• soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … all...• soser potyn planhigyn •...
TRANSCRIPT
![Page 1: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/1.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).
Creu hambwrdd dwr sy’n llenwi’i hunFel ni, mae adar angen diod. Dyma ddull da o roi d∑r i’r adar – a bydd eich hambwrdd yn dal i lenwi!
Cadwch yn ddiogelYn lle bo’r adar yn lledaenu afiechyd i’w gilydd (ac i chi), golchwch yr hambwrdd yn aml. Gofynnwch i oedolyn wneud hynny y tu allan gan wisgo menig a defnyddio hylif golchi gwan. Dylent olchi eu dwylo yn syth wedyn.
• Soser potyn planhigyn
• Potyn iogwrt mawr crwn
• Siswrn/tyllwr
1 Gwnwewch dwll yn y potyn rhyw 4mm ar draws ac 1cm o’r ymyl
2 Llenwch y potyn â d∑r, yna rhowch y soser potyn planhigyn ar ei ben.
3 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered, gan eu cadw gyda’i gilydd. Bydd d∑r yn llifo o’r potyn
iogwrt i’r soser hyd lefel y twll. Pan fydd adar yn yfed o’r hambwrdd, bydd d∑r o’r potyn yn llenwi’r hambwrdd trwy’r amser.
fel hyn
![Page 2: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/2.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).
Creu magl tatwsPwy sydd wedi bod yn bwyta fy nhaten? Rhowch datws drwy’u crwyn allan i ddarganfod beth sydd wedi bod yn eu bwyta.
• Tatws drwy’u crwyn
• Cyllell
• Ffyn coctel neu blyciwr
1 Torrwch y tatws trwy’u crwyn yn eu hanner ar eu hyd.
2 Gosodwch nhw gyda’r croen ar i fyny ar dir llaith mewn man o’r ffordd.
3 Codwch nhw ymhen 24 awr. Peidwch ag edrych arnyn nhw cyn hynny!
4 Os oes rhywbeth wedi bod yn bwyta eich taten, defnyddiwch ffyn coctel neu blyciwr i weld os gallech ddod o hyd iddyn nhw (ond peidiwch â’u brifo!). Wedyn, rhyddhewch nhw’n ôl i’r fan lle cawsoch hyd iddyn nhw.
Beetle by Alekss and slug by guy (both fotolia.com)
![Page 3: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/3.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).
Creu sugnwrDyma ffordd clyfar i ddal trychfilod a’u gweld yn agos. A’r cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw sugno!
• Cynhwysydd bychan clir â chaead iddo
• Morthwyl a hoelion neu siswrn (i wneud twll bach)
• Gwellt hyblyg
• Darn bach o ddefnydd tenau fel clwtyn cegin neu deits.
• Band elastig
• Clai
1 Gofynnwch i oedolyn wneud tyllau maint gwellt yng nghaead a gwaelod y cynhwysydd.
2 Torrwch chwarter isaf y gwellt, y rhan sydd ddim mor hyblyg. Cadwch y ddau ddarn.
3 Lapiwch eich clwtyn neu eich teits o gwmpas un pen o’r darn hiraf o’r gwellt a’i ddal yn ei le gyda’r band elastig.
6 Gwthiwch y clai o gwmpas unrhyw le gwag.
4 Gwthiwch ben arall y gwelltyn hir drwy gaead y cynhwysydd fel bod y pen sydd wedi’i orchuddio yn y potyn.
5 Gwthiwch y gwelltyn bach drwy’r twll yng ngwaelod y cynhwysydd.
7 Rhowch y caead ar y cynhwysydd. Rydych yn barod.
Dal trychfilodDaliwch ben y gwelltyn byrraf dros eich trychfil a sugnwch ar y gwelltyn hiraf. Caiff y trychfil ei sugno i fyny.
Byddwch yn garedig efo'r trychfilodDewisiwch y trychfilod sy’n ddigon bach i gael eu sugno drwy’r gwelltyn. Peidiwch â’u cadw’n rhy hir – rhyddhewch nhw i’r fan lle cawsoch hyd iddyn nhw mor fuan â phosibl.
![Page 4: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/4.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).
Creu potel dal trychfilodSut mae gwylio trychfilod heb iddyn nhw ddianc? Mae hen botel ddiod yn ardderchog ar gyfer dal a gwylio trychfilod.
• Potel ddiod 500ml sych a glân
• Clingfilm
• Band elastig
• Siswrn
Gwyliwr trychfilod Storfa trychfilod
Cadw’n ddiogelMae torri poteli yn waith anodd, felly gofynnwch am gymorth oedolyn gyda hyn.
Mae hen botel ddiod yn ardderchog ar gyfer
1 Torrwch draean uchaf y botel i ffwrdd a defnyddiwch glingfilm i guddio’r gwddf. Daliwch y clingfilm yn ei le gyda’r band elastig.
2 Ewch i hela gyda’ch potel dal trychfilod.
1 Torrwch bedwar o fflapiau siap U ben i waered yn agoriad hanner isaf y botel. Sicrhewch eu bod wedi eu torri tua 5cm o’r gwaelod.
