chwaraecymru.org.uk

Upload: play-wales

Post on 22-Mar-2016

263 views

Category:

Documents


7 download

DESCRIPTION

Chwarae Cymru yw'r elusen cenedlaethol dros chwarae plant. Rydym yn cyhoeddi'r cylchgrawn Chwarae dros Gymru dair gwaith y flwyddyn.

TRANSCRIPT

Page 1: Chwarae yng Nghymru

Rhifyn 23

Newyddion chwarae & gwybodaeth gan y sefydliad cenedlaethol dros chwarae Gaeaf 2007

Chwarae dros Gymru

Risg a gwytnwchRisg a gwytnwch

www.chwaraecymru.org.uk

Page 2: Chwarae yng Nghymru

GolygyddolBlwyddyn Newydd Ddai un ag oll! Cafwyd llawer o sylw yn ycyfryngau’n ddiweddar ynghylch ydirywiad ym mhrofiad ein plant oblentyndod, felly pleser yw derbynnewyddion da ar ddechrau’rFlwyddyn Newydd: croeso iGomisiynydd Plant newydd Cymrusef Keith Towler; llongyfarchiadau i’rymgeiswyr llwyddiannus yn rowndgyntaf rhaglen Chwarae Plant y LoteriFAWR; a dewch inni gymeradwyo’rCynulliad am ddarparu miliwn obunnoedd y flwyddyn ynychwanegol i gronfa Cymorth fel ygall rhagor o blant anabl gaelmynediad i ddarpariaeth chwaraecynhwysol; a llongyfarchiadau i bobun yn Lloegr a lwyddodd i sicrhaunewid yn ymrwymiad LlywodraethLloegr i chwarae plant trwy’r CynllunPlant. Bydd pob un o’r rhain yn siw^ r ohelpu i wneud Prydain yn fanhapusach a mwy boddhaus i blantdyfu i fyny ynddo.

Ond, mae materion eraill sy’n periinni yn Chwarae Cymru feddwl ynddwys amdanynt.

Y mater cyntaf yw diffygioldeb yDdeddf Iechyd a Diogelwch yn yGwaith wrth ddeddfu ar gyferdiogelwch mewn chwarae plant.Rydym wedi bod yn eiriol drosddarparu cyfleoedd ar gyfer mentromewn darpariaeth chwarae ersamser maith, gan mai dyma’r hyn y

mae plant ei eisiau a’i angen. Bethydym yn ei olygu wrth ddarparu risgmewn darpariaeth chwarae?Rydym yn golygu darparucyfleoedd i blant brofi ansicrwydd,elfennau anrhagweladwy, apheryglon posibl fel rhan o’uchwarae, ond dydyn ni ddim yngolygu gosod plant mewn perygl oniwed difrifol. Darllenwch fwy amhyn trwy’r rhifyn hwn â’r thema – risg,ac ymunwch â’n hymgyrch – osfeiddiwch chi!

Yr ail yw penderfyniad LlywodraethCynulliad Cymru i roi cytundeb igwmni ymgynghorol i ddatblygucanllawiau a safonau ar gyferchwarae plant yng Nghymru. Darno waith sydd â’r potensial i hysbysudeddfwriaethau cenedlaethol yn ydyfodol. Cafodd cais ChwaraeCymru i gyflawni’r gwaith yma eiwrthod.

Mae hwn yn wyriad diddorol oddiwrth ddatblygiadau blaenorol ymmaes chwarae ar lefelcenedlaethol, sydd hyd yma wedicael eu harwain i gyd ganasiantaethau Cymreig â diddordebmewn chwarae. Hyderwn yn fawriawn y bydd canlyniadau’rcytundeb hwn yn ateb disgwyliadaua dyheadau’r Cynulliad, a rhaipawb arall sydd wedi bod ynghlwmâ, neu gaiff eu heffeithio gan,Gynllun Gweithredu’r Polisi Chwarae.

Mike GreenawayCyfarwyddwr

Cynnwys Tudalen

Golygyddol 2

Gweithredu ar Chwarae yng Nghymru 3

£2.2 miliwn ar gyfer isadeileddchwarae yng Nghymru 4

Newyddion 5

Newyddion 6

Fentrwn ni ddarparu ar gyfer risg? 7

Y Diwylliant Iawndal – agwedd amgen 8

Beio a hawlio ... 9

Wfft i’r diwylliant beio a hawlio 9

Diogelwch, iechyd a chwarae 10

Seminar Risg mewn Chwarae 12

Pleserau Syml 13

Chwarae Cynhwysol a Risg 13

‘Aduniad’ Gweithwyr Chwarae Antur 14

A yw’n well bod yn grwban neu’nysgyfarnog? 16

Gwaith Chwarae Cymru 17

Ariannu a Digwyddiadau 18

Adolygu’r gyfrol“No Fear - growing up in a risk averse society” 18

Cyhoeddir Chwarae dros Gymru gan Chwarae Cymru bedair gwaith y flwyddyn.

Cysylltwch â’r Golygydd yn:Chwarae Cymru, Ty^ Baltig,Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FH

Rhif ffôn: 029 2048 6050E-bost:[email protected]: 1755 9243Rhif Elusen Gofrestredig. 1068926

Nid barn Chwarae Cymru o reidrwydd yw’r farn a fynegir yn y cylchlythyr hwn. Rydym yn cadw’r hawl i olygu cyncyhoeddi. Nid ydym yn ardystio unrhyw raio’r cynnyrch na’r digwyddiadau ahysbysebir yn neu gyda’r cyhoeddiad hwn.

Argraffwyd y cyhoeddiad hwn ar bapur a gynhyrchwyd o goedwigoedd cynaliadwy.

Dyluniwyd ac argraffwyd gan Carrick Business Services Cyf.Ffôn: 01443 843 520E-bost: [email protected]

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007GOLYGYDDOL

2

Diolch o galon i bawb a gyfranodd at y cylchgrawn hwn – allen ni ddimei wneud heboch chi.

Mae’r rhifyn hwn o Chwarae dros Gymru, yn ogystal â rhifynnaublaenorol, ar gael i’w lwytho i lawr o adran newyddion ein gwefan arwww.chwaraecymru.org.uk

Ymwelwch âwww.chwaraecymru.org.uk

am y newyddion a’r wybodaeth diweddaraf

Page 3: Chwarae yng Nghymru

Mae’r gwaith arbenigol yma, i ddatblygu safonau achanllawiau ar gyfer mannau chwarae awyr agored a

darpariaeth chwarae wedi ei staffio, yn hanfodol i ddyfodolllwyddiannus darpariaeth chwarae yn ein gwlad, ac rydymyn rhagweld bod gan hyn y potensial i hysbysu polisi’rLlywodraeth ar chwarae i’r dyfodol.

Mae Cynllun Gweithredu Polisi Chwarae Llywodraeth CynulliadCymru’n cynnwys amserlen o gamau gweithredu wedi euhanelu at gyflawni dyheadau’r Polisi Chwarae Cenedlaethol.

Mae datblygu safonau a chanllawiau’n cynrychioli cynnyddposibl ar rai o’r camau gweithredu.

Bydd y gwaith yn gofyn am weithredu i:

i. Ddatblygu ac ymgynghori’n eang ar ganllawiau am yr hyn aolygir wrth gyfleoedd chwarae o safon ar gyfer plant a phoblifanc. Dogfennu modelau o arfer sydd wedi eu cefnogi gandystiolaeth gwerthuso gref ac sy’n addas ar gyfer defnydduniongyrchol yn y maes. (Cam Gweithredu 2).

ii. Gweithio gydag ymarferwyr, cymunedau, plant a phoblifanc i ddatblygu safonau ar gyfer amrywiaeth eang oddarpariaeth chwarae, fydd yn orfodol ar gyfer chwarae aariennir gan grantiau penodol ac fydd yn cynnigarweiniad i ddarpariaeth chwarae arall. Bydd y safonau’nadeiladu ar y Safonau Isafswm Cenedlaethol sy’n bodolieisoes ar gyfer Chwarae Mynediad Agored. Byddant ynannog cynnwys plant a phobl ifanc yn y gwaith o gynllunioa dylunio cyfleusterau chwarae lleol. (Cam Gweithredu 4).Bydd y safonau’n diffinio meincnod cyhoeddus o darocydbwysedd rhwng risg a budd mewn chwarae ar gyferpob darparwr chwarae. (Cam Gweithredu 15).

iii. Datblygu ac ymgynghori’n eang ar arweiniad iAwdurdodau Lleol Cymru ynghylch darpariaeth chwaraecymunedol priodol fydd yn galluogi datblygu rhaglen‘ardal chwarae wedi ei hadeiladu gan y gymuned’ trwyGymru gyfan. Bydd yr arweiniad yn cyfannu’r NodiadauCyngor Technegol ar gyfer Cynllunio. (Cam Gweithredu 9).

Gofynnodd yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes aSgiliau y dylai’r holl ddeunyddiau a gynhyrchir o dan ycytundeb hwn annog chwarae cynhwysol ac y dylaiadlewyrchu amrywiaeth diwylliannol, ieithyddol adaearyddol Cymru.

Dylai ystyried y ffactorau neilltuol sy’n ymwneud â rhyw, hil,ethnigrwydd, crefydd, ffydd, anabledd yn ei holl ffurfiau, atheuluoedd difreintiedig, tra’n cydnabod nad yw tlodichwarae wedi ei gyfyngu i deuluoedd anoddach i’wcyrraedd yn unig.

Cychwynnodd y cytundeb ar y 30ain Tachwedd 2007 adylid cyflwyno’r deunyddiau terfynol i’r Adran Plant, Addysg,Dysgu Gydol Oes a Sgiliau o fewn y flwyddyn.

Gweithredu ar Chwaraeyng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007NEWYDDION TENDRO

3

Gobeithion mawr yn lansiad Cynllun Gweithredu’r Polisi Chwarae

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dyfarnucytundeb i symud rhai o gamau gweithredumwyaf allweddol Cynllun Gweithredu PolisiChwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eublaen, i gwmni York Consulting.

Page 4: Chwarae yng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007NEWYDDION CEISIADAU

4

Caerdydd a Bro MorgannwgBydd y prosiect yn creu isadeiledd chwarae ar draws yddwy sir. Gan weithio mewn partneriaeth agawdurdodau lleol, mudiadau gwirfoddol lleol aChynghorau Gwirfoddol Cymunedol, bydd CymdeithasGwasanaethau Chwarae Caerdydd a’r Fro yn cyflogiswyddog gweithredol rhanbarthol i glustnodi a chefnogi’rgwasanaethau presennol ac i ddatblygu darpariaethnewydd ar gyfer cyfleoedd chwarae.

