asesu ystyriaeth y swyddfa gartref o’i pholisïau ar y ... · web viewwnaeth y swyddfa gartref...
TRANSCRIPT
![Page 1: Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y ... · Web viewWnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi am unrhyw dystiolaeth, ar unrhyw adeg ar ôl i Ddeddf Mewnfudo 2014 ddod](https://reader035.vdocuments.mx/reader035/viewer/2022081618/60a7b64c4a48d0799b25f901/html5/thumbnails/1.jpg)
Arolwg
Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y genhedlaeth Windrush
equalityhumanrights.com
![Page 2: Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y ... · Web viewWnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi am unrhyw dystiolaeth, ar unrhyw adeg ar ôl i Ddeddf Mewnfudo 2014 ddod](https://reader035.vdocuments.mx/reader035/viewer/2022081618/60a7b64c4a48d0799b25f901/html5/thumbnails/2.jpg)
Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y genhedlaeth Windrush
CynnwysGwybodaeth........................................................................................................3
Pwy ydym ni......................................................................................................3
Beth yr ydym yn ei wneud.................................................................................3
Yr hyn yr ydym ei eisiau gennych.....................................................................4
Ble i gael cymorth a chyngor.............................................................................4
Sut fyddwn yn trin yr wybodaeth.......................................................................5
Amdanoch chi.....................................................................................................6
Rwyf yn: (dynodwch yr un sydd yn gymwys i chi) (mae angen ateb)................6
1. Ymgynghoriad Swyddfa Gartref: effaith bosib polisïau..............................7
2. Ymgynghoriad Swyddfa Gartref: effaith gwirioneddol y polisïau...............8
3. Ymgeision i rannu gwybodaeth.....................................................................9
4. Enghreifftiau o arfer dda..............................................................................10
5. Gwybodaeth y gofynnodd y Swyddfa Gartref amdani...............................12
6. Problemau ceisioch ddweud amdanyn nhw wrth y Swyddfa Gartref.......13
1
![Page 3: Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y ... · Web viewWnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi am unrhyw dystiolaeth, ar unrhyw adeg ar ôl i Ddeddf Mewnfudo 2014 ddod](https://reader035.vdocuments.mx/reader035/viewer/2022081618/60a7b64c4a48d0799b25f901/html5/thumbnails/3.jpg)
Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y genhedlaeth Windrush
Gwybodaeth
Diolch am gymryd rhan yng ngalwad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am gynrychioliadau i’n hasesiad o sut wnaeth y Swyddfa Gartref gydymffurfio â’i rhwymedigaethau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED), wrth ystyried effaith ei pholisïau amgylchedd gelyniaethus ar y genhedlaeth Windrush.
Mae’r arolwg hwn ar gael ar-lein hefyd.
Ar ôl gorffen yr arolwg anfonwch eich ymateb i: [email protected]
Bydd yr arolwg yn cau am 23:59 ddydd Sul 16 Awst 2020.
Ni chaiff unrhyw beth yr anfonwch i ni ar ôl y dyddiad hwn ei ystyried gennym.
Pwy ydym niCorff cydraddoldeb cenedlaethol Prydain ydym ni a sefydliad hawliau dynol. Ein swydd yw helpu gwneud Prydain yn decach. Gwnawn hynny drwy amddiffyn a gorfodi’r cyfreithiau sydd yn amddiffyn hawliau pobl i degwch, urddas a pharch.
Gorfodwn y PSED, a grëwyd i sicrhau bod cyrff cyhoeddus, gan gynnwys adrannau llywodraeth, yn hybu cyfle cyfartal, dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, a meithrin perthynas dda ymhob un o’u gweithgareddau, gan gynnwys i bobl grwpiau lleiafrifoedd ethnig gwahanol.
Yr hyn yr ydym yn ei wneudRydym yn cynnal asesiad o dan adran 31 Deddf Cydraddoldeb 2006. Bydd yn bwrw golwg a yw, a sut wnaeth y Swyddfa Gartref gyflawni’i rhwymedigaethau PSED (yn agor mewn ffenest newydd) wrth lunio, eu rhoi ar waith a monitro’r polisïau mewnfudo ‘amgylchedd gelyniaethus’ honedig a arweiniodd at yr anghyfiawnderau difrifol a ddioddefodd y genhedlaeth Windrush.