2 Pan fyddwch yn gollwng trychfilyn i mewn, plygwch y fflapiau am i fewn, un ar ôl y llall. Nawr mae gennych gaead i’ch storfa drychfilod.
3 Peidiwch ag anghofio gollwng y trychfilod yn ôl i’r union fan y cawsoch hyd iddyn nhw, unwaith rydych wedi gorffen dod i’w hadnabod..
Buwch goch gota gan arlindo71 (istockphoto.com)
![Page 5: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/5.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).
Creu pwll dwr bachHoffech chi warchodfa natur gwlyptir eich hun mewn powlen golchi llestri?
• Powlen golchi llestri
• Graean a cherrig mawr
• Boncyffion a brigau
• Planhigion pwll brodorol fel cyrnddail a milddail
• Planhigion pwll mewn potyn, e.e. milddail d∑r
1 Palwch dwll ddigon mawr fel bo’r bowlen olchi llestri yn gorffwys ynddo. Ceisiwch ei wneud mor wastad â phosibl.
2 Llenwch waelod y bowlen â graean. Adeiladwch ysgol o gerrig mawr i fyny un ochr fel bo’r llygod a’r llygod d∑r yn gallu dianc. Rhowch ambell i frigyn ynddi ar gyfer gweision y neidr sy'n hedfan heibio. Sodrwch waelod pob brigyn gyda cherrig trwm.
3 Llenwch y bowlen â d∑r – glaw, os yn bosibl.
4 Gorchuddiwch ochrau’r bowlen gyda cherrig a boncyffion. Claddwch y planhigion potyn mewn cerrig mân, a gollyngwch blanhigion pwll eraill i mewn iddi.
5 Gwyliwch y bywyd gwyllt yn cyrraedd!
![Page 6: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/6.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).
Creu maglYdych chi’n gwybod beth sy’n rhedeg o gwmpas yn y nos? Dyma eich cyfle i ddarganfod sut. Gallai fod yn ddifyr!
• Potyn iogwrt neu gwpan plastig
• Trywel
• Banana
• Siswrn
1 Gwnewch dyllau bach yng ngwaelod y cwpan neu’r potyn.
2 Dewisiwch le i roi eich magl. Byddai lle gyda llawer o blanhigion o gwmpas yn ddelfrydol – dyna ble mae’r trychfilod yn byw.
3 Palwch dwll yr un maint â’ch potyn neu’ch cwpan.
4 Gwthiwch eich potyn neu’ch cwpan i mewn fel bod yr ymyl yr un lefel â’r tir.
5 Rhowch ddarn o fanana tu mewn, ac ychwanegwch ychydig o ddail i roi cysgod i’ch trychfilod.
6 Gadewch y magl yno dros nos ac yna ewch i weld beth sydd y tu mewn.
7 Unwaith rydych wedi casglu ac edrych ar eich trychfilod, cofiwch fynd â’ch potyn allan i’w rhyddhau eto. Cofiwch beidio â gadael unrhyw botyn yn y ddaear.
Byddwch yn ffeind i'ch trychfilodDim ond ar noson sych y dylech roi eich magl allan, neu gallai’r creaduriaid bach foddi! Rhyddhewch nhw lle daethoch o hyd iddyn nhw.
![Page 7: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/7.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).
Creu traciwr anifeiliaid
Dewch i ddarganfod pwy sydd wedi bod yn effro dros nos wrth i chi gysgu'n sownd!
• Hambwrdd pobi
• Astell fechan neu bren mesur hir
• Tywod mân, gwlyb
• Desgl fechan fas
• Bwyd ci neu gath
1 Llenwch yr hambwrdd â thywod gan lyfnhau’r wyneb gydag ochr y pren mesur neu’r astell. 3 Gadewch eich defnydd tracio allan dros nos er mwyn
gweld yn y bore a oes ôl traed wedi’i adael ynddo. Taflwch y bwyd anifeiliaid i ffwrdd yn y bore, cyn iddo fynd yn ddrwg.
2 Rhowch ychydig o fwyd anifail yn y ddesgl a’i gosod yn dynn yng nghanol yr hambwrdd.
![Page 8: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/8.jpg)
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).
Creu blwch compostDewch i ddarganfod pwy sy’n bwyta sbarion eich ffrwythau. Adeiladwch flwch i drychfilod fel y byddan nhw wrth eu bodd yn bwyta.
• Blwch cardbord
• Bwyd compost fel croen tatws, calon afal a hen bapur
• Cerrig mân
• Brigyn bach
1 Agorwch waelod a thop y blwch cardbord. Gwyliwch rhag styffylau miniog.
2 Dewisiwch lecyn cysgodol a throwch eich blwch wyneb i waered gyda’r fflapiau tuag allan. Pwyswch y fflapiau i lawr gyda cherrig bychan.
3 Llenwch eich blwch compost gyda bwyd compost (ond dim byd wedi’i goginio). Mae angen iddo fod yn llaith, felly dyfriwch yn rheolaidd, ond dim ond ychydig ar y tro. Peidiwch â gadael i’r blwch feddalu.