Sir Gaerfyrddin a Sir BenfroBydd y cydlynydd dabtlygiad rhanbarthol yn sefydlucymdeithas chwarae ranbarthol, ac yn datblygu achefnogi rhwydweithiau chwarae lleol yn Sir Gaerfyrddina Sir Benfro er mwyn gwella a chynyddu’r gefnogaeth argyfer darparwyr chwarae ar draws pob sector.

CeredigionBydd y prosiect yn cyflogi swyddog datblygu prosiectllawn amser er mwyn dod â’r holl bartneriaethau afforymau ynghyd i ffurfio un grw^ p trosfwaol ogynrychiolwyr (Cymdeithas Chwarae Annibynnol) i welladarpariaeth chwarae yng Ngheredigion. Caiff yGymdeithas Chwarae Annibynnol ei rheoli gan RayCeredigion a’i chydlynu gan y swyddog datblyguprosiect.

Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar OgwrBydd y prosiect yn cyflogi swyddog gweithredol llawnamser, gweithiwr cefnogol rhan amser a gweinyddwrrhan amser i gynorthwyo i ddatblygu’r isadeileddymhellach yn RhCT ac i greu isadeiledd ym Mhen-y-bontar Ogwr er budd darparwyr chwarae yn y ddwy ardal.

Abertawe, Castell-nedd a Phort TalbotBydd y prosiect yn parhau i gyflogi cyfarwyddwr aswyddog cyllid llawn amser a chaiff un swydd, i swyddogcyllid rhan amser newydd, ei chreu i ddatblygu’risadeiledd ymhellach yn Abertawe a Chastell-nedd PortTalbot. Bydd y prosiect yn cynnwys atgyfnerthu’rcysylltiadau rhwng y partneriaethau chwarae a’rpartneriaethau fframwaith a chynyddu’r gymhareb obartneriaid sector gwirfoddol yn y ddwy ardal.

Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a ChaerffiliBydd y prosiect yn pennu blaenoriaethau ar gyferchwarae, yn cydlynu gwasanaethau chwarae, yngweithredu fel modd o hyrwyddo pwysgirwyddcyfleoedd chwarae plant ac i ddarparu isadeiledd i

gefnogi swyddogion datblygu a darparwyr gwerin gwladyn natblygiad a chynaladwyedd cyfleusterau chwaraelleol a rhanbarthol.

Ynys Môn, Gwynedd a ChonwyBydd y prosiect yn cyflogi dau swyddog datblyguchwarae rhanbarthol i weithio gyda’r tri awdurdod lleol igreu Fforwm Chwarae cyfansoddiadol Gogledd OrllewinCymru, fydd yn gweithio gyda’r tri awdurdod lleol, yPartneriaethau Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorau /Gwasanaethau Gwirfoddol Sirol a Chynghorau Tref aChymunedol Lleol.

Torfaen, Casnewydd a Sir FynwyBydd y prosiect yn creu partneriaeth traws-sirol er mwyndatblygu a gweithredu isadeiledd chwarae ar draws ysiroedd hyn, fydd yn cynnwys fforwm chwarae leol ymmhob un. Bydd yr isadeiledd yn darparu a chynllunio argyfer chwarae plant.

Sir y Fflint, Sir Ddinbych a WrecsamBydd y prosiect yn cyflogi swyddog datblygu llawnamser a swyddog datblygu rhan amser i ddatblyguisadeiledd yn y siroedd hyn. Caiff Fforwm ChwaraeGogledd Ddwyrain Cymru ei ffurfio o nifer o sefydliadauo bob ardal awdurdod lleol (yn statudol a gwirfoddol) abydd yn cwrdd i drafod a datblygu strategaeth chwaraear y cyd ac i werthuso blaenoriaethau chwarae ymmhob un o’r tair ardal.

www.lotteryfunding.org.uk/cymru/uk/big-lottery-fund

£2.2 miliwn ar gyfer isadeileddchwarae yng NghymruMae’r Loteri FAWR wedi cyhoeddi’r ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer rownd gyntaf y rhaglen Chwarae Plant – grantiau sydd, ar draws Cymru gyfan, yn gwneud cyfanswm o £2.2miliwn.

Page 5: Chwarae yng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007NEWYDDION

5

Cynllun Plant i LoegrCyhoeddwyd Cynllun y Plant, strategaeth£1biliwn dros ddeng mlynedd ar gyferaddysg, lles a chwarae, gan YrYsgrifennydd Gwladol dros Blant, Ysgoliona Theuluoedd, Ed Balls ym mis Rhagfyr2007. Mae’r Cynllun yn datgan:‘Dywedodd rhieni a phlant wrthym eu bod eisiau mannaudiogel i chwarae y tu allan, ac fe wyddom fod ganchwarae fuddiannau go iawn i blant. Byddwn yn gwario£225 miliwn dros y tair blynedd nesaf er mwyn cynnig cyllidcyfalaf i bob awdurdod lleol, fyddai’n caniatáu ail-adeiladu neu adfywio hyd at 3,500 o feysydd chwaraetrwy’r wlad a’u gwneud yn hygyrch i blant ag anableddau;creu 30 o feysydd chwarae antur newydd ar gyfer plant 8 i13 mlwydd oed mewn ardaloedd difreintiedig, wedi eugoruchwylio gan staff hyfforddedig; a byddwn yncyhoeddi strategaeth chwarae erbyn Haf 2008’.

Dywedodd Adrian Voce, cyfarwyddwr Play England: “Maecynllun da ar gyfer chwarae’n gynllun da ar gyferplentyndod. Mae’r hyn a ddywedodd Ed Balls yn awgrymuiddo wrando o ddifrif ar blant ac ar y pryderon sy’n bodoliynghylch y dirywiad mewn cyfleoedd i chwarae y tu allan.Mae’r llywodraeth wedi edrych ar fuddiannau darpariaethchwarae da ac mae’n barod i ymateb.”

Llwythwch gopi o’r cynllun i lawr o www.dfes.gov.uk

Llongyfarchiadau i Keith Towler, cyfarwyddwr Achuby Plant Cymru, ar gael ei benodi’n GomisiynyddPlant newydd Cymru. Dymunwn yn dda iddo yn eiswydd newydd. Mae hyn yn newyddion gwych iblant a phobl ifanc Cymru.

Canllaw Play Englandi reoli risg mewndarpariaeth chwaraePenodwyd Tim Gill, Bernard Spiegal aDavid Ball gan Play England igynhyrchu canllaw ymarferol i reolirisg mewn darpariaeth chwarae.Bydd y canllaw’n annog mabwysiadu agwedd tuagat ddarpariaeth chwarae sydd ddim yn chwilio’nawtomatig am y llwybr ‘diogel’ ond sydd yn hytrachyn galluogi darparwyr chwarae i ddatblygu a rheolidarpariaeth chwarae heriol a symbylol. Bydd yradnodd yn ganllaw ‘sut i’ ymarferol i reoli risg o fewndarpariaeth chwarae a bydd yn cynnwys trafodaethynghylch oblygiadau athronyddol ceisio heriodarpariaeth gwrth-risg.

Cyhoeddir y canllaw ym mis Mawrth 2008.

Am ragor o wybodaeth ewch iwww.playengland.org.uk

Lansiodd Play Scotland GomisiwnChwarae Yr Alban yn Senedd yr Albanar Ddydd Iau 13eg Rhagfyr 2007.

Bydd hwn yn darparu argymhellion o safon i Lywodraethyr Alban a Senedd yr Alban ynghylch gwella cyfleoeddchwarae plant yn Yr Alban a gwneud hawl plant ichwarae’n realiti.

ComisiwnChwarae Yr Alban

Mae Play England wedi cyhoeddi mai’rthema ar gyfer Diwrnod Chwarae 2008fydd risg.

Cytunwyd ar y thema’n unfrydol gan grw^ p llywioDiwrnod Chwarae yn dilyn ymgynghori.

Mae’r grw^ p llywio bellach yn gofyn am awgrymiadau ermwyn i brif negeseuon a theitl yr ymgyrch gael eudatblygu. E-bostiwch eich syniadau at Amy Little –[email protected]

Cynhelir Diwrnod Chwarae 2008 ar Ddydd Mercher 6edAwst. Ac fel arfer, cynhelir digwyddiadau trwy gydol yr haf.

Thema DiwrnodChwarae 2008

ComisiynyddPlant Newydd iGymru

Page 6: Chwarae yng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007NEWYDDION

6

Yn ddiweddar cyhoeddodd Draig Ffynci (Cynulliad Planta Phobl Ifanc Cymru) adroddiad newydd – Pam fodoedrannau pobl yn mynd i fyny ac nid i lawr?Mae’r adroddiad yn gofyn i ba raddau y gall plant rhwng saitha 10 mlwydd oed gael mynediad i’w hawliau (yn unol âdiffiniad Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn).Cymerodd dros 2500 o blant o bob cwr o Gymru ran yn ygwaith ymchwil, a thynnodd 93 y cant ohonynt lun gweithgareddawyr agored neu weithgaredd egnïol fel eu hoff le panofynnwyd iddynt ble neu beth y maent yn hoffi ei chwarae.

Dywed yr adroddiad: ‘Trwy’r adroddiad hwn i gyd ceir themafynych y cyfeiriodd y plant ati ym mhob gweithdy. Mae’rcanfyddiadau hyn yn arddangos mai chwarae yw’r caismwyaf sylfaenol y gallai plentyn ei wneud, a’i fod yn effeithioarnynt ym mhob maes o’u bywydau’.

I lwytho copi o’r adroddiad i lawr ymwelwch âwww.funkydragon.org/cy/

Cyhoeddwyd adroddiad newydd, Seen andHeard: Reclaiming the public realm withchildren and young people, a gomisiynwydgan Play England, ym mis Tachwedd gan y‘seiat ddoethion’, Demos.

Mae’r adroddiad yn galw am gyflwyno cyfyngiad cyflymdero 20mya mewn ardaloedd preswyl ac am greu rhagor o

fannau chwarae mewn “lleoliadau eiconig” fel Sgwâr Trafalgarac ar i blant allu adrodd am oedolion sy’n ceisio cyfyngu ar euhawl i chwarae y tu allan.

Mae’r adroddiad wedi ei seilio ar archwiliadau o fannaucyhoeddus a chyfweliadau gyda phlant ar draws Lloegr.

