opsiynau ca4 2016-2017 cymhwyster tudalenysgolplasmawr.cymru/images/docs/colofnauca42016.pdf · ac...
Post on 25-Jun-2020
0 Views
Preview:
TRANSCRIPT
1
OPSIYNAU CA4 2016-2017
Enw’r Cwrs Cymhwyster Tudalen
Rhagarweiniad 2
Pynciau Craidd 7
Colofn A 17
Cyfrifiadureg TGAU
Cerddoriaeth TGAU
Sbaeneg TGAU
Daearyddiaeth TGAU
Tecstilau TGAU
Dylunio Cynnyrch TGAU
Sgiliau Byd Gwaith
Colofn B 27
Hanes TGAU
Drama TGAU
Gwasanaethau Cyhoeddus BTEC L2
Graffeg TGAU
Iechyd a Gofal BTEC L2
Daearyddiaeth TGAU
Technoleg Gwybodaeth TGAU
Colofn C 34
Ffrangeg TGAU
Addysg Gorfforol TGAU a BTEC L2
Celf a Dylunio TGAU
Arlwyo a Lletygarwch TGAU
Hanes TGAU
Cymdeithaseg TGAU
2
RHAGARWEINIAD
Mae’n gyfnod hynod o gyffrous ym mywydau disgyblion 14 mlwydd oed
Ysgol Plasmawr. Dyma gyfnod o newid, cyfnod dewisiadau, cyfnod a fydd
yn arwain at yrfa lwyddiannus a llewyrchus yn y byd mawr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â nifer o adolygiadau o
gymwysterau a’r system addysg dros y blynyddoedd diwethaf, ac wedi cyhoeddi
cynllun clir am siâp, natur a chynnwys Cwricwlwm newydd Cymru ar gyfer Medi
2015. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau newydd a diwygiedig yn y pynciau
Craidd, a chyflwyno’r Fagloriaet fel cymhwyster tros-fwaol gan gynnwys yr Heriau
newydd.
Mae manylion am natur a chynnwys Cwricwlwm newydd Cymru ar gael ar :
www.cymwysamoes.org.uk
Am fanylion i rieni am yr holl newidiadau i Gwricwlwm Cymru ar gyfer 2015-
16, ewch i :
http://cymwysamoes.org.uk/pecyn-rhieni
3
Croeso i Flwyddyn 10
Mae Cyfnod Allweddol 3 yn dirwyn i ben, ac wedi gosod seiliau addysgol cadarn i
bob disgybl. Mae’r llwybr a ddilynwyd yn newid, a cheir cyfle nawr i ddewis
llwybr personol. Mae llawer o’r hyn a ddilynwyd yng Nghyfnod Allweddol 3 yn
parhau, ond nawr daw’r cyfle i ddewis cyfeiriad arbenigol, neu i gadw nifer o
lwybrau ar agor. Beth bynnag fydd y dewis, mawr yw’r disgwyliad.
Dyma’r cyrsiau sy’n parhau ar yr amserlen i bob disgybl yn ystod y
ddwy flynedd nesaf:-
Y BAC CA4, Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth,
SGILIAU HANFODOL CYMRU – Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu - Lefel 2
Gosodir y disgyblion mewn setiau yn ôl eu gallu yn y pynciau hynny, a phob un
ohonynt yn arwain naill ai at y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd [TGAU],
BTEC neu at Dystysgrif Lllwybrau Mynediad.
Bydd pob disgybl yn mynychu gwersi:-
Addysg Grefyddol, Technoleg Gwybodaeth ac Addysg Gorfforol.
Bydd y cwrs Addysg Grefyddol yn gwrs llawn neu byr TGAU / Llwybr Mynediad a
Thechnoleg Gwybodaeth yn gwrs Cymhwyso L2. Mi fydd cyfle i astudio cwrs
llawn Technoleg Gwybodaeth trwy’r colofnau opsiwn. Bydd y ddau yn gyrsiau
arholiadau allanol.
Bydd pob disgybl yn dewis y cyrsiau canlynol o’r colofnau:-
TGAU (Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd)
BTEC Lefel 1 neu Lefel 2
Llwybrau Mynediad
ARHOLIADAU ALLANOL
TYSTYSGRIF GYFFREDINOL ADDYSG UWCHRADD (TGAU)
Prif nodweddion TGAU yw:-
System sengl o arholiadau yw hi. Gellir sefyll unrhyw nifer o arholiadau.
Cyflwynir gradd ar gyfer bob pwnc a bydd hon yn ymddangos ar eich
tystysgrif. Os yn llwyddiannus, bydd y graddau yn amrywio o A* - G.
4
Mae pob arholiad yn anelu at brofi gwybodaeth, dealltwriaeth a’r gallu i
ddefnyddio gwybodaeth. Cynigir dewis o bapurau neu o gwestiynau o
fewn pob pwnc i ganiatáu disgyblion o wahanol alluoedd i ddangos yr hyn
maent wedi ei ddeall, cyfanswm y wybodaeth maent wedi’i ddeall, a’r hyn
allant ei wneud â’r wybodaeth hynny.
Yr ysgol mewn partneriaeth gyda’r disgybl a’r rhieni fydd yn penderfynu pa
bapurau dylai disgybl roi cynnig arnynt.
Mae gwaith cwrs yn rhan annatod o fywyd ymgeisydd TGAU. Mae gwaith cwrs
yn caniatáu asesiad o waith yr ymgeisydd yn ystod y cwrs. Mae gwaith cwrs yn
bwysig er mwyn dangos beth gall ymgeisydd gyflawni y tu allan i ystafell arholiad.
Bydd hyn o fantais i’r disgyblion hynny sy’n cael anhawster i gynhyrchu gwaith o’r
un safon yn yr ystafell arholiad ag a wnânt yn yr ystafell ddosbarth.
Cymwysterau BTEC
Cyrsiau galwedigaethol yw cyrsiau BTEC, sy’n caniatáu dysgwyr o bob gallu i
ennyn profiadau a dealltwriaeth o’r maes a ddewisir.
Mae’r cyrsiau yn caniatáu dilyniant a chynnydd o 14 i 19 oed ar wahanol lefelau
ac mewn amrywiaeth eang o feysydd. Mae’r cyrsiau yn derbyn yr un cymhwyster
â’r cyrsiau TGAU traddodiadol.
Mae pob un o’r cyrsiau galwedigaethol yn seiliedig ar waith prosiect neu
aseiniadau.
Lefel Graddau
Disgwyliedig
2 TGAU A* - C
BTEC L2
1 TGAU D – G
BTEC L1
LLWYBRAU MYNEDIAD
Lluniwyd y cyrsiau sy’n arwain at Dystysgrif Lefel Mynediad ar gyfer y disgyblion
hynny a fyddai’n darganfod cyrsiau TGAU yn anaddas ar eu cyfer. Amcan
cyrsiau Lefel Mynediad yw i gynnig cyfle i ddisgyblion ennill tystysgrif mewn
meysydd traddodiadol a chyfoes, gan ddefnyddio dulliau asesu sy’n addas ar
gyfer gallu'r disgyblion hynny.
5
BETH NESAF?
Er bod pob un ohonom yn breuddwydio am ennill y ‘Loteri’, y realiti yw y bydd
angen i bob un ohonom weithio er mwyn ennill bywoliaeth. Er mwyn cynnal y
safon gorau o fywyd, rhaid manteisio ar y cyfleoedd a roddir o’ch blaen. Mae
ystadegau yn dangos bod gwireddu eich potensial yn yr ysgol yn arwydd da ar
gyfer y dyfodol. Wrth geisio penderfynu ar y dewis gorau o gyrsiau, mae’n
amlwg y bydd amryw o gwestiynau yn codi.
1. Sut mae gwneud penderfyniad?
Rydym wedi pwysleisio yn ystod y misoedd diwethaf y pwysigrwydd o seilio
penderfyniad ar wybodaeth.
A ydych yn bwriadu dilyn cyrsiau TGAU, BTEC, Lefel Mynediad neu
gymysgedd?
A ydych yn bwriadu dychwelyd i’r Ysgol ôl 16?
A ydych am fynychu coleg, neu chwilio am waith ôl 16?
Pa fath o yrfa sydd gennych mewn golwg, os o gwbl?
Y gwir yw, bydd llawer o ddisgyblion yn seilio penderfyniad ar yr hyn maent yn ei
wybod nawr, sef pa gyrsiau sydd yn apelio iddynt fel pobl ifanc 14 mlwydd oed.
Awgrymir yn gryf i ganran sylweddol o ddisgyblion ddewis ystod o gyrsiau a
chadw cydbwysedd er mwyn osgoi siom yn y dyfodol.
"Ar y llaw arall, rydym wedi annog disgyblion i ddewis yr hyn sydd yn eu
diddori, ac os yw cyrsiau creadigol yn ysgogi’r unigolyn, rhwydd hynt
iddynt eu dewis."
2. A oes rhai cyrsiau sy’n fwy ‘gwerthfawr’ nag eraill?
Yn ôl athrawon ‘NA’, yn ôl rhai cyflogwyr ‘OES’. Ond, yr hyn sydd angen ei
ystyried yn y byd cyfoes yw, a yw’r cyrsiau yn cynnig hyfforddiant a sgiliau sy’n
addas ar gyfer diwydiant a busnesau? Yr ateb heb amheuaeth yw ‘YDYN’.
3. Beth am yr amser hamdden?
Dylai blynyddoedd 10 ac 11 fod yn gyfnod o gydbwysedd call rhwng gwaith a
hamdden.
"Efallai bydd amser hamdden, a darganfod dulliau o’i lenwi yn flaenoriaeth mewn
blynyddoedd i ddod, felly peidiwch ddiystyru cyrsiau sydd yn cynnig pleser i chi."
6
4. Pwy all helpu wrth ddewis pynciau?
Yr Athro Pwnc neu Arweinydd Pwnc - yn cynnig gwybodaeth berthnasol am
gynnwys cyrsiau, dulliau asesu, gwaith cwrs, ac a yw’r cwrs yn addas ar gyfer
y disgybl.
Y Tiwtor Personol - yn adnabod y disgybl ac yn ymwybodol o allu a
chymeriad y disgybl.
Arweinwyr Cynnydd - yn gyfarwydd â dewis pynciau, ac yn gallu rhagweld
problemau sydd ynghlwm â hynny.
