beibl bach i blant (sampler)

10
1 Dechrau’r Byd Caewch eich llygaid yn dynn. Mae’n dywyll, dywyll. Rhowch eich dwylo dros eich clustiau. Mae’n dawel, dawel. Amser maith yn ôl, cyn dechrau’r byd, roedd popeth yn dywyll, popeth yn dawel. Dim pobl. Dim adar. Dim anifeiliaid.

Upload: aled-davies

Post on 19-Mar-2016

234 views

Category:

Documents


5 download

DESCRIPTION

Beibl Bach i Blant (Sampler)

TRANSCRIPT

Page 1: Beibl Bach i Blant (Sampler)

10

1

Dechrau’r Byd

Caewch eich llygaid yn dynn.Mae’n dywyll, dywyll.Rhowch eich dwylo dros eich clustiau.Mae’n dawel, dawel.

Amser maith yn ôl, cyn dechrau’r byd, roedd popeth yn dywyll, popeth yn dawel.

Dim pobl.Dim adar.Dim anifeiliaid.

Page 2: Beibl Bach i Blant (Sampler)

11

Yna dwedodd Duw:“Rhaid i mi wneud golau! Golau dydd a haul i

ddisgleirio.”

Fe wnaeth Duw y golau.Ac roedd popeth yn dda.

Page 3: Beibl Bach i Blant (Sampler)

12

Cadwodd Duw y tywyllwch ar gyfer y nos; gwnaeth y lleuad a’r sêr i ddisgleirio yn y tywyllwch.

Roedd hynny’n dda hefyd.

Page 4: Beibl Bach i Blant (Sampler)

13

Dwedodd Duw:“Rhaid i mi wneud awyr, tir a môr.” Ac roedd

hynny’n dda hefyd.

Ond roedd y byd yn wag ac yn dawel o hyd.

Dwedodd Duw, “Rhaid i mi gael planhigion.” A dechreuodd y planhigion gwyrdd cyntaf dyfu. Cyn bo hir roedd yna flodau a choed a digon o bethau da i’w bwyta.

Page 5: Beibl Bach i Blant (Sampler)

14

Ond doedd yna ddim un creadur byw i’w mwynhau.

Felly siaradodd Duw eto. Ac yna roedd y môr yn llawn o bysgod a chreaduriaid. A’r awyr yn llawn o liw a sŵn adenydd. Ac o’r ddaear fe ddaeth pob math o anifail.

Doedd hi ddim yn dawel wedyn!

Page 6: Beibl Bach i Blant (Sampler)

15

“Twît-twît! Twît-twît!” Canai’r adar yn hapus.Dechreuodd yr anifeiliaid siarad. Roedd llais

pob un yn wahanol.“Hiii-ho!” Dyna’r mul.“Wwff! Wwff! Grrr-wff!” A dyna’r ci.

Page 7: Beibl Bach i Blant (Sampler)

16

Ond doedd Duw ddim wedi gorffen eto.

Roedd angen pobl yn y byd newydd hardd roedd Duw wedi ei greu: pobl i edrych ar ei ôl, pobl i’w fwynhau. Pobl oedd yn gallu meddwl a theimlo, fel Duw, a gwneud pethau hefyd.

Page 8: Beibl Bach i Blant (Sampler)

17

Felly gwnaeth Duw y dyn cyntaf a’r ddynes gyntaf, i ofalu am y byd ac am ei gilydd, ac i garu Duw.

Enw’r dyn oedd Adda ac enw’r ddynes oedd Efa.

Page 9: Beibl Bach i Blant (Sampler)

18

Ar y dechrau, pan oedd y byd yn newydd, roedd popeth yn dda. A Duw yn hapus iawn.

Ond ar ôl yr holl waith roedd Duw wedi blino. Aeth i orffwys er mwyn cael seibiant i fwynhau’r cyfan a wnaeth.

Page 10: Beibl Bach i Blant (Sampler)

19

“Duw wnaeth yr awyr uwch ein pennaua’r ddaear dan ein traed.Mae Duw’n ein caru bob amser.Duw wnaeth yr haul sy’n disgleirio’n y dydda’r lleuad a’r sêr sy’n disgleirio’n y nos.Mae Duw’n ein caru bob amser.” *

“Duw biau’r ddaear a phob dim sydd ynddi, y byd a phob creadur sydd ynddo, am mai Duw sydd wedi eu gwneud i gyd.”

* Ewch i dudalen 479 i weld o ble mae’r darnau sydd wedi eu haralleirio o’r Beibl yn dod.