Dywed y cydawdur Celia Hannon:

"Mae mannau a ddefnyddiwyd yn y gorffennol gan bobl ifanc ichwarae ac i archwilio defodau plentyndod yn prysur ddiflannu.Oni bai bod pobl ifanc mewn gweithgareddau strwythuredig neu’nymddwyn fel mini-ddefnyddwyr, rydym yn cymryd eu bod yn creuhelynt. Mae angen i’n strydoedd, ein sgwarau a’n parciau fod ynhygyrch ac yn rhwydd i bawb eu mwynhau, neu bydd y pryder sy’nbodoli eisoes ynghylch ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn tyfu’nwaeth. Mae’n bryd agor ein trefi a’n dinasoedd i fyny i bawb ac i’wgwneud yn fwy chwareus. Dylid gweld a chlywed ein plant."

I gefnogi’r gwaith ymchwil yma mae Demos wedi gosodfideo ar wefan YouTube:http://uk.youtube.com/watch?v=sf75iz_MaOg

Am ragor o wybodaeth ac i lwytho pdf o’r adroddiad i lawrymwelwch â:http://www.demos.co.uk/publications/seenandheardreport

Ym mis Rhagfyr lansiodd Jane Hutt AC, Gweinidog dros Blant,Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, adroddiad newydd yn

gwerthuso rôl llyfrgelloedd teganau a gwblhawyd gan ySefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Addysgol gyda ChymdeithasGenedlaethol y Llyfrgelloedd Teganau a Hamdden yngNghymru. Mae’r adroddiad, a ysgrifennwyd gan Robat Powell aNia Seaton – “Trysorfa o wasanaethau” – yn archwilio rôlllyfrgelloedd teganau mewn polisi chwarae yng Nghymru.

Am gopi o’r adroddiad ymwelwch â: www.natll.org.uk neu â: www.nfer.ac.uk

Adroddiad Newydd ar Blentyndod

‘Trysorfa o wasanaethau’

Mae Plant Anabl yn Cyfri Cymru (PACC) yn grw^ po sefydliadau sy’n cynrychioli ac yn cynnwysplant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd sy’nlobïo am well mynediad i gyfleoedd chwarae ahamdden o safon.

Darparodd Chwarae Cymru gyngor ar chwarae cynhwysol, achymryd rhan mewn derbyniad yn y Senedd ar ddiwedd 2007

ble y cyfarfu Aelodau’r Cynulliad â phlant a phobl ifanc anabl asiarad â chynrychiolwyr y sefydliadau dan sylw. Yn hwyrachcyhoeddodd Y Gweinidog dros Blant, Jane Hutt AC, filiwn obunnoedd ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf ar ben cyllidpellach parhaus trwy Cymorth, yn debyg i’r hyn a ryddhawyd yn2007.

Roedd Keith Bowen, cyfarwyddwr Cyswllt Teulu Cymru, yn falch oganlyniadau lobïo PACC:

‘Mae ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru’n croesawu cyhoeddiadLlywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch ymestyn ariannu Cymorth argyfer chwarae cynhwysol. Bydd yr ymgyrch yn awr yn cydweithiogyda swyddogion i lunio cynllun gweithredu ar gyfer y fforddymlaen ar gyfer plant a phobl ifanc anabl yng Nghymru dros y tairblynedd nesaf.

Mae plant a phobl ifanc anabl bob amser yn gosod “pethau i’wgwneud a llefydd i ymweld â nhw” ar ben eu rhestr oflaenoriaethau ac mae ymgyrch PACC eisiau i chwarae cynhwysolfod wrth galon y cynllun gweithredu gaiff ei gyflwyno i’r Gweinidogyn y Flwyddyn Newydd.

Byddwn yn cydweithio’n agos â Chwarae Cymru a sefydliadau erailler mwyn sicrhau y bydd y cynllun gaiff ei gyflwyno gan y tasglu’ngwneud gwir wahaniaeth i blant a phobl ifanc anabl’.

Fodd bynnag, ers i’r cyhoeddiad gael ei wneud, daeth yn amlwgna chaiff yr arian ei ‘neilltuo’ ar gyfer chwarae i blant anabl o fewnCymorth. Bydd Chwarae Cymru’n ymgyrchu’n weithredol drosagwedd fwy strategol ac am arweiniad cwbl eglur er mwyn sicrhauy caiff yr arian ei wario'n ddoeth ac at y diben a fwriadwyd.

Mae trefnwyr yr ymgyrch yn annog aelodau o’r cyhoedd iysgrifennu at eu cynghorwyr a’u gwleidyddion lleol, ac i blant aphobl ifanc ddefnyddio gwefan Draig Ffynci i fynegi eu barn.

Dysgwch ragor, neu ymunwch â’r ymgyrch ar: www.dcmw.org.uk

Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri

Adroddiad Newydd Draig Ffynci

Page 7: Chwarae yng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007RISG

7

Dengys gwaith ymchwil a phrofiad os ycaiff plant gyfleoedd i wynebuansicrwydd ac i ddelio â pheryglonposibl, y byddant yn datblygu gwytnwch –mae eu hagwedd tuag at fywyd yn tyfu’nfwy hyderus a gallant ddelio’n well â’r hyny bydd ein byd ansicr yn ei daflu atynt.

Os y caiff plant eu gwarchod rhag unrhyw beth allai o bosiblfod yn emosiynol neu’n gorfforol niweidiol, bydd ganddynt laio siawns tyfu’n bobl gwydn, cadarn all sefyll ar eu traed euhunain a gwrthsefyll ergydion bywyd.

Mae plant angen, ac yn chwilio am risg – mae’n rhannaturiol o dyfu i fyny – mae’n fodd o ddysgu sut i oroesi. Osna fyddwn yn cyflwyno cyfleoedd i brofi risg mewn sefyllfachwarae, bydd plant yn ceisio’r wefr a’r ymdeimlad ogyflawni rhywbeth ddaw gyda goresgyn ofnau mewnmannau sy’n llai priodol, ble nad oes pobl brofiadol oamgylch i gadw llygad arnynt. Gallant ymarfer cymryd risg ofewn terfynau cymharol ddiogel y man chwarae.

Mae ein diwylliant yn y wlad hon yn tueddu i awgrymu fodplant yn ddi-glem ac yn analluog – rydym yn dechrau osafbwynt ble nad ydym yn ymddiried ynddynt i allu ymorolam eu hunain nac i wneud eu penderfyniadau eu hunain.Mewn diwylliannau eraill, y cynsail cyntaf yw bod plant yngymwys ac yn alluog – yr unig wahaniaeth yn y plant yw einhagwedd ni tuag atynt. Mae’r mwyafrif llethol o blant, y rhanfwyaf o’r amser, yn ddigon abl i farnu eu gallu a’u doniau euhunain ac i benderfynu os ydynt am gymryd rhan mewngweithgaredd sy’n llawn risg ai peidio; bydd y plant hynnysy’n methu neu sy’n ansicr ynghylch llunio barn o’r fath,angen cefnogaeth pobl eraill (gan gynnwys plant) sy’n fwyprofiadol.

Dywed un o’r Egwyddorion Gwaith Chwarae: Dylai ymyrraethgweithwyr chwarae bob amser daro cydbwysedd rhwng yrisg a’r budd datblygiadol a lles plant. Nid yw’n dweudwrthych greu coelcerth anferth mor fawr â phosibl ac yna troieich cefn arni a gadael i’r plant ofalu amdani, nac i godiplentyn nad ydych yn ei hadnabod allan o’i chadair olwyn a’igwthio i lawr llithren, nid yw’n dweud chwaith, os fydd plentynsydd â fawr ddim rheolaeth dros ei freichiau am ddefnyddiocyllell grefft y dylem ei rhoi iddo a throi ein cefn arno. Mae’rEgwyddorion Gwaith Chwarae’n tybio bod gweithwyr

chwarae’n bobl synhwyrol, cyfrifol sydd yn meddu ar synnwyrcyffredin ac y byddant yn defnyddio’r synnwyr cyffredin ymayn eu swydd.

Beth mae taro cydbwysedd rhwng risg abudd yn ei olygu?Golyga hyn lunio barn am amgylchedd neu gyfle chwaraepenodol y gall fod plant awydd ymuno ynddo – ganbwyso a mesur y budd yn erbyn y risg o niwed difrifol.

Budd i blant –

plant yn dod i wybod yr hyn y gallant ymdopi ag e’;deall canlyniadau eu gweithredoedd eu hunain;plant yn tyfu’n gryfach yn gorfforol; plant yn dysgusgiliau; plant yn ennill dealltwriaeth; plant yn ennillymdeimlad o lwyddiant; plant yn tyfu’n fwy hyderus;plant yn teimlo’n fwy galluog; a phlant yn cyfranogiac yn gwneud cyfraniad.

Niwed difrifol i blant – plant yn marw; plant yn cael eu niweidio’n ddifrifol acyn barhaol neu yn cael eu amharu’n gorfforol; achosidechrau afiechyd sy’n fygythiol i fywyd; plant yndioddef o drawma meddyliol difrifol tymor hir.

Mae crafiadau, cnociau a chleisiau, mân gytiau,llosgiadau bychain, gwlychu neu faeddu a chael cnoc ifalchder, i gyd yn rhan o dyfu i fyny – nid yw’r rhain yngolygu niwed difrifol oni bai bod un ohonynt yn fygythioli fywyd neu’n debygol o arwain at afiechyd difrifol tymorhir.

Fentrwn ni ddarparuar gyfer risg?

Page 8: Chwarae yng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007RISG

8

Y Diwylliant Iawndal –agwedd amgenMae Dayton Griffiths, Rheolwr Risg acYswiriant Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili,wedi lleihau hawliadau’n erbyn yrawdurdod 70%. Cafodd ein SwyddogDatblygu, Michelle Jones, sgwrs ag e’am ei agwedd ‘amgen’, a dyma oeddganddo i’w ddweud:

Wedi eu hudo gan y dilyw o ymgyrchoedd hysbysebion ‘nowin no fee’, mae’n bosibl y bydd rhai bellach yn meddwl

yn syth bod anafiadau’n gyfle i wneud arian. Mae hyn wediarwain at weld cwmnïau preifat ac awdurdodau lleol yn cael eupeledu â hawliadau’n eu herbyn. Yn ogystal â nifer fechan ohawliadau dilys, ceir rhai hefyd sydd yn ffug, sy’n cael eugwneud ar hap ac sy’n amheus. Oherwydd y llif o’r mathau hyno hawliadau, mae’r taliadau dros ben ar ein polisïau yswiriantwedi cynyddu’n sylweddol. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol daluam y mwyafrif o’r hawliadau hyn (rhai ohonynt gymaint âchwarter miliwn o bunnoedd) allan o’r un pwrs â’r un sy’nariannu adrannau eraill, megis Addysg a GwasanaethauCymdeithasol.