Y Swyddog Gyrfaoedd - ar gael i drafod goblygiadau’r dewisiadau ac yn
barod i gynnig cyngor am yrfa yn y dyfodol. Mae gan bob disgybl ym
Mlwyddyn 9 yr hawl i ofyn am gyfweliad unigol efo’r Swyddog Gyrfaoedd.
Anogwr Dysgu – mae’r Anogwr Dysgu yn gweithio’n agos iawn gyda Thîm
Cynnydd CA4 ac yn barod i gynnig cymorth a chyngor pryd bynnag bo’r
angen.
5. Beth yw rôl y rhieni / gwarcheidwad?
Rhieni sy’n adnabod y plant orau, ac felly mae rhieni yn chwarae rhan allweddol
yn dewis eu plentyn.
Mae ymchwil yn dangos mai at rieni y mae rhan fwyaf o ddisgyblion yn troi ato
am gyngor a chefnogaeth.
WRTH DDEWIS...COFIWCH...
Dewiswch yn gall, peidiwch gau unrhyw ddrws heb reswm da.
Mae angen cydbwysedd ar bob person yn ei waith.
Dim ond UN dewis o bob colofn.
Os ydych am ddewis cwrs Peirianneg Ceir, Adeiladu neu Gwallt & Harddwch,
rhaid dewis yn y 2 golofn maent yn ymddangos.
Ac ar ôl hynny oll, ymlaen efo’r dewis...........
7
PYNCIAU CRAIDD
CYMRAEG
Mae Cymraeg yn bwnc craidd. Bydd pob disgybl yn dilyn un o’r cyrsiau canlynol:
Naill ai
1) TGAU mewn Cymraeg Iaith a TGAU mewn Llenyddiaeth Gymraeg –
Dau bwnc/gradd TGAU
neu 2) TGAU mewn Cymraeg – un pwnc/TGAU
neu 3) Lefel Mynediad Cymraeg
TGAU mewn CYMRAEG
Asesir fel a ganlyn:
Uned 1: Darllen ac Ysgrifennu (40%)
Uned 2: Asesiad Dan Reolaeth: Tasgau Llafar (30%)
Uned 3: Asesiad Dan Reolaeth: Tasgau Ysgrifennu (30%)
(Darllen ac Ysgrifennu)
Rhennir Uned 1 yn ddwy haen. Mae’r disgyblion yn sefyll un arholiad, naill ai
Sylfaenol (C - G) neu Uwch (A* - D). Nid oes haenau ar gyfer Uned 2 ac Uned 3.
Llenyddiaeth Gymraeg TGAU
Asesir fel a ganlyn:
1) Papur Ysgrifenedig Barddoniaeth a Nofel (45%)
2) Arholiad Llafar: Llunyddiaeth (30%)
3) Asesiad Dan Reolaeth – Tasgau Ysgrifenedig (25%)
Rhennir Uned 1 ac Uned 2 yn ddwy haen. Mae’r disgyblion yn sefyll naill ai yr
arholiad Sylfaenol (C - G) neu Uwch (A* - D). Nid oes haenau ar gyfer Uned 3.
Llwybrau Mynediad Cymraeg
Asesir yr Unedau canlynol:
1) Trafod profiadau a theimladau ar lafar
2) Trawseithu i’r Gymraeg
3) Ymateb ar lafar i raglen deledu / ffilm
Gymraeg
4) Ymateb i ddeunydd darllen llenyddol
Cymraeg
5) Ysgrifennu Stori
8
SAESNEG Fe fydd y mwyafrif o fyfyrwyr (set 1 i set 5) yn astudio cwrs Iaith a Llenyddiaeth gymysg, yn arwain at ddau TGAU. Fe fydd setiau 11.6 ac 11.7 yn eistedd TGAU Saesneg Iaith yn unig, ond fe fydd y plant hynny yn astudio llenyddiaeth o fewn eu cynlluniau darllen ac yn unol gyda’r Rhaglenni Astudiaeth Genedlaethol ac er mwyn hybu sgiliau darllen cryf. Fe fydd set 11.7 yn gweithio tuag at gymhwyster ychwanegol, sef ‘Entry Level English’ (CBAC). Mae’r cymhwyster Saesneg Iaith yn ddi-haen, gyda’r arholiadau allanol yn digwydd ar ddiwedd blwyddyn 11. Mae arholiadau ffurfiol Llafar ym mlwyddyn 10 ac 11.
9
I’r rhai sydd yn astudio Llenyddiaeth Saesneg, mae’r gwaith cwrs yn digwydd yn ystod blwyddyn 10, gydag unedau arholiad allanol yn Haf Blwyddyn 10 a Haf Blwyddyn 11. Dyma ofynion y cwrs:
Ein testynnau gosod ar gyfer Llenyddiaeth gan amlaf yw: Setiau uwch: Macbeth neu King Lear (gwaith cwrs), To Kill a Mockingbird, Lord of the Flies & A View From The Bridge Setiau canolog: Romeo and Juliet (gwaith cwrs), Of Mice and Men, Heroes and An Inspector Calls
10
MATHEMATEG Mae Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd yn bynciau craidd ac felly’n orfodol i’w hastudio yng Nghyfnod Allweddol 4. O 2015 ymlaen, fe fydd dau gymhwyster TGAU Mathemateg newydd, un ar gyfer rhifedd (a elwir yn Mathemateg-Rhifedd) a’r llall yn astudio agweddau ar dechnegau mathemateg (a elwir yn Mathemateg). Fe fydd y cymhwyster TGAU Mathemateg-Rhifedd yn adeiladu’n benodol ar y lefelau rhifedd a ddisgwylir ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 trwy’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ac yn asesu’r fathemateg y bydd ei hangen ar ddysgwyr yn eu bywydau pob dydd, ym myd gwaith ac mewn meysydd cwricwlaidd cyffredinol eraill. Beth yw’r trefniadau asesu ar gyfer y cwrs TGAU?
Mae tair haen gofrestru gwahanol ar gael, a byddwch yn cael eich cynghori ar ba haen yw’r gorau i chi yn ystod y cyfnod yn Cyfnod Allweddol 4.
Uwch A* A B C
Canolradd B C D E
Sylfaenol# D E F G
Asesir gwaith ar ddiwedd blwyddyn 11 trwy ddau bapur arholiad i bob
cymhwyster:
Uned 1: Heb Gyfrifannell Uned 2: Caniateir Cyfrifiannell
(50% o’r cymhwyster) (50% o’r cymhwyster)
Arholiad Ysgrifenedig Arholiad Ysgrifenedig
Uwch: 1 awr 45 munud (80 marc) Uwch: 1 awr 45 munud (80 marc)
Canolradd: 1 awr 45 munud (80 marc) Canolradd: 1 awr 45 munud (80 marc)
Sylfaen: 1 awr 30 munud (65 marc) Sylfaen: 1awr 30 munud (65 marc)
A oes yna gwrs Lefel Mynediad ym Mathemateg?
Bydd un arholiad ar ddiwedd blwyddyn 11 a sawl prawf rhyngamserol, profion
clywedol a thasgau gwaith cwrs yn ystod blynyddoedd 10 ac 11. Mi fydd
disgyblion sydd yn dilyn y cwrs Lefel Mynediad ac yn dangos y gallu i ennill
gradd TGAU, yn eistedd arholiadau Lefel Mynediad a TGAU.
11
GWYDDONIAETH
Gall ddisgyblion astudio 1 o dri opsiwn:
Gwyddoniaeth Triphlyg, sy’n cyfateb i 3 TGAU.
Gwyddoniaeth Dwyradd, sy’n cyfateb i 2 TGAU.
Gwyddoniaeth Gymhwysol (gradd unigol) - dal i’w gadarnhau
GWYDDONIAETH DWYRADD - TGAU
Yr ydym yn argymell fydd y rhan mwyaf o ddisgyblion sy’n cyrraedd cyrhaeddiad
lefel 5 neu uwch yn astudio gwyddoniaeth Dwyradd.
Gall disgyblion dal dilyn cwrs UG a lefel A trwy astudio gwyddoniaeth dwyradd.
Cwrs dwy flynedd yw hwn, sy’n cyfateb i 2 TGAU. Amlinelliad y cwrs
Mae 3 uned yn cael ei astudio ym mlwyddyn 10:
Bioleg 1, Cemeg 1 a Ffiseg 1
Uned Bioleg 1 (15%) Uned Cemeg 1 (15%) Uned Ffiseg 1 (15%)
Celloedd a symudiad ar draws cellbilenni
Natur sylweddau ac adweithiau cemegol
Cylchedau trydanol
Resbiradaeth a'r system resbiradol mewn bodau dynol
Adeiledd atomig a'r Tabl Cyfnodol
Cynhyrchu trydan
Treuliad a'r system dreulio mewn bodau dynol
Dŵr Defnyddio egni
System cylchrediad gwaed mewn bodau dynol
Y Ddaear sy'n newid yn barhaus
Trydan domestig
Planhigion a ffotosynthesis Cyfradd newid cemegol Priodweddau tonnau.
Ecosystemau ac effaith dyn ar yr amgylchedd
Asesu
Fe fydd y 3 uned: Bioleg 1, Cemeg 1 a Ffiseg 1 yn cael ei asesu ar ffurf 3 arholiad ar ddiwedd y flwyddyn, mae pob un o’r arholiadau yn 1 awr 30 munud o hyd.
Bl 11
12
Mae 3 uned yn cael ei astudio ym mlwyddyn 11:
Bioleg 2, Cemeg 2 a Ffiseg 2
Mae angen i’r disgyblion hefyd gwneud 1 darn o waith Cwrs (10%)
Uned Bioleg 2 (15%) Uned Cemeg 2 (15%) Uned Ffiseg 2 (15%)
Dosbarthiad a bioamrywiaeth
Bondio, adeiledd a phriodweddau
Pellter, buanedd a chyflymiad
Cellraniad a chelloedd bonyn
Asidau, basau a halwynau Deddfau Newton
DNA ac etifeddiad Metelau ac echdynnu metelau
Gwaith ac egni
Amrywiad ac esblygiad Adweithiau cemegol ac egni. Sêr a phlanedau
Ymateb a rheoli Olew crai, tanwyddau a chyfansoddion carbon
Mathau o belydriad
Clefyd, amddiffyniad a thriniaeth
Hanner oes
Asesu
Fe fydd y 3 uned: Bioleg 2, Cemeg 2 a Ffiseg 2 yn cael ei asesu ar ffurf 3 arholiad ar ddiwedd y flwyddyn, mae pob un o’r arholiadau yn 1 awr 30 munud o hyd.
