blue monday wales (welsh)

4
Datganiad i’r wasg News release Datganiad i’r wasg I'w ryddhau ar unwaith: Dydd Mercher 16 Ionawr CAEL SAIB O FELAN MIS IONAWR TRWY WIRFODDOLI I HELPU POBL ERAILL Wrth i ni gyrraedd 21 Ionawr - sy'n adnabyddus fel diwrnod diflasaf y flwyddyn, mae'r Gronfa Loteri Fawr a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn galw ar bobl ar draws Cymru i leddfu Llun y Felan trwy wirfoddoli eu hamser mewn grŵp cymunedol neu elusen leol. Yn ogystal â gwneud gwahaniaeth i bobl eraill, dengys ymchwil y Gronfa Loteri Fawr y gall gwirfoddoli helpu i gynyddu sgiliau, hyder a hunan-barch - ymateb pendant i felan mis Ionawr. Dyna pam mae'r Gronfa Loteri Fawr a WCVA wedi dod ynghyd i annog mwy o bobl i wirfoddoli i gael gwared ar ddiflastod yn sgil y Nadolig. Mae WCVA, sy'n gorff mantell ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru, yn cynrychioli ac yn creu cysylltiadau â miloedd o fudiadau gwirfoddol ym mhob cwr o'r wlad. Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn ariannu miloedd o achosion da trwy gydol Cymru, gan gynnwys gofal seibiant ar gyfer gofalwyr, prosiectau i helpu pobl i oresgyn anableddau neu salwch, cefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial, ac adfywio parciau a mannau cyhoeddus. Meddai Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose: "Mae Gemau 2012 wedi dangos awydd y cyhoedd am wirfoddoli ac mae'r miloedd o bobl sy'n cofrestru i gefnogi Gemau'r Gymanwlad yn cadarnhau hyn. Ond mae gwirfoddoli i brosiect neu elusen leol yr un mor werthfawr, a gall gael hyd yn oed yn fwy o effaith: gall wneud gwahaniaeth sylweddol i'ch cymuned neu fywydau pobl mewn angen, ac mae ein hymchwil yn dangos y gall helpu i wella eich lles chi hefyd." Yn ogystal â gwirfoddoli ar gyfer prosiectau a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr, mae yna miloedd o weithgareddau ac elusennau eraill y mae angen cefnogaeth arnynt. Gan amlygu manteision gwirfoddoli, meddai Tim Day, Cyfarwyddwr Gwirfoddoli a Pholisi yn WCVA: "Mae gan bob gwirfoddolwr ei stori ei hun o ran pam mae'n ei wneud e a'r budd y mae'n ei gael ohono. I rai mae'n ffordd o fyw naturiol i gymryd rhan yn eu cymuned, yn gweithio gyda phobl eraill a gwneud yr hyn y maen nhw'n frwd drosto." Mwy i ddilyn..... 1 o 4

Upload: kath-price

Post on 11-Mar-2016

226 views

Category:

Documents


2 download

DESCRIPTION

information

TRANSCRIPT

Page 1: Blue Monday Wales (Welsh)

Datganiad i’r

wasg

News

release

Datganiad

i’r wasg

I'w ryddhau ar unwaith: Dydd Mercher 16 Ionawr

CAEL SAIB O FELAN MIS IONAWR TRWY WIRFODDOLI I HELPU POBL ERAILL

Wrth i ni gyrraedd 21 Ionawr - sy'n adnabyddus fel diwrnod diflasaf y

flwyddyn, mae'r Gronfa Loteri Fawr a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

(WCVA) yn galw ar bobl ar draws Cymru i leddfu Llun y Felan trwy wirfoddoli

eu hamser mewn grŵp cymunedol neu elusen leol.

Yn ogystal â gwneud gwahaniaeth i bobl eraill, dengys ymchwil y Gronfa Loteri Fawr y gall

gwirfoddoli helpu i gynyddu sgiliau, hyder a hunan-barch - ymateb pendant i felan mis

Ionawr. Dyna pam mae'r Gronfa Loteri Fawr a WCVA wedi dod ynghyd i annog mwy o bobl i

wirfoddoli i gael gwared ar ddiflastod yn sgil y Nadolig. Mae WCVA, sy'n gorff mantell ar

gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru, yn cynrychioli ac yn creu cysylltiadau â miloedd o

fudiadau gwirfoddol ym mhob cwr o'r wlad.