Bydd rhai cwmnïau preifat ac awdurdodau lleol yn ceisio dileu euperygl o wynebu hawliadau o’r fath trwy gwtogi eugweithgareddau; trwy ganslo teithiau ysgol neu nosweithiau tângwyllt a thrwy wahardd gemau ar feysydd chwarae. Yn hytrach nachyfoethogi ansawdd ein bywydau, yn fy marn i, mae gwneud hynyn lleihau ansawdd bywyd – mae damweiniau’n digwydd.

Rydym ni yn Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o’r farn y dylemganiatáu i weithgareddau yr oeddem ni’n ddigon ffodus i gymrydrhan ynddynt pan yn ifanc, barhau. Rydym yn llunio’r farn yma owerth yn seiliedig ar ddealltwriaeth o fuddiannau datblygiadolprofiadau chwarae amrywiol ac yn cydnabod bod risg yn ymhlygmewn cyfleoedd chwarae cyfoethog. Fel awdurdod lleol byddwnyn darparu cefnogaeth ac amddiffyniad i gyflogai sy’n gweithiogyda phlant, i sicrhau y gall y profiadau chwarae hynny gael eumwynhau, heb ofn mynd i gyfraith.

Mae Iechyd a Diogelwch yn broses sy’n caniatáu inni oll gyflawni’rhyn sydd ei angen ac i wneud hyn mewn modd mor ddiogel âphosibl – NID yw i fod i’n rhwystro i gyflawni neu gymryd rhan mewngweithgareddau sydd ag elfen o risg.

Sut allwn ni barhau i ddarparu cyfleoedd chwarae sy’n cynnwyselfen o risg, a hynny’n ddiogel?• Cwblhau asesiad risg a sicrhau y caiff mesurau diogelwch

rhesymol (synnwyr cyffredin) eu rhoi yn eu lle.

• Sicrhau lefel digonol o oruchwyliaeth.

• Ymgynghori â’ch adran iechyd a diogelwch neu â’ch adranyswiriant a rheoli risg os ydych angen cymorth.

• Efallai fod gan eich yswirwyr gweithgareddau oddi ar y saflefeddalwedd allai eich helpu gydag asesiadau risg a mesuraudiogelu.

• Cadwch BOB gwaith papur yn ymwneud â’r weithgaredd.

• Dylech hysbysu eich adrannau iechyd a diogelwch acyswiriant ar unwaith ynghylch unrhyw ddamwain.

• Rhoddwch gymaint â phosibl o wybodaeth a dogfennau,gan gynnwys asesiadau risg, i’ch adran yswiriant i’w galluogi iamddiffyn unrhyw hawliadau allai godi’n sgîl cynnal yweithgaredd.

Mae gweithdrefnau asesiadau risg yn bodoli i’n cynorthwyo –nid oes angen iddynt fod yn gymhleth neu’n hir. Yn syml iawn,y cyfan y maent yn ei wneud yw ystyried y risg sy’n gysylltiedigâ gweithgaredd benodol, lefel gallu y rhai fydd yn cymrydrhan ynddi a’r mesurau rhesymol sydd eu hangen er mwynrheoli’r perygl o anafiadau.

Mae damweiniau’n digwydd, ond os y gallwn arddangos irisgiau’r weithgaredd benodol gael eu hystyried, ac i fesurauRHESYMOL gael eu cymryd i sicrhau bod y weithgaredd morddiogel â phosibl, yna gallwn amddiffyn unrhyw hawliadauposibl mewn modd effeithlon.

Ni ellir fyth diddymu risg yn gyfan gwbl, ondddylen ni fyth stopio cynnal gweithgareddausy’n hanfodol ar gyfer datblygiad amwynhad pob un ohonom.

Dros y chwe blynedd diwethaf mae Cyngor Bwrdeistref SirolCaerffili wedi:

• parhau â’n holl weithgareddau, y mae rhai awdurdodaueraill wedi eu gwahardd, ond o fewn rheoliadau risgrhesymol a derbyniol.

• lleihau achosion o fynd i gyfraith yn erbyn yr Awdurdod 70%.

• rhyddhau dros £10 miliwn o arbedion o’n cronfa hawliadauhunan-yswirio yn ôl i wasanaethau llinell flaen.

• lleihau ein cost risg blynyddol dros £2m.

• ennill pedair gwobr iechyd a diogelwch genedlaethol.

Mae ein hagwedd wedi sicrhau y gallwn ddarparu’r gefnogaetha’r amddiffyniad angenrheidiol i’n staff i gyd a pharhau â’rgweithgareddau hynny sy’n hanfodol i ddatblygiad ein plant acansawdd bywyd trigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae rheoli risg ynallweddol i’r agwedd yma. Ni ddylid caniatáu i drachwant y lleiafrifeffeithio ar ansawdd bywyd ein plant. Dylai pobl broffesiynol ymmaes yswiriant a risg a iechyd a diogelwch gefnogi a darparu’rfframwaith fydd yn caniatáu i’n plant chwarae a phrofi’r risgiau sy’nrhan annatod o fywyd bob dydd, tra’n darparu cefnogaeth adiogelwch i bob un sy’n gweithio gyda plant.

Dayton F GriffithsRheolwr risg ac yswiriantCyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 01443 863430

Page 9: Chwarae yng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007RISG

9

Beio a hawlio...

Mae hawliad am iawndal yn cael eibrosesu’n erbyn Canolfan Plant

Integredig Cwm Gwenfro yn dilyndamwain ar wifr-lithren uchel yn eumaes chwarae antur wedi ei staffio –dywed ein asesiad risg, a’n rheolau, naddylai mwy na dau o bobl ei defnyddioar yr un pryd. Daeth tri pherson ifanc ilawr y gwifr-lithren gyda’i gilydd –cwympodd un a thorri ei fraich. Roedd ytri pherson ifanc yn gwybod y rheol acfe wnaethant benderfynu cymryd y risg,ond, mae’r hawliad yn symud yn eiflaen trwy’r system yswiriant gan ei bodyn rhatach i setlo nag yw hi i fynd i’r llys.

Ble mae hyn yn ein gadaelni fel darparwyr chwarae?Mae ein maes chwarae antur wedi ei leolimewn ardal ble y mae’r mwyafrif odeuluoedd yn llwyddo i fodoli ar incwm iseliawn – prin iawn yw unrhyw foethusion neuddanteithion. Os y caiff yr hawliad hwn eisetlo heb fynd i’r llys bydd yn anfon negesy gellir gwneud arian o wneud hawliadauyn ein herbyn. Bydd nifer yr hawliadau’ncynyddu, felly er efallai i’r cwmni yswiriantarbed arian yn y tymor byr, mae’n debygolo wario mwy o arian yn y tymor hir, a byddein tâl yswiriant ninnau’n cynyddu. Byddhyn yn peryglu’r gwasanaeth yr ydym yn eiddarparu a bydd plant lleol yn dioddef.

Yn y cyfamser, mae’r wifr-lithren uchelwedi torri, ond tydw i ddim am frysio ichwilio am y darn newydd sydd ei angen,er i’r llithren gael ei defnyddio’n barhaus

pan oedd yn gweithio ac y byddai’ndenu plant a phobl ifanc i’r maeschwarae. Mae ei gwerth chwarae’naruthrol; caiff nifer o gemau eu datblyguyno; mae nifer fawr o brosesau chwarae’ndod i’r amlwg; ac mae llaweroedd oblant a phobl ifanc hapus a chyffrous ynaros yn amyneddgar am eu tro. Ac eto,tydw i ddim yn awyddus iawn i’w gweld ynôl yn gweithio.

Pam? Wrth wreiddyn fy amharodrwydd (ergwaethaf dros 20 mlynedd o brofiad oweithio ar feysydd chwarae antur) saif ycwestiwn y bydd pawb ohonom yn ei ofynar brydiau: a yw’r risg tymor hir i’n sefyllfachwarae’n werth y gwerth chwarae? Rwyfyn dal yn ansicr ynghylch yr ateb, ondrwy’n siw^ r unwaith y bydd y darn newyddyn cyrraedd y bydd y rhes o blant a phoblifanc fydd yn fy nychu i drwsio’r gwifr-lithrenyn ateb y cwestiwn.

Wfft i’r Diwylliant Beio a HawlioOs ydym yn meddu ar bolisïau agweithdrefnau cryfion gallwn wrthsefyllcael ein profi gan hawliadau manteisgara chario’r dydd heb fynd i’r llys. FrankO’Malley o Rwydwaith Chwarae Leedssy’n sôn wrthym am brofiad diweddar:

Mae Rhwydwaith Chwarae Leeds yn rhedeg prosiectauchwarae stryd gyda gweithwyr chwarae maes, sydd

ddim yn petruso rhag darparu cyfleoedd i blant gymryd rhanmewn “chwarae mentrus”.

Yn ystod un o’r sesiynau neidiodd bachgen i ganol glaswellt hir athorri ei goes yn wael ar lafn rasel oedd wedi ei daflu yno. Aethmam y bachgen ag e’ i’r ysbyty. Roedd angen pwythau arno, ondroedd yn iawn ac o fewn ychydig ddyddiau dychwelodd i chwaraeyn y prosiect. Yn y cyfamser cyflwynodd ei fam, gyda chefnogaethcwmni cyfreithiol “No Win No Fee”, hawliad am iawndal am yr anaf.

Aeth Frank ati ar unwaith i hysbysu cwmni yswiriant y Rhwydwaith, aanfonodd aseswr allwn i weld “faint o arian fyddai raid ei gynnig igael gwared â’r un oedd yn gwneud yr hawliad” – i setlo heb fynd i’rllys. Dangosodd Frank bolisïau a gweithdrefnau’r Rhwydwaith iddoynghylch risg, y ffurflenni asesu risg cyffredinol gaiff eu llanw’nrheolaidd, ac eglurodd ynghylch yr asesu risg dynamig sy’n rhan obob arfer gwaith chwarae da. Yn ogystal, dangosodd ddyddiaduronmyfyriol gweithwyr chwarae’r Rhwydwaith i’r aseswr, oedd yn dangos

ar ddiwrnod y ddamwain bod pob ymdrech rhesymol wedi eiwneud i waredu peryglon oddi ar y safle (e.e. “… casglwyd tri bagsiopa o faw cw^ n heddiw …”).

Adroddodd yr aseswr yn ôl i’r cwmni yswiriant, a wnaeth herio’rhawliad. Tynnodd y teulu eu hawliad yn ôl, a’r cyfan sydd raid i’rRhwydwaith ei wneud yn awr yw cadw’r holl waith papur am yr anaftan fod y bachgen yn 18 mlwydd oed, rhag ofn iddo benderfynuhawlio ar ei ran ei hun fel oedolyn.