4 Cadwch y caead wedi’i gau gyda rhywbeth ysgafn fel brigyn.
5 Bydd creaduriaid compost yn siwr o ddarganfod y wledd yn fuan. Sbeciwch yn aml i weld beth sy’n bwydo y tu mewn.
6 Ymhen amser, bydd eich blwch cardbord yn dechrau troi’n gompost ei hun! Dyna pryd bydd angen rhoi eich blwch compost ar y domen gompost. Neu gallwch ei blannu i’r ddaear gan adael i’r anifeiliaid ddianc.
Byddwch angen
![Page 9: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/9.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).
Creu ty draenogPan fyddwch chi’n effro, mae draenogod yn cysgu. Adeiladwch blasdy cwsg i gadw’r draenog yn hapus.
• Blwch cardbord mawr, trwchus
• Siswrn
• Bag nwyddau mawr, cryf
• Hen bapurau newydd
• Gwellt neu wair sych a glân
• Brigau
1 Gwnewch fynedfa i’r blwch tua 15cm sgwâr.
2 Torrwch agoriad 15cm o hyd a 5cm o led ar bob ochr. Rhain fydd y tyllau aer.
3 Rhowch y papurau newydd wedi’i malu gyda’r gwair sych neu’r gwellt y tu mewn.
4 Rhowch y blwch mewn man cysgodol wrth ymyl gwrych neu lwyn. Mae angen i’r fynedfa wynebu’r de, os yn bosibl. Nid o’r de y mae glaw yn cyrraedd, fel arfer.
5 Gorchuddiwch ran ucha’r blwch gyda’r bag nwyddau.
6 Rhowch bentwr o frigau o gwmpas y blwch ac ar ei ben, nes ei fod yn edrych yn debyg i grwb camel. Llenwch y mannau gwag gyda mwy o ddail a gwair.
7 Nawr gadwch lonydd iddo, yn y gobaith y cewch ymwelydd bach pigog.
Byddwch yn ffeind i'r draenogod.Er waetha’r demtasiwn, peidiwch ag edrych y tu mewn i’r t≈ draenog rhwng misoedd Mai a Medi. Os yw’r fam wedi geni rhai bach ynddo, fe allai eu gadael.
Diolch i Gymdeithas Cadwraeth Draenogod am y syniad yma.
![Page 10: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/10.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).
Cadw’n ddiogelDefnyddiwch y morthwyl yn ofalus ac araf – mae taro’r hoelion yn dyner yn well na tharo’n wyllt. Gofalwch rhag taro’ch bysedd eich hun na neb arall.
Creu blwch nythuMeddyliwch – yn fuan, gallai’r blwch rydych chi’n ei greu fod yn llawn o gywion bach!
• Astell bren 150-180mm o led, 1330-1580mm o hyd a 15mm o drwch
• 14 o hoelion pen crwn wedi’u trin, 3.5cm o hyd
• 6 o hoelion pen crwn bychan wedi’u trin, 15mm o hyd
• Stribed o rwber (fel tiwb mewnol hen feic)
• Morthwyl bychan
1 Gofynnwch i oedolyn dorri’r astell bren i’r maint a ddangosir yma a gwneud twll ym mlaen y blwch.
2 Cysylltwch yr ochrau i’r cefn gyda thair hoelen bob ochr.
3 Gosodwch y darn gwaelod yn ei le a’i hoelio i’r ochrau. Defnyddiwch ddwy hoelen bob ochr.
4 Hoeliwch y blaen i’r ochrau gyda phedair hoelen.
5 Gyda’r hoelion bychan, glynnwch un ochr o’r stribed rwber i’r pren fel caead – hwn fydd y colfach. Rhowch y caead ar ben y blwch a hoelio ochr arall y stribed rwber i’r blwch. Ond peidiwch â hoelio’r caead i lawr, wrth gwrs!
6 Ffeindiwch fan tawel yn yr ardd. Bydd yr ardal delfrydol rhwng dau a phumb metr o’r ddaear, ddim o fewn cyrraedd cathod, ac yn wynebu rhwng y gogledd a’r dwyrain. Os ydych yn ei roi mewn coeden, defnyddiwch wifren yn hytrach na hoelion.
twll diamedr 25 - 35mm
Stribed rwber
Ochr
Ochr
Blaen
To
Gwaelod
Cefn
![Page 11: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/11.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).
Creu twll i lyffantodHoffech chi fyw yn rhywle tywyll, gwlyb ac oer? Efallai ddim, ond dyna’n union y mae llyffantod diog yn chwilio amdano.
• Hen botyn blodau clai tua 20cm ar y top
• Trywel
• Dail, mwsog a gwellt
1 Dewisiwch ardal sy'n oer, cysgodol ac o'r ffordd. Byddai o dan lwyn yn arbennig o addas, rhywle na
fyddai pobl eraill yn ei ganfod. 4 Llenwch y potyn i’w hanner gyda dail, mwsog a
gwellt a gwasgarwch fwy o gwmpas y potyn. Nawr arhoswch nes bod llyffant yn dewis eich potyn fel ei gartref yn ystod y dydd.