Yn benodol, byddwn yn bwrw golwg ar:
2
![Page 4: Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y ... · Web viewWnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi am unrhyw dystiolaeth, ar unrhyw adeg ar ôl i Ddeddf Mewnfudo 2014 ddod](https://reader035.vdocuments.mx/reader035/viewer/2022081618/60a7b64c4a48d0799b25f901/html5/thumbnails/4.jpg)
Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y genhedlaeth Windrush
y polisïau a gyflwynodd gofynion ychwanegol ar gyfer pobl i brofi’u statws mewnfudo i gael mynediad i wasanaethau (megis tai preifat sydd wedi’u rhentu, gofal iechyd, trwydded yrru a bancio)
gweithdrefnau mewnol y Swyddfa Gartref a oedd yn ddiweddarach yn gofyn i bobl ddarparu lefelau sylweddol, yn aml yn afresymol, o ddogfennaeth wrth geisio cadarnhau neu newid statws mewnfudo
Rydym am lywio ymateb y Swyddfa Gartref i Adolygiad Windrush Williams o Wersi a Ddysgwyd. Rydym hefyd am helpu gwella ymagwedd yr adran at ddefnyddio’r PSED, fel y bo’n ystyried effaith ei pholisïau a’i ymarferion ar bobl â nodweddion gwarchodedig, megis hil, yn y dyfodol.
Cewch ragor am yr asesiad ar ein gwefan.
Yr hyn yr ydym ei eisiau gennych Hoffem glywed oddi ar:
grwpiau cynrychiadol a sefydliadau aelodau o’r genhedlaeth Windrush a effeithiwyd arnynt
Rydym am ganfod yr hyn a wnaeth y Swyddfa Gartref i ddeall yr effaith y gallai’i pholisïau a’i ymarferion ei gael, ac yna a gafwyd, ar aelodau Du’r genhedlaeth Windrush a’u disgynyddion.
Rydym am wybod a gafodd y Swyddfa Gartref, a sut, ei llywio gan dystiolaeth, gan gynnwys barnau a phrofiadau pobl.
Ar sail yr hyn a ddysgwn, byddwn yn gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol wrth lunio polisi mewnfudo.
Ble i gael cymorth a chyngor Er na allwn gynnig cyngor ar achosion unigol, gwyddom fod y boen a’r amhariad a ddioddefodd llawer o bobl yn sylweddol, ac yn barhaus mewn llawer i achos. Os oes angen cymorth a chyngor pellach arnoch, argymhellwn i chi gysylltu â sefydliadau megis Joint Council for the Welfare of Immigrants .
Gall pobl a effeithiwyd arnynt gan y sgandal Windrush wneud cais i Gynllun Iawndal Windrush ar gyfer colledion a gawsant.
3
![Page 5: Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y ... · Web viewWnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi am unrhyw dystiolaeth, ar unrhyw adeg ar ôl i Ddeddf Mewnfudo 2014 ddod](https://reader035.vdocuments.mx/reader035/viewer/2022081618/60a7b64c4a48d0799b25f901/html5/thumbnails/5.jpg)
Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y genhedlaeth Windrush
Sut fyddwn yn trin eich gwybodaeth
Byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth a ddarparwch yn yr arolwg hwn i lywio’n hadroddiad asesu ac unrhyw waith dilynol i roi’r newidiadau a argymhellwn ar waith yn sgil yr asesiad.
Ni fydd yr adroddiad, nag unrhyw ddogfen a rennir y tu allan i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn cynnwys manylion adnabod unigolion sydd wedi cyflwyno tystiolaeth. Efallai byddwn yn dyfynnu’ch tystiolaeth yn ddienw.
Gwnawn ddal eich tystiolaeth yn ddiogel ac ni rannwn unrhyw fanylion cyswllt, a allai eich enwi, gydag unrhyw barti arall.
Am fwy o wybodaeth, gweler yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.