Ar yr un pryd, argymhellodd yr aseswr i’r cwmni yswiriant, o ystyried ymodd trylwyr sydd gan y Rhwydwaith o ddelio â risg, y dylai eu lefelatebolrwydd gael ei ostwng, ac y dylid cwtogi eu taliadau yswiriant.O ganlyniad i hyn, mae’r Rhwydwaith bellach yn talu llai am yswiriantnag oeddent cyn i’r hawliad gael ei wneud.

Dywed Frank mai moeswers y stori yw hyn: os ydym yn meddu arbolisïau a gweithdrefnau pwrpasol wedi eu cyfuno ag arfer gwaithchwarae da, gallwn wrthsefyll hawliadau a chyfleu’r neges: nad oesunrhyw bwrpas gwneud hawliadau manteisgar yn erbyn darparwrchwarae. Mae’n werth cael ein profi weithiau, gallwn elwa’n arw, acfe fyddwn yn dysgu’n union pa mor dda ydyn ni!

Cysylltwch â Frank O’Malley ar 0113 243 5566

Caiff polisïau a gweithdrefnau Rhwydwaith Chwarae Leedseu cefnogi gan ddatganiad safbwynt y Fforwm DiogelwchChwarae “Managing Risk in Play Provision” y gellir ei lwytho ilawr o dudalen Chwarae a Risg ein gwefan, a dogfenPlaylink “Negligence, play and risk – legal opinion” y gellir eillwytho i lawr oddi ar www.playlink.org.uk

Colin Powell, Rheolwr Maes Chwarae Antur Cwm Gwenfrosy’n siarad am ganlyniadau’r diwylliant beio a hawlio:

Page 10: Chwarae yng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007RISG

10

Pa mor debygol yw hi bod y rhai a luniodd Deddf Iechyd aDiogelwch yn y Gwaith 1974 (HSWA) wedi bwriadu i’r

ddeddfwriaeth yma fod yn berthnasol, nid dim ond i’r gweithle,ond i reoli pethau fel profiadau chwarae plant, tiroedd ysgol,parciau cyhoeddus, sgwarau mewn dinasoedd, coetiroedd, agweithgareddau chwaraeon a hamdden? Yr ateb, fwy nathebyg, yw na wnaeth y peth groesi eu meddyliau o gwbl. Onderbyn hyn mae’r Deyrnas Unedig yn ei chael ei hun gydadeddfwriaeth sy’n berthnasol i chwarae plant gafodd ei gynllunioi amddiffyn gweithwyr mewn ffatrïoedd a swyddfeydd.

Mae’r Ddeddf ei hun yn un dda iawn, cyn belled â bod rheoliiechyd a diogelwch galwedigaethol dan sylw – mae’n ddarn oddeddfwriaeth y gellir bod yn falch ohono. Mae hyn oherwydd yrathroniaeth y mae’n seiliedig arno. Os edrychwch chi ar boster yrHSWA sy’n crogi ar y wal yn eich gweithle, fe sylwch fod y geiriau“cyn belled â’i fod yn rhesymol ymarferol” yn cael eu hailadrodddrosodd a thro, a dyma wraidd yr athroniaeth. Yr hyn y mae hynyn ei awgrymu yw y dylid defnyddio math o brawf cost-budd argyfer mesurau diogelwch arfaethedig i weld os ydynt yn rhesymolac yn werth eu rhoi ar waith. Er enghraifft, os yw mesur diogelwcharfaethedig yn hynod o gostus ac y disgwylir iddo gael fawr ddimbudd o ran diogelwch, ni fyddai’n ofynnol o dan y Ddeddf. Ar yllaw arall, mae’n rhaid, yn ôl y Ddeddf, defnyddio mesurau sy’ncynnig cymhareb budd i gost ffafriol. Mae’r athroniaeth yma’namcanu i gynhyrchu’r lles gorau ar gyfer y nifer fwyaf o gronfagyllid benodol ei maint. Mae cyfraniad yr athroniaeth yma i luniopenderfyniadau ym Mhrydain yn aruthrol, a gellir ei weld ar waithym mhob sector o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i Asiantaeth yMôr a Gwylwyr y Glannau. Mae gwneud y defnydd cywir ohoni’nhelpu i sicrhau bod y wlad yn gwneud y gorau o’i hadnoddau.

Ond, dywed Adran 3 yr HSWA y dylai’r Ddeddf fod yn berthnasolnid yn unig i weithwyr, ond hefyd i ymwelwyr â gweithleodd, agyda threigl amser daeth hyn i gael ei ddehongli, yn gywir neu’nanghywir, fel cynnwys ymwelwyr â pharciau cyhoeddus,coedwigoedd, a hyd yn oed fannau chwarae, gan y gelliddweud, gydag ychydig o ddychymyg, bod y rhain yn ‘weithle iunigolion’. Ac o’r herwydd, mae’r Weithgor Iechyd a Diogelwch(HSE) bellach yn ei gyfrif ei hun yn rheolydd ar gyfer rheolidiogelwch yn y mannau hyn.

Mae’r tueddiad hwn, i ddefnyddio’r HSWA yng nghyd-destunmannau cyhoeddus yn cynnwys mannau chwarae, wedi esgorar nifer o ganlyniadau. Mae’r rhain yn cynnwys yr angen i asesurisg bron â bod popeth, gwaith papur i arddangos iddo gael eigyflawni, a lledaeniad dulliau asesu a datrysiadau fel a geirmewn ffatrïoedd i mewn i’r sector cyhoeddus. Gall hyn fod yn

faich. Er enghraifft, mae rhai sefydliadau addysgol, fel y sonioddYr Athro John Adams o Goleg Prifysgol Llundain, wedi cynhyrchuffurflenni asesu risg 50 o dudalennau o hyd ar gyfer teithiaumyfyrwyr. Wrth gwrs, mae’r HSE wedi ymateb ar ei wefan nad ywrheoli risg synhwyrol yn galw am gynhyrchu pentyrrau o waithpapur di-bwrpas, ond pe bai damwain yn digwydd ar eich patshchi y ffaith syml yw y bydd mynydd o waith papur o fwy oddefnydd na dalen fach unig. Mae’n ymddangos ein bod wediein cornelu mewn sefyllfa weddol wirion o ganlyniad iganlyniadau anfwriadol yr HSWA.

Yn ogystal, ceir materion pwysicach y dylem bryderu yn eucylch. Mae’n debyg y bydd darllenwyr â phrofiad personol, ac ybyddant yn ymwybodol o nifer o achosion y cyfeiriwyd atynt yn ycyfryngau, o wahardd llawer o weithgareddau y bu i bobl eumwynhau yn y gorffennol. Ymysg y rhain mae pethau fel dringocoed, adeiladu cuddfannau, dosbarthiadau coginio a gwaithcoed mewn ysgolion, chwarae pêl-droed yn ystod amserchwarae, ac ymlaen ac y mlaen yr â’r rhestr. Mae rhywbethdifrifol iawn ar droed pan fydd plant a phobl ifanc yn colli

Diogelwch, iechyd a chwarae

Amser i ailfeddwl?Mae’r Athro David Ball o’r Centre for Decision Analysis and Risk Management School ofHealth and Social Science, ym Mhrifysgol Middlesex yn galw am ailfeddwl ynghylchdeddfwriaethau cyfredol.

Page 11: Chwarae yng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007RISG

11

cyfleoedd i chwarae, i gymdeithasu, i archwilio, neu jest i fod ynhwy eu hunain, ond mae nifer o sylwedyddion yn cytuno bod yfath broses yn bodoli ers dros ugain mlynedd a mwy.

Tynnwyd rhagor o sylw at y mater yn gynharach eleni panadroddodd UNICEF mai plant Prydain sy’n profi’r plentyndodgwaethaf yn Ewrop, ac er bod hyn wedi ei herio’n ddiweddar,mae rhywfaint o wirionedd ynddo. Mae nifer o asiantaethaueraill, yn cynnwys Cymdeithas y Plant, y Cyngor Chwarae Plant, yBetter Regulation Commission a’r Comisiwn Iechyd aDiogelwch, wedi crybwyll pryderon tebyg. All pob un o’r rhainddim bod yn anghywir.

Mae hyn yn codi problem arall y gellir ei chysylltu âgorgyffyrddiad asesu risg arddull diwydiannol i mewn i feysyddcyhoeddus sy’n cynnwys chwarae. Nod yr asesiadau hyn yn symliawn yw, fel y dywed yr HSE, lleihau risg. Mae’n bosibl iawn bodhyn yn wir mewn amgylchedd ffatri, ond mewn bywydcyhoeddus dylai fod agwedd hanfodol arall i unrhywbenderfyniad sy’n effeithio ar gynnal gweithgaredd neu brofiad,sef, eu buddiannau. Mae gan brofiadau chwarae nifer fawr ofuddiannau (yn cynnwys iechyd). Mae chwarae mewncoedwigoedd, er enghraifft, yn cynnig buddiannau anferthol, fel ymae chwarae yn y rhan fwyaf o amgylcheddau naturiol a llawero fannau cyhoeddus; bydd defnyddio methodolegau asesu risggyda mannau o’r fath, heb roi ystyriaeth benodol a digonol i’rbuddiannau hyn, yn creu hafog gyda’n hamgylchedd a’nprofiadau bywyd. Ond pur anaml, os o gwbl, y bydd ffurflennisafonol a methodolegau asesu risg yn sôn am y gair ‘budd’, ahyd yn oed os ydynt, mae’n aneglur sut y maent wedi euhymgorffori yn y penderfyniad terfynol ynghylch beth i’w wneud.

Bydd methu ystyried buddiannau, neu leihau eu pwysigrwydd trwyfod yn llai agored yn eu cylch, yn anorfod yn arwain at sefyllfable y caiff llawer o brofiadau chwarae eu hysgubo ymaith gan ychwilfa am ddiogelwch rhag niwed. Yr unig beth sy’n rhwystro hynrhag digwydd yw efallai rhyw ronyn o synnwyr cyffredin sy’nparhau yng nghefn meddwl yr aseswr risg. Ond, mae hwn yndroedle bas a simsan iawn i ddibynnu arno. Mae profiadaugydag achosion llys, ble y bydd arbenigwyr yn cyflwynotystiolaeth, wedi dangos yn gwbl eglur bod llawer o arbenigwyrmewn achosion o anafiadau yn unrhyw beth ond arbenigwyrmewn materion sy’n bwysig i ddatblygiad, iechyd a lles plant.Mae’n debyg bod pethau o’r fath y tu hwnt i’w harbenigedd, oleiaf tra’u bod yn gweithredu o fewn eu rôl broffesiynol. Prin ybyddai’r HSE ei hun yn hawlio eu bod yn arbenigwyr ar fagwraethplant, profiadau chwarae, addysg, neu hud taith gerdded heb eigoruchwylio trwy’r goedwig, waeth faint yr hoffent ddweud hynny.