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn ariannu miloedd o achosion da trwy gydol Cymru, gan gynnwys

gofal seibiant ar gyfer gofalwyr, prosiectau i helpu pobl i oresgyn anableddau neu salwch,

cefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial, ac adfywio parciau a mannau cyhoeddus.

Meddai Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose: "Mae Gemau 2012 wedi

dangos awydd y cyhoedd am wirfoddoli ac mae'r miloedd o bobl sy'n cofrestru i gefnogi

Gemau'r Gymanwlad yn cadarnhau hyn. Ond mae gwirfoddoli i brosiect neu elusen leol yr

un mor werthfawr, a gall gael hyd yn oed yn fwy o effaith: gall wneud gwahaniaeth

sylweddol i'ch cymuned neu fywydau pobl mewn angen, ac mae ein hymchwil yn dangos y

gall helpu i wella eich lles chi hefyd."

Yn ogystal â gwirfoddoli ar gyfer prosiectau a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr, mae yna

miloedd o weithgareddau ac elusennau eraill y mae angen cefnogaeth arnynt.

Gan amlygu manteision gwirfoddoli, meddai Tim Day, Cyfarwyddwr Gwirfoddoli a Pholisi

yn WCVA: "Mae gan bob gwirfoddolwr ei stori ei hun o ran pam mae'n ei wneud e a'r budd

y mae'n ei gael ohono. I rai mae'n ffordd o fyw naturiol i gymryd rhan yn eu cymuned, yn

gweithio gyda phobl eraill a gwneud yr hyn y maen nhw'n frwd drosto."

Mwy i ddilyn..... 1 o 4

Page 2: Blue Monday Wales (Welsh)

Llun y Felan 2

"I rai eraill mae'n antur newydd, wedi'i symbylu efallai gan yr angen am ennill profiad mewn

maes penodol, neu 'symud ymlaen' ar ôl profiad difrifol mewn bywyd megis salwch,

profedigaeth neu golli swydd. Mae gwirfoddoli, sydd yn ôl ei ddiffiniad yn ddi-dâl, yn arwain

mewn gwirionedd at enillion anniriaethol enfawr. Dim ond gofyn i wirfoddolwr y mae angen i

chi ei wneud i glywed hynny!"

Wedi'i ariannu gyda £250,000 gan raglen Pawb a'i Le'r Gronfa Loteri Fawr, mae'r prosiect

Pobl a Bywyd Gwyllt a redir gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent bob amser yn

chwilio am wirfoddolwyr newydd i helpu gyda'r prosiect a chyda phrosiectau a

gwarchodfeydd natur eraill y maen nhw'n eu rheoli ar draws Gwent. Mae'r prosiect Pobl a

Bywyd Gwyllt yn gweithio gyda gwirfoddolwyr yng Ngwarchodfa Natur y Dyffryn Distaw yng

Nghwm Ebwy uchaf i roi profiad o weithio mewn cadwraeth i grwpiau o bobl ifanc nad ydynt

mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth er mwyn iddynt gynyddu eu sgiliau ymarferol a'u

helpu i weithio'n well fel tîm sy’n cyflawni nod.

Un person all dystio i fanteision gwirfoddoli i'r prosiect yw Sally Morgan sy'n 20 oed ac yn

hanu o Frynmawr, Blaenau Gwent. Mae Sally yn gofalu'n amser llawn am ei thad sy'n

dioddef o fethiant cronig y galon. Mae gwirfoddoli dros y prosiect wedi'i helpu i ddatblygu ei

sgiliau a'i hawydd am gadwraeth amgylcheddol, ac mae'n darparu seibiant y mae arni ei

angen yn fawr o gyfrifoldebau gofalu. Gan i'r gwirfoddoli gael sut gymaint o effaith arni, mae

Sally bellach wedi dod o hyd i waith fel swyddog gwarchodfeydd cynorthwyol gyda'r prosiect

ac yn astudio tuag at radd y brifysgol agored mewn cadwraeth ac ecoleg.

“Trwy gymryd rhan yn y prosiect rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau ymarferol newydd sy'n

gysylltiedig â rheoli mannau gwyrdd lleol er budd bywyd gwyllt ond hefyd fel mannau i bobl

ymweld â nhw a mwynhau bod yn yr awyr agored," mae hi'n esbonio.