Fe fydd y disgyblion yn gwneud ei Gwaith Cwrs yn ystod y flwyddyn (rhwng Ionawr a Chwefror). Mae’r Gwaith Cwrs yn cael eu wneud yn yr ysgol o dan rheolaeth yr athro ond yn cael ei farcio’n allanol (10%).
13
GWYDDONIAETH DRIPHLYG - TGAU Disgyblion sy’n cyrraedd cyrhaeddiad lefel 6 uchel neu uwch yn unig fydd yn cael y cyfle i astudio gwyddoniaeth driphlyg. Mae’r disgyblion yn astudio’r tri pwnc, Bioleg, Cemeg a Ffiseg ar wahan, ac yn ennill tri TGAU os yn llwyddiannus.
BIOLEG Cwrs 2 flynedd sy’n dyfarnu gradd TGAU llawn.
Cydrannau’r cwrs: Mae’r cwrs wedi ei rannu yn 3 rhan gyfwerth:
- Uned Theori Bioleg 1 (45% o’r marc terfynol)
- Uned Theori Bioleg 2 (45% o’r marc terfynol)
- Asesiad o dan reolaeth (10% o’r marc terfynol)
Uned Bioleg 1 (45%) Uned Bioleg 2 (45%)
Celloedd a symudiad ar draws cellbilenni
Dosbarthiad a bioamrywiaeth
Resbiradaeth a'r system resbiradol mewn bodau dynol
Cellraniad a chelloedd bonyn
Treuliad a'r system dreulio mewn bodau dynol
DNA ac etifeddiad
System cylchrediad gwaed mewn bodau dynol
Amrywiad ac esblygiad
Planhigion a ffotosynthesis Ymateb a rheoli
Ecosystemau ac effaith dyn ar yr amgylchedd
Arennau a homeostasis
Micro-organebau a'u cymwysiadau
Clefyd, amddiffyniad a thriniaeth
Mae uned Bioleg 1 yn cael ei astudio ac asesu ym mlwyddyn 10 (45%)
Mae uned Bioleg 2 yn cael ei astudio ac asesu ym mlwyddyn 11 (45%)
Mae’r ddau arholiad yn 1 awr 45 munud o hyd.
Fe fydd y disgyblion yn gwneud ei Gwaith Cwrs yn ystod y flwyddyn (rhwng Ionawr a Chwefror). Mae’r Gwaith Cwrs yn cael eu wneud yn yr ysgol o dan rheolaeth yr athro ond yn cael ei farcio’n allanol. (10%)
CEMEG Cwrs 2 flynedd sy’n dyfarnu gradd TGAU llawn. Cydrannau’r cwrs: Mae’r cwrs wedi ei rannu yn 3 rhan gyfwerth:
- Uned Theori Cemeg 1 (45% o’r marc terfynol)
- Uned Theori Cemeg 2 (45% o’r marc terfynol)
- Asesiad o dan reolaeth (10% o’r marc terfynol)
14
Uned Cemeg 1 (45%) Uned Cemeg 2 (45%)
Natur sylweddau ac adweithiau cemegol
Bondio, adeiledd a phriodweddau
Adeiledd atomig a'r Tabl Cyfnodol
Asidau, basau a halwynau
Dŵr Metelau ac echdynnu metelau
Y Ddaear sy'n newid yn barhaus
Adweithiau cemegol ac egni.
Cyfradd newid cemegol Olew crai, tanwyddau a chyfansoddion carbon
Calchfaen Adweithiau cildroadwy, prosesau diwydiannol a chemegion pwysig
Mae uned Cemeg 1 yn cael ei astudio ac asesu ym mlwyddyn 10 (45%)Mae uned Cemeg 2 yn cael ei astudio ac asesu ym mlwyddyn 11 (45%)
Mae’r ddau arholiad yn 1 awr 45 munud o hyd.
Fe fydd y disgyblion yn gwneud ei Gwaith Cwrs yn ystod y flwyddyn (rhwng Ionawr a Chwefror). Mae’r Gwaith Cwrs yn cael eu wneud yn yr ysgol o dan rheolaeth yr athro ond yn cael ei farcio’n allanol (10%).
FFISEG Cwrs 2 flynedd sy’n dyfarnu gradd TGAU llawn. Cydrannau’r cwrs: Mae’r cwrs wedi ei rannu yn 3 rhan gyfwerth:
- Uned Theori Ffiseg 1 (45% o’r marc terfynol)
- Uned Theori Ffiseg 2 (45% o’r marc terfynol)
- Asesiad o dan reolaeth (10% o’r marc terfynol)
Themâu’r modiwlau theori Dyma grynodiad o’r themâu a astudir ymhob uned:
Uned Ffiseg 1 (45%) Uned Ffiseg 2 (15%)
Cylchedau trydanol Pellter, buanedd a chyflymiad
Cynhyrchu trydan Deddfau Newton
Defnyddio egni Gwaith ac egni
Trydan domestig Sêr a phlanedau
Priodweddau tonnau. Y Bydysawd
Adlewyrchiad mewnol cyflawn tonnau
Mathau o belydriad
Tonnau seismig Hanner oes
Damcaniaeth ginetig Dadfeiliad niwclear ac egni niwclear
Electromagneteg
15
Mae uned Ffiseg 1 yn cael ei astudio ac asesu ym mlwyddyn 10 (45%) ac uned Ffiseg 2 yn cael ei astudio ac asesu ym mlwyddyn 11 (45%)
Mae’r ddau arholiad yn 1 awr 45 munud o hyd.
Fe fydd y disgyblion yn gwneud ei Gwaith Cwrs yn ystod y flwyddyn (rhwng Ionawr a Chwefror). Mae’r Gwaith Cwrs yn cael eu wneud yn yr ysgol o dan rheolaeth yr athro ond yn cael ei farcio’n allanol (10%).
SGILIAU HANFODOL CYMRU – Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu - Lefel 2
Beth yw Sgiliau Hanfodol Cymru?
Nod y safonau TGCh yw annog ymgeiswyr i ddatblygu ac arddangos eu
sgiliau o safbwynt defnyddio TGCh i gyflawni tasg neu weithgaredd trwy
ddarganfod, archwilio, cyfnewid, datblygu a chyflwyno gwybodaeth (testun,
delweddau a rhifau). Yn y bôn, mae’r safonau’n ymwneud â datblygu a
chydnabod gallu ymgeiswyr i ddewis a chymhwyso sgiliau TGCh mewn ffyrdd
sy’n briodol i’w cyd-destun penodol nhw. Fodd bynnag, gellir defnyddio’r
safonau hefyd i helpu unigolion i wneud cysylltiadau â chyd-destunau llai
cyfarwydd a datblygu eu gallu i symud ymlaen i lefelau cymhwysedd uwch.
Mae technegau ar gyfer defnyddio systemau a meddalwedd TGCh yn hanfodol, ond mae sgiliau cymhwyso yn hanfodol hefyd, megis gwneud penderfyniadau ynghylch perthnasedd gwybodaeth ac ansawdd gwaith. Mae technegau a sgiliau cymhwyso’n cyfrannu at ddeall tasg neu weithgaredd, penderfynu ar y dull gorau o gyflawni’r dasg neu’r gweithgaredd, a chyflwyno canlyniadau gan ystyried pwrpas a chynulleidfa. Cynlluniwyd y safonau er mwyn cydnabod cynnydd ymgeiswyr o ran y technegau sy’n gosod y sylfeini a’r sgiliau cymhwyso.
Beth fyddwn i’n astudio?
Ar Lefel 2 mae’n ofynnol i ymgeiswyr ddefnyddio systemau TGC hyn
annibynnol i gyflawni tasg eithaf syml, chwilio’n effeithiol, olrhain gwybodaeth
newydd a’i chyflwyno gan ystyried pwrpasa chynulleidfa. Rhaid iddyn nhw
gyfuno gwybodaeth mewn modd cyson megis cyfuno testun â delweddau neu
rifau.
Dylai ymgeiswyr fedru mewnbynnu fformiwlâu wrth ddefnyddio meddalwedd
priodol i gynhyrchu cyfrifiadau syml megis cyfansymiau. Rhaid iddyn nhw
ufuddhau i gyfreithiau hawlfraint a chyfrinachedd a rheoli peryglon i iechyd a
diogelwch, a diogelwch gwybodaeth. Dylen nhw fedru adnabod gwallau a’u
hachosion a bod yn ymwybodol o ffyrdd o leihau’r risg a achosir gan firysau.
Dylen nhw wybod sut mae anfon a derbyn negeseuon e-bost ag atodiadau.
Beth yw’r trefniadau asesu?
Mae’r cwrs yn cael ei gynnig fel cwrs gorfodol i bawb ym mlynyddoedd 10 ac
11 a bydd y cymhwyster yn cael ei asesu trwy bortffolio o dystiolaeth, h.y.
gwaith cwrs, dim arholiad.
16
ASTUDIAETHAU CREFYDDOL – TGAU
Cwrs diddorol a fydd yn ysbrydoli disgyblion dros gyfnod o ddwy flynedd. Ei
nodwedd amlwg yw ei bod yn cynnwys astudiaeth thematig o rai cwestiynau a
materion canolog yn y bywyd a’r profiad dynol ac yn ymchwilio i berthnasedd
credoau, gwerthoedd a thraddodiadau i’r cwestiynau a’r materion hyn. Mae’r
cwrs yn cynnig cyfleoedd da i’r disgyblion drafod a datblygu syniadau
personol o fewn y dosbarth. Mae hefyd yn cynnig cymhwyster TGAU (Cwrs
Llawn/Byr) ar ddiwedd y ddwy flynedd o astudio.