2 Palwch dwll tua 10cm o ddyfnder a’r un hyd â’ch potyn. Os gallwch, palwch y twll yn wynebu'r de.
3 Rhowch y potyn yn y twll ar ei ochr fel ei fod wedi’i hanner gladdu. Dylai ceg y potyn wynebu’r de (oddi wrth rhan fwya’r gwynt a’r glaw).
![Page 12: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/12.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).
Plannwch goedenDaliwch goeden fechan iawn yn eich llaw. Un diwrnod gallai fod yn fwy na’r t≈. Onid yw hynny’n rhyfeddol? Cychwynnwch ei thaith i fod yn gawr. Bydd yn parhau i dyfu am hir oes ar ôl i chi dyfu'n oedolyn.
• Coeden frodorol fechan iawn (criafolen, helygen neu geiriosen wyllt fyddai’n dda)
• Rhaw
• Esgidiau neu esgidiau glaw
• Menig
• Bwced dyfrio
1 Edrychwch ar wreiddiau eich coeden fechan er mwyn penderfynu maint y twll y bydd angen i chi ei balu. Dylai fod yn ddigon mawr i beidio â gwasgu’r gwreiddiau’n dynn. Dylai wyneb y pridd fod rhyw 5cm uwchben y gwreiddiau.
4 Gwasgwch y pridd i lawr yn dyner gyda chefn eich sawdl. Peidiwch â gwasgu’r pridd i lawr yn rhy galed rhag rhwystro d∑r i gyrraedd y gwreiddiau.
5 Rhowch ddigon o ddiod i’r goeden. Mae’n sychedig iawn!
2 Palwch y twll gan adael y pridd wrth ei ymyl.
3 Rhowch y goeden yn y twll. Daliwch hi tra eich bod yn rhoi’r pridd yn ôl yn y twll. Dylai ffurfio twmpath ychydig yn uwch na’r tir o gwmpas.
![Page 13: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/13.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Eleanor Bentall (rspb-images.com).
Creu rhwyd i drochi pwllA oes bwystfilod yn y pwll? Dewch i ddarganfod drwy greu rhwyd i'w dal.
• Par o deits
• Gwifren hongian côt
• Tâp cryf i lapio parsel neu dâp cludo
• Siswrn
• Edau a nodwydd
• Brigyn bamb∑
1 Crëwch bâr o siorts hir gyda’r teits drwy dorri rhan fwyaf o’u coesau. Nawr clymwch y coesau gyda’i gilydd. Mae gennych rwyd!
3 Rhowch eich rhwyd dros y wifren, plygwch y top yn ôl drosto a’i wnïo i’w le.
4 Sythwch ben bachog y wifren a’i osod ar y brigyn bamb∑ gyda’r tâp.
5 Nawr rydych yn barod i fynd i drochi pwll.2 Plygwch y wifren hongian côt nes fod yr ochrau’n
sgwâr fel yn y llun.
![Page 14: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/14.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).
Creu blwch ystlumodWrth i chi gysgu yn eich gwlâu gyda'r os, mae ystlumod angen rhywle i gysgu'n sownd hefyd. Mae rhai ystlumod yn ddigon bychan i ffitio mewn blwch matsis, felly mae’r blwch yma’n berffaith fel man clwydo.
• Astell bren wedi’i dorri’n bedwar hyd gwahanol
• Stribedi tenau o bren wedi’u torri rhwng 15cm a 25cm o drwch (a dim mwy)
• Hoelion
• Gwifren
1 Torrwch ddau stribed tenau o bren i hyd yr ail ddarn hiraf o’r astell bren. Rhowch nhw wrth ben y darn
mawr o bren ar bob ochr. Rhowch yr ail ddarn o’r astell ar ei ben a’i hoelio i’w le.
2 Torrwch ddau stribed tenau i hyd y trydydd darn hiraf o’r astell bren. Rhowch nhw wrth ben yr ail ddarn o bren ar bob ochr. Rhowch y trydydd darn o’r astell ar ei ben a’i hoelio i’w le.
3 Hoeliwch y darn lleiaf o’r astell ar ei ben i greu to.
4 Tarwch ddwy hoelen fawr i mewn i’r blwch ystlumod fel y dangosir yn y llun. Defnyddiwch wifren i’w gysylltu wrth goeden neu adeilad.
5 Ceisiwch ei roi mewn man cysgodol gyda lle clir i hedfan o’i flaen.
Diolch i Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod am y cynllun yma.
![Page 15: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/15.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).
Creu ty gwenynByddwch yn brysssur! Adeiladwch nyth i wenyn sydd ddim yn bysssian (nac yn pigo ’chwaith). Gallwch greu nyth er mwyn i wenyn bach unig ddodwy eu wyau ynddo. A gallai buwch goch gota ei ddefnyddio fel llecyn i gysgu dros y gaeaf.
• Potel ddiod blastig
• Clai
• Siswrn
• Brigau bamb∑ byr o’r un maint i gyd
• Llinyn
1 Torrwch dop y botel blastig fel bod gweddill y botel tua chentimedr yn hirach na’r brigau bamb∑. 4 Defnyddiwch linyn i hongian y botel mewn man
heulog ar goeden, sied neu wal. Gwnewch yn siwr ei bod yn gwynebu i lawr rhyw ychydig rhag i’r glaw fynd iddi.