“Wrth wirfoddoli am ddau ddiwrnod yr wythnos, gwelais fy mod yn dysgu sgiliau newydd

megis ffensio da byw, rheoli tir, sgiliau adnabod a chymorth cyntaf, a hwylusodd hynny yr

agwedd ofalu ar fy mywyd gan nad oedd neb yn fy nheulu wedi'u hyfforddi mewn cymorth

cyntaf. Rwyf wedi mynychu cyrsiau, sgyrsiau a digwyddiadau niferus Ymddiriedolaeth

Bywyd Gwyllt Gwent, sydd wedi rhoi cyfle i mi gwrdd â phobl sy'n rhannu'r un math o

ddiddordeb a ffurfio sawl cyfeillgarwch parhaus, na fyddai wedi bod yn bosib yn flaenorol.

Rwyf wedi cynyddu fy hyder ac rwy'n astudio erbyn hyn tuag at radd gyda'r Brifysgol

Agored.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent,

cysylltwch â Veronika Brannovic yn Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent ar

[email protected] neu ffoniwch 01495 307525.

Mwy i ddilyn..... 2 o 4

Page 3: Blue Monday Wales (Welsh)

Llun y Felan 3

Ac ar Ynys Môn, Gogledd Cymru, mae prosiect bod yn gyfaill Cadwyn Môn a redir gan

Age Cymru Gwynedd a Môn hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i alluogi pobl hŷn i fyw

bywydau llawnach. Wedi'i ariannu gyda bron £610,000 gan raglen Llawn BYWYD gwerth

£20 miliwn y Gronfa Loteri Fawr, mae Cadwyn Môn yn brosiect pum mlynedd sy'n gweithio

gyda phobl dros 50 oed sydd mewn sefyllfa na ellir beio ar unrhyw un ar ei chyfer lle maen

nhw'n unig neu'n bell oddi wrth eu cymunedau lleol.

Gan annog pobl i wirfoddoli i'r prosiect, meddai Rheolwr Cadwyn Môn, Helen Ellis:

“Rydym yn cwrdd â phobl bob dydd sydd ag awydd mawr am wneud ffrindiau newydd,

ymuno â chlwb, ymwneud â diddordeb newydd neu ddysgu medrau newydd, ond mae diffyg

hyder i gymryd y cam cyntaf.

Mae Cadwyn Môn yn darparu gwirfoddolwyr hyfforddedig i fod yn gyfaill i'r unigolion a'u

helpu i oresgyn y rhwystrau hyn. Rydym yn gweld mai'r peth sy'n gwneud y gwahaniaeth

mwyaf i iechyd a lles pobl yw gwneud ffrindiau newydd, mae pobl yn mwynhau mynd allan i

leoedd fel y Canolfannau Heneiddio'n Dda ac yn ymhyfrydu yn y cyfeillgarwch a'r

gweithgareddau sydd ar gael iddynt yno."

Ychwanegodd Helen: “Mae'r galw am y gwasanaeth hwn ymhell y tu hwnt i'n disgwyliadau,

ac rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd, felly os oes gan unrhyw un

ychydig oriau i’w rhoi gofynnir i chi gysylltu â ni, rydym yn cynnig unrhyw hyfforddiant y mae

ei angen ac yn talu mân dreuliau. Gall gwirfoddoli fod yn hynod o wobrwyol, yn aml mae

pobl yn cael cymaint allan o'r profiad â'r unigolion y maen nhw'n gweithio gyda nhw. Mae i

fod yn rhan o dîm ei wobrwyon ei hun, gyda chyfarfodydd cefnogi rheolaidd, pan ddaw

gwirfoddolwyr ynghyd i rannu profiadau."

Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y gwasanaeth neu mewn gwirfoddoli gysylltu â Helen i

gael gwybod mwy trwy ffonio 01248 724970 neu anfon e-bost at: [email protected]

I gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli yng Nghymru, ewch i www.volunteering-wales.net

Mwy o Wybodaeth:

Oswyn Hughes – Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 029 2067 8207

Cyswllt y Tu Allan i Oriau: 07760 171 431

Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735 Ffôn testun: 0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn:

www.cronfaloterifawr.org.uk

Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/

Dilynwch y Gronfa ar Twitter: www.twitter.com/loterifawrcymru

Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales

Mwy i ddilyn..... 3 o 4

Page 4: Blue Monday Wales (Welsh)

Llun y Felan 4

Nodiadau i Olygyddion

Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu tua £100,000 bob dydd mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.

Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.

Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Mae WCVA yn cefnogi ac yn cynrychioli'r trydydd sector yng Nghymru, gyda mwy na 3,000 o aelodau'n cynnwys ystod eang o fudiadau sy'n gweithio ar faterion megis tai, adfywio economaidd, gofal plant, datblygu cymunedol, cludiant, yr amgylchedd ac iechyd.

Diwedd// Cyhoeddwyd:

WPN 13-01-02