4
![Page 6: Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y ... · Web viewWnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi am unrhyw dystiolaeth, ar unrhyw adeg ar ôl i Ddeddf Mewnfudo 2014 ddod](https://reader035.vdocuments.mx/reader035/viewer/2022081618/60a7b64c4a48d0799b25f901/html5/thumbnails/6.jpg)
Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y genhedlaeth Windrush
Amdanoch chi
Rwyf yn: (dynodwch yr un sydd yn gymwys i chi (mae angen ateb)
grŵp cynrychiadol neu sefydliad a all ddarparu gwybodaeth ar a wnaeth y Swyddfa Gartref, a sut, geisio am neu cafodd ei llywio gan dystiolaeth, megis barnau a phrofiadau, am effaith y polisïau amgylchedd gelyniaethus ar y genhedlaeth Windrush (llanwch adrannau 1-4 y ffurflen hon)
aelod o’r genhedlaeth Windrush, neu’u disgynydd (llanwch adran 5 ac adran 6 y ffurflen hon)
unigolyn sydd yn dymuno ymateb ar ran ffrind neu aelod teulu sydd yn aelod o’r genhedlaeth Windrush (llanwch adran 5 ac adran 6 y ffurflen hon)
5
![Page 7: Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y ... · Web viewWnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi am unrhyw dystiolaeth, ar unrhyw adeg ar ôl i Ddeddf Mewnfudo 2014 ddod](https://reader035.vdocuments.mx/reader035/viewer/2022081618/60a7b64c4a48d0799b25f901/html5/thumbnails/7.jpg)
Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y genhedlaeth Windrush
1. Ymgynghoriad Swyddfa Gartref: effaith bosib polisïau
1. Wnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi am unrhyw dystiolaeth am effaith bosib y gofynion newydd ac ychwanegol i brofi statws i gael mynediad i wasanaethau, cyn i Ddeddf Mewnfudo 2014 ddod i rym, ar aelodau Du’r genhedlaeth Windrush? (dynodwch) (angen ateb)Er enghraifft, mwy o ofynion i unigolion brofi’u statws mewnfudo i gael mynediad i dai rhent preifat.
Do
Naddo (ewch i adran 2 y ffurflen hon)
2. Os do, manylwch am y broses hon isod. (angen ateb)
Wnewch chi gynnwys:
pryd yr oedd hyn sut wnaeth y Swyddfa Gartref geisio am eich mewnbwn pa fath o wybodaeth a ddarparoch
Nid ydym angen gweld y dystiolaeth a gyflwynoch i’r Swyddfa Gartref. Yn lle hynny, darparwch grynodeb o’r fath o ymgysylltu a fu. Er enghraifft, cymryd rhan mewn grŵp cyfeirio neu ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig.
6
![Page 8: Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y ... · Web viewWnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi am unrhyw dystiolaeth, ar unrhyw adeg ar ôl i Ddeddf Mewnfudo 2014 ddod](https://reader035.vdocuments.mx/reader035/viewer/2022081618/60a7b64c4a48d0799b25f901/html5/thumbnails/8.jpg)
Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y genhedlaeth Windrush
2. Ymgynghoriad Swyddfa Gartref: effaith gwirioneddol y polisïau
1. Wnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi am unrhyw dystiolaeth, ar unrhyw adeg ar ôl i Ddeddf Mewnfudo 2014 ddod i rym, o ddeall neu liniaru effaith gwirioneddol yr oedd y gofynion ychwanegol i brofi statws i gael mynediad i wasanaethau yn cael ar aelodau Du’r genhedlaeth Windrush? (dynodwch) (angen ateb)Er enghraifft, gallai ymwneud ag effaith:
mesurau amgylchedd gelyniaethus, megis mwy o ofynion i unigolion brofi statws mewnfudo i gael mynediad i dai rhent preifat
ymarferion Swyddfa Gartref mewnol o ran lefel y ddogfennaeth yr oedd ei angen gan unigolion yn ceisio cadarnhau neu newid statws
Do
Naddo (ewch i adran 3 y ffurflen hon)
2. Os do, manylwch ar y broses hon isod. (angen ateb)Wnewch chi gynnwys:
pryd yr oedd hyn sut wnaeth y Swyddfa Gartref geisio am eich mewnbwn pa fath o wybodaeth a ddarparoch
7
![Page 9: Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y ... · Web viewWnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi am unrhyw dystiolaeth, ar unrhyw adeg ar ôl i Ddeddf Mewnfudo 2014 ddod](https://reader035.vdocuments.mx/reader035/viewer/2022081618/60a7b64c4a48d0799b25f901/html5/thumbnails/9.jpg)
Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y genhedlaeth Windrush
Nid ydym angen gweld y dystiolaeth a gyflwynoch i’r Swyddfa Gartref. Yn lle hynny, darparwch grynodeb o’r fath o ymgysylltu a fu. Er enghraifft, cymryd rhan mewn grŵp cyfeirio neu ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig.