2 Gwthiwch y clai i waelod y botel.
3 Glynwch y brigau yn galed i’r clai (y pen agored allan)gan ddal ati nes bod y botel yn llawn
Thanks to the Bat Conservation Trust for this design.
Cadw’n ddiogelMae torri poteli yn anodd, felly gofynnwch i oedolyn eich helpu gyda hyn.
![Page 16: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/16.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).
Creu bwced chwilodBeth yw pwrpas bwced gyda thyllau ynddo? Bod yn gartref da i ddihirod bach. Mae pob math o chwilod yn byw mewn pren a dail wedi pydru. Gall bwced chwilod fod yr union beth i’w helpu i oroesi.
• Bwced blastig
• Cyllell grefft
• Cerrig
• Rhisgl coed
• Rhaw
• Boncyffion
1 Gofynnwch i oedolyn dorri tyllau crwn 3cm yn ochrau a gwaelod y fwced. Dyma ddrysau i'r chwilod.
4 Llenwch y fwced gyda rhisgl coed hyd tua 10cm o’r brig, yna rhowch haen o bridd drosti.
5 Rhowch foncyff neu ddau arall ar y brig ac yna caiff y chwilod ddewis rhwng y boncyffion uchaf a’r rhai sydd wedi’u claddu. Perffaith!2 Palwch dwll o faint y fwced gan roi’r pridd wrth ymyl.
3 Claddwch y fwced yn y twll. Rhowch gerrig mawr yn ei gwaelod, gan ychwanegu boncyff neu ddau i sefyll ynddi. Bydd chwilod yn dodwy eu wyau yn y boncyffion a’r lindys yn bwyta’r pren pydredig. Hmm, blasus, ynte?
![Page 17: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/17.jpg)
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).
Creu gaeaf-gysgfanHoffech chi wybod lle mae llyffantod yn mynd yn y gaeaf? Mae llyffantod, brogaod ac ymlusgiaid yn gaeafgysgu yn ystod y misoedd oer. Gaeaf-gysgfan yw enw’r cartref mawr i’r creaduriaid hyn. Dechreuwch balu!
• Rhaw
• Boncyffion a changhennau
• Brics a cherrig mawr
• Dau neu dri darn o beipen law (holwch mewn siop offer am ddarnau sbâr)
1 Palwch dwll tua 50cm o ddyfnder a 1.5 metr ar draws.
2 Llanwch y twll gyda boncyffion, canghennau, brics a cherrig mawr. Gadwch ddigon o le rhyngddyn nhw.
4 Gorchuddiwch y brics a’r canghennau gyda phridd nes bod gennych dwmpath tua hanner metr o uchder. Gwnewch yn siwr nad ydych chi’n cuddio mynedfeydd y peipiau.
5 Disgwyliwch nes bo’r llyffantod a’r brogaoed yn hopian a chropian i mewn.3 Gwnewch dwneli mynedfa gyda’r peipiau glaw ar yr
ochrau. Dylai pen y peipiau fod ar lefel y tir.
Byddwch angen
Diolch i Wildlife Watch am y syniad hwn.
![Page 18: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/18.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).
Creu nyth cacwnBeth am wenu ar wenyn? Mae breninesau cacwn yn chwilio am nyth i fagu eu plant. A gallwch chi greu un iddyn nhw!
• Potyn blodau clai tua 20cm ar draws y top
• Teilsen neu lechen
• Darn o bibell dd∑r hanner metr o hyd
• Siswrn
• Gwellt, gwair neu ddefnydd gwely anifail anwes
1 Palwch dwll ddigon mawr fel pan fo’r potyn wyneb i waered bydd traean ohono yn y twll. 5 Rhowch un pen o’r bibell yn y potyn, yna’n ofalus
trowch y potyn wyneb i waered i mewn i’r twll, gan adael gweddill y bibell yn gorwedd ar waelod y ffos (gyda’r tyllau ar y gwaelod).
6 Claddwch rhan fwya’r bibell mewn pridd, gan adael y pen yn sefyll allan o’r tir rhyw fymryn. Dyma fynedfa’r gwenyn.
2 Palwch ffos fach tua 10cm o ddyfnder a thua 20cm o hyd.
3 Rhowch wair, gwellt neu ddefnydd yn y potyn fel ei fod tua thraean llawn.
4 Gofynnwch i oedolyn dorri tyllau bychan yn y bibell dd∑r gyda siswrn ar hyd un ochr. Bydd rhain yn gadael i dd∑r ddraenio ohono.
Cadw’n ddiogel. Gobeithio y daw gwenynen neu gacynen i letya. Peidiwch â phoeni y byddan nhw’n eich pigo chi – os na wnewch chi niwed iddyn nhw, wna nhw ddim byd i chi.
![Page 19: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/19.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan Nick Cunard (rspb-images.com).