Blwyddyn 10
Crefydd a Gwrthdaro
Heddwch
Rhyfel
Dioddefaint
Maddau a chymodi
Protestio di-drais
Mynegiant Crefyddol
Gwisg
Symbolau
Mannau addoli
Pererindod
Rhannu ffydd gydag eraill
Crefydd a Meddygaeth
Embryoleg
IVF / AID
Trawsblannu
Ewthanasia
Awdurdod, Crefydd a’r Wladwriaeth
Hawliau Dynol
Trosedd a chosb
Y gosb eithaf
Crefydd â’r gymdeithas
Llyfrau Sanctaidd
Blwyddyn 11
Perthynas
Rhyw cyn priodas
Cyd-fyw
Priodas
Priodasau Un rhyw
Ysgariad
Chwilio am Ystyr
Natur Duw
Bodolaeth Duw
Ymatebion i Dduw
Bywyd ar ôl marwolaeth
Angladdau a galaru
A yw’n Deg?
Rhagfarn a gwahaniaethu
Cydraddoldeb
Tlodi a chyfoeth
Elusen
Cyfryngau
Ein Byd
Stori Creu
Rôl dynolryw ar y ddaear
Gwyddoniaeth a chrefydd
Defnydd o ddoniau
Hawliau anifeiliaid
Ar ddiwedd blwyddyn 10 bydd y disgyblion sy’n astudio’r cwrs hir yn sefyll arholiad allanol (50% o’u marc terfynol). Yn dilyn eu canlyniadau byddwn fel adran yn ystyried ail strwythuro dosbarthiadau.
17
Colofn A
CYFRIFIADUREG - TGAU
Mae’r TGAU hon wedi cael ei llunio i fod o ddiddordeb i ystod eang o ymgeiswyr, gan gynnwys y rheini sy’n bwriadu astudio Cyfrifiadureg neu TGCh ar y lefel Uwch Gyfrannol neu Safon Uwch. Bwriedir i’r holl unedau fod yn hygyrch i ymgeiswyr gradd G tra’n darparu rhai elfennau a fydd yn herio’r rheiny sy’n gweithio ar lefel A* Mae’n bosibl y bydd rhai ymgeiswyr yn mynd ymlaen i ddilyn cwrs addysg uwch neu yrfa mewn Cyfrifiadureg neu faes cysylltiedig. Gall y rheiny sydd â diddordebau a dyheadau eraill hefyd elwa ar y sgiliau trosglwyddadwy niferus y mae astudio Cyfrifiadureg yn eu meithrin. Strwythur y Cwrs Mae hon yn gwrs TGAU llinol 3 uned, yn cynnwys 2 asesiadau ymarferol ac arholiad ysgrifenedig. Rhaid i bob uned gael ei hasesu ar ddiwedd y cwrs. CYNNWYS Y FANYLEB Uned 1. Deall Cyfrifiadureg 1. Systemau Cyfrifiadurol 1.1 Systemau cyfrifiadurol 1.2 Uned Brosesu Ganolog (CPU) 1.3 Gweithrediadau - perfformiad 1.4 Swyddogaethau mathau o gof 1.5 Technolegau storio eilaidd 1.6 Rhyngweithiad rhwng dyn a
chyfrifiadur 2. Cynrychioli Data 2.1 Systemau cynrychioli data 2.2 Unedau storio data 2.3 Trawsnewid - systemau rhifau 2.4 Dehongli cyfarwyddiadau 3. Meddalwedd Gyfrifiadurol 3.1 Swyddogaethau System Gweithredu 3.2 Swyddogaethau rhaglenni 3.3 Disgrifio meddalwedd rhaglenni 4. Rhwydweithiau 4.1 Diffinio pecynnau a phrotocolau 4.2 Topolegau a chysylltiadau rhwydwaith 4.3 Diogelu rhwydweithiau
5. Rhyngrwyd a Chyfathrebiadau 5.1 Trawsyriadau Rhyngrwyd 5.2 Protocolau cyfathrebu 5.3 Dealltwriaeth o HTML 6. Algorithmau 6.1 Dealltwriaeth o algorithmau 6.2 Defnyddio algorithmau
7. Rhaglennu 7.1 Diffinio termau rhaglennu 7.2 Disgrifio ac esbonio cyfieithwyr 7.3 Disgrifio ac esbonio gwallau
rhaglennu 7.4 Disgrifio ac esbonio elfennau
rhaglennu 7.5 Rhaglennu a defnyddio rhaglennu 8. Ymchwiliad Ymarferol
18
Uned 2 Defnyddio Cyfrifiaduron i Ddatrys Problemau Mae’r asesiad hwn yn cynnwys cyfres o dasgau sy’n cael eu gosod a’u marcio gan CBAC a’u cwblhau ar sgrin gan yr ymgeiswyr. Bydd y tasgau hyn yn asesu cymhwysiad ymarferol gwybodaeth rhaglennu.
Bydd angen defnyddio Greenfoot i gwblhau rhai o’r tasgau hyn. Gellir llwytho’r pecyn di-dâl hwn i lawr yn gyfreithlon (www.greenfoot.org). Mae’r rhyngwyneb ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Uned 3: Datblygu Datrysiadau Cyfrifiaduro Bydd yr asesiad dan reolaeth hwn yn rhoi cyfle i’r ymgeiswyr ddefnyddio meddalwedd rhaglennu i ddatblygu darn o waith, gan ddilyn un dasg o ddewis o ddwy a gynhigir gan CBAC. Dylunio datrysiad Gweithredu Dogfennaeth rhaglen Profi Gwerthuso AMCANION ASESU Mae asesu ar gyfer TGAU Cyfrifiadureg yn ddi-haen, h.y. mae pob uned yn darparu ar gyfer yr ystod lawn o allu ac yn caniatáu mynediad i raddau A *-G. Uned 1: Deall Cyfrifiadureg - 45% Asesiad Allanol: 1½ awr
Bydd yr arholiad hwn yn asesu dealltwriaeth o gynnwys damcaniaethol y fanyleb trwy gymysgedd o gwestiynau sy’n gofyn am atebion byr, canolig a hwy.
Uned 2: Defnyddio Cyfrifiaduron i Ddatrys Problemau - 30% Asesiad Allanol: 2 awr
Mae’r asesiad hwn yn cynnwys cyfres o dasgau sy’n cael eu gosod a’u marcio gan CBAC a’u cwblhau ar sgrin gan yr ymgeiswyr. Bydd y tasgau hyn yn asesu cymhwysiad ymarferol gwybodaeth a dealltwriaeth.
Uned 3: Datblygu Datrysiadau Cyfrifiaduro - 25% Asesiad dan Reolaeth: 15 awr Bydd yr asesiad dan reolaeth hwn yn rhoi cyfle i’r ymgeiswyr ddatblygu darn o waith gan ddefnyddio meddalwedd rhaglennu trwy ymgymryd ag un dasg o ddewis o ddwy a gynhigir gan CBAC.
Llwybyr Dysgu Mae'n bosibl cyfuno Cyfrifiadureg gyda mwy neu lai unrhyw gwrs arall ar ein cwricwlwm. Mae Plasmawr yn cynnig cwrs TGCh Cymhwysol Safon Uwch. Gellir ei ddilyn am flwyddyn neu ddwy, gan astudio 2 neu 4 uned.
Ym maes Cyfrifiaduro, cynigir nifer o gyrsiau gradd mewn prifysgolion ar draws Prydain. Specification: http://www.cbac.co.uk/uploads/publications/16365.pdf
19
CERDDORIAETH (TGAU) Pam astudio’r pwnc? Mae cerdd yn bwnc dewisol yng Nghyfod Allweddol 4, ac yn addas i ddisgyblion sydd â diddordeb mewn naill ai canu neu chwarae offeryn, ac sy’n mwynhau cyfansoddi a gwrando ar amrywiaeth eang o gerddoriaeth. Trwy Berfformio, Cyfansoddi a Gwerthuso cewch ddod i ddeall a mwynhau cerddoriaeth. Beth yw cynnwys y cwrs? Wrth astudio’r cwrs cerdd, byddi di’n cael y cyfle i ddatblygu dy sgiliau Perfformio, Cyfansoddi a Gwerthuso. Byddi yn paratoi perfformiad unigol ac ensemble. Mae’r elfen berfformio werth 35% o’r marc terfynol. Bydd cyfle i ddatblygu dy sgiliau cyfansoddi ar gyfer y ffolio gwaith cwrs, sydd eto gwers 35% o’r marc terfynol. Fe fyddi di’n gwrando ar amrywiaeth eang o gerddoriaeth i’th baratoi ar gyfer yr arholiad gwerthuso, sydd gwerth 30% o’r marc terfynol.
Crynodeb o’r Asesu
Uned 1: Perfformio Cyfanswm hyd perfformiadau: 4-6 munud 35% o'r cymhwyster
Adran A: Perfformio (30%) Lleiafswm o ddau ddarn, ac mae'n rhaid i un o'r rheini fod yn berfformiad ensemble sy'n para am o leiaf munud. Gall y darn(au) eraill fod naill ai'n unawd a/neu'n ensemble. Mae'n rhaid i un o'r darnau a berfformir fod yn gysylltiedig â maes astudiaeth o ddewis y dysgwr. Adran B: Nodiadau Rhaglen (5%) Nodiadau rhaglen ar gyfer un o'r darnau a ddewiswyd ar gyfer y perfformiad, wedi ei gysylltu â maes astudiaeth. Er mwyn cyrraedd y safon angenrheidiol yn yr uned TGAU Perfformio, bydd angen i ddisgyblion fod o leiaf ar safon Gradd 3 mewn canu neu wrth berfformio ar offeryn o’u dewis nhw.
Uned 2: Cyfansoddi Cyfanswm hyd cyfansoddiadau: 3-6 munud 35% o'r cymhwyster
Adran A: Cyfansoddi (30%) Dau gyfansoddiad, ac mae'n rhaid i un fod yn ymateb i friff a osodwyd gan CBAC. Bydd dysgwyr yn dewis un briff o ddewis o bedwar, a phob un yn gysylltiedig â maes astudiaeth. Bydd y briffiau'n cael eu rhyddhau yn ystod wythnos gyntaf Medi yn ystod y flwyddyn academaidd yr ymgymerir â'r asesiad. Mae'r ail gyfansoddiad yn gyfansoddiad rhydd y mae'r dysgwyr yn gosod eu briff eu hunain ar ei gyfer. Adran B: Gwerthuso (5%) Gwerthusiad o'r darn a gyfansoddwyd fel ymateb i friff a osodwyd gan CBAC.