8
![Page 10: Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y ... · Web viewWnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi am unrhyw dystiolaeth, ar unrhyw adeg ar ôl i Ddeddf Mewnfudo 2014 ddod](https://reader035.vdocuments.mx/reader035/viewer/2022081618/60a7b64c4a48d0799b25f901/html5/thumbnails/10.jpg)
Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y genhedlaeth Windrush
3. Ymgeision i rannu gwybodaeth
1. Wnaethoch chi ymgeisio i rannu, neu wnaethoch chi rannu, unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth gyda’r Swyddfa Gartref am yr effaith yr oedd y mesurau yn eu cael ar y genhedlaeth Windrush rhwng 2014 a 2018? (dynodwch) (angen ateb)Er enghraifft, gallai ymwneud ag effaith:
mesurau amgylchedd gelyniaethus, megis mwy o ofynion i unigolion brofi statws mewnfudo i gael mynediad i dai rhent preifat
ymarferion Swyddfa Gartref mewnol o ran lefel y ddogfennaeth yr oedd ei angen gan unigolion yn ceisio cadarnhau neu newid statws
Do
Naddo (ewch i adran 4 y ffurflen hon)
2. Os do, manylwch ar y broses hon isod. (angen ateb) Please include:
pryd wnaethoch chi hyn sut wnaethoch chi hyn sut brofiad gawsoch chi beth oedd ymateb y Swyddfa Gartref
Nid ydym angen gweld y dystiolaeth a gyflwynoch i’r Swyddfa Gartref. Yn lle hynny, darparwch grynodeb o’r fath o ymgysylltu a fu. Er enghraifft, cymryd rhan mewn grŵp cyfeirio neu ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig.
9
![Page 11: Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y ... · Web viewWnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi am unrhyw dystiolaeth, ar unrhyw adeg ar ôl i Ddeddf Mewnfudo 2014 ddod](https://reader035.vdocuments.mx/reader035/viewer/2022081618/60a7b64c4a48d0799b25f901/html5/thumbnails/11.jpg)
Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y genhedlaeth Windrush
4. Enghreifftiau o arfer dda
1. Oes unrhyw enghreifftiau ymgynghori neu ymgysylltu arall gennych, gan y Swyddfa Gartref neu awdurdodau cyhoeddus eraill, yr ydych o’r farn ei fod yn foddhaol a/neu effeithiol? (dynodwch) (angen ateb)
Rydym yn benodol yn edrych am enghreifftiau y gallai’r Swyddfa Gartref eu dilyn yn y dyfodol, i sicrhau ei bod yn ystyried effaith posib a gwirioneddol ei bolisïau ar bobl â nodweddion gwarchodedig.
Oes
Nac oes (diwedd yr arolwg)
2. Os oes, manylwch ar yr enghraifft/enghreifftiau isod. (angen ateb)
Wnewch chi gynnwys:
yr hyn a wnaeth ef yn foddhaol neu effeithiol sut wnaeth ef effeithio ar eich perthynas gyda chyrff cyhoeddus sut wnaeth ef effeithio ar ddeilliannau i’r bobl rydych yn eu cynrychioli
10
![Page 12: Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y ... · Web viewWnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi am unrhyw dystiolaeth, ar unrhyw adeg ar ôl i Ddeddf Mewnfudo 2014 ddod](https://reader035.vdocuments.mx/reader035/viewer/2022081618/60a7b64c4a48d0799b25f901/html5/thumbnails/12.jpg)
Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y genhedlaeth Windrush
Efallai hoffem gysylltu’n ddilynol â chi i drafod eich safbwyntiau’n bellach. Gwnawn ond defnyddio’ch manylion personol yn unig i gysylltu â chi am eich ymateb i’r arolwg hwn.