Creu gwesty trychfilodAdeiladwch eich gwesty trychfilod eich hun! Codwch d∑r moethus fel cartref i fuchod coch cota, llyffantod, brogaod a draenogod gan ddefnyddio gwastraff yr ardd. Ychwanegwch faint a fynnwch o loriau.
• Brics
• Stribedi o bren
• Teils to neu ffelt to
Ar gyfer y llenwad (unrhywbeth o’r canlynol)
• Gwellt, gwair, hen ddail, mwsog, tywod
• Tiwbiau cardbord a cherdyn rhychiog
• Pibelli plastig a cheramig o faint a lled amrywiol
• Cerrig
• Brigau bamb∑ gwag
• Bonion planhigion marw gwag
• Moch coed
• Boncyffion gyda thyllau o faint amrywiol
1 Dewiswch lecyn gwastad yn yr haul neu mewn ychydig o gysgod ar gyfer eich gwesty. 5 Daliwch ati nes bydd eich gwesty mor uchel ag y
dymunwch, yna gorchuddiwch y cyfan gyda theils neu ffelt fel bod gan eich gwesty do rhag y glaw. Rhowch frics ar ben y cyfan er mwyn cadw’r to yn ei le.
2 Gosodwch y brics ar ffurf H. Llanwch y gofod rhyngddyn nhw gyda chymysgedd o’r canlynol - gwellt, gwair, hen ddail, mwsog, tywod.
3 Taenwch stribedi o bren neu balet dros y brics a llanwch y gofod gyda pheth o’r llenwad.
4 Ychwanegwch haen arall o stribedi pren neu balet a’i lanw eto gyda’r llenwad.
Mwy o’r gwylltGall lloriau’ch gwesty fod yn gartref i greaduriaid amrywiol. Gall llyffantod a brogaod gladdu eu hunain mewn tywod yn y llawr isaf. Mae buchod coch cota yn gaeafgysgu mewn tiwbiau gwag ac yn nythu mewn gwellt. Bydd creaduriaid bychan eraill yn byw ymhlith y dail a’r mwsog ac mewn tyllau yn y boncyffion.
Cadw’n ddiogel.Peidiwch ag adeiladu eich gwesty yn rhy uchel a thenau – rhag ofn iddo syrthio.
![Page 20: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/20.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).
Creu rhwyd ysgubDyma ddaliwr trychfilod perffaith ar gyfer hela mewn gwair uchel. Beth wnewch chi ei ddal heddiw?
• Hen orchudd gobennydd neu fag nwyddau
• Tâp parsel
• Gwifren hongian côt
1 Plygwch y wifren i siap diemwnt 3 Defnyddiwch fachyn y wifren fel dolen. Lapiwch y tâp o gwmpas unrhyw rannau pigog.
Ysgubwch mewn steilY ffordd orau i ddefnyddio’ch rhwyd yw i ’sgubo’n ysgafn drwy’r gwair hir. Bydd y trychfilod yn disgyn i’r rhwyd, yn hytrach na chael eu chwipio i ffwrdd..
2 Gyda’r tâp parsel rhowch ben y bag/gobennydd ynghlwm i’r diemwnt.
![Page 21: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/21.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).
Creu bar i löywod bywSut mae hudo glöyn byw? Mae glöynnod byw yn sugno neithdar melys o flodau a ffrwythau aeddfed. Dyma ddiod i'w denu nhw er mwyn i chi gael eu gweld.
• Powlen gymysgu
• Fforc
• Llwy
• Banana gor-aeddfed
• Siswrn
• Llinyn
• Plât papur
1 Torrwch y fanana i’r fowlen a’i stwnsio gyda’r fforc. 3 Ar ddiwrnod heulog, clymwch y llinyn uchaf wrth gangen a llwythwch y stwnsh banana ar y plât. Gwyliwch y glöynnod byw yn galw.
2 Tyllwch dri thwll o gwmpas y plât papur (heb fod yn rhy agos at yr ochr) a thynnwch ddarn o linyn drwy
bob twll. Clymwch ben pob llinyn.
![Page 22: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/22.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).
Creu potel i fwydo adarDyma beth difyr i’w wneud… a bydd yr adar yn ei hoffi, hefyd. Gosod pensiliau i’r adar lanio arnyn nhw trwy hongian llecyn bwydo perffaith.
• Potel ddiod neu lefrith
• Siswrn
• Llinyn
• Pensiliau neu lwyau pren
• Hadau adar
1 Torrwch dyllau bychan maint pin yng ngwaelod y botel fel bod unrhyw dd∑r yn draenio allan.
2 Torrwch dyllau o bob ochr y botel, fel y gallwch wthio’r pensiliau neu’r llwyau trwyddyn nhw.
3 Torrwch fflap ychwanegol 3cm o hyd yn agos at dop pob twll a gwthiwch o i mewn. Bydd hyn yn galluogi’r adar i gyrraedd yr hadau, a rhwystro glaw rhag mynd i mewn.
4 Llenwch y botel gyda hadau adar.
5 Sgriwiwch gaead y botel a chlymwch y llinyn am wddf y botel. Nawr gallwch hongian y botel fwydo ar gyfer adar llwglyd.
![Page 23: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/23.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).