Mae canlyniadau hyn yn niferus ac yn ddwfn, fel a nodwyd ganUNICEF a’r holl asiantaethau eraill uchod, ac hefyd, er enghraifft,gan y bargyfreithiwr anafiadau personol Jerome Mayhew pansoniodd fel a ganlyn:

“Mae pobl ifanc yn eu harddegau wedi colli eu lle ynamgylchedd rheoledig y maes chwarae ac wedi symud iamgylchedd anhydrin y stryd, y rheilffordd, neu’r ganolfansiopa … a yw’r cynnydd mewn ymddygiad gwrth-gymdeithasol ymysg pobl ifanc yn eu harddegau yn sgîl-effaith bisâr i broses safoni iechyd a diogelwch?”

(‘Safety and Health Practitioner’, Rhagfyr 2007)

Wrth gwrs mae cysylltiadau o’r fath yn anodd iawn i’w profi, ond niddylid ac ni ellir eu diystyru’n ddidaro. Dylem fod yn llawer mwygwyliadwrus a beirniadol o effaith deddfwriaethau a safonau ar einbywydau, rhag inni ddifetha’r pethau hynny yr ydym yn eugwerthfawrogi fwyaf.

Dysgwch ragor ar http://www.mdx.ac.uk/risk/index.htm

Medd Chwarae Cymru:

Rydym yn galw am greudeddfwriaeth newydd fydd yngolygu canlyniad cadarnhaol argyfer plant a’u chwarae, ac oganlyniad eu gwytnwch a’ucadernid.

Yn wreiddiol, nid oedd unrhywfwriad i’r Ddeddf Iechyd aDiogelwch yn y Gwaith (1974)ddelio â chwarae plant ac nidyw’n gweddu i’w phwrpas. Maerhai fyddai’n dadlau bod yDdeddf yn ddigonol – ac ynsyml iawn ei bod yn fater o’rmodd y caiff y Ddeddf eidehongli. Ond, mae’n amlwgbod y Ddeddf yn agored iamrywiaeth o ddehongliadauble fo chwarae plant dan sylw –a bod rhai ohonynt yn niweidiol iddatblygiad iach plant. Bydd ydehongliadau hyn yn arwainpobl i gymryd yn ganiataol bodyn rhaid iddynt gymryd camausy’n dileu pleserau syml. Mae’nrhaid creu deddfwriaeth, fel panfyddwn yn barnugweithgareddau acamgylcheddau ar gyfer plant ycaiff y tebygolrwydd o niwed eifarnu’n erbyn y tebygolrwydd ofudd i’r plentyn.

Nid ydym yn dweud ein bod ami blant gael eu niweidio – yn symliawn, rydym yn gofyn amddefnyddio agwedd synnwyrcyffredin sy’n cefnogi chwaraeplant a’r rheini sy’n ei ddarparu.

Rydym wedi lansio ymgyrcheisoes ac wedi dechrau lobïo’rbobl hynny sy’n gwneudpenderfyniadau. Os hoffechnodi eich enw ar restr ogefnogwyr [email protected]

Page 12: Chwarae yng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007CHWARAE ALLAN

12

Fel rhan o’n gwaith i gefnogi trosglwyddorhaglen Chwarae Plant y Loteri FAWR,cynhaliwyd seminar, ‘Cyflwyno a DarparuRisg Mewn Chwarae’, ym mis Hydref.

Daeth y seminar â chynllunwyr chwarae, swyddogioniechyd a diogelwch ac arolygwyr darpariaeth chwarae

ynghyd – am y tro cyntaf yn y DU.

Nod y seminar oedd mynd i’r afael â phryderon ynghylchdarparu risg o fewn amgylcheddau chwarae er mwyn sicrhaubod ceisiadau ar gyfer rownd dau’r rhaglen Chwarae Plant yngallu ymateb i Nodiadau Arweiniol y Loteri FAWR. Mae’r NodiadauArweiniol yn cyfeirio’n gwbl eglur at Bolisi Chwarae a ChynllunGweithredu Polisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru, y mae’rddau ohonynt yn ymwneud â’r angen i ddarparu cyfleoeddchwarae ar gyfer plant ble y gallant brofi her ac ansicrwydd.

Defnyddiodd dros 100 o gyfranogwyr y seminar yma fel cyfle iddechrau dialog ac i barhau i gyfrannu tuag at resymwaith eglurar gyfer darparu risg o fewn chwarae; cytunodd y mwyafrif bodplant angen ac eisiau profi risg fel rhan o’u chwarae. Galwoddllawer o gyfranogwyr y seminar, am fabwysiadu agwedd synnwyrcyffredin a chroesawyd yr arweiniad arfaethedig a ddisgwylirgan Lywodraeth Cynulliad Cymru yng nghyd-destun ansawdda meincnod cyhoeddus ar gyfer taro cydbwysedd gyda risgmewn chwarae.

Cytunodd y cyfranogwyr fod plant yn dysgu am risg emosiynol achorfforol trwy eu chwarae: trwy eu chwarae a’u mentro byddplant yn tyfu’n wydn. Mae plant angen gwytnwch oherwydd nadyw’n byd yn gynnes a mwythus fel gwlân cotwm, mae’ngignoeth, yn siarp, yn gas ac ysgogol, mae’n ein bwrw allan o’nsiâp ac yn ein plygu am yn ôl, mae’n peri inni gael ergydion achleisiau a sgriffiadau.

Galwodd y seminar am fodd mwy creadigol o ystyriedgweithdrefnau ac arferion mewn cynllunio, asesurisg ac archwilio darpariaeth chwarae. Mae hyn ynhanfodol os ydym i gwrdd â gofynion a ffocwsstrategol rhaglen Chwarae Plant y Loteri FAWR.

Gwell asgwrn wedi ei dorri …Defnyddiodd Chwarae Cymru y digwyddiad hwn i lansio crys-Tsy’n cario’r slogan, ‘gwell asgwrn wedi ei dorri nag ysbryd wedi eidorri,’ a ysbrydolwyd gan Yr Arglwyddes Allen o Hurtwood,pensaer tirwedd ac addysgwraig a arloesoddy mudiad maes chwarae anturcynnar yn y Brydain oeddohoni wedi’r rhyfel. Panofynnodd yswirwyr gor-eiddgar iddiamddiffyn ytebygolrwydd oddamweiniau allai

ddigwydd o ganiatáu i blant fentro, dywedodd “mae’n wellmentro coes wedi ei thorri nag ysbryd wedi ei dorri. Gall coeswastad wella. Efallai na wnaiff ysbryd.” Nid ydym yn dadlau bodpobl yn cefnogi torri coesau; mae’r slogan yn pwysleisio y gallcanlyniadau peidio â chaniatáu cyfleoedd i blant reoli risgac ansicrwydd fod yn waeth na’r risg o anafu eu hunain.

Os hoffech brynu crys-T yr ymgyrch ymwelwch âwww.chwaraecymru.org.uk neu galwch Kate yn einswyddfa genedlaethol ar 029 2048 6050.

Seminar Risg mewn Chwarae

Page 13: Chwarae yng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007CHWARAE ALLAN

13

Yn aml iawn bydd plant anabl yn methucael cyfle i brofi rhai o’r pleserau syml ygall plant eraill eu mwynhau.Pasiodd Jo Jones, Swyddog Datblygu Chwarae Bro Morgannwg,y llythyr hwn ymlaen atom ac roedd yn rhaid inni gael ei rannu âchi. Llythyr gan fam Lizzie yw hwn:

CefndirMae gan Lizzie (11 mlwydd oed) anawsterau dysgu, symudedd achyfathrebu difrifol; mynychodd brosiect chwarae peilot agynhaliwyd ym Mro Morgannwg yr haf diwethaf. Cyflogodd yprosiect nyrs a staff gofal i gefnogi plant a phobl ifanc oedd aganghenion meddygol dyrys.

Ar ddiwrnod glawog roedd nifer fawr o blant yn chwarae y tuallan ac yn mwynhau eu hunain. Pan ofynnwyd i un o’r staff gofali newid Lizzie oherwydd ei bod wedi gwlychu yn y glaw yr ymateba gafwyd oedd “Tydw i’n synnu dim, rydych wedi gadael iddiwlychu’n sopen – mae’r peth yn gwbl hurt!”. Wedi siarad â mamLizzie ar ddiwedd y diwrnod, derbyniodd Jo y llythyr hwn:

Annwyl Jo… Roeddwn mor falch i glywed bod Lizzie wedi cael amseri chwarae yn y glaw; chwarae â dw^ r yw ei hoff fath ochwarae.

Mae eich tîm yn ein hadnabod ers nifer o flynyddoedd acrwy’n gwybod os y byddaf yn gwneud cais i Lizzie i arosdan do ac i gadw’n sych am resymau iechyd, y byddwchyn gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau hyn. Rwy’ngwybod hefyd, gyda’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth syddgennych o Lizzie, os na fyddaf yn gwneud cais o’r fath, ygallwch chi a’ch tîm wneud penderfyniad deallus araddasrwydd y gweithgareddau y bydd yn cymryd rhanynddynt, gan gynnwys chwarae yn y glaw. Ar ddyddiaucynnes fel hyn, rwyf wastad wedi annog fy mhlant ifwynhau’r profiad o fod yn y glaw.

… Hyderaf y byddwch yn parhau i roi cyfleoedd iddi brofi’rpethau y mae’n eu mwynhau orau, sy’n cynnwys chwaraeyn y glaw ble fo hynny, ym marn eich staff, yn briodol.

‘Mae iechyd a diogelwch synhwyrol ynymwneud â rheoli risgiau, yn hytrach nadiddymu pob un ohonynt. Nid yw’n fwriadgan yr HSE i ddiddymu pleserau symlble bynnag y byddant yn ymddangosac ar ba bynnag gost. Rydym yncydnabod buddiannau chwarae iddatblygiad plant, sydd o reidrwydd yncynnwys rhywfaint o risg, ac ni ddylidaberthu hyn wrth anelu am y nodanghyraeddadwy o ddiogelwch llwyr.’

Y Weithgor Iechyd a Diogelwch, 2005

Mae mesur risg yn fater personol – maegan bob plentyn ei allu neu ei gallu eihunan – felly fel darparwyr chwarae byddangen inni fabwysiadu agwedd hyblyg,sensitif a synhwyrol er mwyn darparu argyfer anghenion pob plentyn. Er enghraifft,bydd rhai plant yn sylweddoli bod hyd ynoed meddwl am gerdded ar hyd waluchel yn gwneud iddynt deimlo’n bryderus,tra bo eraill yn gwbl hyderus ac yn ei weldyn rhwydd yn gorfforol – bydd rhai plant yngweld risg mewn dweud ‘helo’ wrth rywun

newydd, neu mewn gwlychu eu dillad.