20
Uned 3: Arfarnu Arholiad ysgrifenedig 1 awr 30% o'r cymhwyster
Asesir yr uned hon drwy arholiad gwrando. Cyfanswm o wyth cwestiwn, dau ar bob un o'r pedwar maes astudiaeth. Maes astudiaeth 1: Ffurfiau a Dyfeisiau Cerddorol Maes astudiaeth 2: Cerddoriaeth ar gyfer Ensemble Maes astudiaeth 3: Cerddoriaeth Ffilm Maes astudiaeth 4: Cerddoriaeth Boblogaidd Mae dau o'r wyth cwestiwn yn seiliedig ar ddyfyniadau wedi'u paratoi a osodwyd gan CBAC, sef Abdelazer Suite II: Rondeau: Purcell (1695) a Handbags and Gladrags: Stereophonics (wedi'i rhyddhau yn 2001).
SBAENEG - TGAU
Uned 1: Siarad Prawf llafar: 7–9 munud (haen Sylfaenol) 10-12 munud (haen Uwch) 25% o'r cymhwyster 60 marc
Tair tasg: Chwarae rôl Trafodaeth am lun ar gerdyn Sgwrs – Rhan 1 a Rhan 2
Uned 2: Gwrando Arholiad ysgrifenedig: 35 munud (haen Sylfaenol) 45 munud (haen Uwch) 25% o'r cymhwyster 60 marc
Tasgau gwrando a deall gydag ymatebion di-eiriau ac ysgrifenedig
Uned 3: Darllen Arholiad ysgrifenedig:1 awr (haen Sylfaenol) 1 awr 15 munud (haen Uwch) 25% o'r cymhwyster 60 marc
Tasgau darllen gydag ymatebion di-eiriau ac ysgrifenedig, yn cynnwys un dasg yn cyfieithu o'r Sbaeneg i'r Gymraeg/Saesneg
Uned 4: Ysgrifennu Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 15 munud (haen Sylfaenol) 1 awr 30 munud (haen Uwch) 25% o'r cymhwyster 60 marc
Tasgau ysgrifennu yn cynnwys un dasg yn cyfieithu o'r Gymraeg/Saesneg i'r Sbaeneg
21
Hunaniaeth a diwylliant
Cymru a'r Byd – meysydd o ddiddordeb
Cyflogaeth ac astudiaeth gyfredol a'r dyfodol
Diwylliannau ieuenctid
Hunan a Pherthnasoedd
Technoleg a chyfryngau cymdeithasol
Ffordd o Fyw
Iechyd a Ffitrwydd Corfforol
Adloniant a hamdden
Arferion a Thraddodiadau
Bwyd a diod
Gwyliau a dathliadau
Cartref a'r Ardal Leol
Ardaloedd lleol o ddiddordeb
Trafnidiaeth Sbaeneg a gwledydd lle mae Sbaeneg yn cael ei siarad
Nodweddion lleol a rhanbarthol
Gwyliau a thwristiaeth
Cynaliadwyedd Byd-eang
Amgylchedd
Materion cymdeithasol
Astudiaeth Cyfredol
Bywyd ysgol/coleg
Astudiaethau ysgol/coleg
Byd Gwaith
Profiad Gwaith a swyddi rhan amser
Sgiliau a rhinweddau personol
Swyddi a Chynlluniau'r Dyfodol
Gwneud cais am waith/astudiaeth
Cynlluniau gyrfa
DAEARYDDIAETH - TGAU Rhennir y cwrs i dair rhan sef: Uned 1: Tirweddau Ffisegol a Dynol Newidiol Uned 2: Materion Amgylcheddol a Datblygu Uned 3: Ymholiadau gwaith maes Uned 1: Tirweddau Ffisegol a Dynol Newidiol
Tirweddau a Phrosesau Ffisegol: Yn yr uned yma byddwn yn astudio prosesau afonydd a’i heffaith ar bobl. Byddwn hefyd yn edrych ar y morlin.
Cysylltiadau gwledig-trefol: Bydd yr uned yn ffocysu ar aneddiadau o bob math.
Tirweddau a Pheryglon Tectonig: Mewn byd lle mae gan beryglon tectonig y gallu i greu dinistr ar raddfa enfawr byddwn yn dysgu am yr hyn sy’n gyfrifol amdanynt eu heffeithiau a sut all pobl ymateb.
Uned 2: Materion Amgylcheddol a Datblygu
22
Tywydd Hinsawdd ac Ecosystemau: Byddwn yn dysgu yr hyn sydd yn gyrru ein systemau tywydd a sut mae hyn yn effeithio ar ecosystemau byd-eang.
Materion datblygu ac Adnoddau: Mae datblygiad bellach yn cael ei ystyried yn gontiniwm byd eang. Byddwn yn ystyried y gwahanol ffactorau sydd wedi creu y patrwm yma a sut y gellid ei newid er gwell.
Materion datblygu Cymdeithasol: Bellach nid mesur syml economaidd yw datblygiad. Mae ffactorau cymdeithasol bellach yn holl bwysig ac yn cynnwys pethau fel hawliau menywod.
Bydd y disgyblion yn sefyll arholiad ar ddiwedd blwyddyn 11. Bydd yna ddau bapur arholiad - gyda chwestiynau ymateb i ddata yn arwain at gwestiynau estynedig. Gwaith Cwrs. Bydd y disgyblion yn gwneud dau ddiwrnod o waith maes yn ystod blwyddyn 10 ac yn creu portffolio. Yna yn ystod mis Rhagfyr blwyddyn 11 byddant yn ateb papur dan amodau arholiad yn yr ysgol. Canlyniad hyn yw cwrs diddorol, eangfrydig sydd yn codi ymwybyddiaeth y disgyblion o faterion byd eang ac yn rhoi’r arfau a’r sgiliau i ddisgyblion barhau a’i hastudiaethau academaidd i mewn i’r chweched dosbarth ac ymhellach i’r dyfodol. Bydd yr adran yn gwneud defnydd helaeth o ‘Moodle’ ac yn annog disgyblion i’w defnyddio er mwyn ychwanegu at eu gwybodaeth ddaearyddol ac felly cyfoeth eu hatebion arholiad.
TECSTILAU - TGAU Mae astudio Dylunio a Thechnoleg - Tecstilau yn paratoi disgyblion ar gyfer bywyd mewn cymdeithas a ddaeth yn ddibynnol ar ddatblygiadau mewn technoleg. Mae’r maes llafur yn seiliedig ar y farn mai gweithgaredd ymarferol yw Dylunio a Thechnoleg Tecstilau ac mai datblygu gallu’r ymgeiswyr i ddatrys problemau cynllunio trwy ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau a ddysgwyd yn y pwnc yw’r nod. Cynnwys y cwrs: Bydd cyfle i ddisgyblion dadansoddi a gwerthuso gwaith dylunwyr cyfoes, dylunio a gwneud cynnyrch, ac yna ystyried gwerth eu cyflwyniadau. Byddant yn cael y cyfle i weithio yn eang mewn defnyddiau Tecstil gwahanol a hefyd yn Tech Gwyb a Chyfathrebu. Mae’r pwnc yn cwmpasu nifer o elfennau o waith celf, graffeg a sgiliau ymarferol traddodiadol ym myd Tecstilau. Mi fydd yn galluogi disgyblion i ddatblygu pob un o’r sgiliau allweddol ac yn hybu meddwl creadigol ac arloesol. Blwyddyn 10: Nifer o brosiectau byr yn defnyddio ystod o ddefnyddiau Tecstil er mwyn paratoi’r disgyblion ar gyfer y dasg asesu a’r arholiad.
23
Blwyddyn 11: Medi i Fis Mawrth - cyflawni’r dasg asesu o dan reolaeth athro. Mis Mawrth i Fehefin - adolygu a pharatoi ar gyfer yr arholiad. Crynodeb o’r asesiad: UNED 1: PAPUR ARHOLIAD TECSTILAU Papur ysgrifenedig 2 awr (40%) – (Dim haenau) UNED 2: TASG TECSTILAU Asesiad o 30 awr o dan arolygaeth (60%) Bydd CBAC yn gyfrifol am osod y dasg ac fe fydd y manylion yn cyrraedd y ganolfan ym Mis Medi . Rhan A : 10 awr, 11 tudalen o waith dylunio Rhan B : 20 awr, 4 tudalen o gynllunio, gwneud a gwerthuso
DYLUNIO CYNNYRCH - TGAU
Cynnwys
Cwrs cyffrous ac eang ei brofiadau. Bydd disgyblion yn astudio ac yn ymchwilio i sut
mae cynhyrchion pob dydd o’r ffôn symudol i’r glanhawr gwactod yn cael ei ddylunio a’i
ddatblygu. Mi fydd y disgyblion yn bachu dealltwriaeth o sut y bydd cysyniad ym meddwl
dyluniwr yn datblygu i gynnyrch ar lawr siop. Mae’r adran freintiedig yma ac adnoddau
ardderchog sydd yn ein galluogi i greu cynhyrchion ardderchog. Mae’r cwrs hefyd yn
codi eu hymwybyddiaeth o ffactorau estheteg, moesol, cymdeithasol, diwydiannol ac
economegol wrth ddylunio a chreu’r cynhyrchion.
Bydd cyfle i ddisgyblion astudio gwaith Jonathan Ive (Apple) a Philippe Starck ac yna
defnyddio eu sgiliau creadigol i gynhyrchu cynhyrchion eu hun. Mae’r pwnc yn cwmpasu
24
nifer o elfennau o waith graffeg a sgiliau ymarferol traddodiadol gan gynnwys defnydd o
offer diweddaraf CAD/CAM yr adran.
Mi fydd yn galluogi disgyblion i ddatblygu pob un o’r sgiliau allweddol ac yn hybu meddwl
creadigol ac arloesol. Gallant fod y James Dyson newydd!
Llwybrau Pellach – Cwrs lefel A mewn Dylunio Cynnyrch a all arwain at graddau
prifysgol mewn Peirianneg, Pensaernïaeth, Adeiladu neu Dylunio Cynhyrchion.
Blwyddyn 10 - 4 prosiect byr yn datblygu gwybodaeth a sgiliau er mwyn paratoi’r
disgyblion ar gyfer y dasg asesu a’r arholiad. Ynghyd a hyn byddwn yn trafod ac arbrofi i
ddatblygu gwybodaeth ar gyfer yr arholiad.