Os ydych yn fodlon gwneud hyn, atebwch y cwestiynau a ganlyn.
Os nad ydych yn fodlon i ni gysylltu â chi, dyma ddiwedd yr arolwg.
3. Rwyf yn hapus i chi gysylltu â mi am fy ymatebion: (dynodwch)
Ar y ffôn
Drwy anfon e-bost
4. Os ydych yn hapus i rywun gysylltu â chi, rhowch y manylion perthnasol isod.
Enw:
Sefydliad, os yn berthnasol:
Ffôn:
E-bost:
11
![Page 13: Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y ... · Web viewWnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi am unrhyw dystiolaeth, ar unrhyw adeg ar ôl i Ddeddf Mewnfudo 2014 ddod](https://reader035.vdocuments.mx/reader035/viewer/2022081618/60a7b64c4a48d0799b25f901/html5/thumbnails/13.jpg)
Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y genhedlaeth Windrush
5. Gwybodaeth y gofynnodd y Swyddfa Gartref amdani
1. Wnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi erioed am wybodaeth am yr effaith arnoch o orfod darparu prawf statws mewnfudo i gael mynediad i wasanaethau? (dynodwch) (angen ateb)
Er enghraifft, i gael mynediad i dai rhent preifat neu agor cyfrif banc.
Do
Naddo (ewch i adran 6 y ffurflen hon)
2. Os do, manylwch ar y broses isod. (dynodwch) (angen ateb)
Wnewch chi gynnwys:
pryd gysylltodd y Swyddfa Gartref â chi (ym mha flwyddyn?) sut wnaeth y Swyddfa Gartref gysylltu â chi (gawsoch chi eich gwahodd
i grŵp, cysylltodd sefydliad â chi, neu unrhyw ffordd arall?)
Darparwch grynodeb byr. Peidiwch â rhannu’r cyswllt a gawsoch â’r Swyddfa Gartref, neu gopïau o unrhyw wybodaeth a anfonoch ati, gan na allwn adolygu achosion unigol.
12
![Page 14: Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y ... · Web viewWnaeth y Swyddfa Gartref ofyn i chi am unrhyw dystiolaeth, ar unrhyw adeg ar ôl i Ddeddf Mewnfudo 2014 ddod](https://reader035.vdocuments.mx/reader035/viewer/2022081618/60a7b64c4a48d0799b25f901/html5/thumbnails/14.jpg)
Asesu ystyriaeth y Swyddfa Gartref o’i pholisïau ar y genhedlaeth Windrush
6. Problemau ceisioch ddweud
amdanyn nhw wrth y Swyddfa Gartref
1. Wnaethoch chi erioed ddweud wrth y Swyddfa Gartref fod y gofynion ychwanegol i brofi’ch statws mewnfudo yn achosi anawsterau neu broblemau i chi? (dynodwch) (angen ateb)
Er enghraifft, problemau wrth gael mynediad i wasanaethau megis tai rhent preifat, neu gael cadarnhad o’ch statws mewnfudo gan y Swyddfa Gartref.
Do
Naddo (diwedd yr arolwg)
2. Os do, manylwch isod. (angen ateb)Wnewch chi gynnwys:
pryd wnaethoch gysylltu â’r Swyddfa Gartref (ym mha flwyddyn?) sut wnaethoch gysylltu â’r Swyddfa Gartref (ysgrifennoch chi at y
Swyddfa Gartref, dweud wrth aelod staff mewn cyfarfod gwaith achos, gwneud cwyn ffurfiol, neu gysylltu â hi mewn ffordd arall?)
y mathau o faterion a godoch yr ymateb a gawsoch gan y Swyddfa Gartref
Darparwch grynodeb byr. Peidiwch â rhannu’r cyswllt a gawsoch â’r Swyddfa Gartref, neu gopïau o unrhyw wybodaeth a anfonoch ati, gan na allwn adolygu achosion unigol.
13