Creu bwydwr afal i'r adarCrëwch unrhyw un o’r rhain a bydd yr adar yn ddihafal o hapus!
• Afal meddal
• Tyllwr digreiddio neu sgiwer afal
• Hadau blodyn yr haul (yn eu plisgyn)
• Tri brigyn bach
• Llinyn
1 Gofynnwch i oedolyn dynnu calon yr afal neu wneud twll trwy’r canol. 4 Gwnewch safle clwydo trwy wthio’r ddau frigyn arall
i mewn i hanner isaf yr afal.
5 Clymwch y llinyn wrth goeden a disgwyl i’r adar ddod yno.
2 Tynnwch linyn trwy’r twll yn yr afal a chlymwch y darn gwaelod i frigyn.
3 Gwthiwch hadau blodyn yr haul i mewn i hanner uchaf yr afal.
![Page 24: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/24.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).
Creu cebab adarNa, na, nid cebab wedi’i gwneud o adar! Gwnewch cebab blasus o fwyd, ei hongian tu allan, a disgwyl i’r adar wahodd eu hunain am ginio.
• Gwifren flodau
• Llinyn
• Bwyd cebab ar gyfer adar, fel afalau, bara, caws caled a rhesins
1 Hel popeth sydd i’w rhoi yn y cebab. Dewiswch fwyd a fyddai’n dda i’r adar. Torrwch y darnau mawr
o fwyd i mewn i ddarnau maint marblen.4 Clymwch ddolen o linyn am y wifren gylch gan
hongian y cebab er mwyn i’r adar ei fwyta.
2 Gwthiwch y wifren flodau drwy’r pytiau bach yn ofalus, gan adael rhyw 8cm ar y ddau ben. Plygwch y ddau ben fel dau fachyn bach.
3 Plygwch y wifren i ffurfio cylch, gan gloi’r ddau ben am ei gilydd.
![Page 25: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/25.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).
Creu bwydwyr moch coedGwledd i'r adar yn y gaeaf wrth i chi faeddu'ch dwylo.
• Moch coed (a’r pinwydd wedi sychu er mwyn iddyn nhw agor!)
• Hadau adar
• Rheisins
• Cnau daear
• Caws wedi’i falu
• Siwed neu lard
• Powlen gymysgu
• Siswrn
• Llinyn
1 Gwnewch y gymysgedd bwyd adar i ddechrau. Cynheswch y lard i wres yr ystafell, ond peidiwch â’i doddi. Yna, torrwch o’n ddarnau bach a’u rhoi yn y fowlen gymysgu.
4 Rhowch y moch goed yn yr oergell am rhyw awr i setio. Nawr gallwch eu hongian gan roi pryd i gynhesu’r adar.2 Ychwanegwch y cynhwysion eraill i’r fowlen.
Cymysgwch nhw gyda’ch bysedd, nes bo’r saim yn dal y llanast gludiog gyda’i gilydd.
3 Clymwch linyn ym mhen y moch coed, ac yna’u llenwi gyda’r bwyd adar.
Cadwch yn ddiogelPeidiwch â gwneud hyn os oes gennych alergedd cnau. Hyd yn oed os nad oes gennych alergedd, peidiwch â bwyta unrhyw gnau daear sydd wedi cael eu gwerthu fel bwyd adar. Nid ydyn nhw’n addas i ni eu bwyta.
![Page 26: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/26.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).
Creu tomen foncyffionAdeiladwch fyd dirgel ar gyfer yr holl greaduriaid bach sy’n dod allan yn y nos. Gall tomen o foncyffion a brigau greu cysgod i bob math o anifeiliaid, o lyffantod a madfallod i nadroedd filtroed. Does dim yn well gan y creaduriaid bach na phryd o goed pydredig.
• Rhaw
• Boncyffion a brigau
• Dail
• Mwsog
• Gwellt
1 Chwiliwch am fan cysgodol ar gyfer eich pentwr boncyffion a phalwch dwll bas.
2 Pentyrrwch y boncyffion yn y twll gan roi’r rhai mwyaf yn y gwaelod.
3 Ychwanegwch ganghennau a brigau bach ar dop y pentwr. Gollyngwch ddail, mwsog a gwellt i lenwi'r gofod rhyngddyn nhw.
Gwrachen ludw gan paulrommer (fotolia.com)
![Page 27: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/27.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).
Creu pentwr cerrigChwiliwch am y cerrig a’r creigiau mwyaf sydd wrth law a chrëwch bentwr cerrig. Bydd yn gartref a chuddfan ardderchog i greaduriaid fel llyffantod, madfallod a chwilod mawr.
• Cerrig a chreigiau o faint gwahanol
• Rhaw
• Menig
1 Palwch dwll bas i leoli’r pentwr cerrig.
2 Adeiladwch y pentwr, gan roi’r creigiau mwyaf i lawr ynddo i ddechrau. Gofalwch beidio â gwasgu’ch bysedd rhwng y creigiau. Llenwch y tyllau gyda cherrig llai.