Blwyddyn 11 – Tymor 1 a 2 cyflawni’r dasg asesu o dan reoliad
Tymor 3 adolygu a pharatoi ar gyfer yr arholiad
Yr Asesiad
Mae’r cwrs yn cael ei hasesu mewn dau rhan
1. Arholiad 2awr (Dim haenau) 40% o’r cwrs
2. Nid gwaith cwrs ond tasg asesu wedi eu rheoli, 60% o’r cwrs
Rhan A; 10awr 11Tudalen o waith dylunio
Rhan B; 20awr 4 Tudalen cynllunio, gwneud cynnyrch a gwerthuso
Enghreifftiau o waith CAD (dylunio trwy gymorth cyfrifiadur)
25
Enghreifftiau o gynhyrchion goleuo:
Enghreifftiau o waith pecynnu:
26
SGILIAU BYD GWAITH Bydd y wybodaeth ar gyfer cynnwys y cwrs uchod yn barod yn ystod yr wythnos gyntaf
ar ol Pasg.
27
Colofn B
HANES - TGAU
Mae’r cwrs Hanes yn cynnig amrediad eang o feysydd a thestunau astudiaeth o’r Ugeinfed Ganrif. Mae’n gwrs diddorol a heriol i unrhyw hanesydd ifanc.
Uned 1:
Astudiaeth fanwl sy’n ffocysu ar werthuso tystiolaeth hanesyddol a dehongliadau o’r gorffennol (25%)
Yr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-47 Edrychir ar broblemau gwleidyddol ac economaidd Yr Almaen yn ystod cyfnod Gweriniaeth Weimar, datblygiad a thwf y Blaid Natsiaidd ac apwyntiad Hitler yn Ganghellor ar Yr Almaen. Astudiwn hefyd bolisïau economaidd, cymdeithasol a hiliol yr unbennaeth Natsiaidd. Bwrir golwg fanwl ar fywyd yn Yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwrthwynebiad gwleidyddol i’r Natsïaid, triniaeth yr Iddewon a chosbi’r Almaen Natsiaidd ar ddiwedd y rhyfel.
Uned 2:
Astudiaeth fanwl sy’n ffocysu ar brif nodweddion a chysyniadau hanesyddol (25%)
Dirwasgiad, Rhyfel ac Adferiad yng Nghymru a Lloegr, 1930-1951 Edrychir ar hanes Cymru a Lloegr yn sgil cwymp economaidd 1929. Astudir effaith yr Ail Ryfel Byd ar y Ffrynt Cartref trwy edrych ar sgil effeithiau ailarfogi a’r Blitz. Edrychwn yn fanwl ar rôl Winston Churchill fel arweinydd. Astudiwn ddatblygiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd wrth i Brydain adfer ei sefyllfa ar ôl 1945. Bwrir golwg fanwl hefyd ar ddatblygiad rôl merched yn ystod yr oes yma.
Uned 3:
Astudiaeth amlinellol sy’n ffocysu ar newid a pharhad yn yr Ugeinfed Ganrif (25%)
28
Datblygiad UDA, 1930-2000 Y themâu a astudir yn y pwnc yma yw newidiadau mewn bywyd yn ystod yr 20G megis polisïau Roosevelt a’r Fargen Newydd a newidiadau John F. Kennedy, Helynt ‘Watergate’ a’r newidiadau yn niwylliant yr ifanc. Astudir y frwydr dros hawliau sifil gan gynnwys ymgyrchoedd Martin Luther King Jr a Malcolm X. Edrychir ar y Rhyfel Oer, rhyfeloedd Korea a Fietnam, a datblygiad arfau niwclear. Byddwn hefyd yn astudio rôl UDA yn Iran, Iraq ac Afghanistan.
Uned 4:
Ymchwiliad hanesyddol i bwnc neu ddadl hanesyddol. Asesiad dan reolaeth yn fewnol yn yr ystafell ddosbarth. (25%)
Dau draethawd yn seiliedig ar elfen o hanes cyfoes. Rhoddir y cyfle i ymchwilio i ddehongliadau hanesyddol. Bydd y gwaith hefyd yn gofyn am sgiliau dadansoddi a gwerthuso tystiolaeth. Y themâu bydd:
Y Rhyfel Mawr 1914-1918
Terfysgoedd Merched Beca
DRAMA - TGAU
GRAFFEG - TGAU
Bydd y wybodaeth ar gyfer cynnwys y cyrsiau uchod yn barod yn ystod yr wythnos gyntaf ar ol Pasg.
29
GWASANAETHAU CYHOEDDUS TYSTYSGRIF / TYSTYSGRIF YMESTYNNOL
BTEC (L2)
Pam astudio cwrs BTEC lefel 2 yn y Gwasanaethau Cyhoeddus? Y Gwasanaethau Cyhoeddus yw’r cyflogwr mwyaf yn y DU. Mi fydd y cwrs yn anelu i ddysgu'r holl sgiliau sydd angen ar unigolyn er mwyn dilyn gyrfa yn y Gwasanaethau Cyhoeddus neu am Addysg Bellach. Drwy ymuno gyda ni yn yr adran Alwedigaethol mi fyddwn yn darparu amgylchfyd dysgu heriol sydd yn annog y defnydd o sgiliau a dysgu drwy brofiadau a fydd yn sail i ddatblygiad academaidd a personol.
Beth fyddaf yn astudio? Mae’r cwrs BTEC Tystysgrif yn gwrs lefel 2 sy’n cyfateb i un TGAU A* i C. Mae’n orfodol i bob unigolyn astudio dwy uned graidd i gwblhau’r wobr. Mae’r Dystysgrif Ymestynnol yn cyfateb i ddau TGAU A* i C. I ennill y cymhwyster yma rhai i’r disgyblion gwblhau dau uned ychwanegol.
BTEC Tystysgrif
Uned 1 Sgiliau ar gyfer y Gwasanaethau Cyhoeddus
Uned 2 Cyflogaeth yn y Gwasanaethau Cyhoeddus
Tystysgrif Ymestynnol
Opsiwn 1
Uned 8 – Gweithgareddau Awyr Agored a Gwaith Tîm yn y Gwasanaethau Cyhoeddus
Opsiwn 2
Uned 15 – Sgiliau Alldeithiau ar gyfer y Gwasanaethau Cyhoeddus
neu
Uned 11 – Y Gyfraith a’i Effaith ar yr Unigolyn yn y Gwasanaethau Cyhoeddus
Sut byddaf yn cael fy asesi? Mi fydd pob uned yn cael eu asesu drwy gyfres o waith cwrs i greu portfolio o dystiolaeth. Nid oes arholiad ar ddiwedd y cwrs.
30
IECHYD A GOFAL - BTEC (L2) Pam astudio’r cwrs BTEC Iechyd a Gofal Lefel 2? Mae’r Tystysgrif Estynedig hwn yn cynnig cyflwyniad eang i fyd Iechyd a Gofal ac yn datblygu medrau’r myfyrwyr trwy gyfuniad o’r wybodaeth a’r sgiliau ag enillwyd yn ystod gwaith dosbarth a gweithgareddau ymarferol. Mae’r cwrs yn ceisio datblygu ystod eang o sgiliau cyflogadwy, dealltwriaeth a rhinweddau personol sy’n gysylltiedig â’r sector Iechyd a Gofal.
BTEC Lefel 2 Iechyd a Gofal
Uned 1: Cyfathrebu yn y sector Iechyd a Gofal
Uned 2: Anghenion unigolion o fewn y sector Iechyd a Gofal
Uned 3: Profiadau Galwedigaethol o fewn y sector Iechyd a Gofal
Uned 4: Effaith diet ar Iechyd
Sut y byddaf yn cael fy asesu? Mi fyddaf yn astudio drwy ddilyn cwrs a fydd yn astudio gwahanol agweddau o wahanol swyddi ym myd Iechyd a Gofal a’r math o sgiliau sydd eu hangen i weithio o fewn y sector. Nid oes arholiad i’r pwnc yma ond mae angen cynhyrchu portffolio o waith cwrs.
Beth mae’r cwrs Iechyd a Gofal Lefel 2 yn ei gynnig? Uned 1 - Cyfathrebu yn y sector Iechyd a Gofal Adnabod gwahanol fathau o gyfathrebu Deall rhwystrau i gyfathrebu effeithiol Bod yn abl i gyfathrebu yn effeithiol Uned 2 - Anghenion unigolion o fewn y sector Iechyd a Gofal Deall beth yw anghenion dyddiol unigolion Deall y ffactorau sy’n effeithio ar iechyd ac anghenion unigolion Bod yn abl i gynllunio ar gyfer lles ac anghenion unigolion Uned 3 - Profiadau Galwedigaethol o fewn y sector Iechyd a Gofal Bod yn abl i gyflawni y broses o ymgeisio ar gyfer profiad gwaith Cyflawni cyfnod o amser ar leoliad profiad gwaith Arddangos sgiliau addas yn ystod yr amser ar brofiad gwaith Gwerthuso eich cyfnod ar brofiad gwaith Uned 4 - Effaith diet ar Iechyd Deall anghenion dietegol ar wahanol adegau o fywyd Deall sut y gall diet anghytbwys effeithio ar iechyd pobl Adnabod anghenion dietegol defnyddwyr gwasanaeth Deall egwyddorion diogelwch a hylendid bwyd
Beth fyddaf yn astudio?
Mae’r cwrs BTEC Estynedig yn gwrs lefel 2
sy’n cyfateb i ddau TGAU A* i C. Mae’n
orfodol i bob unigolyn astudio pedwar uned i
gwblhau’r tystysgrif.
31
DAEARYDDIAETH - TGAU Rhennir y cwrs i dair rhan sef: Uned 1: Tirweddau Ffisegol a Dynol Newidiol Uned 2: Materion Amgylcheddol a Datblygu Uned 3: Ymholiadau gwaith maes Uned 1: Tirweddau Ffisegol a Dynol Newidiol
Tirweddau a Phrosesau Ffisegol: Yn yr uned yma byddwn yn astudio prosesau afonydd a’i heffaith ar bobl. Byddwn hefyd yn edrych ar y morlin.
Cysylltiadau gwledig-trefol: Bydd yr uned yn ffocysu ar aneddiadau o bob math.
Tirweddau a Pheryglon Tectonig: Mewn byd lle mae gan beryglon tectonig y gallu i greu dinistr ar raddfa enfawr byddwn yn dysgu am yr hyn sy’n gyfrifol amdanynt eu heffeithiau a sut all pobl ymateb.