Mae syniad un plentyn o rywbeth sy’n llawnrisg yn syniad plentyn arall o gael ei lapiomewn gwlân cotwm. Gan amlaf maeplant yn ddigon abl i farnu eu gallu a’udoniau eu hunain; byddant yn eu gwthioeu hunain ychydig ar y tro gan nad ydyntam niweidio eu hunain.

Ni allwn, fel darparwyr chwarae, warantudiogelwch absoliwt pan fo plant yn eingofal ond fe allwn, yn raddol, gyflwynoelfen o’r ansicr, yr heriol a’r cyffrous, fel einbod yn darparu’n llawn ar gyfer angheniondatblygiadol plant.

“Pan oeddem rhwng chwech a degmlwydd oed byddem yn mynd i’r coedar ein pen ein hunain. Byddem ynadeiladu cuddfannau, yn archwilio, yncael anturiaethau ac yn chwarae yn yrafon. Byddem yn cynnau tanau (fel arfer’doedd yr un oedolyn yn gwybod amhyn, ond roeddem yn dal i’w wneud). A’rgorau oll oedd dringo’n uchel yn y coeda threulio amser yno’n siarad ac yngwylio. Byddem yn adeiladu siglenni, rhai

oedd yn dda i ddim ac yn ein bwrw’nerbyn y goeden, a rhai oedd yn wychoedd yn ein cario allan yn uchel droslawr y goedwig oedd yn syrthio’nllechwedd yn is oddi tanom wrth innifentro siglo’n uwch ac uwch.” Ben, 32

Heddiw, byddwn yn siarad am ddarparucyfleoedd chwarae cydadferol i blant – iwneud yn iawn am y rhai naturiol y byddemni oedolion yn eu canfod yn naturiol unwaith.Nid yw’n ffocws ar risg yn ymwneud âhyrwyddo risg ar bob cyfrif na throi pobdarpariaeth chwarae’n baradwys i ‘adrenalinjunkies’; mae’n ffocws sy’n anelu i ddatblygudealltwriaeth o rôl hanfodol y newydd, ycyffrous, yr ansicr a’r anrhagweladwy mewnchwarae plant. Agenda sy’n eiriol dros hawlplant i ddringo coed, i adeiladu siglenni, ifynd ar gefn beic, i sglefrolio, i adeiladucuddfannau, i ddysgu defnyddio offer, iddadlau, i gwympo, i ymladd ac i wneudffrindiau. Mae’n agenda sy’n dathlu pleserausyml a chyflawniadau plentyndod.

Ceir fersiwn estynedig o’r erthygl hon arein gwefan ar www.chwaraecymru.org.uk

Chwarae Cynhwysol a Risg

Pan fyddwn yn siarad am ddarparu risg mewn darpariaeth chwarae nid ydym yn siarad amorfodi pob plentyn i gynnau tanau nac i hongian oddi ar ganghennau uchel, rydym ynsiarad am ddarparu ar gyfer angen plant i brofi eu hunain a chefnogi eu dymuniad i fod ynanturus – gan roi cyfleoedd iddynt ymateb i’r newydd, yr annisgwyl neu’r ansicr.

Pleserau Syml

Page 14: Chwarae yng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007DATBLYGU’R GWEITHLU

14

Beth? Gwersyll preswyl i 25 o weithwyrchwarae sydd ynghlwm â gwaithmeysydd chwarae antur

Pryd?Medi 2007

Ble? Ystad wledig eang yng nghesailBannau Brycheiniog.

‘Aduniad’ Gweithwyr Chwarae Antur

‘Cynnodd’ Martin King Sheard o Chwarae Cymru rywfaint o syniadau gydagweithdy tân, a gyda’r nos cafwyd cerddoriaeth fyw a straeon gwaithchwarae o amgylch y tân.

Page 15: Chwarae yng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007DATBLYGU’R GWEITHLU

15

Ffocws y deuddydd oedd cefnogigweithwyr chwarae trwy ddarparu cyfle ichwarae gyda’r elfennau ac adeiladustrwythurau, a chafodd y strwythurau aadeiladwyd eu gadael ar gyfer plantfydd yn ymweld â’r safle yn y dyfodol.

Dyma feddyliau Ben Tawil, swyddog datblygu a threfnydd ydigwyddiad, ar ddeuddydd gwych:

“Treuliodd gweithwyr chwarae profiadol a newydd amser ynmyfyrio gyda’i gilydd gan gofio nad ydynt yn gweithio ar eupen eu hunain; mae pobl eraill allan yn y byd mawr sy’nrhannu eu huchelgeisiau ar gyfer plant – maent yn rhan oddarlun cyflawn mwy o lawer … Cefais fy suo i gysgu wedidiwrnod caled o waith gan gyfeiliant cerddorfa o chwyrnu obob pabell. Dwn i ddim beth oedd waethaf, nhw neu’r defaid!”

Diolch i Nick ac Ellen o Play Supply, wnaeth yn siw^ r bodgennym ddigonedd o fwyd a diod poeth, ac i Gwion a Jamie– hebddynt hwy fyddai’r ty^ pen coeden fyth wedi bod mewncyflwr derbyniol ar gyfer plant fyddai’n ymweld â’r safle’n ydyfodol. Diolch yn arbennig hefyd i Julian Gibson Watt amddarparu tir, cysgod a choed, ac i Ben Greenaway a ColinPowell am eu cymorth wrth gynllunio a chefnogi’r digwyddiadhwn. Fe fwynhaodd pawb y digwyddiad.

Os ydych chi’n weithiwr chwarae sydd ynghlwm â gwaithmeysydd chwarae antur ac yr hoffech gymryd rhan mewndigwyddiadau yn y dyfodol [email protected]

Erbyn diwedd y diwrnod cyntaf roedd ty^ pen coeden yndechrau siapio.

Page 16: Chwarae yng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007DATBLYGU’R GWEITHLU

16

Yma mae Ali Wood, ymgynghoryddhyfforddi ac asesu, sy’n ein cynorthwyo iddatblygu’r cwrs P3 (Gwaith Chwarae: RhoiEgwyddorion ar Waith), yn nodi’rwybodaeth ddiweddaraf ar ein cynnyddwrth ei droi’n gymhwyster cydnabyddedig.

Bellach mae cannoedd o bobl wedi ymgymryd â’rhyfforddiant peilot Gwobr Lefel 2 ac mae amryw o’r

rhain wedi symud ymlaen i gwblhau’r peilot TystysgrifLefel 2, felly cafwyd digon o ymholiadau ynghylchcynnydd gyda’r cwrs P3. Beth sy’n digwydd ynghylch caely cymwysterau hyn wedi eu achredu? Beth am weddilllefel 2 a 3? “Mae unrhyw gynnydd i’w weld yn arafofnadwy” meddai rhywun yn ddiweddar.

Fe all ymddangos felly allan yn y maes, ond mewngwirionedd rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn; maeceisio cael cymhwyster newydd sbon (a blaengar) wedi eiachredu’n broses gymhleth ac mae angen inni fod yndrylwyr. Mae’n rhaid i’r cwrs gael a) ei gadarnhau ganSkillsActive (y cyngor sgiliau sector ar gyfer gwaith chwarae),b) ei fabwysiadu gan gorff dyfarnu cydnabyddedig, ac c)ei gymeradwyo gan yr awdurdod cymwysterau rheolyddol.Mae pob un o’r prosesau hir yma’n gymhleth ac yn galwam: ail-fformadu canlyniadau dysgu a chriteria asesu iweddu â’u gofynion; mapio’r cymhwyster i gydweddu ânifer o safonau cenedlaethol; cwrdd â nifer o bobl oamrywiol gyrff; cwblhau ffurflenni a thempledi; ganadeiladu sicrwydd ansawdd i mewn iddo – wel, chiofynnodd! Rydym yn hynod o falch, wedi ymdrech fawr allawer o drafod, mai un o’n llwyddiannau yw ein bodbellach yn gweithio gyda’r Scottish Qualification Authority,corff dyfarnu’r Alban, sy’n rhannu ein cyffro ni ynghylch P3

gan ei fod yn wahanol, yn ddynamig ac yn effeithiol.

Yn ogystal â’r holl brosesau gweinyddol a gwleidyddol(gyda ‘g’ fechan), mae’n rhaid inni sicrhau bod yrisadeiledd yn ei le fel bod gweithwyr chwarae brwd achymwys ynghlwm â’r gwaith o hyfforddi ac asesu – golygahyn hyfforddi hyfforddwyr ac aseswyr. Rydym wedi llwyddo igael ein derbyn fel canolfan asesu gyda’r City and Guildser mwyn cynnig cymwysterau mewn hyfforddi ac asesu agydnabyddir yn genedlaethol. Hyd yma, rydym wedirecriwtio a hyfforddi tua dau ddwsin o hyfforddwyr a nifer oaseswyr cymwysedig. Ond rydym angen llawer mwy.

Ym mis Ionawr, byddwn yn lansio cwrs Hyfforddi’rHyfforddwyr ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n newydd i faeshyfforddi ac yn dechrau ar rownd arall ar gyfer aseswyrnewydd yn y Gwanwyn, felly os ydych chi’n weithiwrchwarae profiadol sydd awydd newid y byd a dod yn rhano’r broses, cofiwch gysylltu â ni – mae hwn yn gyfle gwychar gyfer datblygiad proffesiynol.

Ar ben hyn i gyd, rydym yn cwblhau Lefel 2 P3 ac yndatblygu P3 ar Lefel 3, sy’n cynnwys y dasg anferth ogynllunio, ysgrifennu, cynnal peilot, golygu, dylunio acargraffu, heb son am sicrhau cyllid ar ei gyfer. Felly efallai eibod yn ymddangos, i’r rheini ohonoch sydd y tu allan i’rbroses, fod y cymwysterau’n cael eu sefydlu cyn arafed âchrwban, ond mae mwy i lwyddo i groesi’r llinell derfyn nadechrau ar ras wyllt! Fel y dywedodd y crwban wrth yrysgyfarnog, “Slow and steady wins the race.” Gallaf eichsicrhau ein bod yn gweithio’n galed ar ran pob un syddwedi dechrau eisoes ar y P3 (ac i’r rheini sy’n debygol oddangos diddordeb ynddo yn y dyfodol) i sicrhau y byddhwn yn gymhwyster y byddai unrhyw weithiwr chwarae’nfalch i feddu arno.

I ddysgu rhagor cysylltwch â Mel ar 029 2048 6050 neu â [email protected]

A yw’n well bod yngrwban neu’n ysgyfarnog?