3 Nawr gadwch lonydd iddo. Gwyliwch a fydd adar yn chwilio am drychfilod ynddo a phryfed copyn yn rhedeg drosto.
Chwilen gan Alekss (fotolia.com)
![Page 28: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/28.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).
Creu gardd glöynnod bywYdych chi’n hoffi melysion? Mae glöynnod byw yn eu hoffi, hefyd – hynny yw, neithdar melys. Adeiladwch siop felysion iach i löynnod byw trwy dyfu planhigion i’w gwirioni. Dewiswch berlysiau – mae nhw’n blanhigion gwydn sy’n cynhyrchu llawer o flodau ac yn gallu byw am flynyddoedd.
• Cwpanau plastig neu botiau iogwrt
• Bagiau plastig clir
• Blwch ffenest, potyn neu dwb
• Graean neu ddarnau mân o hen botyn
• Pridd neu gompost heb fawn
• Tywod
• Trywel
• Hadau perlysiau fel mintys y graig, rhosmari, teim, cennin syfi
• Bwced dyfrio
3 Cymysgwch eich pridd gyda thywod, yna llenwch y twb.
4 Nawr torrwch dyllau o faint cwpan neu botyn yn y pridd a symudwch eich egin i’r twb.
5 Rhowch y twb mewn llecyn heulog. Dyfriwch eich perlysiau (ond ddim gormod!) a gwyliwch nhw’n tyfu a blodeuo. Dowch yn llu, löynnod byw!
2 Llenwch waelod y potyn neu’r twb gyda graean neu ddarnau mân o botyn. Mae perlysiau’n casáu gwreiddiau gwlyb, felly gwnewch yn siwr fod d∑r yn draenio i ffwrdd yn hawdd.
Butterfly by proxyminder (istockphoto.com)
1 Dechreuwch drwy dyfu eich planhigion dan do. Llenwch gwpanau plastig neu botiau iogwrt gyda phridd a gwasgarwch hadau ar ei ben. Gorchuddiwch nhw â bagiau plastig, gan ddyfrio rhyw ychydig, a chadwch nhw dan do nes bo’r egin ychydig wythnosau oed.
![Page 29: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/29.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).
Creu dôl fechanGwasgarwch tamaid o hud ar y ddaear. Gall hadau edrych yn ddiflas ond arhoswch i weld pa flodau fydd yn tyfu. Mae dôl o flodau gwyllt yn hyfryd ar gyfer pob math o greaduriaid bach.
• Pecyn o hadau blodau gwyllt
• Pecyn o hadau glaswellt mân (nid rhygwellt, sy’n tyfu’n rhy gryf a chyflym)
• Cribin
• Pedair brigyn
• Llinyn
• Siswrn
1 Mae angen paratoi’r tir i ddechrau. Cliriwch yr ardal o borfa a chwyn, yna cribiniwch y tir fel bo’r pridd yn foel.
4 Rhowch y brigau ym mhob cornel. Clymwch linyn o’u cwmpas er mwyn gweld lle mae’r ddôl wedi’i phlannu. Byddai hynny’n rhwystro pobl eraill (a chithau!) rhag sefyll yno’n ddamweiniol.
2 Cymysgwch y ddau becyn o hadau gyda’i gilydd, a’u gwasgaru'n ysgafn ar y tir.
3 Cerddwch dros yr ardal er mwyn pwyso’r hadau yn dyner i’r pridd. Yna dyfriwch eich dôl rhyw ychydig.
5 Gwyliwch eich dôl yn tyfu!
Blodau gwyllt gan Ernie Janes (rspb-images.com)
![Page 30: • Soser potyn planhigyn hambwrdd dwˆ r sy’n llenwi’i … ALL...• Soser potyn planhigyn • Potyn iogwrt mawr crwn • Siswrn/tyllwr 1 Yn ofalus, trowch nhw wyneb i waered,](https://reader034.vdocuments.mx/reader034/viewer/2022043017/5f39aaf829c7912d9a3c4e02/html5/thumbnails/30.jpg)
Byddwch angen
Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, yn Yr Alban SC037654 040-1-0513-16-17Lluniau gan David Tipling (rspb-images.com).
Creu gardd saladYdych chi’n fodlon rhannu’ch bwyd? Tyfwch blanhigion salad y gallwch eu bwyta, yna wedi i chi gael llond eich bol, gadewch i lindys glöynnod gael y gweddill.
• Twbyn neu flwch sil ffenestr
• Compost di-fawn
• Paced o hadau dail salad
• Trywel
• Bwced dyfrio
1 Gwnewch yn siwr nad oes chwyn yn y compost. 3 Pan fydd eich dail salad wedi tyfu, tynnwch rai i’w bwyta.
4 Mae’n debyg y gwelwch löynnod gwyn yn glanio ar eich cnwd. Edrychwch o dan y dail am eu wyau – casgliad bach o smotiau.
5 Chwiliwch am drywydd tyllwyr y dail. Mae’r trychfilod bach yn dodwy eu wyau tu fewn i’r dail, yna bydd eu larfa yn bwyta eu ffordd allan, gan adael twneli bach troellog yn y dail.
2 Plannwch eich hadau gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y paced.
Lettuce by Cora Müller (fotolia.com)