Uned 2: Materion Amgylcheddol a Datblygu
Tywydd Hinsawdd ac Ecosystemau: Byddwn yn dysgu yr hyn sydd yn gyrru ein systemau tywydd a sut mae hyn yn effeithio ar ecosystemau byd-eang.
Materion datblygu ac Adnoddau: Mae datblygiad bellach yn cael ei ystyried yn gontiniwm byd eang. Byddwn yn ystyried y gwahanol ffactorau sydd wedi creu y patrwm yma a sut y gellid ei newid er gwell.
Materion datblygu Cymdeithasol: Bellach nid mesur syml economaidd yw datblygiad. Mae ffactorau cymdeithasol bellach yn holl bwysig ac yn cynnwys pethau fel hawliau menywod.
Bydd y disgyblion yn sefyll arholiad ar ddiwedd blwyddyn 11. Bydd yna ddau bapur arholiad - gyda chwestiynau ymateb i ddata yn arwain at gwestiynau estynedig. Gwaith Cwrs. Bydd y disgyblion yn gwneud dau ddiwrnod o waith maes yn ystod blwyddyn 10 ac yn creu portffolio. Yna yn ystod mis Rhagfyr blwyddyn 11 byddant yn ateb papur dan amodau arholiad yn yr ysgol. Canlyniad hyn yw cwrs diddorol, eangfrydig sydd yn codi ymwybyddiaeth y disgyblion o faterion byd eang ac yn rhoi’r arfau a’r sgiliau i ddisgyblion barhau a’i hastudiaethau academaidd i mewn i’r chweched dosbarth ac ymhellach i’r dyfodol. Bydd yr adran yn gwneud defnydd helaeth o ‘Moodle’ ac yn annog disgyblion i’w defnyddio er mwyn ychwanegu at eu gwybodaeth ddaearyddol ac felly cyfoeth eu hatebion arholiad.
32
TECHNOLEG GWYBODAETH A CHYFATHREBU - TGAU
Cynlluniwyd y maes llafur i gwrdd â gofynion anghenion TGAU Technoleg Gwybodaeth.
Mae deunydd yn datblygu oblygiadau a chymwysiadau systemau gwybodaeth mewn
cymdeithas fodern. Mae'r maes llafur yn annog astudio ac ymchwilio Technoleg
Gwybodaeth mewn amryw o gyd-destunau. Yn y cyd-destunau hyn fe roir i'r disgyblion
gyfle i feithrin cymhwysedd, gallu a medrau beirniadol drwy greu, gweithredu, defnyddio
a gwerthuso amrywiaeth o Systemau Gwybodaeth.
Strwythur y Cwrs
Mae'r cwrs yn cynnwys gwaith ymarferol ac elfen theori. Er mwyn derbyn gradd TGAU,
rhaid astudio pob elfen.
Cynnwys y Cwrs
Uned 1 – Deall TGCh
Arholiad ar ddealltwriaeth o DGCh yng nghyd-destun y cartref a'r ysgol gan gynnwys y meysydd canlynol:
Data a gwybodaeth; Dilysu data a Gwireddu (cyfrineiriau a ffurflenni bwydo data ar-lein)
Adloniant cartref
Teledu rhyngweithiol, Gemau, Ffotograffiaeth, Cerddoriaeth
Systemau cyfathrebu'r cartref a rhai personol
Technoleg Ddiwifr a Bluetooth, Ffonau symudol, PDAs ayyb
Busnes cartref
Siopa ar-lein, Archebu ar-lein ayyb
Sefydliadau: Yr ysgol, y cartref, yr amgylchedd
TGCh a dysgu
Bod yn ddiogel
Ar-lein, Materion iechyd, Deddf
Uned 2 – Datrys Problemau gyda TGCh
Asesiad dan reolaeth 22.5 awr gan ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd yn cynnwys:
Lleoli/Trefnu Ffolderi a Ffeiliau
Chyfathrebu Gwybodaeth
Creu Dogfen swmpus i gynnwys lluniau, Graffeg ayyb
Creu Cyflwyniad i gynnwys Sain a Fideo
Modelu Cyfrifiadurol
Creu Taenlen gan ddefnyddio fformiwlâu cymhleth
Trin Gwybodaeth
Defnyddio Ffynonellau ar-lein (y We)
Defnyddio Data-basau
Defnyddio Systemau E-bost
Gwerthuso
33
Uned 3. – TGCh mewn Sefydliadau
Arholiad ar DGCh mewn sefydliadau yng nghyd-destun y busnes a diwydiant gan gynnwys y meysydd canlynol:
Data, gwybodaeth a gwybod
Amgodio, Dilysu a gwireddu data
Diwydiannau Amlgyfrwng
delweddu digidol, chreu gwefannau, animeiddio ayyb.
Rhwydweithiau
LANau WANau ayyb
Effeithiau Cymdeithasol ac Amgylcheddol
Rhyngwynebau Defnyddiwr
Llais, GUI, Biometreg ayyb
Sefydliadau
Diogelwch mewn Sefydliadau
Technoleg Newydd
Uned 4. - Datrys Datrysiadau ThGCh
Amlgyfrwng (multimedia)
Asesiad dan reolaeth 22.5 awr gan ddefnyddio meddalwedd amlgyfrwng:
Ymchwiliad
Dylunio
Templed a Mordwyaeth
Delweddau Graffigol
Animeiddio
Sain
Technegau Ychwanegol
Effeithiau gwe/cyflwyniad, ffilm, sain ac animeiddio.
Gwerthuso
Cynllun Asesu
Gwaith Cwrs (60%)
Prawf Rheoledig Uned 2, 22.5 awr, (30%)
Prawf Rheoledig Uned 4, 22.5 awr, (30%)
Arholiad Terfynol (40%)
Papur Uned 1, 1.5 awr, (20%)
Papur Uned 3, 1.5 awr, (20%)
Llwybr Dysgu
Mae Plasmawr yn cynnig cwrs Safon Uwch TGCh Cymhwysol. Gellir ei ddilyn am
flwyddyn neu ddwy, gan astudio 2 neu 4 uned.
Ym maes TGCh gwelir nifer o gyrsiau gradd mewn prifysgolion ym Mhrydain. Mae’n
bosibl cyfuno TGCh gyda mwy neu lai unrhyw gwrs arall ar ein cwricwlwm.
34
Colofn C
FFRANGEG - TGAU
Uned 1: Siarad Prawf llafar: 7–9 munud (haen Sylfaenol) 10-12 munud (haen Uwch) 25% o'r cymhwyster 60 marc
Tair tasg: Chwarae rôl Trafodaeth am lun ar gerdyn Sgwrs – Rhan 1 a Rhan 2
Uned 2: Gwrando Arholiad ysgrifenedig: 35 munud (haen Sylfaenol) 45 munud (haen Uwch) 25% o'r cymhwyster 60 marc
Tasgau gwrando a deall gydag ymatebion di-eiriau ac ysgrifenedig
Uned 3: Darllen Arholiad ysgrifenedig:1 awr (haen Sylfaenol) 1 awr 15 munud (haen Uwch) 25% o'r cymhwyster 60 marc
Tasgau darllen gydag ymatebion di-eiriau ac ysgrifenedig, yn cynnwys un dasg yn cyfieithu o'r Ffrangeg i'r Gymraeg/Saesneg
Uned 4: Ysgrifennu Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 15 munud (haen Sylfaenol) 1 awr 30 munud (haen Uwch) 25% o'r cymhwyster 60 marc
Tasgau ysgrifennu yn cynnwys un dasg yn cyfieithu o'r Gymraeg/Saesneg i'r Ffrangeg
35
Hunaniaeth a diwylliant Cymru a'r Byd – meysydd o ddiddordeb
Cyflogaeth ac astudiaeth gyfredol a'r dyfodol
Diwylliannau ieuenctid
Hunan a Pherthnasoedd
Technoleg a chyfryngau cymdeithasol
Ffordd o Fyw
Iechyd a Ffitrwydd Corfforol
Adloniant a hamdden
Arferion a Thraddodiadau
Bwyd a diod
Gwyliau a dathliadau
Cartref a'r Ardal Leol
Ardaloedd lleol o ddiddordeb
Trafnidiaeth Ffrainc a gwledydd lle mae Ffrangeg yn cael ei siarad
Nodweddion lleol a rhanbarthol
Gwyliau a thwristiaeth
Cynaliadwyedd Byd-eang
Amgylchedd
Materion cymdeithasol
Astudiaeth Cyfredol
Bywyd ysgol/coleg
Astudiaethau ysgol/coleg Byd Gwaith
Profiad Gwaith a swyddi rhan amser
Sgiliau a rhinweddau personol
Swyddi a Chynlluniau'r Dyfodol
Gwneud cais am waith/astudiaeth
Cynlluniau gyrfa
ADDYSG GORFFOROL – TGAU a BTEC L2
Bydd y wybodaeth ar gyfer cynnwys y cyrsiau uchod yn barod yn ystod yr wythnos gyntaf ar ol Pasg.
CELF & DYLUNIO - TGAU
O fewn y cwrs Celf a Dylunio cynigir cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd creadigol gweledol megis Celfyddyd Gain, Tecstilau, Dylunio Graffig, Dylunio 3D, Ffotograffiaeth ac Astudiaethau Beirniadol a Chyd-destunol.
CYNLLUN ASESU
Gwaith cwrs: Cynrychiola’r portffolio 60% o’r marc terfynol.
Cynhyrchu portffolio o waith yn seiliedig ar dechnegau a dulliau gweithio y meysydd uchod. Rhoddir arweiniad i’r disgyblion o ran y dewisiad o themâu, gyda’r pwyslais arnynt hwythau i’w ddatblygu mewn modd sy’n adlewyrchu eu diddordebau personol o fewn y maes yma.
36
Aseiniad o dan reolaeth: Cynrychiola’r Aseiniad o dan reolaeth 40% o’r marc terfynol.
Cyfle yw hwn i gynhyrchu gwaith cyson a dwys yn seiliedig ar ddelweddau, themâu neu dasgau a osodwyd o fewn y papur arholiad. Bydd y papur arholiad yn cael ei osod yn ystod mis Ionawr o flwyddyn 11. Rhaid i’r disgyblion ddewis un aseiniad yn unig a rhoi adroddiad clir o’u bwriad. Bydd cyfnod paratoi penodol ar gyfer cynhyrchu tystiolaeth o ymchwil a datblygu syniadau ac yna 10 awr o dan oruchwyliaeth ar gyfer creu'r darn terfynol. Rhaid dethol y gwaith i gyd a’i gyflwyno gan y disgybl i’w safoni.