Rydym yn cynnig cymhwyster City & Guilds agydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer gweithwyrchwarae cymwys hoffai ddod yn hyfforddwyrgwaith chwarae, sy’n addas ar gyfer pobl syddawydd cyflwyniad i hyfforddi neu addysgu neu irai sy’n anelu i symud ymlaen â’u gyrfa addysguneu hyfforddi.

Gan fod hwn yn gwrs hyfforddi gwaith chwarae syddhefyd yn ymbaratoi cyfranogwyr i drosglwyddo eincyrsiau P3: Gwaith Chwarae – Rhoi Egwyddorion arWaith, gallwn eich sicrhau y bydd yn heriol, yngwneud i chi feddwl ac yn foddhaus iawn!

I ymgeisio ar gyfer y cwrs hwn, neu am ragor owybodaeth, galwch 029 2048 6050 neu [email protected] cyn gynted â bo moddgan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig.

Lefel 3, Cyflwyniad iDrosglwyddo Dysg: 7302

Page 17: Chwarae yng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007DATBLYGU’R GWEITHLU

17

Mae Jane wedi bod yn brysur iawn yn ystodei hwythnosau cyntaf yn y swydd; yn cwrdd

â chydweithwyr o’r sector chwarae yng Nghymruac yn creu cysylltiadau gyda’r canolfannauhyfforddi yn Lloegr a gyda’r cyngor sgiliau sectorgwaith chwarae, SkillsActive.

Mae wedi gwthio’r cwch i’r dw^ r gyda datblygucanolfan wybodaeth a dysgu rhyngweithiol ar y wefydd yn cwrdd ag anghenion dysgwyr ahyfforddwyr ac y gellir cael mynediad iddi ymmhob cwr o Gymru, o’r gymuned wledig leiaf i’rddinas fwyaf. Mae cynlluniau eraill yn cynnwysymchwilio i faint, lleoliad, ariannu ac ansawddhyfforddiant gwaith chwarae sy’n bodoli eisoes yngNghymru yn ogystal ag anghenion hyfforddi’rsector gwaith chwarae ar gyfer y dyfodol. Bydd yGanolfan yn creu data-bas o wybodaeth am ycyrsiau sy’n cael eu trosglwyddo yng Nghymru fel ygall darpar ddysgwyr, yn ogystal â chyflogwyr,ddysgu ble y gallant gael gafael ar hyfforddiant argyfer gweithwyr chwarae. Bydd Jane hefyd yncadw golwg ar ddatblygiad strategaeth i gefnogidatblygiad proffesiynol parhaus i weithwyrchwarae.

Caiff gwaith Gwaith Chwarae Cymru ei oruchwylioa’i yrru ymlaen gan gonsortiwm o weithwyrchwarae, cyflogwyr, hyfforddwyr, sefydliadaucenedlaethol a chynrychiolwyr o awdurdodau lleola’r sector wirfoddol.

Os hoffech ddysgu rhagor am Gwaith ChwaraeCymru, cysylltwch â Mel Welch yn swyddfagenedlaethol Chwarae Cymru ar 029 2048 6050neu â [email protected]

Jane HawkshawMae Jane wedi bod ynghlwm â gwaith chwarae agwaith ieuenctid ers 1988, yn cynnwys cyfnod yngweithio gyda’r Lluoedd Prydeinig yn Hong Kong yndatblygu darpariaeth chwarae ac yng Nghymru felSwyddog Datblygu Hyfforddiant gyda Youth Cymru.Ei rôl diweddaraf oedd trosglwyddo cwrs 7302 Cityand Guilds: Introduction to Teaching ar ranAsiantaeth Ieuenctid Cymru.

Yn ystod ei hamser hamdden mae’n mwynhau teithiogyda’i theulu yn ei fan gwersylla ar hyd a lled Cymru.

Dywed Jane “Rwy’n edrych ymlaen at gyfnodaucyffrous a heriol yn y swydd hon ac at weithio gydachi”.

Er mwyn cysylltu â Jane, [email protected] neu galwch hi ar 029 2048 6050.

Gwaith Chwarae CymruPleser yw cyhoeddi mai enw’r Ganolfan newydd argyfer Hyfforddiant ac Addysg ar gyfer GwaithChwarae yw Gwaith Chwarae Cymru. Gallwn hefydgroesawu rheolwraig newydd y ganolfan, sef JaneHawkshaw, fydd yn cyfarwyddo datblygiad yGanolfan, gan ddisgwyl y bydd yn gweithredu’n llawno fewn y tair blynedd nesaf.

Page 18: Chwarae yng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 23 GAEAF 2007ARIANNU A DIGWYDDIADAU

18

Digwyddiadau5 Mawrth 2008 “Out2Play” –Cynhadledd Gwaith Chwarae FlynyddolSkillsActiveMaes Criced Lords, Llundainwww.skillsactive.com/resources/events/out2play

14 – 15 Mai 2008 Ysbryd Chwarae AnturHoliday Inn, Caerdyddwww.chwaraecymru.org.uk

20 Mai 2008 “Places to Go?Place shaping and sustainabletransport for an accessible, childfriendly public realm”Canolfan Gynadledda Queen Elizabeth II, Westminster,LlundainGellir ebostio i gofrestru eich diddordeb, cysyllter â[email protected]

3 – 5 Tachwedd 2008 “Child in the City” –4ydd Cynhadledd EwropeaiddRotterdamCais am bapurauwww.europoint.eu/events?childinthecity

Ariannu• MAWR – Gwnewch iddo DdigwyddMae’r Gronfa Pobl Ifanc yn rhannu grantiau o rhwng£500 a £5,000 ar gyfer gweithgareddau a phrosiectau’ngweithio gyda phobl ifanc rhwng 10 a 19 mlwydd oed.Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw’r 31ainIonawr 2008.www.lotteryfunding.org.uk/cymru/uk/big-lottery-fund

‘No Fear – Growing up in a risk averse society’

Dyma deitl y llyfr newydd gan Tim Gill, yrawdur a’r ymchwilydd ar faterion plant, agyhoeddwyd ym mis Tachwedd. Feofynnom i Mike Barclay, Swyddog DatblyguChwarae Wrecsam, i ddweud wrthym bethoedd yn ei feddwl ohono:

‘Yn gyntaf, pur anaml y byddaf yn teimlo fel darllenam y pwnc yr wyf wedi gweithio arno trwy’r dydd –

mae braidd fel gadael barbeciw sy’n para trwy’r dydd cyn mynd adrea sylweddoli mai’r unig beth sydd ar ôl yn yr oergell yw sosejis! Ond,roeddwn yn falch iawn i achub ar y cyfle i adolygu’r llyfr hwn, nid ynunig oherwydd yr oblygiadau i waith chwarae ond hefyd oherwydd yreffaith y mae osgoi risg yn ei gael ar blentyndod yn gyffredinol.

Ar brydiau roedd y llyfr yn gwneud imi deimlo’n ddig ac ynrhwystredig ynghylch yr amgylchedd yr ydym yn byw ynddo bellach– un o ymatebion eithafol i ddigwyddiadau prin. Ar brydiau eraillroeddwn yn teimlo’n weddol obeithiol bod cyfle ar ôl inni newidbarn ac arferion ac y gall y sector gwaith chwarae wneudcyfraniad sylweddol. Ond yn bwysicaf oll, fe orffennais y llyfr wedi fyysbrydoli ynghylch y ffyrdd y gallwn achosi newid trwy fy ngwaith.

Yn fy achos i, a’r rhan fwyaf ohonoch chi (rwy’n gobeithio), mae Timyn pregethu i’r cadwedig, ond fe helpodd y llyfr hwn i gadarnhau yrhyn yr oeddwn yn ei amau eisoes, fe ehangodd fy ngwybodaeth o’rpwnc ac o’r herwydd bydd yn cefnogi fy nadleuon dros ddarparurisg mewn chwarae. Mae’r llyfr hwn wedi ei ysgrifennu ar lefel sydd ofewn cyrraedd i ystod eang o bobl. Credaf ein bod yn byw mewncyfnod pan fo rhagor o bobl yn tyfu’n fwy realistig ynghylch y risgiauy dylai plant eu profi ac mae’r llyfr hwn â’r potensial i ddarbwyllo’rbobl hyn i ail-asesu’r modd y maent yn gweithio.

Dydw i ddim yn dweud bod dadleuon Tim yn rhai chwyldroadolnac yn rhai gwreiddiol; mae’r llyfr hwn yn cymryd yr holl wahanolfarnau sydd o blaid risg, yn eu pwyso a’u mesur yn erbyndigwyddiadau go iawn ac ystadegau, ac yna’n llunio dadl gwbleglur a chryno dros ganiatáu i blant gael rhywfaint o gyfrifoldeb ameu lles eu hunain. Mae’n mynd cyn belled ag egluro weithiau ybydd mesurau diogelwch tybiedig mewn gwirionedd yn arwain atsefyllfaoedd sy’n fwy peryglus.

Mae hwn yn lyfr dewr a threfnus. Nid yw Tim yn camu’n ôl rhagcydnabod bod damweiniau trasig yn digwydd sy’n achosi poenaruthrol i’r teuluoedd dan sylw, ond mae angen i gymdeithas gadwei phersbectif a pheidio â chyflwyno mesurau eithafol ar gyferdigwyddiadau prin oherwydd bod y canlyniadau’n niweidiol i’rmwyafrif o blant, nid dim ond i unigolion.

Yn olaf, mae’n siw^ r mai’r gwir arwydd o lyfr da yw pan y cewch eichhun yn cyfeirio ato mewn sgwrs, ac ers ei ddarllen rwyf wedi dyfynnuTim ar o leiaf dri achlysur gwahanol.

Mae ‘No Fear’ yn ymuno â’r ddadl cynyddol boeth ynghylch rôl anatur plentyndod yn y DU. Dros y 30 mlynedd diwethaf maegweithgareddau y bu cenedlaethau blaenorol o blant yn eumwynhau heb unrhyw ailfeddwl, wedi cael eu labelu fel rhai trwblusneu beryglus, a chafodd yr oedolion sy’n caniatáu i’rgweithgareddau hyn ddigwydd eu labelu’n anghyfrifol. Mae ‘NoFear’ yn dadlau bod plentyndod yn cael ei danseilio gan dwf osgoirisg a’i ymyrraeth ym mhob agwedd o fywydau plant’.

Gellir llwytho’r llyfr a chrynodeb ohono i lawr am ddim oddi ar www.gulbenkian.org.uk Gellir archebu copïau o’r llyfr (£8.50 + p & p) oddi arwww.centralbooks.co.uk(ISBN 978 1 903080 08 5)