Bydd y disgyblion sy’n dilyn y cwrs yma yn meithrin sgiliau ymarferol ond hefyd yn datblygu eu gallu i ymchwilio, datrys problemau a gweithio yn annibynnol. Mae astudio Celf a Dylunio ar y lefel yma yn rhoi rhagarweiniad ardderchog i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym myd y celfyddydau neu lle mae delio gyda delweddau yn rhan bwysig o’r gwaith. Mae disgyblion sydd wedi astudio'r pwnc yma yn y gorffennol wedi mynd ymlaen i weithio mewn swyddi amrywiol e.e. mewn orielau celf, fel pensaerniwyr a dylunwyr ceir, ym myd ffasiwn, cynhyrchu propiau a gwisgoedd ar gyfer y theatr, ffilm a theledu ac fel animeiddwyr.
LLETYGARWCH AC ARLWYO – TGAU Amcanion: Dyma’r dewis i chi os oes gennych chi ddiddordeb mewn paratoi, cyflwyno a gweini bwyd i safon uchel. Yn ogystal ag estyn eich gallu mewn Technoleg Bwyd fe ddysgwch am bob agwedd o’r Diwydiant Arlwyo a Lletygarwch fel diet, maetheg, hylendid a swyddi o fewn y diwydiant. Mae’r wobr CBAC Lefel 1/2 mewn Lletygarwch ac Arlwyo wedi ei gynllunio i gefnogi dysgwyr mewn ysgolion a cholegau sydd eisiau dysgu am y sector galwedigaethol a’r posibilrwydd y gall ei gynnig iddynt ar gyfer eu gyrfaoedd neu astudiaeth bellach. Mae’n fwyaf addas fel sylfaen ar gyfer astudiaeth bellach. Byddai hyn yn rhoi i ddysgwyr y cyfle i ddatblygu ystod o sgiliau arbenigol a chyffredinol a fyddai’n cefnogi eu dilyniant i gyflogaeth. Gall cyflogaeth mewn lletygarwch ac arlwyo yn amrywio o staff gweini, derbynyddion a chynorthwywyr arlwyo i gogyddion, rheolwyr gwestai a bar a thechnolegwyr bwyd sy’n gweithio i gadwyni archfarchnadoedd. Mae pob un o’r rolau hyn yn gofyn am addysg bellach a hyfforddiant naill ai drwy brentisiaethau neu addysg bellach ac uwch.
37
Manylion y Cwrs Rhennir cynnwys y cwrs yn ddau faes gorfodol o astudiaeth: Uned 1 - Y Diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo – Bwyd a Diod • Rolau swydd, cyfleoedd gwaith a hyfforddiant perthnasol • Iechyd, diogelwch a hylendid • Paratoi bwyd, coginio a chyflwyno • Maetheg a chynllunio bwydlenni • Costio a Rheoli cyfran • Offer Arbennigol • Cyfathrebu a chadw cofnod • Ystyriaethau amgylcheddol Uned 2 - Y diwydaint Lletygarwch ac Arlwyo ar waith Sgiliau arlwyo a choginio ymarferol sy’n gysylltiedig â pharatoi a gweini bwyd. Asesu Papur theory ar lein 90 munud o hyd, i’w sefyll ar ddiwedd y cwrs (40% o’r marciau). Fe fydd y papur yn cynnwys yr holl wybodaeth o Uned 1 a 2. Asesiad o waith ymarferol o dan rheolaeth (60% o’r marciau).
HANES - TGAU Mae’r cwrs Hanes yn cynnig amrediad eang o feysydd a thestunau astudiaeth o’r Ugeinfed Ganrif. Mae’n gwrs diddorol a heriol i unrhyw hanesydd ifanc.
Uned 1: Astudiaeth fanwl sy’n ffocysu ar werthuso tystiolaeth hanesyddol a dehongliadau
o’r gorffennol (25%)
38
Yr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-47 Edrychir ar broblemau gwleidyddol ac economaidd Yr Almaen yn ystod cyfnod Gweriniaeth Weimar, datblygiad a thwf y Blaid Natsiaidd ac apwyntiad Hitler yn Ganghellor ar Yr Almaen. Astudiwn hefyd bolisïau economaidd, cymdeithasol a hiliol yr unbennaeth Natsiaidd. Bwrir golwg fanwl ar fywyd yn Yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwrthwynebiad gwleidyddol i’r Natsïaid, triniaeth yr Iddewon a chosbi’r Almaen Natsiaidd ar ddiwedd y rhyfel.
Uned 2: Astudiaeth fanwl sy’n ffocysu ar brif nodweddion a chysyniadau hanesyddol
(25%)
Dirwasgiad, Rhyfel ac Adferiad yng Nghymru a Lloegr, 1930-1951 Edrychir ar hanes Cymru a Lloegr yn sgil cwymp economaidd 1929. Astudir effaith yr Ail Ryfel Byd ar y Ffrynt Cartref trwy edrych ar sgil effeithiau ailarfogi a’r Blitz. Edrychwn yn fanwl ar rôl Winston Churchill fel arweinydd. Astudiwn ddatblygiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd wrth i Brydain adfer ei sefyllfa ar ôl 1945. Bwrir golwg fanwl hefyd ar ddatblygiad rôl merched yn ystod yr oes yma.
Uned 3: Astudiaeth amlinellol sy’n ffocysu ar newid a pharhad yn yr Ugeinfed Ganrif
(25%)
Datblygiad UDA, 1930-2000 Y themâu a astudir yn y pwnc yma yw newidiadau mewn bywyd yn ystod yr 20G megis polisïau Roosevelt a’r Fargen Newydd a newidiadau John F. Kennedy, Helynt ‘Watergate’ a’r newidiadau yn niwylliant yr ifanc. Astudir y frwydr dros hawliau sifil gan gynnwys ymgyrchoedd Martin Luther King Jr a Malcolm X. Edrychir ar y Rhyfel Oer, rhyfeloedd Korea a Fietnam, a datblygiad arfau niwclear. Byddwn hefyd yn astudio rôl UDA yn Iran, Iraq ac Afghanistan.
Uned 4: Ymchwiliad hanesyddol i bwnc neu ddadl hanesyddol. Asesiad dan reolaeth yn
fewnol yn yr ystafell ddosbarth. (25%
Dau draethawd yn seiliedig ar elfen o hanes cyfoes. Rhoddir y cyfle i ymchwilio i ddehongliadau hanesyddol. Bydd y gwaith hefyd yn gofyn am sgiliau dadansoddi a gwerthuso tystiolaeth. Y themâu bydd:
Y Rhyfel Mawr 1914-1918
Terfysgoedd Merched Beca
39
CYMDEITHASEG - TGAU
Fe fydd y cwrs yma yn ysbrydoli disgyblion a’u hannog i ystyried eu
profiadau personol o fewn y byd ehangach. Bydd disgyblion yn edrych ar
yr effaith caiff diwylliant a threfn gymdeithasol ar fywydau unigolion.
Blwyddyn 10 Y Craidd Gorfodol
Bydd y disgyblion yn astudio’r broses o gymdeithasoli a’i heffaith ar ymddygiad unigolion. Byddent yn edrych ar y pethau hynny sy’n effeithio ar ymddygiad unigolion o fewn y gymdeithas gan gymryd i ystyriaeth rôl y teulu, addysg, y
cyfryngau, ffrindiau a chrefydd. Bydd y disgyblion hefyd yn dysgu am wahanol stereoteipiau sydd yn rhan o’n cymdeithas a sut caiff rhain eu creu a’u heffaith ar
unigolion.
Opsiynau Fel opsiwn rydym yn astudio’r Cyfryngau Torfol. Mae gan y cyfryngau torfol rôl
ganolog yn ein cymdeithas. Bydd y disgyblion yn dysgu sut caiff normau, gwerthoedd a diwylliant eu hosod gan y cyfryngau torfol. Byddent yn edrych ar
ddylanwad y cyfryngau ar ymddygiad unigolion a sut gall rolau rhywedd, stereoteipiau a rhagfarn parhau neu ddatblygu yn sgil y cyfryngau.
Y Cyfryngau Torfol
Stereoteipiau
Grwpiau Cymdeithasol
Delwedd o’r corff
Effaith y cyfryngau ar gynulleidfaoedd
Rhwydweithio cymdeithasol
Blwyddyn 11
Y Craidd Gorfodol Bydd y disgyblion yn edrych ar yr anghydraddoldebau gwahanol sy’n bodoli o fewn ein cymdeithas e.e tlodi a chyfoeth, rhywiaeth, hiliaeth, gwahaniaethu ar sail oedran/anabledd. Byddent yn edrych ar y statws sydd gan berson o fewn y gymdeithas a beth sy’n penderfynu statws person. Byddent yn edrych ar ffynonellau o rym ac awdurdod ac yn cysylltu rhain gyda theoriau Marcsaidd/Ffeministaidd.
Opsiwn Fel opsiwn, rydym yn astudio’r uned Trosedd a Gwyredd. Bydd y disgyblion yn
dysgu bod dosbarth, rhywedd, oedran ac ethnigrwydd yn ffactorau sy’n gysylltiedig â phatrymau trosedd a gwyredd, yn nhermau pwy sy’n troseddu a phwy yw dioddefwyr troseddau. Byddent yn edrych ar y system cyfiawnder
40
troseddol ac yn ystyried a yw’r driniaeth gan y system yn rhywbeth arall sy'n golygu bod anghydraddoldeb yn parhau yn y gymdeithas.
Mae Cymdeithaseg yn gwrs dwy flynedd. Bydd y disgyblion yn eistedd eu harholiad allanol cyntaf ar ddiwedd blwyddyn 10 sydd yn werth 50% o’r cwrs.
Bydd y disgyblion yn sefyll eu hail arholiad ar ddiwedd blwyddyn 11 sydd hefyd yn werth 50%.
Trosedd a Gwyredd
Sancsiynau ffurfiol ac anffurfiol
Is ddiwylliannau
Rôl yr heddlu, y llysoedd a’r cyfryngau
Portreadau o drosedd yn y cyfryngau
Ymddygiad troseddol
top related